Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynhaliaeth Plant - trafod ad-daliadau pan fydd arnoch chi daliadau cynhaliaeth plant

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych yn gwahanu, fel arfer y rhiant heb ofal bob dydd dros y plant sy'n gyfrifol am dalu taliadau cynhaliaeth.

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi trefnu cynhaliaeth ar eich cyfer ac rydych ar ei hôl hi gyda'ch taliadau cynhaliaeth, fe fydd yn rhaid i chi ddod o hyd i ffordd o ad-dalu'r ôl-ddyledion. Os na fyddwch yn gwneud hyn, fe allai'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gymryd camau gorfodi yn eich erbyn i geisio gwneud i chi ad-dalu'r hyn sy'n ddyledus.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth sy'n digwydd os oes arnoch daliadau cynhaliaeth dan Gynlluniau Cynhaliaeth Plant 1993, 2003 neu 2012 ac rydych chi am drafod amserlen ad-dalu gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Trafod amserlen ad-dalu gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Os ydych yn mynd i ddyled, weithiau fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trafod amserlen ad-dalu gyda chi. Y nod yw casglu'r holl ôl-ddyledion o fewn dwy flynedd ac maen nhw'n medru gofyn i chi dalu hyd at 40 y cant o'ch incwm, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau ac ymrwymiadau ariannol eraill.

Fe fyddan nhw'n ystyried:

  • eich anghenion chi ac unrhyw deulu newydd
  • anghenion y rhiant arall a'r plant sy'n derbyn cynhaliaeth
  • a yw'r rhiant arall wedi dweud wrth yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant eu bod yn debygol o ddioddef caledi ariannol os nad ydych yn talu.

Byddwch yn realistig wrth gyfrifo faint fedrwch chi fforddio ei ad-dalu. Tra'ch bod chi'n trafod amserlen ad-dalu, parhewch i ad-dalu'r hyn fedrwch chi.

Os ydych yn ei chael hi'n anodd yn ariannol, mynnwch help annibynnol i baratoi datganiad ariannol y gallwch ei ddefnyddio i ddangos beth fedrwch chi fforddio'i dalu. Os oes dyledion eraill gennych, efallai y bydd yn rhaid i chi drafod yr ad-daliadau hyn eto gyda'ch credydwyr er mwyn dod o hyd i arian i ad-dalu'ch ôl-ddyledion cynhaliaeth.

Fe fydd y rhiant arall yn cael gwybod eich bod wedi gofyn am amserlen ad-dalu. Mae'n medru gwrthwynebu'r trefniant newydd os yw'n credu ei fod yn afresymol.

Fe allai cynghorydd mewn canolfan Cyngor ar Bopeth, neu gynrychiolydd arall, eich helpu i drafod gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Fe fydd yn rhaid i chi roi caniatâd ysgrifenedig iddynt cyn fedran nhw drafod eich achos gyda'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Rhandaliad ôl-ddyledion i setlo'n llawn ac yn derfynol

Os nad ydych yn medru talu'r holl ôl-ddyledion, gallwch gynnig talu un taliad mawr i setlo'r cyfan yn llawn ac yn derfynol. Mae hyn yn golygu unwaith fyddwch chi wedi talu'r taliad mawr, nad oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnoch mwyach i ad-dalu gweddill yr ôl-ddyledion.

Rhaid i'r rhiant arall gytuno i hyn yn gyntaf. Os ydynt yn cytuno, ni fyddant yn medru newid eu meddwl yn nes ymlaen a cheisio cael yr ôl-ddyledion yn ôl.

Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ymchwilio i'ch cynnig cyn ei gyflwyno i'r rhiant arall. Os nad yw'n credu bod hyn yn rhesymol, ni fydd yn ei dderbyn ac ni fydd yn dweud wrth y rhiant arall.

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn credu eich bod yn medru talu a bod siawns resymol o gael yr holl ôl-ddyledion yn ôl, fe fydd yn mynnu eich bod yn talu'r swm llawn.

Unwaith y bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, a'r ddau ohonoch, wedi cytuno i'r trefniant , fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cadarnhau hyn yn ysgrifenedig ac yn rhoi manylion sut ddylech chi dalu'r swm a phryd. Os nad ydych yn talu fel y cytunwyd, gallai'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, ganslo'r cytundeb a cheisio cael yr ôl-ddyledion yn ôl mewn ffyrdd eraill.

Dileu ôl-ddyledion sy'n ddyledus

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru dileu unrhyw ôl-ddyledion mewn achosion prin. Ystyr dileu ôl-ddyledion yw nad oes rhaid eu talu mwyach. Mae'r rhesymau'n cynnwys:

  • mae'r rhiant arall yna egluro i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant nad yw am i'r ôl-ddyledion gael eu casglu mwyach
  • mae'r ôl-ddyledion yn mynd yn ôl i gytundeb cynhaliaeth interim a wnaed rhwng mis Ebrill 1993 a mis Ebrill 1995
  • mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi dweud wrthych fod ôl-ddyledion wedi cael eu hatal yn barhaol.

Gellir dileu ôl-ddyledion hefyd os ydych yn marw ac nid oes modd adennill yr ôl-ddyledion o'ch ystad. Neu os nad ydych yn gadael unrhyw asedion nad oes modd adennill yr ôl-ddyledion ohonynt.

Sut mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn penderfynu dileu unrhyw ôl-ddyledion

Rhaid i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu'r Asiantaeth Cynnal Plant ystyried holl amgylchiadau'r achos a lles y plant sy'n gysylltiedig. Fe fyddan nhw'n anfon hysbysiad at y ddau ohonoch, yn nodi:

  • swm yr ôl-ddyledion
  • pryd oedd yr ôl-ddyledion yn ddyledus
  • pam fyddai'n well dileu'r ôl-ddyledion yn eu barn nhw
  • y ffaith fod y penderfyniad i ddileu'r ôl-ddyledion yn derfynol.

Maen nhw hefyd yn gofyn i chi pam ddylai'r ôl-ddyledion gael eu dileu yn eich barn chi. Mae gennych 14 niwrnod i ateb. Fe fydd eich barn yn cael ei ystyried, ond os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn penderfynu peidio â dileu'r ôl-ddyledion, ni fyddwch yn medru apelio yn erbyn eu penderfyniad.

Atredeg arian sy'n ddyledus

Weithiau, os oedd newid mewn amgylchiadau, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru atredeg taliadau cynhaliaeth sy'n ddyledus rhwng rhieni. Wrth atredeg taliadau, fe allai cynhaliaeth sy'n ddyledus gennych gael ei ostwng neu ddileu i wneud iawn am yr arian sy'n ddyledus i chi dan y trefniant newydd.

Maen nhw’n fwy tebygol o atredeg taliadau mewn achosion ble mae plentyn yn symud o ofal un rhiant i'r llall. Neu os yw'ch trefniadau rhannu gofal yn newid a rhaid i chi dalu llai o gynhaliaeth nawr.

Os nad ydych yn clirio'r ôl-ddyledion

Os oes ôl-ddyledion o £1,000 neu fwy gennych o hyd ar ôl dwy flynedd, efallai y bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn ystyried cymryd camau gorfodi pellach. Mae hyn yn medru cynnwys mynd ag arian o'ch cyflog, budd-daliadau neu gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.