Adolygu cyfrifiadau a wnaed dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012
Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo eich trefniadau taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012, fe fydd fel arfer yn aros yn ei le am gyfnod rhesymol o amser. Yna, fe fydd yn cael ei adolygu i weld os yw'n dal i fod yn gywir. Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am yr adegau y bydd adolygiad a phryd y gallai'r trefniant newid.
Am y tro, dim ond ychydig o bobl sy'n gymwys i gyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth gan ddefnyddio Cynllun 2012. Rydych chi'n fwy tebygol o gael eich taliadau cynhaliaeth wedi eu trefnu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003. Mae'r rheolau ar gyfer y cynllun hwn yn wahanol. Sicrhewch eich bod yn gymwys ar gyfer Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon.
Am ba hyd fydd cyfrifiad taliadau cynhaliaeth yn parhau?
Pan fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi cyfrifo taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012, fe fydd y trefniadau yn parhau i fod mewn lle am gyfnod rhesymol o amser.
Nid yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn dweud am faint yn union fydd hyn yn parhau, ond fel arfer ceir yr adolygiad cyntaf 12 mis ar ôl y dyddiad yr oedd y taliadau cynhaliaeth yn ddyledus gyntaf. Gelwir hyn yn ddyddiad effeithiol. Yna, cynhelir adolygiad ar yr un dyddiad bob blwyddyn wedi hynny.
Os yw'ch amgylchiadau'n newid
Ni fydd newidiadau bach yn eich amgylchiadau personol yn effeithio ar gyfrifiad eich taliadau cynhaliaeth.
Ond, os oes newid mawr yn eich amgylchiadau, efallai y bydd angen newid y cyfrifiad cyn cynnal adolygiad. Er enghraifft, os mai chi yw'r rhiant sy'n talu'r taliadau cynhaliaeth, dylech ddweud wrth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant:
- os yw'ch incwm presennol yn newid 25 y cant neu fwy
- rydych yn cael plentyn arall gyda phartner newydd.
Fe fyddan nhw'n penderfynu os oes angen newid cyfrifiad y taliadau cynhaliaeth.
Sut mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cael gwybodaeth i adolygu cyfrifiad taliadau cynhaliaeth
Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn defnyddio gwybodaeth y mae'n ei chael gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CaThEM) i gynnal yr adolygiad. Mae CaThEM yn trosglwyddo diweddariadau am eich incwm, fel y bydd manylion y blynyddoedd treth mwyaf diweddar ar gael.
Mae hyn yn cynnwys eich cofnodion Talu Wrth Ennill ac unrhyw incwm o hunangyflogaeth, sy'n cael ei ddangos ar eich ffurflenni treth hunanasesiad. Gelwir yr wybodaeth am eich sefyllfa ariannol dros y blynyddoedd treth diweddaraf yn wybodaeth hanesyddol.
Os yw CaThEM yn darparu gwybodaeth hanesyddol newydd am eich sefyllfa ariannol fel rhan o adolygiad blynyddol, ac mae eich amgylchiadau ariannol wedi newid, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo'ch taliadau cynhaliaeth o'r newydd hyd yn oed os yw'r gwahaniaeth yn fach iawn.
Os oedd y cyfrifiad presennol yn seiliedig ar wybodaeth hanesyddol
Os oedd y cyfrifiad presennol yn seiliedig ar wybodaeth hanesyddol, ac rydych chi am i'r cyfrifiad newydd fod yn seiliedig ar eich incwm presennol, fe fydd yn rhaid i chi ddangos bod eich incwm presennol yn wahanol i'r wybodaeth hanesyddol ddiweddaraf a ddarparwyr gan CaThEM a bod y gwahaniaeth yn 25 y cant o leiaf.
Os oedd y cyfrifiad presennol yn seiliedig ar incwm presennol
Os yw'r cyfrifiad presennol yn seiliedig ar incwm presennol, fe fydd yr wybodaeth hanesyddol ddiweddaraf a geir gan CaThEM yn cael ei chymharu gyda'r swm yna. Os yw'r gwahaniaeth yn dal i fod yn 25 y cant neu fwy, fe fydd ffigwr yr incwm presennol yn dal i fod yn berthnasol. Ond os yw'r gwahaniaeth yn llai na 25 y cant, fe fydd ffigwr diweddaraf yr incwm hanesyddol yn cael ei ddefnyddio.
Os yw'r cyfrifiad incwm presennol wedi bod mewn lle ers 12 mis
Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cynnal adolygiad os oedd cyfrifiad y taliadau cynhaliaeth yn seiliedig ar incwm presennol ac mae wedi bod mewn lle ers 12 mis.
Os ydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth, fe fydd yn rhaid i chi anfon tystiolaeth sy'n dangos bod eich incwm diweddaraf yn dal i fod 25 y cant yn wahanol i'r wybodaeth hanesyddol ddiweddaraf a ddarparwyd gan CaThEM.
Os ydych chi'n medru darparu'r dystiolaeth hon, defnyddir yr incwm newydd i gyfrifo taliadau newydd.
Os nad ydych yn medru darparu'r dystiolaeth hon, fe fydd y taliadau'n cael eu cyfrifo eto, ar sail yr wybodaeth hanesyddol a ddarparwyd gan CaThEM.
Ydych chi'n medru gofyn am adolygiad os yw'ch amgylchiadau'n newid?
Efallai y byddwch chi'n medru gofyn am adolygiad os yw'ch amgylchiadau'n newid.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
- Mwy am sut mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo taliadau cynhaliaeth: www.dwp.gov.uk