Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - beth ddylech chi ei wneud os yw'ch amgylchiadau'n newid

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi'n defnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i gyfrifo taliadau cynhaliaeth gan ddefnyddio Cynllun 2012, disgwylir i'r trefniant barhau am gyfnod rhesymol o amser.

Ond, os yw'ch amgylchiadau'n newid, efallai y bydd angen addasu'r taliadau cynhaliaeth. Mae newidiadau i amgylchiadau sy'n medru arwain at newid yn y taliadau cynhaliaeth yn medru cynnwys pethau fel ennill mwy neu lai o arian, neu gyfrifoldeb ariannol am blant ychwanegol.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am yr hyn fedrwch chi ei wneud os oes newid wedi bod yn eich amgylchiadau. Cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon, gwnewch yn siwr fod y cyfrifiad gwreiddiol wedi cael ei gyfrifo gan ddefnyddio Cynllun 2012. Mae gan gyfrifiadau taliadau cynhaliaeth a wnaed gan yr Asiantaeth Cynnal Plant gan ddefnyddio Cynlluniau 1993 a 2003 wahanol reolau ynghylch delio gyda newid mewn amgylchiadau.

Riportio newid mewn amgylchiadau

Mae yna nifer o newidiadau pwysig y mae'n rhaid i chi eu riportio i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Nid oes angen i chi riportio newid nes ei fod yn digwydd. Ond, mae'n drosedd i beidio â riportio rhai newidiadau mewn amgylchiadau a gellir eich erlyn a rhoi dirwy o hyd at £1,000 i chi.

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am eich erlyn am droseddu, mae ganddo 12 mis o ddyddiad y drosedd i ddwyn achos llys.

Rhaid i chi ysgrifennu at y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ynghylch y newidiadau hyn ac efallai y bydd yn rhaid i chi roi gwybodaeth bellach os ydyn nhw'n gofyn i chi.

Os mai chi yw'r rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth

Os mai chi yw'r rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth, rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant o fewn saith niwrnod i'r dyddiad y newidiodd eich cyfeiriad.

Os oes yna orchymyn tynnu arian o enillion yn eich erbyn, dywedwch wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant o fewn saith niwrnod os ydych yn gadael eich swydd neu'n cael swydd arall. Mae gorchymyn tynnu arian o enillion yn gyfarwyddyd i'ch cyflogwr dynnu arian o'ch cyflog i ad-dalu arian sy'n ddyledus. Efallai y bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi trefnu gorchymyn o'r fath os ydych wedi methu â thalu taliadau cynhaliaeth.

Os yw swm y taliadau cynhaliaeth yr ydych yn eu talu yn seiliedig ar eich incwm presennol, rhaid i chi ddweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant o fewn 14 niwrnod os yw'ch incwm yn codi neu'n gostwng 25 y cant neu fwy. Nid oes rhaid i chi ddweud wrthynt am newid os ydych yn hunangyflogedig.

Rhaid i chi hefyd ddweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant os ydych yn ffurfio perthynas newydd ac yn gorfod cefnogi plentyn arall.

Os mai chi yw'r rhiant sy'n derbyn taliadau cynhaliaeth

Os mai chi yw'r rhiant sy'n derbyn taliadau cynhaliaeth ac nid ydych yn credu bod y cyfrifiad yn ddilys mwyach, rhaid i chi riportio hyn i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Mae'n medru ail-gyfrifo'r swm fyddwch chi'n ei gael. Mae newidiadau sy'n effeithio ar y cyfrifiad yn cynnwys pan:

  • fydd plentyn yn cyrraedd yr oed pan nad yw'r taliadau cynhaliaeth yn daladwy mwyach
  • fydd plentyn ddim mewn addysg llawn amser sydd ddim yn addysg uwch
  • na fydd gennych ofal bob dydd dros y plant sydd wedi eu cynnwys yn nghyfrifiad y taliadau cynhaliaeth mwyach
  • fyddwch chi, neu'r sawl sy'n talu'r taliadau cynhaliaeth, neu un o'r plant, yn symud dramor. Mae yn golygu na fydd eich preswylfan arferol yn y Deyrnas Unedig mwyach
  • nad yw'r rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth yn rhiant i'r plentyn mwyach. Er enghraifft, os oes rhywun arall yn mabwysiadu'r plentyn.

Newidiadau eraill fedrwch chi eu riportio i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Fe all y naill neu'r llall ohonoch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i dweud wrthynt am newidiadau neu wybodaeth newydd a allai effeithio ar gyfrifiad y taliadau cynhaliaeth. Er enghraifft:

  • os ydych chi'n cael taliadau cynhaliaeth, efallai y darganfyddwch chi fod y rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth wedi cael ail swydd ac nid yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gwybod am hyn
  • roeddech chi'n arfer rhannu gofal y plant yn gyfartal ond nawr mae un ohonoch yn darparu mwy o ofal bob dydd na'r llall
  • mae un ohonoch chi neu un o'r plant yn symud dramor. Mae hyn yn golygu na fydd eich preswylfan arferol yn y Deyrnas Unedig mwyach
  • mae plentyn neu riant yn marw.

Pryd fydd y trefniadau newydd yn dechrau?

Os digwyddodd y newid ar ôl cyfrifo'r taliadau cynhaliaeth, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn adolygu'r cyfrifiad ac yn ei newid i adlewyrchu'r amgylchiadau newydd. Fe fydd y trefniadau newydd yn dechrau naill ai:

  • ar y dyddiad y digwyddodd y newid. Er enghraifft, dyddiad mabwysiadu'r plentyn neu'r dyddiad y bu farw un o'r rhieni neu nid oeddech yn byw yn y Deyrnas Unedig mwyach, neu
  • y dyddiad pan riportiwyd y newid. Er enghraifft, pan ddywedoch chi wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fod eich incwm wedi codi neu ostwng o leiaf 25 y cant.

Amrywiadau

Os yw'ch amgylchiadau'n newid am resymau penodol, efallai y byddwch yn medru gofyn am amrywiad. Mae hyn yn golygu y gallwch chi ofyn i'ch taliadau cynhaliaeth gael eu cyfrifo eto am fod rheolau gwahanol yn berthnasol i chi nawr.

Os ydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth

Fe allech chi ofyn am amrywiad os oes costau ychwanegol gennych sy'n ymwneud â phlant yr ydych yn gyfrifol amdanynt.

Os ydych chi'n cael taliadau cynhaliaeth

Fe allech chi ofyn am amrywiad os ydych chi'n dod i wybod fod gan y rhiant sy'n talu'r taliadau cynhaliaeth incwm arall sydd efallai heb gael ei gynnwys yn y cyfrifiad cyntaf.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Mae gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant y llywodraeth yn medru darparu gwybodaeth ar eich opsiynau. Mae hefyd yn darparu ffurflenni, taflenni a theclyn cyfrifo cynhaliaeth i'ch helpu i ddechrau arni.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.