Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Yswiriant Diogelu Taliadau

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Beth yw Yswiriant Diogelu Taliadau

Pan fyddwch chi’n codi benthyciad mawr neu forgais, efallai y byddwch chi’n poeni ynglŷn â sut yr ydych yn mynd i’w ad-dalu os na fyddwch chi’n dal i ennill arian.

Fe allwch chi godi yswiriant i ddiogelu ad-daliadau’r benthyciad os digwydd rhywbeth fel hyn. Gelwir hwn yn Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI)

Gall PPI warchod eich ad-daliadau benthyciad os bydd rhaid i chi stopio gweithio oherwydd salwch, damwain, neu os fyddwch chi’n anabl neu’n colli eich swydd. Mae’r rhan fwyaf o bolisïau hefyd yn cynnwys budd-dal bywyd fydd yn talu’n llawn unrhyw weddill ar y benthyciad neu gerdyn os byddwch chi farw.

Fe allwch chi gael PPI i warchod benthyciadau megis ad-dalu cyllid car, cardiau credyd neu siop, taliadau catalog neu forgeisi.

Yn aml iawn, fe allwch chi gael PPI ar yr un pryd ag y byddwch chi’n codi benthyciad. Ond fe ddylech chi aros ac ystyried os oes ei angen arnoch chi mewn gwirionedd cyn i chi gytuno ei godi. Gall PPI fod yn ddrud iawn ac efallai na fydd yn addas i chi neu fe fydd ffordd arall gennych i ddiogelu eich taliadau os oes rhaid.

Gellir ychwanegu PPI at ad-daliadau’r benthyciad ac felly mae’n bosibl na fyddwch yn sylweddoli ei fod gennych. Fe ddylai’r benthyciwr ddweud wrthych os yw’r benthyciad yn cynnwys PPI ac esbonio faint o gost ychwanegol y mae’n ei olygu i chi, ond dydy hyn ddim bob amser yn digwydd.

Pan fyddwch chi’n codi benthyciad, gwiriwch os ydyw’n cynnwys PPI a faint yn ychwanegol fydd y gost. Os ydyw’n cynnwys PPI, fe ddylech chi wirio telerau ac amodau’r polisi yn ofalus. Yn aml iawn bydd llawer o eithriadau, sy’n golygu y gall fod llawer iawn o amgylchiadau lle na fyddwch wedi’ch diogelu os ydych am geisio hawlio. Rhai eithriadau cyffredin yw os ydych chi’n hunan cyflogedig, wedi’ch diswyddo o’ch gwaith neu’n dioddef o broblemau cefn neu iechyd meddwl.

Nid oes rhaid i chi brynu PPI wrth godi benthyciad. Sut bynnag, bydd rhai benthycwyr yn gwrthod rhoi benthyciad i chi os na fyddwch chi’n prynu’r yswiriant. Nid oes dim byd i’w rhwystro rhag gwneud hyn, ond os nad ydych am brynu PPI, efallai y bydd yn well i chi fynd at fenthyciwr arall.

Os penderfynwch chi eich bod am brynu PPI, nid oes rhaid i chi dderbyn y polisi mae’ch benthyciwr yn ei gynnig i chi. Efallai y bydd yn well i chi siopa o gwmpas hys nes y dewch chi o hyd i’r fargen orau.

Os ydych chi’n prynu’r polisi mae’ch benthyciwr yn ei gynnig, bydd eich cytundeb ar gyfer yr yswiriant gyda chwmni yswiriant ar wahân, nid gyda’r benthyciwr. Os bydd angen i chi hawlio ar y polisi, bydd angen i chi wneud hyn trwy’r cwmni yswiriant.

Os ydych chi’n codi benthyciad heb sylweddoli ei fod yn cynnwys PPI neu mae’r polisi yn troi allan i fod yn anaddas, efallai y gallwch chi hawlio yn erbyn y benthyciwr am gam-werthu y polisi i chi. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, fe gewch chi ad-daliad.

Oes angen Yswiriant Diogelu Taliadau arnoch

Os ydych chi’n ystyried codi Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI) neu os cynigir ef i chi wrth i chi godi benthyciad, fe ddylech chi ystyried yn ofalus a oes angen un arnoch mewn gwirionedd.

Y rheswm am hyn yw bod PPI yn gallu bod yn ddrud ac efallai na fydd yn addas i chi neu efallai fod gennych ffyrdd eraill i ddiogelu’r ad-daliadau benthyciad os oes angen i chi.

