Yswiriant cerbyd

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Yn ôl y gyfraith, fel arfer rhaid i chi gael yswiriant modur trydydd parti o leiaf os ydych chi’n gyrru cerbyd. Hefyd rhaid i chi gael yswiriant os ydych chi’n ei adael wedi’i barcio ar stryd, ar eich dreif neu yn eich garej.

Gall yr heddlu ofyn i chi ddangos eich tystysgrif yswiriant iddyn nhw. Os na allwch chi, rhaid i chi fynd â hi i orsaf heddlu o fewn saith diwrnod. Os na wnewch chi hynny, gallan nhw atafaelu eich cerbyd a’i werthu, er gallwch chi hawlio arian y gwerthiant yn ôl.

Mae’r dudalen hon yn esbonio pa fathau o yswiriant sydd ar gael a beth sydd angen i chi feddwl amdano wrth ddewis polisi.

Gwarchodwch eich bonws am beidio â hawlio

Os nad ydych chi’n hawlio yn ystod oes eich polisi, rydych chi’n dechrau adeiladu bonws am beidio â hawlio. Wrth i’r bonws adeiladu dros y blynyddoedd, gallwch arbed rhwng 60 a 75 y cant ar gost eich yswiriant modur.

Os ydych chi am warchod eich bonws am beidio â hawlio, gallwch dalu premiwm ychwanegol i’w warchod. Mae hyn yn golygu os cewch chi ddamwain neu os bydd angen i chi wneud hawliad arall, ni fydd eich bonws yn cael ei effeithio. Fel arfer mae’n rhatach talu’r taliadau premiwm ychwanegol i gadw’r gostyngiad.

Mathau o yswiriant car

Ceir tri phrif fath o yswiriant

Trydydd parti

Hwn yw’r isafswm cyfreithiol, sy’n yswirio yn erbyn difrod i gerbyd neu eiddo rhywun arall neu anaf i rywun arall mewn damwain. Mae hyn yn cynnwys damweiniau a achosir gan eich teithiwr. Nid yw’n cynnwys atgyweirio eich cerbyd chi.

Trydydd parti, tân a lladrad

Mae hyn yn cynnwys trydydd parti a hefyd difrod neu golli eich car oherwydd tân neu ladrad.

Yswiriant cynhwysfawr

Mae hyn yn cynnwys trydydd parti, tân a lladrad a hefyd atgyweirio eich car chi. Gall eich polisi hefyd gynnwys:

  • marwolaeth neu anaf i chi neu aelod o’r teulu, hyd at gyfanswm penodedig

  • gwarchodaeth i eiddo a gaiff ei ddwyn o’ch car

  • gwarchodaeth ar gyfer costau meddygol neu gyfreithiol

  • llogi car i gymryd lle eich un chi

Yswiriant beic modur

Ceir dau brif fath o yswiriant

  • polisi beic penodol sy’n eich yswirio i yrru un beic penodol

  • polisi gyrrwr sy’n caniatáu i chi yrru unrhyw feic modur, hyd at raddiad cc penodol, gyda chaniatâd y perchennog.

Fel arfer ceir tâl-dros-ben gorfodol ac efallai na fyddwch yn gallu cael bonws am beidio â hawlio.

Dewis polisi

Dylech sicrhau dyfynbrisiau gan nifer o yswirwyr a chymharu:

  • yr hyn y mae pob polisi’n ei gynnwys a’r eithriadau ac unrhyw dâl-dros-ben. Unrhyw ostyngiadau a gynigir

  • y bonws am beidio â hawlio a gwerth unrhyw ostyngiad bob blwyddyn os nad ydych chi’n hawlio ar y polisi

  • unrhyw gyfyngiadau polisi, er enghraifft yswiriant i yrwyr a enwir yn unig

Rhaid i chi roi cymaint o wybodaeth ag y gallwch amdanoch chi eich hun a’ch cerbyd i’ch  yswiriwr. Rhaid i chi ddweud wrthyn nhw am unrhyw:

  • euogfarnau gyrru

  • damweiniau

  • cyflyrau meddygol a allai effeithio ar eich gyrru.

