Gwirio a yw mynd yn fethdalwr yn iawn i chi

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Efallai y gallwch ddatgan eich bod yn fethdalwr os na allwch dalu eich dyledion a bod y swm sy'n ddyledus gennych yn fwy na gwerth y pethau yr ydych yn berchen arnynt.

Mae’r cyfnod methdaliad fel arfer yn para 12 mis. Os byddwch yn mynd yn fethdalwr, ni fydd y rhan fwyaf o'ch credydwyr yn gallu cysylltu â chi am eich dyledion na mynd â chi i'r llys.

I benderfynu a yw methdaliad yn iawn i chi, gwiriwch:

  • beth fydd yn rhaid i chi ei dalu

  • pa ddyledion sy’n cael eu talu gan fethdaliad

  • sut y gallai methdaliad effeithio ar bethau fel eich cartref, eiddo a biliau

  • sut y gwnaethoch ddelio â'ch dyledion cyn mynd yn fethdalwr

Os ydych chi'n gwneud cais i aros yn y DU neu ddod yn ddinesydd Prydeinig

Os cewch eich datgan yn fethdalwr, gallai hynny effeithio ar eich statws mewnfudo neu ar unrhyw gais yr ydych yn ei wneud am genedligrwydd Prydeinig.

Siaradwch â chynghorydd i weld a yw methdaliad yn iawn i chi.

Gwirio beth fydd yn rhaid i chi ei dalu

Bydd angen i chi dalu £680 os penderfynwch wneud cais am fethdaliad.

Gallwch dalu mewn rhandaliadau, ond bydd angen i chi dalu'r swm cyfan cyn i chi gyflwyno'ch cais methdaliad.

Os ydych chi'n cael trafferth codi'r ffi gwneud cais am fethdaliad, efallai y gallwch wneud cais am grant neu gael help gan elusen. Gallwch chwilio am grant ar wefan Turn2us.

Os oes gennych incwm dros ben

Os ydych chi'n ennill arian ac os oes gennych swm bach o arian dros ben, efallai y gofynnir i chi wneud taliadau tuag at eich dyledion methdaliad.

Does dim rhaid i chi wneud taliadau:

  • os yw eich unig incwm yn dod o fudd-daliadau

  • os nad oes gennych chi arian dros ben i'w dalu tuag at eich dyledion ar ôl talu costau byw rhesymol

Gwiriwch i weld a fydd angen i chi dalu tuag at eich dyledion.

Gwirio pa ddyledion sy’n cael eu talu

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhai dyledion megis dirwyon llys, benthyciadau myfyrwyr ac ôl-ddyledion cynhaliaeth plant. Gwiriwch pa ddyledion sy’n cael eu talu. 34793

Gwirio sut y gallai methdaliad effeithio arnoch chi

Cyn i chi benderfynu a ydych am fynd yn fethdalwr, bydd angen i chi wneud y canlynol:

Os ydych chi'n gyfreithiwr, yn gyfrifydd, yn gweithio yn y sector ariannol neu'n rhedeg eich busnes eich hun, dylech hefyd wirio sut y gallai methdaliad effeithio ar eich swydd. 

Gwirio ble fydd eich methdaliad yn cael ei gyhoeddi

Ni fydd eich methdaliad yn cael ei gyhoeddi mewn papur newydd, oni bai fod lefel uchel o bryder neu gŵyn gyhoeddus am eich ymddygiad ariannol.

Bydd eich methdaliad yn cael ei gyhoeddi ar 2 wefan y llywodraeth sy’n rhestru pobl sydd wedi methdalu. Enwau’r gwefannau yw'r Gofrestr Ansolfedd a’r Gazette.

Fel arfer, bydd y gwefannau yn cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad. Os ydych chi'n poeni y bydd rhywun yn eich brifo chi neu'ch teulu, gallwch wneud cais i'ch cyfeiriad gael ei guddio pan fyddwch yn gwneud cais am fethdaliad.

Gallwch chi wneud y canlynol:

Gwirio sut y gwnaethoch ddelio â'ch dyledion cyn mynd yn fethdalwr

Ar ôl i chi fynd yn fethdalwr, bydd 'derbynnydd swyddogol' yn gwirio a wnaethoch eich gorau i osgoi methdaliad. Er enghraifft, maen nhw’n gwirio a wnaethoch chi:

  • dalu rhai dyledion cyn eraill

  • gwario neu fenthyca llawer mwy nag yr oedd angen

  • rhoi’r wybodaeth anghywir i fenthyciwr er mwyn i chi gael credyd

Gallwch fynd yn fethdalwr o hyd os ydych wedi gwneud y pethau hyn, ond efallai y bydd yn rhaid i chi ddilyn y cyfyngiadau methdaliad am fwy o amser. Gwiriwch y rheolau am yr hyn a wnaethoch cyn dod yn fethdalwr. 

Os nad yw methdaliad yn iawn i chi

Efallai y gallwch wneud cytundeb gwahanol i ddelio â'ch dyledion yn lle hynny. Mae'r hyn sydd orau i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau - gwiriwch eich opsiynau ar gyfer dod allan o ddyled.

Os ydych chi'n ei chael hi’n anodd

Mae eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â'ch iechyd corfforol. Dylech siarad â'ch meddyg teulu os yw eich problemau ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael help gyda'ch iechyd meddwl ar wefan Mind. 

Os ydych angen siarad â rhywun

Gallwch siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig mewn sefydliadau fel y Samariaid neu Shout.

Samariaid

Llinell gymorth: 116 123 (dydd Llun i ddydd Sul ar unrhyw adeg)

Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (dydd Llun i ddydd Sul 7pm tan 11pm)

Mae galwadau i'r Samariaid am ddim.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â'r Samariaid ar eu gwefan. 

Shout

Gallwch hefyd anfon neges destun i 'SHOUT' i 85258 i ddechrau sgwrs gyda gwirfoddolwr Shout hyfforddedig. Mae’r negeseuon testun am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol o unrhyw le yn y DU.

Os ydych chi'n meddwl ei fod yn argyfwng

Os ydych chi'n meddwl bod eich bywyd chi neu rywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys os gallwch chi.

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 18 Chwefror 2021