Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - sut mae taliadau cynhaliaeth plant yn cael eu talu
Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu ac nid chi sydd â gofal bob dydd eich plant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth plant i'r rhiant arall.
Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trefnu cynhaliaeth o dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012, fe fydd yn cyfrifo faint o gynhaliaeth sy'n rhaid ei dalu. Yna, fe fydd yn dweud wrth y ddau riant sut fydd y swm yma'n cael ei dalu. Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am y ffordd y gall yr arian gael ei gasglu a'i dalu dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012.
Ar hyn o bryd, dim ond ychydig o bobl sy'n medru cael eu taliadau cynhaliaeth wedi eu trefnu dan Gynllun 2012. Fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu taliadau cynhaliaeth wedi eu trefnu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003. Gwnewch yn siwr eich bod yn gwybod pa gynllun sy'n berthnasol i chi cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon.
Dulliau o dalu taliadau cynhaliaeth
Mae yna ddwy ffordd o dalu taliadau cynhaliaeth:
- y cynllun Direct Pay
- y gwasanaeth Collect and Pay.
Cynllun Direct Pay
Os ydych chi'n defnyddio'r cynllun Direct Pay, rydych chi'n trefnu rhyngoch chi'ch hun sut fydd y taliadau cynhaliaeth yn cael eu talu a phryd. Nid yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cael unrhyw fewnbwn pellach.
Y gwasanaeth Collect and Pay
Os oes rheswm pam na fedrwch chi wneud taliadau rhyngoch chi'n hun, gallwch ofyn am gael defnyddio'r gwasanaeth Collect and Pay. Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn casglu taliadau gan y rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth ac yn eu talu i'r rhiant arall. Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yn rhad ac am ddim ond fe fydd ffi gweinyddol yn cael ei gyflwyno ar ryw adeg.
Sut i gyfrifo pa ddull o dalu i'w ddefnyddio
Mae penderfynu pa ddull o dalu i'w ddefnyddio yn dibynnu pa mor hawdd fedrwch chi gytuno ar daliadau rhyngoch chi a hefyd a ydych chi'n talu'r taliadau cynhaliaeth neu'n eu derbyn.
Os oes rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth
Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gofyn i chi a ydych chi am dalu gan ddefnyddio'r opsiwn Direct Pay.
Gallwch ofyn am gael defnyddio'r Gwasanaeth Collect and Pay ond cofiwch y byddwch yn gorfod talu ffi yn y pendraw am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ac fe fydd y rhiant arall hefyd yn cael llai o arian.
Os mai chi yw'r rhiant sy'n derbyn taliadau cynhaliaeth
Ar hyn o bryd, rhaid i chi gytuno cyn gwneud trefniant Direct Pay. Ond, pan fydd Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 yn cael ei ymestyn at bob ymgeisydd, ni fyddwch yn medru gwrthwynebu'r opsiwn Direct Pay os mai dyna sut mae'r rhiant arall am dalu.
Gallwch ofyn am gael defnyddio'r Gwasanaeth Collect and Pay dim ond os yw’r rhiant sy'n talu'r taliadau cynhaliaeth wedi methu â chadw at drefniant Direct Pay neu os oes rheswm da gennych dros feddwl efallai y bydd yn colli taliadau.
Os ydych chi'n credu efallai y bydd y rhiant arall yn colli taliadau
Os mai chi yw'r rhiant ddylai fod yn cael taliadau cynhaliaeth ac mae gennych reswm da dros gredu bod eich cyn-bartner yn annhebygol o dalu, gwnewch yn siwr eich bod yn dweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant beth yw'ch rhesymau pan fyddwch chi'n cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth.
Ble'n bosib, rhowch dystiolaeth i ddweud pam na fydd yn talu yn eich barn chi. Er enghraifft, os ydych chi wedi ceisio gwneud trefniant sy'n seiliedig ar y teulu ond mae wedi methu am nad oedd eich cyn-bartner wedi cadw ato, dywedwch wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant pa fyddwch chi'n cyflwyno'ch cais.
Galliai rhesymau eraill y byddai'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn eu derbyn gynnwys hanes eich cyn-bartner o beidio â thalu arian sy'n ddyledus am bethau eraill, neu ble mae'ch cyn-bartner wedi eich bygwth.
Os oes gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant reswm da dros amau y bydd rhiant yn talu taliadau cynhaliaeth, ni fydd yn cynnig yr opsiwn Direct Pay iddyn nhw. Fe fydd yn rhaid iddyn nhw ddefnyddio'r gwasanaeth Collect and Pay.
Sut mae taliadau cynhaliaeth yn cael eu talu i chi?
Mae yna sawl ffordd o dalu'r taliadau cynhaliaeth i chi.
Os ydych chi'n defnyddio'r cynllun Direct Pay
Fel arfer, fe fydd taliadau cynhaliaeth yn cael eu talu i chi trwy eich cyfrif banc. Ond, gallwch ddewis dull arall o dalu, er enghraifft siec neu gynllun trosglwyddo arian.
Os ydych chi'n defnyddio'r Gwasanaeth Collect and Pay
Fel arfer, gwneir taliadau trwy eich cyfrif banc Os nad oes cyfrif banc gennych, fe fyddwch yn medru defnyddio cynllun newydd o'r enw Simple Payment.
Simple payment
Gallwch ddefnyddio Simple Payment os nad ydych yn medru defnyddio cyfrif banc. Cewch gerdyn Simple Payment ac fe fyddwch yn medru casglu'ch taliadau cynhaliaeth o safle PayPoint sy'n arddangos arwydd Simple Payment.
Mae yna safleoedd PayPoint mewn llefydd fel siopau papur newydd lleol, siopau cyfleustra ac archfarchnadoedd. Fe fyddwch chi angen y cerdyn, dyddiad cofiadwy a rhywbeth sy'n profi pwy ydych chi, er mwyn casglu'ch taliadau cynhaliaeth.
Cadw cofnodion
Pa bynnag gynllun fyddwch chi'n ei ddefnyddio, mae'n bwysig fod y ddau ohonoch yn cadw cofnod o'r taliadau yr ydych yn eu gwneud ac yn eu cael, rhag ofn bod anghydfod yn codi ynghylch taliadau.
Os caiff y taliadau cynhaliaeth eu talu trwy fanc, sicrhewch eich bod yn cadw eich mantolenni banc perthnasol. Os caiff yr arian ei dalu gydag arian parod, gwnewch yn siwr fod gan y ddau ohonoch dderbynebau wedi eu llofnodi a'u dyddio. Os caiff yr arian ei dalu trwy'r opsiwn trosglwyddo arian, cadwch gopïau o'r gwaith papur sy'n dod gyda'r taliad.
Camau nesaf
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- Mwy am y Cynllun 2003 sy'n cael ei redeg gan yr Asiantaeth Cynnal Plant: www.cmoptions.org