Cynhaliaeth Plant - beth fedrwch chi ei wneud os oes taliadau cynhaliaeth yn ddyledus i chi
Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych yn gwahanu, fel arfer y rhiant heb ofal bob dydd dros y plant sy'n gyfrifol am dalu taliadau cynhaliaeth.
Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi trefnu cynhaliaeth dan Gynlluniau Cynhaliaeth Plant 1993, 2003 neu 2012, ac nid yw'r rhiant ddylai fod yn talu taliadau cynhaliaeth yn talu, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru cymryd camau gorfodi i geisio gwneud iddyn nhw dalu'r hyn sy'n ddyledus i chi.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fedrwch chi ei wneud os ddylech chi fod yn cael cynhaliaeth os yw'r rhiant ddylai fod yn talu taliadau cynhaliaeth yn hwyr gyda'r taliadau neu ddim yn talu o gwbl.
Os oes gennych drefniant sy'n seiliedig ar y teulu
Os oes gennych drefniant sy'n seiliedig ar y teulu ac nid yw'r rhiant arall yn llwyddo i dalu'r swm a gytunwyd, ni fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru eich helpu i gael yr arian sy'n ddyledus i chi. Fe fydd angen i chi geisio datrys y broblem yn uniongyrchol gyda'r rhiant arall.
Os yw trefniant sy'n seiliedig ar y teulu yn methu, gallwch ofyn i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant drefnu cynhaliaeth yn lle. Pan fyddwch chi'n cyflwyno cais, dywedwch wrth yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fod y trefniant wedi methu am nad yw'r rhiant arall wedi llwyddo i dalu'r taliadau cynhaliaeth. Efallai y byddan nhw'n penderfynu defnyddio'r gwasanaeth Collect and Pay fel bod y rhiant yn talu cynhaliaeth yn syth i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, sydd yna'n ei drosglwyddo atoch chi.
Ni fydd cyfrifiad newydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gwneud i'r rhiant dalu unrhyw ôl-ddyledion sy'n weddill o'r trefniant sy'n seiliedig ar y teulu.
Os yw'ch cynhaliaeth yn cael ei dalu trwy Direct Pay
Os ydych yn defnyddio cynllun Direct Pay ac nid yw'r rhiant arall yn talu'n llawn ac ar amser, dylech geisio trafod yn uniongyrchol gyda'r rhiant arall yn gyntaf a cheisio datrys y broblem.
Os na fydd hyn yn gweithio, dywedwch wrth yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am yr ôl-ddyledion cyn gynted â phosib. Gallwch ffonio'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ond sicrhewch eich bod hefyd yn ysgrifennu atynt ac y cadw copi o'r llythyr hwn.
Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ceisio cysylltu â'r rhiant arall am unrhyw daliadau a gollwyd ac yn gofyn iddyn nhw ddangos tystiolaeth eu bod wedi talu. Os nad ydyn nhw'n medru dangos y dystiolaeth hon, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn penderfynu a yw am:
- eu symud at y gwasanaeth Collect and Pay, a
- thrafod sut mae modd gwneud ad-daliadau, neu
- gymryd camau i wneud iddyn nhw dalu. Yr enw ar y rhain yw mesurau gorfodi.
Os yw'ch taliadau cynhaliaeth yn cael eu talu trwy'r gwasanaeth Collect and Pay
Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi sefydlu gwasanaeth Collect and Pay, mae hyn yn golygu eu bod yn casglu'r arian gan y rhiant a ddylai dalu cynhaliaeth ac yn ei drosglwyddo atoch chi.
Os yw'r rhiant arall yn colli taliadau, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cymryd camau gorfodi i geisio gwneud iddyn nhw dalu'r hyn sy'n ddyledus. Ond, os nad yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru adennill yr arian, ni chewch unrhyw daliadau cynhaliaeth.
Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn oedi neu'n gwneud camgymeriad wrth gasglu ôl-ddyledion
Os ydych chi ar eich colled yn ariannol am i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant oedi neu wneud camgymeriad wrth gasglu ôl-ddyledion, gallwch gyflwyno cais am iawndal. Ond, nid oes hawl gennych i iawndal ac maen nhw'n penderfynu ar iawndal fesul achos.
Camau nesaf
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- Mwy am ôl-ddyledion dan Gynlluniau 1993 a 2003: www.cmoptions.org