Gwiriwch os oes gennych yswiriant eisoes neu fudd-daliadau eraill fydd yn gallu gwarchod eich benthyciad neu ad-daliadau credyd os yw’ch amgylchiadau’n newid. Er enghraifft, efallai y bydd gennych:

  • yswiriant bywyd
  • polisi yswiriant salwch arall megis yswiriant salwch difrifol neu yswiriant diogelu incwm
  • budd-daliadau salwch neu golli gwaith a gynigir trwy eich cytundeb cyflogaeth fyddai’n ddigon i warchod ad-daliadau’r benthyciad
  • yswiriant wedi’i gyfuno gyda’ch morgais.

Bydd rhai polisïau PPI mewn gwirionedd yn rhoi taliadau gostyngol i chi os oes gennych eisoes bolisi yswiriant sy’n eich diogelu rhag salwch. Os ydy hyn yn wir, efallai na fydd o werth i chi godi PPI.

Nid yw’r rhan fwyaf o fathau o yswiriant salwch yn eich gwarchod rhag diweithdra yn ogystal, ac felly os ydych chi am warchodaeth ar gyfer hyn, efallai y byddwch chi o hyd eisiau ystyried cael PPI, hyd yn oed os oes gennych bolisi arall. Sut bynnag, cofiwch nad yw PPI yn eich gwarchod rhag pob math o ddiweithdra. Er enghraifft, nid yw’r mwyafrif o bolisïau yn eich gwarchod os ydych chi wedi’ch diswyddo neu os ydych chi’n hunan cyflogedig.

Efallai y byddwch am ystyried os oes gennych unrhyw gynilion y gallwch eu defnyddio yn lle’r yswiriant i warchod eich benthyciad. Sut bynnag, cofiwch na fyddwch yn gallu cynilo digon i’ch gwarchod dros gyfnod hir o salwch neu ddiweithdra. Ac efallai y byddwch yn wynebu argyfwng arall, fydd yn defnyddio’ch holl gynilion a’ch gadael heb unrhyw ddiogelwch.

Os nad oes gennych unrhyw ffordd arall o warchod y benthyciad, efallai y byddwch yn gallu prynu polisi ar ei ben ei hun. Gelwir hwn weithiau yn yswiriant damwain, gwaeledd a diweithdra (ASU). Fel arfer fe allwch chi brynu y math hwn o bolisi trwy frocer yswiriant neu gwmni sy’n gwerthu ar y rhyngrwyd neu dros y ffôn.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â pholisïau yswiriant salwch eraill gweler Yswiriant.

Pethau i’w hystyried cyn i chi brynu Yswiriant Diogelu Taliadau

Fe ddylech chi ystyried yn ofalus cyn cytuno i brynu Yswiriant Diogelu Taliadau(PPI).

Fe ddylech chi bob amser wneud yn siŵr eich bod yn cael copi o’r polisi neu grynodeb o’r polisi a’ch bod yn gwirio hwn yn ofalus i wneud yn siŵr ei fod yn mynd i warchod eich amgylchiadau os byth y bydd yn rhaid i chi wneud cais. Os oes gennych unrhyw amheuon ynglŷn â hyn, cysylltwch â’r cwmni yswiriant a gofyn iddynt i egluro pethau. Os oes amgylchiadau lle nad ydych wedi’ch gwarchod, rhaid i’r cwmni yswiriant sôn wrthych amdanynt.

Dyma rai cwestiynau i’w hystyried:

Faint fydd y polisi’n ei gostio

Gall cost PPI fod yn uchel. Gall ychwanegu swm sylweddol at eich benthyciad. Fe ddylech chi bob amser siopa o gwmpas i wneud yn siwr eich bod yn cael y fargen orau a pholisi sy’n cwrdd â’ch anghenion os ydych yn gwneud cais.

Pan fyddwch chi’n cymharu cost benthyciadau, gwnewch yn siwr eich bod yn cymharu benthyciadau o’r un maint dros yr un cyfnod o amser.

Gofynnwch i’r benthyciwr i roi amcan bris i chi ar gyfer y benthyciad gyda’r yswiriant PPI a heb yr yswiriant, er mwyn i chi wybod yn union faint yw cost y benthyciad, faint yw cost y PPI ac fe allwch chi gymharu’r costau hyn gyda benthyciadau a pholisïau eraill.

