Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Beth sydd angen i chi ei wybod am yswiriant

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Rydych yn prynu yswiriant i ddiogelu'ch hun yn erbyn colledion ariannol annisgwyl sy'n gallu codi, er enghraifft os ydych chi neu rywun arall yn cael anaf neu salwch, neu os oes difrod i'ch eiddo neu bethau personol. Mae'r dudalen hon yn esbonio pa fathau o yswiriant sydd ar gael a ble fedrwch chi eu prynu.

Mathau o bolisïau yswiriant

Mae yna sawl math o bolisi yswiriant ac efallai y bydd angen i chi gymryd sawl polisi i sicrhau bod yna ddarpariaeth ar gyfer pob risg yn eich bywyd. Mae'r mathau o bolisïau yswiriant yn cynnwys:

  • yswiriant moduro
  • yswiriant cynnwys y cartref
  • yswiriant ar gyfer adeiladau
  • yswiriant ar gyfer salwch difrifol
  • yswiriant teithio
  • yswiriant iechyd preifat
  • yswiriant bywyd (sy'n aml yn cael ei alw'n sicrwydd bywyd).

Ydych chi angen yswiriant?

Mae rhai polisïau yswiriant yn orfodol. Er enghraifft, rhaid i chi gael yswiriant moduro os ydych yn gyrru cerbyd. Neu efallai na fyddwch yn medru cael morgais heb yswiriant ar gyfer yr adeilad. Mae polisïau yswiriant eraill yn ddewisol ond yn werth eu hystyried. Er enghraifft, os ydych yn mynd ar eich gwyliau, dylech ystyried cymryd polisi yswiriant gwyliau.

Efallai bod gennych yswiriant ychwanegol yn barod gyda pholisi sydd gennych yn barod, neu fel rhan o becyn eich cyfrif cyfredol yn y banc. Os ydych yn gyflogedig, dylech hefyd edrych i mewn i'r pecyn o fuddion sydd gennych fel gweithiwr i weld os oes darpariaeth ychwanegol gennych fel yswiriant iechyd neu yswiriant diogelu incwm. Efallai eu bod hefyd yn cynnig buddion ychwanegol, fel cyflog salwch.

Ond, os oes yswiriant ychwanegol gennych, mae'n werth gwybod beth mae'n ei gynnwys ac a yw'n addas i'ch anghenion chi.

Ble fedrwch chi brynu yswiriant?

Gallwch brynu yswiriant:

  • yn uniongyrchol gan gwmni yswiriant
  • trwy fanc, cymdeithas adeiladu, cwmni teithio neu adwerthwr ar y stryd fawr.
  • trwy wefan cymharu prisiau (er, nid yw'r gwefannau hyn yn cynnwys pob cwmni yswiriant)
  • trwy asiant yswiriant. Fel arfer, cyflogir asiant yswiriant gan un cwmni yswiriant
  • trwy frocer yswiriant neu Gynghorydd Ariannol Annibynnol. Efallai na fydd wedi ei glymu at un cwmni yswiriant yn benodol ond efallai y bydd yn cael comisiwn am werthu polisi yswiriant i chi. Mae'n werth ystyried hyn os ydych chi eisiau yswiriant ar gyfer rhywbeth penodol neu angen cyngor am y polisi sydd orau i chi.

Cymharu prisiau a darpariaeth

Unwaith fyddwch chi wedi penderfynu eich bod eisiau yswiriant, mae'n syniad da i chi gael sawl dyfynbris gan wahanol gwmnïau yn gyntaf. Mae'n bwysig cymharu cynnwys ac nid dim ond y pris.

Efallai bod gan ddyfynbris rhatach fwy o eithriadau neu dâl-dros-ben uwch. Mae eithriadau yn bethau nad yw'r polisi yn eu cynnwys, a'r tâl-dros-ben yw'r swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu tuag at yr hawliad, fel arfer y £50 neu'r £100 cyntaf.

Dylai'r cwmni yswiriant roi dogfen grynodeb i chi sy'n cynnwys ffeithiau allweddol am y polisi yswiriant yr ydych yn ei ystyried. Fe fydd hyn yn eich helpu i gymharu prisiau a lefel y ddarpariaeth rhwng cwmnïau yswiriant gwahanol.

Rhaid i Awdurdod Ymddygiad Ariannol reoleiddio cwmnïau sy'n gwerthu yswiriant. Mae Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn sicrhau bod y cwmni'n gorfod cwrdd a safonau penodol. Dylech sicrhau bod y cwmni yswiriant yr ydych yn ei ddewis wedi ei awdurdodi gan Awdurdod Ymddygiad Ariannol i werthu yswiriant.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.