Edrychwch pa ffioedd mae beilïaid yn gallu eu codi

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae beilïaid (neu 'asiantau gorfodi') yn gallu codi ffioedd am gasglu’ch dyled. Maen nhw’n gallu codi ffioedd am ysgrifennu atoch chi ac ymweld â chi, ynghyd â rhai o’u treuliau, er enghraifft, ffioedd llys.

Rhaid iddyn nhw roi bil ysgrifenedig i chi yn dweud wrthych chi faint yw eu ffioedd. Byddwch chi’n cael eich bil pan fyddwch chi’n trefnu i dalu’ch dyled neu ar ôl i’ch eiddo gael eu gwerthu os na allwch chi dalu.

Dylech wirio’ch bil yn ofalus i sicrhau ei fod yn gywir.

Mae rheolau sy’n dweud pa ffioedd y gall beilïaid eu codi arnoch chi. Os byddan nhw’n torri’r rheolau, gallwch chi gwyno.

Peidiwch ag anwybyddu’ch ffioedd. Os byddwch chi’n gwneud hyn, gallai wneud eich sefyllfa’n waeth gan y gallai mwy o ffioedd gael eu hychwanegu. Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os na allwch chi dalu’ch ffioedd.

Cyn i chi dalu unrhyw ffioedd, edrychwch ar y rheolau ychwanegol y dylai beilïaid eu dilyn:

  • os ydych chi’n anabl neu’n ddifrifol wael

  • os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n feichiog

  • os ydych chi’n iau nag 18 oed neu dros 65 oed

  • os nad ydych chi’n siarad neu’n darllen Saesneg yn dda

  • os ydych chi o dan straen, oherwydd profedigaeth ddiweddar neu ddiweithdra efallai

Efallai y bydd rhaid i’r beilïaid adael i chi gael cyngor cyn codi unrhyw ffioedd arnoch chi – os na fyddan nhw’n gwneud hynny, gallech chi gwyno.

Ni fydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd os byddwch chi’n profi nad oes arnoch chi’r ddyled neu os nad yw’r beilïaid yn gallu casglu’r ddyled. Er enghraifft, os byddan nhw’n penderfynu nad oes gennych chi unrhyw beth y gallan nhw ei werthu, gallan nhw ddychwelyd eich achos i’r credydwr – hwn yw’r person mae arnoch chi’r arian iddo.

Os yw beilïaid yn ceisio’ch troi allan o’ch cartref, mae ffioedd yn gweithio’n wahanol. Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf i gael gwybod pa ffioedd y mae’n rhaid i chi eu talu os ydych chi’n cael eich troi allan.

Gofalwch fod y ffioedd yn iawn ar eich bil

Mae’r ffioedd sy’n cael eu codi arnoch chi yn dibynnu ar y math o feilïaid rydych chi’n delio â nhw – os ydyn nhw’n dod o’r Uchel Lys, bydd rhaid i chi dalu mwy.

Gallwch edrych ai beilïaid yr Uchel Lys sy’n casglu’ch dyled trwy edrych ar unrhyw lythyrau mae’r beilïaid wedi’u hanfon atoch chi. Rhaid i’r beilïaid ddweud wrthych chi os ydyn nhw’n dod o’r Uchel Lys pan fyddan nhw’n ymweld â chi.

Os nad yw’ch dyled yn cael ei chasglu gan feilïaid yr Uchel Lys

Rhaid i’r beilïaid ddilyn proses tri cham – maen nhw’n gallu codi ffi sefydlog arnoch chi am bob cam.

Os yw’ch dyled dros £1,500, maen nhw’n gallu codi ffi ychwanegol arnoch chi hefyd. Mae’r ffi ond yn cael ei chodi ar swm y ddyled dros £1,500, yn hytrach nag ar eich dyled lawn.

