Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gwybodaeth sydd angen i chi ei rhoi i’ch yswiriwr

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gall yswiriant eich diogelu pan fydd pethau’n mynd o le. Pan fyddwch yn penderfynu cymryd yswiriant, mae yna bethau sydd angen i’ch cwmni yswiriant eu gwybod er mwyn iddynt gyfrifo’r risg o ddarparu yswiriant ar eich cyfer a faint fydd y gost. Mae’r dudalen hon yn egluro beth sydd angen i chi ei ddweud wrth yswiriwr pan fyddwch yn cymryd yswiriant a beth yw cyfrifoldebau cwmni yswiriant. Mae hefyd yn esbonio beth sy’n digwydd pan na fyddwch chi’n rhoi’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.

Gwneud cais am yswiriant

Pan fyddwch chi’n prynu yswiriant, fel arfer fydd angen i chi gwblhau ffurflen gais. Gelwir hon yn ffurflen gynnig os ydych yn ei chwblhau wyneb yn wyneb neu’n ddatganiad o ffeithiau os ydych yn ei chwblhau dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd.

Gall ffurflen gynnig gynnwys cymal sy’n caniatáu’r yswiriwr i wirio cronfeydd data fel y gronfa ddata Cyfnewid Hawliadau a Thanysgrifennu. Dyma gyfnod o hawliadau yswiriant. Mae’n annhebygol iawn y cewch chi sicrwydd yswiriant os na fyddwch yn derbyn y cymal hwn.

Darllenwch dros yr holl wybodaeth ar eich ffurflen gynnig, neu ddatganiad o ffeithiau, yn ofalus iawn cyn ei llofnodi, i wneud yn siwr ei bod yn gywir. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw brocer neu asiant wedi cwblhau’r ffurflen ar eich rhan, neu os ydych wedi prynu’r yswiriant dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd. Mae gennych hawl i gael copi o’ch cais.

Mae angen i’ch yswiriwr holi’r holl gwestiynau perthnasol wrth werthi yswiriant

Ers 6 Ebrill 2013, fe fyddwch yn gwybod beth yn union y dylech chi ei ddweud wrth eich yswiriwr ymlaen llaw dan Ddeddf Yswiriant Defnyddwyr (Datgelu a Sylwadau) 2012.

Rhaid i'ch cwmni yswiriant ofyn yr holl gwestiynau perthnasol pan fyddwch chi’n cymryd polisi, yn newid polisi neu’n adnewyddu polisi. Rhaid i chi ateb cwestiynau’r yswiriwr yn onest a rhaid i chi gymryd gofal rhesymol fod eich atebion yn gywir.

Os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn i’ch yswiriwr heb yn wybod i chi, ni fydd eich yswiriwr yn medru gwrthod hawliad. Os ydych yn dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol neu’n esgeulus, neu wedi camarwain eich yswiriwr, mae’n medru gwrthod eich hawliad.

Mae'r sicrwydd cyfreithiol hwn yn berthnasol i bob yswiriant personol, gan gynnwys yswiriant ar gyfer y cartref, y car, teithio, iechyd a bywyd, waeth a brynwyd yr yswiriant dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein.

Cymryd gofal rhesymol gyda chwestiynau yswiriwr

Fe fydd p’un ai eich bod wedi cymryd gofal rhesymol ai peidio wrth ateb cwestiynau yswiriwr yn dibynnu ar y math o yswiriant, deunydd cyhoeddusrwydd yr yswiriwr, pa mor glir a phenodol yw cwestiynau’r yswiriwr ac a yw’r defnyddiwr wedi defnyddio brocer neu ganolwr.

Fe fyddai yswirwyr yn dal i fedru holi cwestiynau cyffredinol neu benagored.  Mae p’un ai fod eich ymateb yn rhesymol ai peidio yn dibynnu pa mor glir oedd y cwestiwn.

Beth all eich yswiriwr ei wneud os nad ydych wedi dweud rhywbeth, a hynny’n fwriadol, ac rydych yn hawlio

Os ydych yn dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol neu’n camarwain yr yswiriwr, mae’n medru osgoi’r contract a gwrthod pob hawliad. Enghraifft o ddal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol yw peidio â dweud wrth yswiriwr am gyflwr meddygol sydd arnoch.

Fe fydd angen iddo brofi hyn. Nid yw’n gorfod dychwelyd y premiymau a daldwyd, onid yw’n annheg eu cadw, er enghraifft yn achos polisi ar y cyd ble mae un person yn unig wedi bod yn anoest.

Beth mae’ch yswiriwr yn medru ei wneud os ydych yn gwneud camgymeriad esgeulus wrth ddweud rhywbeth wrtho, ac yna’n hawlio

Os ydych yn gwneud camgymeriad esgeulus wrth geisio am yswiriant, ac ni fyddai’r yswiriwr wedi llunio contract gyda chi petai’n gwybod, yna mae’n medru diweddu’r contract a gwrthod pob hawliad, a rhaid iddo ddychwelyd unrhyw bremiymau a dalwyd atoch. Enghraifft o fod yn esgeulus yw ble’r ydych yn hepgor gwybodaeth hanfodol yn ddamweiniol neu’n ticio’r bocs anghywir mewn camgymeriad.

Fe fydd angen iddyn nhw brofi eich bod yn ddiofal. Nid yw hyn yn berthnasol i yswiriant bywyd, ble nad yw’r yswiriwr yn medru diweddu’r contract.

Petai’r yswiriwr wedi llunio’r contract ar delerau gwahanol, gall drafod y contract fel petai wedi ei wneud ar y telerau gwahanol hynny.  Er enghraifft, petai wedi hepgor rhywbeth o’r polisi ac rydych chi’n hawlio ac mae’ch hawliad o fewn yr eithriad yna, nid yw’n gorfod talu allan.

Petai wedi codi premiwm uwch, mae’n medru gostwng y swm y mae’n ei dalu ar hawliad.

Caiff y contract yswiriant ei drin yn wahanol yn y dyfodol hefyd.  Gall yr yswiriwr newid telerau’r contract, neu ddiweddu’r contract gyda chyfnod rhesymol o rybudd a thalu’r premiymau a dalwyd.  

Ni all yr yswiriwr ddiweddu’r contract os yw am yswiriant bywyd.  Os yw telerau contract yswiriant bywyd yn newid ac mae yna fwy i’w dalu, gallwch ddewis derbyn y telerau neu ddiweddu’r contract.

Newidiadau mewn amgylchiadau

Os oes unrhyw newid yn eich amgylchiadau dylech ddweud wrth eich yswiriwr ar unwaith, neu cyn gynted ag y bo modd. Er enghraifft, os ydych yn symud ty neu’n newid eich car, dywedwch wrth eich yswiriwr cyn i hyn ddigwydd er mwyn sicrhau bod gennych sicrwydd yswiriant pan fydd y newid yn digwydd.

Dylech ddarllen eich polisi i weld pa newidiadau sydd angen i chi eu datgan.

Os nad ydych yn dweud wrth eich yswiriwr, a hynny’n fwriadol, neu os ydych yn gwneud camgymeriad esgeulus

Os ydych yn dal gwybodaeth yn ôl yn fwriadol neu’n gwneud camgymeriad esgeulus wrth ddweud wrth eich yswiriwr am newid i’ch polisi, mae’r yswiriwr yn medru gwrthod eich hawliad, trin y contract fe petai ar delerau gwahanol neu godi premiwm uwch.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Mwy o wybodaeth ar Ddeddf Yswiriant Defnyddwyr (Datgelu a Sylwadau) 2012 gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain ar www.abi.org.uk

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.