Os na fydd y benthyciwr yn gwneud hyn, mwy na thebyg y bydd hi’n well i chi feddwl am ddefnyddio benthyciwr arall.

Efallai y gofynnir i chi dalu’r gost lawn ar y dechrau neu ei dalu dros gyfnod yn fisol. Gelwir y taliadau hyn yn bremiymau. Os ychwanegwch chi'r gost cyn cychwyn at eich benthyciad, fe godir llog arnoch hefyd. Gallai talu premiymau rheolaidd fod yn rhatach yn y pendraw.

Os ydych chi’n codi benthyciad heb ei warantu, ni fydd gofyn i chi dalu cost lawn y polisi PPI cyn cychwyn. Benthyciad heb ei warantu ydyw un lle nad oes perygl i’ch cartref os fyddwch chi ar ei hôl hi gyda’r taliadau.

Os ydych chi’n mynd i dalu premiymau misol, fe ddylech chi hefyd wirio os oes gan yr yswiriwr hawl i gynyddu'r costau misol neu ostwng lefel y gwarchod unwaith y byddwch chi wedi codi’r polisi. Gall rhai yswirwyr wneud hyn os rhoddir digon o rybudd i chi.

Os nad ydych yn hoffi’r syniad ohonynt yn gallu gwneud hyn, efallai y bydd yn well i chi ddewis yswiriwr arall, neu ystyried eto os oes angen PPI arnoch mewn gwirionedd.

Am ba mor hir y bydd polisi yn talu allan?

Fel arfer bydd PPI yn gwarchod y benthyciad neu’r ad-daliadau credyd am gyfnod cyfyngedig yn unig, yn aml deuddeg mis. Sut bynnag, bydd rhai polisïau yn talu allan am gyfnodau hirach ac i fyny at ddwy flynedd.

Mae maint y warchodaeth gewch chi yn dibynnu ar y math o yswiriant sydd gennych:

  • fel arfer diogelir morgais a thaliadau benthyciad yn llawn ar gyfer y cyfnod o amser yr ydych wedi’ch yswirio
  • gyda diogelu taliadau cardiau credyd a siop, yn aml iawn fe’ch diogelir am y llog ar y gweddill sy’n ddyledus yn unig, neu’r isafswm. Mae hyn yn golygu na fyddwch efallai yn gallu clirio’r ddyled yn ystod y cyfnod yr ydych yn hawlio a bydd yn rhaid i chi ddod o hyd i ffordd i’w glirio pan ddaw’r yswiriant i ben.

Mae llawer iawn o bolisïau PPI yn talu allan mewn blociau o 30 diwrnod. Mae hyn yn golygu os byddwch chi’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl 28 diwrnod, fyddwch chi ddim yn derbyn taliad.

Fel arfer mae yna oedi am 30 diwrnod, neu gyfnod aros, cyn y gallwch chi wneud cais.

Os ydych chi’n dal i ddefnyddio cerdyn credyd neu siop wrth hawlio ar eich yswiriant, fydd yr yswiriant ddim yn gwarchod y taliadau newydd a wnaed gennych.

Oes yna unrhyw gyfyngiadau oedran?

Yn arferol nid yw polisïau PPI yn eich gwarchod unwaith y byddwch chi wedi cyrraedd oedran ymddeol.

Fyddwch chi’n cael eich gwarchod rhag diweithdra?

Bydd PPI yn eich gwarchod rhag diweithdra o dan rhai amgylchiadau yn unig.

Fel arfer bydd yn rhaid i chi fod mewn swydd barhaol, llawn amser. Mae hyn fel arfer yn golygu fod yn rhaid i chi weithio o leiaf 16 awr neu fwy'r wythnos. Os ydych ar gytundeb dros dro, efallai na fydd y polisi yn eich diogelu.

Os ydych chi’n gweithio llawn amser, ond i nifer o gyflogwyr gwahanol, efallai nad ydych yn cael eich diogelu. Efallai na chewch chi mo’ch diogelu os ydych chi’n gweithio i’r un cyflogwr, ond ar sail cytundeb. Gwnewch yn siwr fod y cwmni yswiriant yn gwybod yr union fanylion am eich trefniadau gweithio cyn i chi brynu PPI.