Cam y broses Ffi sefydlog Y ganran ychwanegol y byddwch chi’n ei thalu am ddyledion dros £1,500
Cam y broses
Ysgrifennu atoch chi am eich dyled (‘cydymffurfio’) 
Ffi sefydlog
£75
Y ganran ychwanegol y byddwch chi’n ei thalu am ddyledion dros £1,500
Dim
Cam y broses
Ymweld â’ch cartref (‘gorfodi’)
Ffi sefydlog
£235
Y ganran ychwanegol y byddwch chi’n ei thalu am ddyledion dros £1,500
7.5%
Cam y broses
Cymryd a gwerthu’ch eiddo ('gwerthu')
Ffi sefydlog
£110
Y ganran ychwanegol y byddwch chi’n ei thalu am ddyledion dros £1,500
7.5%

Er enghraifft, os yw’ch dyled yn £2,500, byddech chi’n gorfod talu 7.5% ar £1,000. Mae hyn yn golygu y byddech chi’n talu ffi ychwanegol o £75.

Os mai beilïaid yr Uchel Lys sy’n casglu’ch dyled

Rhaid i’r beilïaid ddilyn proses pedwar cam, gyda dau o’r camau hyn yn ymweliadau – maen nhw’n gallu codi ffi sefydlog arnoch chi am bob cam.

Os na fyddwch chi’n cytuno i dalu’ch dyled yn gyflym, byddwch chi’n gorfod talu am fwy o gamau yn y broses.

Er enghraifft, os byddwch chi’n gwneud cytundeb nwyddau a reolir pan fydd y beilïaid yn ymweld â chi am y tro cyntaf, dim ond y ffi orfodi gyntaf y dylai fod rhaid i chi ei thalu. Os na fyddwch chi’n gwneud cytundeb neu os na fyddwch chi’n cadw at y cytundeb a wnaethoch chi, mae’r beilïaid yn gallu ymweld â chi eto a chodi’r ffi orfodi 2 arnoch chi.

Os yw’ch dyled yn fwy na £1,000, mae’r beilïaid yn gallu codi ffi ychwanegol arnoch chi. Mae’r ffi ond yn cael ei chodi ar swm y ddyled dros £1,000, yn hytrach nag ar eich dyled lawn.

Cam y broses Ffi sefydlog Y ganran ychwanegol y byddwch chi’n ei thalu am ddyledion dros £1,000
Cam y broses
Ysgrifennu atoch chi am eich dyled (‘cydymffurfio’) 
Ffi sefydlog
£75
Y ganran ychwanegol y byddwch chi’n ei thalu am ddyledion dros £1,000
Dim
Cam y broses
Ymweld â’ch cartref (‘gorfodi 1’)
Ffi sefydlog
£190
Y ganran ychwanegol y byddwch chi’n ei thalu am ddyledion dros £1,000
7.5%
Cam y broses
Ymweld â’ch cartref eto (‘gorfodi 2’)
Ffi sefydlog
£495
Y ganran ychwanegol y byddwch chi’n ei thalu am ddyledion dros £1,000
Dim
Cam y broses
Cymryd a gwerthu’ch eiddo ('gwerthu')
Ffi sefydlog
£525
Y ganran ychwanegol y byddwch chi’n ei thalu am ddyledion dros £1,000
7.5%

Er enghraifft, os yw’ch dyled yn £3,000, byddech chi’n gorfod talu 7.5% ar £2,000. Mae hyn yn golygu y byddech chi’n talu ffi ychwanegol o £150.

Os oes gennych chi fwy nag un ddyled

Os yw beili’n casglu mwy nag un ddyled, mae’n gallu codi’r ffi gydymffurfio o £75 am ysgrifennu atoch chi ar gyfer pob dyled. Ond nid yw’n gallu codi mwy nag un ffi arnoch chi am ymweld â chi neu gymryd eich eiddo.

Os oes gennych chi ddyledion gyda gwahanol gwmnïau beili

Bydd pob cwmni’n codi ffioedd ar wahân arnoch chi.

