Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012: cyfrifo taliadau cynhaliaeth - incwm

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Wedi i chi gyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth plant dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sydd angen eu talu.

Fe fydd y cyfrifiad yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys yr hyn sy'n cyfrif fel incwm. Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am incwm a'r mathau fydd yn cael eu cynnwys wrth gyfrifo taliadau cynhaliaeth.

Ar hyn o bryd, dim ond ychydig o bobl sy'n gymwys ar gyfer Cynllun 2012. Caiff y rhan fwyaf o geisiadau am daliadau cynhaliaeth eu trafod gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003. Sicrhewch eich bod yn gwybod pa gynllun rydych chi'n ei ddefnyddio cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon.

Ar beth mae taliadau cynhaliaeth wedi eu seilio

Mae cyfradd y taliadau cynhaliaeth y mae'n rhaid i chi eu talu yn dibynnu ar eich incwm wythnosol gros. Eich incwm gros yw'r arian yr ydych yn ei ennill cyn tynnu'r pethau canlynol:

  • treth incwm
  • cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
  • cyfraniadau pensiwn galwedigaethol.

Beth mae incwm yn ei gynnwys?

Mae incwm yn cynnwys:

  • enillion o waith cyflogedig a hunangyflogedig
  • taliadau yr ydych yn eu cael o bensiwn galwedigaethol neu bersonol
  • budd-daliadau trethadwy - Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol a Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar gyfraniadau.

Beth sy'n cyfrif fel enillion?

Mae enillion yn cynnwys arian o:

  • gyflog
  • enillion hunangyflogedig
  • bonws, comisiwn, taliadau goramser, breindaliadau neu ffioedd
  • yflog gwyliau, ac eithrio cyflog gwyliau a dalwyd fwy na phedair wythnos ar ôl i chi stopio gweithio
  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • enillion dramor os yw'r rhain yn drethadwy yn y Deyrnas Unedig.

Beth sydd ddim yn cyfrif fel enillion?

Nid yw enillion gros yn cynnwys:

  • treuliau y mae'n rhaid i chi eu talu fel rhan o'ch gwaith, fel petrol yr ydych yn ei brynu pan fyddwch chi' defnyddio car cwmni ar gyfer eich gwaith
  • lwfans sydd wedi'i eithrio rhag dreth y mae cyflogwr yn ei roi i rywun y mae'n ei gyflogi
  • arian a delir gan gwsmeriaid eich cyflogwr, fel tip
  • taliadau mewn da
  • enillion ymlaen llaw neu fenthyciad gan eich cyflogwr
  • tâl dileu swydd, ond dim ond mewn rhai achosion. Os ydych chi wedi cael tâl dileu swydd, mynnwch gyngor arbenigol ynghylch p'un ai fydd hyn yn cyfrif fel enillion ai peidio
  • Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant

Pensiynau

Incwm o bensiwn

Fe fydd taliadau yr ydych yn eu cael gan bensiwn galwedigaethol neu breifat yn cyfrif fel incwm.

Cyfraniadau pensiwn

Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn defnyddio gwybodaeth gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CaThEM) i gyfrifo taliadau cynhaliaeth.

Os ydych chi mewn cynllun pensiwn galwedigaethol

Fe fydd eich cyfraniadau pensiwn eisoes wedi cael eu hystyried gan eich cyflogwr pan fydd yn anfon ei ffigurau at CaThEM. Nid oes angen i chi ddatgan y cyfraniadau hyn.

Os ydych chi mewn cynllun pensiwn preifat

Os ydych chi'n gyflogedig ac yn talu cyfraniadau pensiwn yn syth i ddarparwr cynllun pensiwn preifat, ni fyddan nhw wedi cael eu cynnwys yn y ffigurau y mae'ch cyflogwr wedi eu rhoi i CaThEM. Fe fydd yn rhaid i chi ddatgan faint yr ydych chi'n ei dalu mewn cyfraniadau pensiwn i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Os ydych chi'n hunangyflogedig ac yn talu i mewn i gynllun pensiwn preifat, dylech ddatgan eich cyfraniadau pensiwn ar eich ffurflenni treth hunanasesiad.

Faint fedrwch chi ei dalu i mewn i bensiwn

Nid oes terfyn ar swm y cyfraniadau pensiwn y byddai'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ei weld fel swm rhesymol wrth gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth ddylid eu talu. Er enghraifft, fe fyddai'n rhesymol i chi dalu cyfraniadau mawr i mewn i'ch pensiwn os ydych yn agos at oed ymddeol.

Ond, os ydych chi'n talu taliadau gormodol i mewn i'ch pensiwn, fe allai hyn gael ei weld fel ymgais i gael gwared ar incwm er mwyn osgoi talu taliadau cynhaliaeth. Os ydych chi'n amau bod y rhiant a ddylai dalu taliadau cynhaliaeth yn gwneud hyn, fe allwch gyflwyno cais i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am amrywiad. Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gofyn am dystiolaeth o'r cyfraniadau pensiwn ac efallai y bydd yn ailgyfrifo taliadau cynhaliaeth.

Incwm heb ei ennill

Ni fydd incwm heb ei ennill, er enghraifft incwm o gynilion a buddsoddiadau, yn cael ei ystyried pan fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo taliadau cynhaliaeth.