Nid yw llawer o bolisïau PPI yn eich diogelu os ydych chi’n hunan cyflogedig. Mae polisïau sy’n diogelu pobol hunan cyflogedig fel arfer yn cynnwys nifer fawr o gyfyngiadau. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n eich diogelu dim ond os bydd yn rhaid i chi stopio gweithio oherwydd salwch neu os ydych chi’n marw neu’n cael damwain, nid os ydych chi wedi rhedeg allan o waith. Os ydych chi’n hunan cyflogedig, dylech chi wirio manylion y polisi PPI yn ofalus iawn cyn ei brynu.

Mae yna rai polisïau fydd ddim yn eich diogelu os cewch chi’ch diswyddo o’ch gwaith am gamymddwyn neu reswm arall. Hefyd, efallai na chewch chi’ch diogelu chwaith os derbyniwch chi golli gwaith gwirfoddol, neu adael eich swydd am nad ydych yn ei hoffi.

Er mwyn cael help i ddarganfod os ydych yn gyflogedig neu’n hunan cyflogedig, gweler Cytundebau cyflogaeth.

Am fwy o wybodaeth am ddiswyddo, gweler Diswyddo.

Fyddwch chi’n cael eich gwarchod rhag salwch?

Ni fydd llawer o bolisïau PPI yn eich diogelu rhag rhai mathau o salwch. Er enghraifft, nid yw polisïau fel arfer yn gwarchod cyflyrau sy’n ymwneud â beichiogrwydd, cyffuriau neu alcohol. Efallai na fydd polisi yn gwarchod rhag salwch meddwl neu broblemau cefn.

Ni ddylai polisi wahaniaethu yn eich erbyn os ydych chi’n anabl. Os ydych chi’n credu fod polisi yn gwahaniaethu yn erbyn pobol anabl fe ddylech chi gael cyngor.

Ni fydd y rhan fwyaf o bolisïau yn eich gwarchod rhag unrhyw salwch sydd arnoch eisoes wrth brynu’r polisi. Gelwir hyn yn gyflwr sy’n bod eisoes. Hefyd, efallai na fydd polisi yn talu allan os na ddywedoch chi wrth y cwmni yswiriant am gyflwr meddygol oedd gyda chi yn y gorffennol.

Cyn i chi brynu PPI, rhai i chi roi manylion llawn i’ch yswiriwr am eich hanes meddygol chi a’ch teulu. Os oes cyflwr meddygol gennych yn barod, edrychwch am yswiriwr sy’n barod i’w warchod, er efallai y bydd yn rhaid i chi dalu mwy am brynu’r polisi.

Nid oes rhaid i chi drafod gwybodaeth bersonol neu sensitif gyda’r person sy’n gwerthu’r polisi. Fe allwch chi ofyn am gael anfon y wybodaeth yn uniongyrchol at swyddog meddygol yr yswiriwr.

Lle i brynu Yswiriant Diogelu Taliadau

Yn aml iawn cynigir Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI) i chi pan fyddwch chi’n codi morgais, cerdyn credyd neu siop, neu fenthyciad personol. Weithiau fydd y benthyciwr ddim yn cytuno rhoi benthyciad i chi oni bai eich bod yn prynu PPI. Sut bynnag, nid oes rhaid i chi dderbyn y polisi mae’ch benthyciwr yn ei gynnig. Efallai y bydd hi’n well i chi siopa o gwmpas hyd nes y dowch chi o hyd i fargen ar y pris gorau sy’n cwrdd â’ch anghenion chi.

Fe allwch chi brynu polisïau Yswiriant Diogelu Taliadau oddi wrth:

  • cwmni yswiriant neu frocer
  • gwefan gymharu ar y rhyngrwyd.

Fe allwch ddod o hyd i restr o wefannau cymharu a gymeradwyir gan gwmni gwarchod defnyddwyr y llywodraeth, ar wefan Llais Defnyddwyr (Consumer Focus) yn: www.consumerfocus.org.uk

Fe allwch chi hefyd chwilio am bolisïau PPI ar wefan Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Canslo polisi Yswiriant Diogelu Taliadau

Mae gennych yr hawl i ganslo polisi Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI) o fewn 30 diwrnod. Bydd rhai polisïau yn rhoi mwy o amser na hyn i chi ganslo. Os yw hyn yn wir, rhaid i’r person sy’n gwerthu’r polisi ddweud wrthych beth yw’r cyfnod canslo. Fe ddylech chi gael ad-daliad o’ch premiwm, os ydych chi wedi’i dalu. Weithiau, gellir didynnu swm ar gyfer costau, neu oherwydd eich bod wedi’ch gwarchod gan y polisi am gyfnod o amser. Sut bynnag, ni chaniateir i gwmni yswiriant godi tâl arnoch am ganslo.

