Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - cyfrifo taliadau cynhaliaeth

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu ac nid chi sydd â gofal bob dydd dros y plant, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth i'r rhiant arall.

Mewn rhai achosion, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Ond, dim ond ychydig o bobl sy'n medru defnyddio'r cynllun hwn ar hyn o bryd. Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn gwneud y rhan fwyaf o drefniadau taliadau cynhaliaeth dan Gynllun 2003.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych sut mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sy'n gorfod cael eu talu dan Gynllun 2012. Cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon, sicrhewch eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn.

Pa wybodaeth sy'n cael ei defnyddio i gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth ddylid eu talu?

Mae'r taliadau cynhaliaeth sy'n daladwy yn dibynnu ar:

  • incwm wythnosol gros y rhiant sy'n gorfod talu'r taliadau cynhaliaeth
  • y nifer o blant y mae'r rhiant â gofal bob dydd yn gofalu amdanynt. Gelwir y rhain yn blant cymwys
  • a oes gan y rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth blant eraill y maen nhw neu eu partner yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer. Gelwir y rhain yn blant perthnasol eraill
  • a ydych chi'n rhannu gofal y plant
  • a oes unrhyw amgylchiadau arbennig a fydd yn effeithio ar swm y taliadau cynhaliaeth i'w talu.

Cyfraddau taliadau cynhaliaeth

Mae yna bum cyfradd ar gyfer taliadau cynhaliaeth. Fe fydd y gyfradd y byddwch chi'n ei thalu yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Yr enw ar y cyfraddau hyn yw:

  • cyfradd sero
  • cyfradd unradd
  • cyfradd ostyngol
  • cyfradd sylfaenol
  • cyfradd ddiofyn.

Cyfradd sero

Mae hyn yn golygu nad ydych yn gorfod talu unrhyw daliadau cynhaliaeth os ydych yn perthyn i unrhyw un o'r grwpiau hyn o bobl:

  • rydych yn garcharor
  • rydych yn blentyn dan 16 (ond gallai hyn fod dan 20 os ydych mewn addysg llawn amser sydd ddim yn addysg uwch)
  • rydych yn 16 neu'n 17 ac rydych chi neu'ch partner presennol yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm neu Lwfans Cyflogaeth a chymorth sy'n seiliedig ar incwm
  • rydych chi'n byw mewn cartref gofal neu ysbyty annibynnol
  • rydych chi'n cael gofal gartref ac yn cael rhai budd-daliadau penodol
  • mae eich holl gostau llety yn cael eu talu gan eich cyngor lleol
  • mae eich incwm gros yn llai na £5 yr wythnos.

Os mai chi yw'r rhiant ddylai gael y taliadau cynhaliaeth

Gallwch gyflwyno cais i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am fwy o arian os ydych yn credu bod y rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd sero ag incwm arall o £100 yr wythnos neu fwy. Gelwir hyn yn geisio am amrywiad.

Cyfradd unradd

Rydych chi'n talu cyfradd unradd o £5 yr wythnos os nad ydych yn gymwys i dalu'r gyfradd sero, ac mae eich incwm wythnosol gros yn llai na £100 yr wythnos.

Fe fyddwch chi hefyd yn talu'r gyfradd unradd os ydych chi neu'ch partner presennol yn cael rhai budd-daliadau fel:

  • Pensiwn Ymddeol
  • Credyd Pensiwn
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cynhaliwr
  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n seiliedig ar gyfraniadau.

Fe fyddwch chi ond yn talu £5 yr wythnos, waeth faint o blant mae'r rhiant sydd â gofal bob dydd yn gofalu amdanynt, na faint o blant eraill sydd gennych.

Os oes rhaid i'ch partner presennol dalu taliadau cynhaliaeth hefyd

Os ydych chi'n talu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd unradd ac mae eich partner presennol hefyd yn gorfod talu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd unradd, fe fydd y ddau ohonoch yn gorfod talu hanner y gyfradd hon yn unig os yw'r naill neu'r llall ohonoch yn cael unrhyw rai o' budd-daliadau canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • redyd Pensiwn
  • Lwfans Ceisio Gwaith sy'n seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm

Mae hyn yn golygu y bydd y ddau ohonoch yn gorfod talu £2.50 yr un.

Os mai chi yw'r rhiant ddylai gael y taliadau cynhaliaeth

Gallwch gyflwyno cais i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am fwy o arian os ydych yn credu bod y rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd unradd ag incwm arall o £100 yr wythnos neu fwy. Gelwir hyn yn geisio am amrywiad.

Cyfradd ostyngol

Fe fyddwch yn talu taliadau cynhaliaeth ar y gyfradd ostyngol yn yr achosion canlynol:

  • nid ydych yn gymwys i dalu'r gyfradd unradd na'r gyfradd sero
  • mae eich incwm wythnosol gros yn fwy na £100 ond yn llai na £200.

Incwm gros yw'r swm yr ydych yn ei ennill cyn tynnu unrhyw dreth, yswiriant gwladol neu gyfraniadau pensiwn.

Sut i gyfrifo'r gyfradd ostyngol: Cam un

Rhaid i chi dalu £5 am £100 cyntaf eich incwm wythnosol.

Cam dau

Rhaid i chi hefyd dalu canran o'ch incwm sy'n weddill.

Mae hyn yn dibynnu ar y canlynol:

  • y nifer o blant y mae'r rhiant a gofal bob dydd yn gofalu amdanynt. Gelwir y rhain yn blant cymwys, a
  • y nifer o blant eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Gelwir y rhain yn blant perthnasol eraill.

Os ydych yn rhannu gofal y plant cymwys, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llai na hyn.

