Dod o hyd i fasnachwr y gallwch ymddiried ynddo
Ar y dudalen hon, cewch gyngor ar ddod o hyd i fasnachwr y gallwch ymddiried ynddo.
Dod o hyd i fasnachwr
- dewch o hyd i fasnachwr trwy holi pobl eraill os fedrwch chi, neu ar argymhelliad trwy wefan sy'n barnu masnachwyr
- defnyddiwch gynllun TrustMark i ddod o hyd i fasnachwr yn eich ardal chi. TrustMark yw'r nod ansawdd sydd wedi ei ardystio gan y Llywodraeth ac sy'n dangos y ffordd at fasnachwyr lleol sydd ag enw da. Mae sgiliau technegol pob cwmni wedi cael eu harchwilio'n annibynnol trwy arolygiadau ar-y-safle, i sicrhau gwaith ac arferion masnachu o ansawdd uchel
- dewch o hyd i fasnachwr trwy gynllun Buy with Confidence Safonau Masnach, os yw'n bodoli yn eich ardal chi
- dewch o hyd i fasnachwr trwy Rwydwaith Cynllun o'r enw Assured Trader gan yr Awdurdod Lleol. Mae'r cynllun hwn yn dod a chynlluniau gan awdurdodau lleol gwahanol at ei gilydd i ddenu busnesau bach
- ymchwiliwch i weld os oes gan fasnachwr logo Consumer Codes Approval, sef cod ymarfer gan y Swyddfa Masnachu Teg. Mae hyn yn golygu bod y masnachwr wedi cytuno i ddarparu gwasanaeth da ar gyfer cwsmeriaid, contractau clir a theg a chyngor annibynnol ar gost isel i ddatrys anghydfod. Gallwch chwilio am fasnachwr sydd â'r logo hwn ar wefan y Swyddfa Masnachu Teg
- dewch o hyd i fasnachwr sy'n aelod o gymdeithas fasnach. Mae gan gymdeithasau masnach godau ymarfer a chynlluniau sy'n medru helpu datrys problemau. Os yw masnachwr yn dweud ei fod yn aelod o gymdeithas fasnach, dylech ymchwilio i weld os yw hyn yn wir
- os ydych chi'n gwneud gwaith adeiladu strwythurol pwysig, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch neu efallai y bydd yn rhaid i chi fodloni rheoliadau adeiladu. Er enghraifft, efallai y byddwch chi angen help syrfëwr, pensaer neu syrfëwr meintiau, i lunio cynlluniau i'w cyflwyno i'r awdurdod lleol. Gallwch gael cyngor ar gyflogi arbenigwyr gan Gynllun Gwirfoddol Syrfewyr Siartredig sy'n cael ei redeg gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, neu gan fudiadau eraill sy'n cynrychioli syrfewyr neu benseiri.
- Find a trader In Scotland from the Construction Licensing Executive which provides a licensing scheme for traders in the construction industry www.clescotland.co.uk.
Camau nesaf
- Gair o gyngor ar wybod os yw masnachwr yn gowboi
- Mudiadau adeiladu
- Dewch o hyd i fasnachwr Trustmark lleol
- Os oes angen help pellach arnoch
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- Rhwydwaith Cynllun Masnachwr Sicr yr Awdurdod Lleol yn www.oft.gov.uk/laatsn
- Cynllun Buy with Confidence Safonau Masnach yn: www.buywithconfidence.gov.uk
- Chwiliwch am fusnes yn eich ardal chi y gallwch ymddiried ynddo ac sydd â logo Consumer Codes Approval gan y Swyddfa Masnachu Teg yn: oft.go.auk