Os ydych chi’n talu premiymau misol am eich PPI, fe allwch chi fel arfer eu canslo unrhyw bryd, er efallai y bydd yn rhaid i chi roi cyfnod o rybudd.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu canslo polisi PPI oherwydd cam-werthu.

Cwynion am Yswiriant Diogelu Taliadau

Os oes gennych broblemau ynglŷn â hawlio ar Yswiriant Diogelu Taliadau (PPI), efallai mai’r rheswm am hyn yw bod polisi wedi’i werthu i chi oedd yn anghywir ar gyfer eich amgylchiadau.

Er enghraifft, efallai y gwerthwyd polisi i chi sy ddim yn gwarchod pobol hunan cyflogedig a chwithau’n berson hunan cyflogedig. Os oedd y cwmni werthodd y polisi i chi yn gwybod ei fod yn anghywir i chi, neu heb wirio eich amgylchiadau’n gywir cyn ei werthu i chi, gellir galw hyn yn cam-werthu. Os cam-werthwyd polisi yswiriant i chi, fe ddylech chi fod yn gallu canslo’r polisi a chael ad-daliad, er mae’n debyg y bydd yn rhaid i chi wneud cwyn yn gyntaf er mwyn gwneud hyn.

Enghraifft arall o gam werthu PPI yw pan werthir polisi i chi ar yr un pryd â benthyciad neu gerdyn credyd, ond heb ddweud wrthych amdano. Mae disgwyl i’r benthyciwr i ddweud wrthych os yw’r benthyciad yn cynnwys PPI, esbonio faint yn ychwanegol y bydd yn costio a gofyn i chi arwyddo amdano ar wahân. Os na wnân nhw hyn a chwithau’n ddiweddarach yn hawlio ond yn cael eich gwrthod, fe allwch gwyno fod y polisi wedi’i gam werthu a chael ad-daliad.

Efallai y bydd cwmni rheoli hawliadau yn dod atoch ac yn cynnig cael ad-daliad i chi ar eich yswiriant diogelu taliadau. Ond, nid oes angen i chi ddefnyddio un o’r cwmnïau hyn i hawlio ad-daliad – fe fyddwch yn medru hawlio’r arian sy’n ddyledus i chi yn ôl eich hun. Fe fyddwch yn medru hawlio’n rhad ac am ddim, nid oes rhaid i chi dalu ffi i unrhyw un, ac mae yr un mor gyflym os ydych chi’n ei wneud eich hun. Os ydych chi’n defnyddio cwmni rheoli hawliadau i hawlio, fe fydd yn cymryd tua 25% o’r arian y byddwch yn ei gael yn ôl, a TAW ar ei ben. Os ydych chi’n hawlio eich hun, fe fyddwch yn medru cadw’r holl arian a gewch yn ôl.

Os ydych chi am gwyno am eich polisi PPI, fe ddylech chi yn gyntaf gwyno wrth y cwmni yswiriant werthodd y polisi i chi.

Fe allwch chi ddefnyddio ein sampl o lythyr cwyno ynglyn â PPI i’ch helpu chi i gwyno am gam-werthu.

Mae yna wybodaeth ynghylch cwyno am gam-werthu, a chanllawiau cam-wrth-gam ar sut i hawlio, sy’n hawdd iawn eu defnyddio, ar wefan MoneySavingsExpert.com yn www.moneysavingexpert.com.

Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y cwmni yswiriant, fe allwch chi fynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno wrth Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol, ewch i’w gwefan yn: www.financial-ombudsman.org.uk, neu ffoniwch nhw ar: 08000 234 567 (am ddim i bobol sy’n ffonio o linell tir benodol) neu 0300 123 9 123 (am ddim i ddefnyddwyr ffonau symudol sy’n talu’n fisol am alwadau i rifau sy’n dechrau gyda 01 neu 02).

Efallai y bydd angen help ymgynghorydd profiadol arnoch i gwyno am PPI. Fe allwch gael help oddi wrth eich swyddfa Cyngor ar Bopeth leol. Er mwyn dod o hyd i’ch CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

Mae’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch PPI a sut i gwyno am gam werthu. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.