Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth
Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu ac nid chi sydd â gofal bob dydd eich plant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth plant i'r rhiant arall.
Mewn rhai achosion, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Ar hyn o bryd, dim ond ambell un sy'n gymwys i ddefnyddio'r cynllun hwn. Fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu taliadau cynhaliaeth wedi eu trefnu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003.
Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am gyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth gan ddefnyddio Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon, sicrhewch eich bod chi'n gymwys ar gyfer Cynllun 2012.
Ffioedd cais am daliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012
Ar hyn o bryd, nid oes rhaid i chi dalu ffi i gyflwyno cais dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012.
Yn y dyfodol, pan fydd Cynllun 2012 yn agored i bob ymgeisydd, fe fydd rhaid i chi dalu ffi i gyflwyno cais. Ond, ni fydd yn rhaid i chi dalu'r ffi hwn yn yr achosion canlynol:
- rydych chi'n 18 neu'n iau, neu
- rydych chi wedi riportio trais yn y cartref i rai sefydliadau penodol, fel yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol neu fudiad trais yn y cartref arbenigol.
Sut i gyflwyno cais
Fel arfer, y rhiant ddylai dalu'r taliadau cynhaliaeth sy'n cyflwyno cais i gyfrifo faint ddylen nhw ei dalu. Ond mae'r naill riant neu'r llall yn medru cyflwyno cais. Ar hyn o bryd, dylech gyflwyno'ch cais i'r Asiantaeth Cynnal Plant. Os ydych yn gymwys ar gyfer Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn trosglwyddo'ch cais at y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant er mwyn iddyn nhw gyfrifo'r taliadau cynhaliaeth.
Gwybodaeth y mae angen i chi ei darparu pan fyddwch chi'n cyflwyno cais
Pan fyddwch chi'n cyflwyno cais i gael taliadau cynhaliaeth neu i dderbyn taliadau cynhaliaeth, fe fydd angen i chi ddarparu gwybodaeth fanwl amdanoch chi a'ch teulu. Fe fydd hyn yn cynnwys:
- eich rhif Yswiriant Gwladol a manylion eich cyfrif banc
- manylion am y plant yr ydych yn cyflwyno cais ar eu cyfer am daliadau cynhaliaeth, gan gynnwys enwau llawn y ddau riant.
Os mai chi yw'r rhiant a ddylai fod yn cael taliadau cynhaliaeth, fe fydd hefyd angen i chi roi digon o wybodaeth er mwyn i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wybod pwy yw'r rhiant arall a dod o hyd iddynt. Er enghraifft, rhaid i chi roi manylion eu henw a chyfeiriad os ydych chi'n gwybod ble maen nhw'n byw. Os ydych yn medru rhoi cymaint o wybodaeth â phosib, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth yn fwy cyflym.
- Defnyddiwch y rhestr wirio hon i weld pa wybodaeth sydd angen i chi ei darparu: www.gov.uk
- Mwy am wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei rhoi os gofynnir i chi dalu taliadau cynhaliaeth
Os oes trefniadau a wnaed ar gyfer taliadau cynhaliaeth yn y gorffennol wedi methu
Os mai chi yw'r rhiant sy'n cael taliadau cynhaliaeth ac mae trefniadau a wnaed yn y gorffennol wedi methu, sicrhewch eich bod yn rhoi manylion llawn yr hyn sydd wedi digwydd pan fyddwch chi'n cyflwyno cais.
Mae hyn am fod y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fel arfer yn disgwyl i'r rhiant sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth eu talu yn syth i'r rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plentyn gan ddefnyddio cynllun Direct Pay.
Ond, os oes rheswm da dros gredu na fydd Direct Pay yn gweithio, yna fe all y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gasglu'r taliadau ei hun a'u trosglwyddo at y rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant.
Os oes mwy nag un yn cyflwyno cais
Os oes mwy nag un yn cyflwyno cais am yr un plentyn, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ond yn delio gydag un cais yn unig. Yn gyffredinol, fe fydd yn delio gyda'r cais sy'n dod i law yn gyntaf.
Camau nesaf
- Er mwyn cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth, cysylltwch â'ch swyddfa Asiantaeth Cynnal Plant leol: www.gov.uk
- Ymchwiliwch i weld os ydych yn gymwys ar gyfer Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012
- Beth sy'n digwydd pan fydd cais yn cael ei gyflwyno?