Er enghraifft, os bydd un cwmni beili yn ymweld â chi i gasglu dyled y dreth gyngor a chwmni beili arall yn ymweld â chi i gasglu taliad am ddyled benthyciad, byddwch chi’n talu i’r ddau gwmni:

  • ffi gydymffurfio am ysgrifennu atoch chi am y ddyled

  • ffi orfodi am ymweld â’ch cartref

Edrychwch ar y costau eraill ar eich bil

Efallai y bydd rhaid i chi dalu rhai o dreuliau’r beilïaid. Ar eich bil, efallai y bydd y rhain wedi’u galw’n 'gostau alldaliad'.

Byddwch chi ond yn gorfod talu costau:

  • storio’ch eiddo ar ôl iddyn nhw gael eu cymryd

  • saer cloeon os oedd gan y beilïaid yr hawl i ddefnyddio grym i fynd i mewn i’ch cartref

  • ffioedd llys os oedd rhaid i’r beilïaid wneud cais i’r llys i ddelio â’ch achos

  • gwerthu’ch eiddo – gan gynnwys hysbysebu’r arwerthiant a ffioedd yr arwerthwr

  • arwerthiant ar-lein i werthu’ch eiddo – efallai y bydd rhaid i chi dalu hyd at 7.5% o unrhyw arian sy’n cael ei wneud trwy’r arwerthiant

Rhaid i’r beilïaid godi’r swm mae’r gwasanaethau hyn yn eu costio fel arfer.

Gallwch chi wirio a yw’r costau’n rhesymol trwy gael dyfynbrisiau am wasanaethau tebyg.

Os gofynnir i chi dalu ffioedd llys, gallwch chi wirio bod y ffi yn gywir ar wefan y Gwasanaeth Llysoedd yn GOV.UK

Weithiau, mae beilïaid yn gallu codi ffi am bethau eraill, ond rhaid iddyn nhw gael gorchymyn llys am y costau.

Gofalwch eich bod chi’n cael derbynneb am unrhyw gostau mae’r beilïaid yn dweud wrthych chi am eu talu. Mae derbynneb yn gallu eich helpu chi yn ddiweddarach os bydd rhaid i chi brofi eich bod chi wedi talu neu os ydych chi eisiau herio faint roedd rhaid i chi ei dalu.

Cwyno am eich bil

Gallwch chi gwyno trwy ysgrifennu at eich credydwr – hwn yw’r person neu’r sefydliad mae arnoch chi arian iddo.

Gofynnwch i’ch credydwr gael y beilïaid i ganslo’r ffioedd neu i ddychwelyd eich arian os ydych chi wedi talu’n barod.

Gallwch chi gwyno, er enghraifft:

  • os gofynnwyd i chi dalu’r ffioedd sefydlog anghywir

  • os yw’r ffi ganrannol ar gyfer unrhyw gam yn anghywir

  • os gofynnwyd i chi dalu am rywbeth nad yw’r beilïaid wedi’i wneud

  • os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi gorfod talu gormod am dreuliau’r beilïaid neu os nad ydyn nhw wedi rhoi derbynneb i chi am y costau hyn

Gallwch chi gwyno hefyd os bydd y beilïaid wedi codi ffioedd arnoch chi er nad oedd ganddyn nhw’r hawl i wneud hynny gan eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth o’i le – er enghraifft, os oedden nhw wedi colli eu trwydded.

Os na fydd cwyno’n helpu

Gallwch wneud cais i’r llys yn gofyn am i farnwr benderfynu a yw’r beilïaid yn gallu codi’r ffioedd arnoch chi.

Meddyliwch yn ofalus a yw’n werth i chi wneud cais i’r llys, yn enwedig os yw’r ffioedd rydych chi’n cwyno amdanyn nhw yn isel. Efallai y bydd mynd i’r llys yn costio mwy na’r ffioedd.

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n ystyried cymryd camau llys - bydd cynghorwr yn gallu trafod yr opsiynau gyda chi.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.