Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Newid gwlad

Buddsoddi yn y farchnad stoc

Pam buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau?

Os oes gennych rywfaint o arian yn sbâr ac am gynilo ar gyfer y dyfodol, un opsiwn y gallech chi ei ystyried yw buddsoddi yn y farchnad stoc.

Fe allwch chi wneud mwy o arian trwy fuddsoddi yn y farchnad stoc na chynilo mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, [link to page Cyfrifon cynilo banciau a chymdeithasau adeiladu] ond mae hefyd yn fwy mentrus.

Gyda chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, yr ydych yn sicr o gael yr arian roddoch chi i mewn o leiaf yn ôl. Os ydyw’r banc neu gymdeithas adeiladu yn mynd allan o fusnes, mae gwarant y cewch chi'r holl arian roddoch chi mewn, hyd at uchafswm cyfyngedig o £85,000.

Sut bynnag, gyda buddsoddiadau’r farchnad stoc, mae’n bosibl colli arian yn ogystal â’i ennill os ydyw gwerth eich stociau a chyfranddaliadau yn mynd i lawr.

Fel arfer mae’n werth meddwl am fuddsoddi yn y farchnad stoc dim ond os ydych yn fodlon buddsoddi am gyfnod o bum mlynedd a mwy. Y rheswm am hyn yw po hiraf y byddwch yn buddsoddi y mwyaf tebygol yr ydych o wneud arian ar eich buddsoddiad.

Mae buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau hefyd yn golygu na fyddwch yn gallu mynd at eich arian mor rhwydd a phetaech chi wedi’i gynilo mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Bydd angen i chi feddwl os oes unrhyw ffordd arall i chi gael eich arian os oes argyfwng.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynilo ar gyfer argyfyngau, gweler Pam mae angen i mi gynilo?

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ffyrdd eraill o gynilo’ch arian, gweler Beth ydyw’r ffordd orau i gynilo?

Beth yw stociau a chyfranddaliadau?

Prynir a gwerthir stociau a chyfranddaliadau ar y farchnad stoc. Gelwir hyn hefyd yn masnachu.

Y rhestr marchnad stoc fwyaf adnabyddus yn y DU ydyw’r FTSE100 sy’n rhestru'r can cwmni sy’n perfformio orau yn y DU.

Pan fyddwch chi’n prynu cyfranddaliadau, mae’r cwmni yn cymryd eich arian ac yn ei fuddsoddi. Os yw’r cwmni’n gwneud yn dda, yr ydych ill dau yn gwneud rhywfaint o arian. Gelwir hwn yn adenillion. Os ydyw’r cwmni’n gwneud yn wael, mae perygl y byddwch yn colli arian. Gall gwerth eich cyfranddaliadau gael ei effeithio hefyd gan ddigwyddiadau economaidd a gwleidyddol y byd.

Mae buddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau yn ffordd fwy mentrus o gynilo oherwydd mae’n bosibl colli arian yn hytrach na’i ennill. Ond gall cyfranddaliadau godi yn eu gwerth yn gyflym hefyd. Felly po hira y byddwch chi’n buddsoddi y mwyaf tebygol yr ydych o ennill mwy o arian na phetaech chi wedi cynilo mewn banc neu gymdeithas adeiladu. Gelwir hyn yn rhoi adenillion uwch i chi.

Ffyrdd o fuddsoddi yn y farchnad stoc

Mae yna sawl ffordd o fuddsoddi yn y farchnad stoc. Y ffordd fwyaf mentrus yw prynu a gwerthu cyfranddaliadau’n uniongyrchol. Os yw’r cwmni ddewiswch chi yn gwneud yn wael, fe allech chi golli llawer o arian.

Sut bynnag, fe allwch chi leihau’r perygl hwnnw trwy roi’ch arian mewn cronfa buddsoddiad ar y cyd. Mae hwn yn rhannu’ch arian rhwng cyfranddaliadau a llawer o fuddsoddiadau diogelach er mwyn lleihau’r perygl o golli arian os yw un ohonynt yn gwneud yn wael.

Fel arfer mae’r buddsoddiadau diogelach hyn yn gymysgwch o fuddsoddiadau a gefnogir gan y llywodraeth a elwir yn giltiau, arian parod, eiddo a bondiau.

Yn sylfaenol mae giltiau a bondiau yn fenthyciadau ariannol i gwmni neu’r llywodraeth. Ystyrir hwy yn ddiogelach na chyfranddaliadau oherwydd mae gennych fwy o sicrwydd y cewch chi’ch arian yn ôl. Fe delir llog i chi hefyd.