Bydd yr wybodaeth hon yn effeithio ar eich premiwm ac a fydd eich yswiriwr yn talu os byddwch chi’n hawlio.

Dylai’r polisi yswiriant fod yn enw’r prif yrrwr. Gall yswiriwr wrthod talu os ydych chi’n trefnu polisi yswiriant yn eich enw chi am ei fod yn rhatach, ac yna’n gadael i rywun arall, er enghraifft gyrrwr iau, ei yrru’r rhan fwyaf o’r amser.

Rhaid i chi ddweud wrth eich yswiriwr ar unwaith am unrhyw newid yn eich amgylchiadau, megis newid cyfeiriad neu swydd.

Os ydych chi’n prynu eich cerbyd ar gynllun talu rhaid ei yswirio yn eich enw chi.

Mae’r rhan fwyaf o bolisïau’n rhedeg am flwyddyn a does dim rhaid i yswiriwr anfon rhybudd adnewyddu, er bod y mwyafrif yn gwneud hynny.

Pan fyddwch chi’n dechrau neu’n adnewyddu polisi byddwch yn derbyn nodyn gwarchodaeth sy’n ddilys am hyd at 30 o ddiwrnodau tra bo’r dogfennau polisi’n cael eu hanfon atoch. Mae’n drosedd gyrru heb bolisi neu nodyn gwarchodaeth.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen yr amodau a thelerau pan fyddwch chi’n llofnodi ar gyfer yswiriant. Gyda rhai cwmnïau gallech fod yn cytuno i adnewyddu’r polisi’n awtomatig ar ôl blwyddyn. Gallai hyn gynnwys ffi canslo os ydych chi’n canslo’r polisi ar ôl adnewyddu.

Dylech ddileu eich yswiriant os yw eich cerbyd yn cael ei werthu, ei ddwyn neu ei ddifrodi’n llwyr. Dylech wirio eich polisi i weld a allwch chi gael ad-daliad ar eich premiwm.

Adegau pan efallai na fydd eich yswiriant yn eich gwarchod

Mae’n bosibl na fydd eich polisi yn eich gwarchod, neu yn eich gwarchod yn rhannol yn unig os oes un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rhywun nad oedd yn gynwysedig yn y polisi’n gyrru

  • rydych chi’n codi ar deithiwr am lifft, oni bai bod hyn ar sail cost yn unig

  • nid yw eich car yn cyrraedd safon foddhaol i fod ar y ffordd

  • rydych chi wedi prynu cerbyd sydd wedi’i ddwyn, hyd yn oed os nad oeddech chi’n gwybod ei fod wedi’i ddwyn

  • rydych chi’n gyrru car rhywun arall. Mae’n drosedd gyrru, neu ganiatáu i rywun arall yrru, cerbyd heb yswiriant

  • nid oes gennych chi drwydded yrru ddilys

  • mae eich yswiriwr yn meddwl mai eich bai chi oedd y ddamwain yn rhannol

  • rydych chi wedi gorfod talu costau eraill, er enghraifft llogi cerbyd. Efallai y gallech hawlio’r rhain yn ôl gan y gyrrwr arall

  • mae eich yswiriwr wedi mynd i’r wal. Efallai y gallech gael iawndal gan y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol

Gyrru dramor

Os ydych chi’n prynu polisi gan yswiriwr yn yr UE bydd gennych chi yswiriant trydydd parti i yrru mewn unrhyw wlad yn yr UE. Fodd bynnag gallech ddymuno trefnu yswiriant ychwanegol.

Mae’n bosibl y bydd eich polisi hefyd yn rhoi yswiriant trydydd parti i chi mewn rhai gwledydd y tu allan i’r UE. Gwiriwch cyn teithio.

Gall eich yswiriwr roi cerdyn gwyrdd i chi i ddangos bod gennych chi yswiriant ychwanegol. Mewn rhai gwledydd rhaid i chi gael cerdyn gwyrdd. Gwiriwch cyn teithio a fydd angen un arnoch chi.

Y camau nesaf

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020