Ond, os ydych chi'n credu bod gan y rhiant a ddylai fod yn talu taliadau cynhaliaeth incwm heb ei ennill sylweddol, gallwch ofyn am amrywio cyfrifiad y taliadau cynhaliaeth.

Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gofyn i CaThEM ddarparu manylion unrhyw incwm heb ei ennill ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf sydd ar gael, ar gyfer y rhiant a ddylai fod yn talu'r taliadau cynhaliaeth. Fodd bynnag, fe all ond gyfrifo'r cyfrifiad ar sail incwm trethadwy. Ni fydd unrhyw incwm di-dreth, fel arian o Gyfrifon Cynilion Unigol (ISAs) yn cael ei gyfrif.

Sut maen nhw'n gwirio'ch enillion

Incwm yn y gorffennol

Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cael gwybodaeth ariannol gan CaThEM am eich enillion yn y gorffennol. Gelwir hyn yn incwm hanesyddol. Fe fydd CaThEM yn darparu:

  • ffigurau diwedd blwyddyn Talu Wrth Ennill
  • manylion hunanasesiad blynyddol os ydych chi'n hunangyflogedig

Fe fydd yr wybodaeth y mae CaThEM yn ei darparu yn ffigurau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf y mae ganddyn nhw gofnodion ar ei chyfer. Fel arfer, fe fydd hyn ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf. Os nad oes unrhyw wybodaeth ar gyfer y flwyddyn honno, mae CaThEM yn medru darparu'r un wybodaeth o flynyddoedd cynharach.

Incwm presennol

Fel arfer, mae ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo cyfradd taliadau cynhaliaeth yn seiliedig ar y rhai a ddarperir gan CaThEM ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf. Er enghraifft, os ydych chi'n cyflwyno cais ym mis Ionawr 2013, daw'r ffigurau o flwyddyn dreth 2011/12.

Ond, mae'r cyfrifiad yn medru bod yn seiliedig ar incwm presennol os yw un ohonoch yn medru dangos bod yr incwm ar y pryd o leiaf 25 y cant yn wahanol i'r swm a ddarparwyd gan CaThEM ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf.

Fe fydd incwm presennol hefyd yn cael ei ddefnyddio os nad yw CaThEM yn medru darparu manylion incwm o'r gorffennol ac nid ydych yn gymwys i dalu'r gyfradd unradd neu'r gyfradd sero. Nid yw budd-daliadau trethadwy, fel Lwfans Ceisio Gwaith cyfrannol, wedi eu cynnwys yn y cyfrifiad hwn oherwydd fe fyddech yn talu cyfradd sylfaenol taliadau cynhaliaeth os ydych yn cael y budd-daliadau hynny.

Os ydych yn hunangyflogedig

Fe fydd eich incwm presennol ond yn cael ei dderbyn os yw ar gyfer y cyfnod blynyddol sydd ar y rhan fwyaf o ffurflenni hunanasesiad. Dylech roi tystiolaeth o'ch incwm yn yr un ffordd ag y mae'n ymddangos ar ffurflen dreth hunanasesiad.

Gellir derbyn eich incwm presennol dros gyfnod byrrach os yw'ch busnes newydd gael ei sefydlu.

Os ydych yn medru darparu tystiolaeth foddhaol fod eich busnes wedi stopio masnachu, a hynny'n barhaol, fe fydd eich incwm presennol o hunangyflogaeth yn sero.

Os nad yw CaThEM yn medru darparu gwybodaeth

Os nad yw CaThEM yn medru darparu'r ffigurau, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn defnyddio gwybodaeth gan eich cyflogwr neu ffigurau yr ydych chi'n eu darparu eich hun. Os na ddarperir unrhyw rai o'r ffigurau hyn, fe fyddan nhw'n amcangyfrif eich incwm presennol. Fe fydd hyn yn seiliedig ar:

  • wybodaeth sydd gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant amdanoch yn barod, neu
  • data a gyhoeddwyd gan y llywodraeth, er enghraifft Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion. Mae hyn yn rhoi enillion cyfartalog ar gyfer swyddi a rhanbarthau.

Os ydych chi'n cael gwared ar incwm

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn credu eich bod wedi cael gwared ar incwm fel eich bod yn medru talu llai o daliadau cynhaliaeth, fe fydd yn cyfrifo faint yr ydych wedi cael ei wared ym marn y Gwasanaeth ac yn ystyried y swm yma wrth gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth ddylech chi eu talu.

Os ydych yn credu bod eich cyn-bartner wedi cael gwared ar incwm er mwyn talu llai o daliadau cynhaliaeth, gallwch ofyn am amrywiad.

Anwybyddu incwm dros £3,000

Uchafswm yr incwm wythnosol gros y gellir ei ystyried pan fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo taliadau cynhaliaeth yw £3,000. Fe fydd yn anwybyddu unrhyw incwm dros y swm yma.

Camau nesaf

Unwaith fyddwch chi wedi darganfod faint yw cyfanswm eich incwm wythnosol gros, rhowch glic ar:

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Ceisiadau sy'n cael eu trafod gan yr Asiantaeth Cynnal Plant: www.cmoptions.org
  • Mwy am sut mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo taliadau cynhaliaeth: www.dwp.gov.uk
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.