Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Costau polisi yswiriant

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut mae yswirwyr yn cyfrif faint i’w godi arnoch chi am yswiriant a pha gostau ddylech chi feddwl amdanyn nhw wrth ddewis polisi yswiriant

Sut caiff costau polisi yswiriant eu cyfrif?

Mae’r swm y gallech ddisgwyl ei dalu am eich yswiriant yn dibynnu ar lawer o bethau gwahanol. Caiff y costau eu cyfrif fel arfer yn seiliedig ar yr hyn mae eich polisi yswiriant yn ei gwmpasu, a beth yw’r risg y bydd rhywbeth yn digwydd a allai arwain at hawliad gennych chi. Y mwyaf tebygol yw hi y bydd rhywbeth yn digwydd, yna y mwyaf drud y bydd eich yswiriant yn debygol o fod.

Mae’r ffactorau y bydd cwmni yswiriant yn edrych arnyn nhw wrth benderfynu faint fydd rhaid i chi dalu yn cynnwys:

  • eich amgylchiadau personol. Er enghraifft eich oedran, cyflwr eich iechyd ac a oes gennych chi unrhyw anghenion penodol
  • lle’r ydych chi’n byw. Er enghraifft ydych chi’n byw mewn ardal lle ceir llawer o droseddu, neu risg uchel o lifogydd?
  • yr hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud. Er enghraifft ydych chi’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau peryglus neu’n teithio dramor yn aml?
  • sawl gwaith rydych chi wedi hawlio yn y gorffennol. Po leiaf yr hawliadau a wnewch chi, y mwyaf rhad y bydd eich yswiriant yn debygol o fod.

Taliadau premiwm

Gelwir y swm rydych chi’n ei dalu am bolisi yswiriant yn daliad premiwm. Gallwch dalu premiwm eich yswiriant mewn un swm mawr neu mewn rhandaliadau. Ambell waith gallech chi orfod talu ychydig yn fwy am eich yswiriant os ydych chi’n talu mewn rhandaliadau.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod eich taliadau premiwm yn gyfredol. Os ydych chi’n colli rhandaliad gallech golli eich yswiriant, hyd yn oed os nad yw’r yswiriwr wedi’ch atgoffa chi fod eich taliad yn ddyledus.

Cymharu taliadau premiwm

Pan fydd eich yswiriwr yn rhoi dyfynbris i chi ar gyfer yswiriant, dylai ddweud wrthych chi faint fydd y taliadau premiwm. Does dim rhaid i chi dderbyn y dyfynbris. Mae bob amser werth cymharu â phrisiau yswirwyr eraill cyn penderfynu prynu yswiriant.

Ni ddylech chi fyth wneud penderfyniad i gymryd yswiriant yn seiliedig ar y pris yn unig. Dylech bob amser edrych ar lefel yr yswiriant sy’n cael ei gynnig i chi.

Gallai eich taliadau premiwm gynyddu pan fyddwch chi’n adnewyddu polisi. Gallwch chi neu eich yswiriwr benderfynu peidio ag adnewyddu’r polisi. Pan ddaw’n amser i chi adnewyddu eich polisi mae’n werth cymharu’r pris y mae eich yswiriwr yn ei ddyfynnu â’r hyn y gall yswirwyr eraill ei gynnig i chi. Mae’n bosibl y cewch fargen well os ydych chi’n newid yswiriwr.

Cadw costau yswiriant yn isel

Mae bob amser yn syniad da edrych o gwmpas a chael nifer o ddyfynbrisiau cyn cymryd yswiriant. Fodd bynnag gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gor-gynilo o ran yr hyn mae’r yswiriant yn ei gynnwys.

Efallai y bydd yswirwyr yn cynnig gostyngiad i chi os ydych chi’n prynu mwy nag un polisi, er enghraifft yswiriant cynnwys y cartref ac yswiriant adeilad.

Dewiswch dâl-dros-ben uwch. Y tâl-dros-ben yw’r swm o arian rydych chi’n ei dalu at ran gyntaf yr hawliad. Yn aml gallwch gadw costau i lawr drwy dalu tâl-dros-ben uwch.

Ni fydd rhai mathau o yswiriant, fel yswiriant salwch, yn talu yn ystod yr wythnosau cyntaf. Os gallwch chi aros yn hirach cyn cymryd taliad, gallwch gadw costau eich yswiriant i lawr.

Cofiwch, gallai fod yn rhatach talu eich taliadau premiwm i gyd gyda’i gilydd, yn hytrach na mewn rhandaliadau.

Adeiladwch eich gostyngiad am beidio â hawlio. Mae hyn yn golygu y gallwch leihau eich costau yswiriant yn sylweddol os nad ydych chi’n hawlio dros nifer o flynyddoedd. Yn aml mae’n werth dewis talu premiwm ychwanegol i warchod eich gostyngiad am beidio â hawlio oherwydd bydd cyfanswm cost eich yswiriant yn dal i fod yn is.

Y camau nesaf

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.