Plant cymwys0 plentyn perthnasol arall1 plentyn perthnasol arall2 blentyn perthnasol arall3 neu fwy o blant perthnasol eraill
4 neu fwyRydych chi'n talu 33% o'ch incwm dros £100Rydych chi'n talu 28.80% o'ch incwm dros £100Rydych chi'n talu 27.70% o'ch incwm dros £100Rydych chi'n talu 26.90% o'ch incwm dros £100

Enghraifft

Rydych chi'n ennill £175 yr wythnos. Mae gennych bedwar plentyn cymwys ac un plentyn perthnasol arall o berthynas arall.

Rhaid i chi dalu £5 yr wythnos am y £100 cyntaf yr ydych yn ei ennill.

Gan fod gennych un plentyn perthnasol arall, rhaid i chi dalu 28.80% o'r £75 arall yr ydych yn ei ennill.

28.80% o £75 = £21.60

£21.60 + £5 = 26.60

Fe fyddwch chi'n talu £26.60 o daliadau cynhaliaeth bob wythnos

Cyfradd sylfaenol

Fe fyddwch chi'n talu cyfradd sylfaenol taliadau cynhaliaeth os yw'r canlynol yn wir:

  • nid ydych yn gymwys i dalu'r gyfradd sero, y gyfradd unradd, y gyfradd ddiofyn neu’r gyfradd ostyngol, ac
  • mae gennych incwm wythnosol gros o fwy na £200.

Caiff y gyfradd sylfaenol ei chyfrifo fel canran o'ch incwm wythnosol gros. Fe fydd y swm yr ydych yn ei dalu'n dibynnu ar:

  • y nifer o blant cymwys y mae'r rhiant a gofal bob dydd yn gofalu amdanynt, a
  • phlant eraill yr ydych yn gyfrifol amdanynt. Gelwir y rhain yn blant perthnasol eraill, ac
  • a yw'ch enillion wythnosol gros yn £800 neu fwy.

Incwm gros yw'r swm yr ydych yn ei ennill cyn tynnu unrhyw dreth, yswiriant gwladol neu gyfraniadau pensiwn.·

Sut i gyfrifo'r gyfradd sylfaenol: Cam un

Os oes unrhyw blant perthnasol eraill gennych, fe fydd angen i chi ostwng eich incwm wythnosol gros fesul canran penodol yn gyntaf.

1 plentyn perthnasol arall2 blentyn perthnasol arall3 neu fwy o blant perthnasol eraill
gostyngwch eich incwm wythnosol gros fesul 11%gostyngwch eich incwm wythnosol gros fesul 14%gostyngwch eich incwm wythnosol gros fesul 16%

Cam dau

Fe fydd yn rhaid i chi dalu canran benodol o'r incwm sy'n weddill wedi i chi ystyried unrhyw blant perthnasol eraill. Mae hyn yn 19 y cant ar gyfer tri neu fwy o blant cymwys, ar £800 cyntaf yr incwm sy'n weddill.

Cam tri

Os yw'ch incwm wythnosol gros yn fwy nag £800, rhaid talu 15 y cant ar weddill eich incwm dros £800.

Os ydych yn rhannu gofal y plant cymwys, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu llai na hyn.

Enghraifft 1

Rydych chi'n ennill £500 yr wythnos. Mae gennych bedwar o blant cymwys a dau blentyn perthnasol arall yr ydych hefyd yn eu cynnal yn ariannol. Nid ydych yn rhannu gofal y plant.

Yn gyntaf, fe fydd angen i chi ostwng eich incwm o £500 fesul 14 y cant.

14% o £500 = £70

£500 - £70 = £430

Felly £430 yw swm yr incwm y byddwch yn ei ddefnyddio i gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sy'n rhaid i chi eu talu.

Gan eich bod yn ennill llai nag £800 yr wythnos, fe fydd yn rhaid i chi dalu 19 y cant o £430.

19% o £430 = £81.70

Fe fyddwch chi'n talu'r swm canlynol o daliadau cynhaliaeth bob wythnos: £81.70

Enghraifft 2

Rydych chi'n ennill £1,000 yr wythnos. Mae gennych bedwar o blant cymwys a thri phlentyn perthnasol arall yr ydych hefyd yn talu taliadau cynhaliaeth ar eu cyfer. Nid ydych yn rhannu gofal y plant.

Yn gyntaf, fe fydd angen i chi ostwng eich incwm o £1,000 fesul 16 y cant.

16% o £1,000 = £160

£1,000 - £160 = £840

Felly £840 yw swm yr incwm y byddwch yn ei ddefnyddio i gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth sy'n rhaid i chi eu talu.

Yna, fe fydd angen i chi gyfrifo faint yw 19 y cant o'r £800 cyntaf yr ydych yn ei ennill.

19% o £800 = £152

Fe fydd hefyd rhaid i chi dalu 15 y cant o unrhyw incwm dros £800. Mae hyn yn £40.

15% o £40 = £6

Fe fyddwch chi'n talu'r swm canlynol o daliadau cynhaliaeth bob wythnos: £152 + £6 = £158

Cyfradd ddiofyn

Os nad oes digon o wybodaeth gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i gyfrifo, mae’n medru cyflwyno cyfradd ddiofyn. Y gyfradd ddiofyn yw £64 yr wythnos am dri neu fwy o blant.

Teclyn cyfrifo taliadau cynhaliaeth ar-lein

Mae gan Opsiynau Cynhaliaeth Plant declyn cyfrifo ar-lein sy'n eich helpu i gyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth fydd yn rhaid i chi eu talu.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Mwy am gyfrifo taliadau cynhaliaeth dan Gynlluniau 1993 a 2003: www.cmoptions.org
  • Mwy am sut mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo taliadau cynhaliaeth: www.gov.uk .
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.