Mae sawl math gwahanol o gronfeydd buddsoddiad ar y cyd y gallwch eu prynu oddi wrth ddarparwyr gwahanol. Oddi wrth gwmni buddsoddi, neu fanc, fe allwch brynu:

  • ymddiriedolaethau buddsoddi-drwy-unedau
  • cwmnïau buddsoddi penagored (OEICS)
  • ymddiriedolaethau buddsoddi.

Fe allwch chi brynu polisi gydag-elw oddi wrth gwmni yswiriant bywyd neu gymdeithas gyfeillgar, sy’n cynnwys:

  • bondiau buddsoddi
  • gwaddolion cynilo
  • cynlluniau cynilo cymdeithas gyfeillgar

Nid oes gan gymdeithasau cyfeillgar gyfranddeiliaid, ac felly mae’r holl aelodau sy’n perthyn i gymdeithas gyfeillgar yn rhannu’r elw.

Er bod y buddsoddiadau hyn i gyd yn gronfeydd buddsoddiad ar y cyd, mae gan bob un ohonynt nodweddion gwahanol ac maen nhw’n gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Gall hyn wneud rhai neilltuol yn ddewis gwell nag eraill, yn dibynnu ar eich anghenion buddsoddi a’ch agwedd tuag at fentro.

Er mwyn gwybod mwy am y mathau gwahanol o fuddsoddiadau ac i gymharu cynhyrchion, ewch i adran Cynilon a Buddsoddiadau gwefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadviceservice.org.uk.

Costau buddsoddi

Un o’r prif wahaniaethau rhwng rhoi’ch arian mewn cyfrif cynilo a buddsoddi yw os ydych chi’n buddsoddi’ch arian, fe fydd yn rhaid i chi dalu costau.

Mae’r costau y byddwch chi’n eu talu yn dibynnu ar y math o fuddsoddiad fyddwch chi’n ei brynu.

Os fyddwch chi’n prynu a gwerthu cyfranddaliadau yn uniongyrchol fe fydd rhaid i chi dalu costau delio.

Gyda’r rhan fwyaf o gronfeydd buddsoddiad ar y cyd, fe fydd rhaid i chi fel arfer dalu tâl cychwynnol am drefnu’r buddsoddiad. Gallai hyn fod i fyny at 5 y cant o’r swm o arian yr ydych yn dechrau’r buddsoddiad ag ef.

Os rheolir eich buddsoddiad gan reolwr cronfa sy’n gwneud penderfyniadau ynglŷn â beth mae’ch cronfa yn mynd i fuddsoddi ynddo, efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu cost rheoli.

Gall y costau y byddwch chi’n eu talu i gael bond buddsoddi, [link to heading Ffyrdd o fuddsoddi yn y farchnad stoc] gwaddolion cynilo neu bolisi cynllun cynilo cymdeithas gyfeillgar [link to heading Ffyrdd i fuddsoddi yn y farchnad stoc] fod yn uchel iawn yn y blynyddoedd cynnar ond fe allan nhw ostwng po hiraf y byddwch chi’n dal y bond.

Os fyddwch chi’n cyfnewid bond buddsoddi, gwaddol cynilo neu gynllun cynilo cymdeithas gyfeillgar am arian yn y blynyddoedd cynnar, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu tâl cosb ac fe allech chi ddiweddu gyda llai o arian nag oedd gennych yn wreiddiol.

Os ydych chi am gyfnewid eich buddsoddiad am arian efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu tâl ymadael.

Gall costau amrywio’n fawr rhwng cwmnïau ac mae’n bwysig bod yn ymwybodol ohonynt. Ond mae’n bwysicach gwneud yn siŵr fod eich buddsoddiad yn gwneud yn dda ac yn ennill arian i chi.

Os yw’ch buddsoddiad yn gwneud yn wael a chwithau’n talu costau uchel hefyd, fe ddylech chi ystyried ei newid.

Broceriaid disgownt

Fe allwch chi osgoi talu costau uchel am eich buddsoddiadau os prynwch chi nhw oddi wrth frocer disgownt.

Nid yw broceriaid disgownt yn cynnig cyngor ynglŷn â pha fuddsoddiadau y dylech chi eu dewis.

Mae’n bwysig iawn eich bod wedi gwneud eich gwaith ymchwil a’ch bod yn gwybod pa fuddsoddiad yr ydych am ei brynu cyn eich bod yn dewis defnyddio brocer disgownt. Am fwy o fanylion ynglŷn â sut mae broceriaid disgownt yn gweithio, ewch i wefan moneysavingexpert yn: www.moneysavingexpert.com.

Os ydych chi’n newydd i fuddsoddi efallai y bydd yn well i chi gael cyngor ariannol annibynnol yn gyntaf. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chael cyngor ariannol, gweler Cymorth ychwanegol.

Buddsoddiadau a threth

Fel arfer bydd yn rhaid i chi dalu treth ar yr incwm yr ydych yn ei ennill o’ch buddsoddiadau.

Sut bynnag, fe allwch chi roi cronfeydd buddsoddiadau ar y cyd i mewn i Gyfrif Cynilo Unigol (ISA) a fydd dim rhaid i chi dalu treth ar yr arian enillwch chi o’ch buddsoddiad.

Y flwyddyn dreth hon (11/12) fe allwch chi roi i fyny at £10,680 i mewn i fuddsoddiad ISA. Ond, os oes gennych ISA arian parod, mae’r swm y gallwch ei roi i mewn i fuddsoddiad ISA yn gostwng i £5,340.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ISAs, gweler Cyfrifon Cynilo Unigol.

Beth i’w wirio cyn i chi fuddsoddi

Mae llawer o bethau i’w hystyried cyn i chi fuddsoddi yn y farchnad stoc.

Fe ddylech chi ystyried y cwestiynau canlynol:

  • beth ydyw’ch agwedd tuag at fentro - ydych chi’n fodlon mentro colli arian yn y tymor byr yn y gobaith y gallwch chi gael adenillion uwch yn y tymor hir?
  • faint o arian y gallwch chi fforddio’i golli?
  • ydych chi’n fodlon cloi’ch arian am bum mlynedd neu fwy? Fel arfer mae’n werth buddsoddi yn farchnad stoc dim ond dros dymor hir oherwydd po hiraf yr ydych yn buddsoddi, y mwyaf tebygol y byddwch o wneud arian. Sut bynnag, os ydych chi’n credu y byddwch am fynd at eich arian ynghynt na hynny, efallai nad yw buddsoddi yn y farchnad stoc yn addas i chi.
  • pam ydych chi’n buddsoddi? Fe allech chi fuddsoddi er mwyn cael cyfandaliad yn y dyfodol i dalu am rywbeth fel ffioedd prifysgol eich plentyn. Os ydych chi’n buddsoddi i gael cyfandaliad, mae angen i chi edrych ar fuddsoddiadau sy’n buddsoddi er cynnydd. Neu fe allech chi fod yn buddsoddi er mwyn darparu incwm ar eich cyfer, er enghraifft, i ychwanegu at eich cronfa bensiwn. Mae rhai buddsoddiadau wedi’u cynllunio i ddarparu incwm ac felly fe ddylech edrych allan am y rhain.
  • ydych chi’n hapus i dalu costau i rywun i reoli eich buddsoddiad? Ydych chi’n hapus i adael iddyn nhw wneud penderfyniadau ar eich rhan ynglŷn â ble y dylid buddsoddi’ch arian?
  • ydych chi’n barod i wneud yr ymchwil er mwyn i chi wneud eich dewis eich hunan ynglŷn a ble i fuddsoddi?
  • ddylech chi gael cyngor ariannol cyn penderfynu ar ddewisiadau buddsoddi? Efallai yr hoffech chi wneud hyn os ydych chi’n buddsoddi am y tro cyntaf, gyda llawer o arian i’w fuddsoddi neu’n ei chael hi’n anodd gwneud penderfyniadau ynglŷn â buddsoddi.

Os penderfynwch chi brynu buddsoddiad yn y farchnad stoc

Os penderfynwch chi brynu buddsoddiad yn y farchnad stoc, cofiwch fod y rheiny sy’n addo adenillion uchel heb berygl o gwbl bron yn rhy dda i fod yn wir. Ddylech chi byth fuddsoddi mwy o arian nag y gallwch chi fforddio’i golli.

Cadwch olwg ar sut mae’ch buddsoddiad yn ei wneud, yn enwedig wrth i chi nesáu at yr amser pan fydd angen yr arian arnoch. Mae o hyd yn gallach ei roi mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu ddiogelach neu symudwch yr arian i gronfa lai peryglus ymhell cyn y bydd angen yr arian arnoch, dim ond rhag ofn y bydd gwerth eich buddsoddiad yn gostwng yn sydyn ac yn dileu’r elw yr ydych wedi’i ennill.

Cymorth ychwanegol

Yn Adviceguide

Cyngor Ariannol Annibynnol

Am gymorth i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol annibynnol, cysylltwch ag un o’r sefydliadau canlynol:

Hyrwyddiadau Ariannol Annibynnol (IFAP)

Gwefan: www.unbiased.co.uk.

Sefydliad Cynllunio Ariannol (IFP)

E-bost: enquiries@financialplanning.org.uk
Gwefan: www.financialplanning.org.uk

Cymdeithas Cyllid Personol (PFS)

E-bost: customer.serv@thepfs.org
Gwefan: www.findanadviser.org

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar y wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cynnyrch ariannol, gan gynnwys tablau cymharu. Rhowch glic ar: www.moneyadviceservice.org.uk.

Did this advice help?