Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynhaliaeth Plant - beth sy'n digwydd os ydych chi eisoes ar Gynllun Cynhaliaeth Plant 1993 neu 2003?

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi eisoes yn cael taliadau cynhaliaeth plant, neu'n eu talu, a chawsant eu drefnu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant, mae hyn yn debygol o fod dan Gynllun 1993 neu 2003.

Yn y pendraw, fe fydd y cynlluniau hyn yn cau ac fe fydd Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 yn cymryd eu lle. Dechreuodd Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 ym mis Rhagfyr 2012 a'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant sy'n ei redeg.

Am y tro, dim ond ychydig o bobl sy'n gymwys i gyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth gan ddefnyddio Cynllun 2012. Felly, fe fydd y rhan fwyaf o drefniadau ar gyfer taliadau cynhaliaeth yn cael eu gwneud gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan reolau Cynllun 2003 o hyd.

Os ydych eisoes yn rhan o Gynllun 1993 neu 2003, yn y rhan fwyaf o achosion fe fydd eich trefniadau presennol yn parhau. Ond, mewn rhai achosion, efallai y bydd Cynllun 2012 yn berthnasol i chi. Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am yr hyn fydd yn digwydd i Gynlluniau 1993 a 2003 a phryd efallai y byddan nhw'n gofyn i chi ymuno â Chynllun 2012.

Y tri Chynllun Cynhaliaeth Plant

Ar hyn o bryd, mae yna dri chynllun Cynhaliaeth Plant statudol ar waith i gyfrifo taliadau cynhaliaeth. Yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant sy'n eu rhedeg.

Dyma'r Cynlluniau:

  • Cynllun 1993, sy'n cael ei redeg gan yr Asiantaeth Cynnal Plant
  • Cynllun 2003, sy'n cael ei redeg gan yr Asiantaeth Cynnal Plant
  • Cynllun 2012, sy'n cael ei redeg gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Ar hyn o bryd, dim ond ychydig o bobl sy'n medru defnyddio Cynllun 2012. Ond, fe fydd yn cael ei ymestyn yn raddol ac, yn y pendraw, fe fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob cais newydd am daliadau cynhaliaeth. Fe fydd hefyd yn cymryd lle Cynlluniau 1993 a 2003.

Pryd fydd Cynlluniau 1993 a 2003 yn cau?

Rhagwelir y bydd y tri chynllun yn rhedeg ochr yn ochr hyd nes tua diwedd 2015. Os ydych eisoes ar Gynllun 1993 neu 2003, dylech barhau i dalu a derbyn y taliadau cynhaliaeth a gyfrifwyd yn barod ar eich cyfer dan eich cynllun chi.

Ar ôl i Gynllun 2012 gael ei ymestyn i gynnwys pob ymgeisydd newydd, ac unwaith fydd yn gweithio'n dda, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn dechrau cau'r achosion y mae'n eu rhedeg ar hyn o bryd dan Gynllun 1993 a 2003.

Os ydych eisoes ar un o'r cynlluniau hyn, cewch chwe mis o rybudd o'r adeg y daw'r cynllun i ben a chewch wybod y bydd eich achos yn cael ei gau. Yna, gofynnir i chi ddod i drefniant sy'n seiliedig ar y teulu.

Mae hwn yn drefniant ar gyfer talu taliadau cynhaliaeth yr ydych yn ei wneud eich hun gyda'r rhiant arall, heb ymyrraeth y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Os nad ydych yn medru gwneud hyn, fe fydd yn rhaid i chi gyflwyno cais newydd i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant dan reolau Cynllun 2012.

Ôl-ddyledion dan Gynllun 1993 a 2003

Hyd yn oed pan fydd eich achos presennol yn cau, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn medru parhau i gymryd camau i gasglu ôl-ddyledion taliadau cynhaliaeth y mae wedi eu trefnu. Os mai chi yw'r rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant, fe fydd yn gofyn i chi a ydych chi am iddi gymryd camau gorfodi.

Os yw plentyn yn cyrraedd 20 oed cyn i'ch cynllun gau

Os yw'ch plentyn ifancach yn cyrraedd 20 oed cyn i'ch cynllun gau, fe fyddwch y parhau ar eich cynllun presennol hyd nes iddo ddod i ben yn naturiol.

Mae uchafswm oed plentyn cymwys wedi newid o 19 i 20 os yw mewn addysg llawn amser sydd ddim yn addysg uwch, er enghraifft coleg chweched dosbarth. Mae hyn yn golygu, os oedd plentyn wedi cyrraedd 19 oed ar 10 Rhagfyr 2012, neu ar ôl y dyddiad yma, fe fydd taliadau cynhaliaeth yn dal i gael eu talu'n awtomatig hyd nes i'r plentyn gyrraedd 20 neu i'r Budd-dal Plant stopio, pa bynnag sydd gynt.

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant yn cau'ch achos cyn y dyddiad hwn, dylech gysylltu â hi a gofyn iddi adolygu ei phenderfynu i gau'r achos. Rhaid i chi wneud hyn o fewn mis i'r dyddiad y dywedir wrthych am y penderfyniad.

Os oedd yr achos wedi cael ei gau am fod y plentyn wedi cyrraedd 19 oed rhwng 19 Tachwedd 2012 a 9 Rhagfyr 2012, dylai fod wedi cysylltu â'r ddau riant. Fe all y naill neu'r llall ohonoch ofyn am ailagor yr achos.

Os caewyd yr achos am fod y plentyn wedi cyrraedd 19 cyn 19 Tachwedd 2012, fe fydd yn parhau i fod ar gau.

Hen achosion a allai gael eu trafod dan Gynllun 2012

Hyd yn oed os oeddech chi ar Gynllun 1993 neu 2003, efallai y byddwch nawr yn cael eich trafod dan Gynllun 2012. Fe allai hyn ddigwydd:

  • pan fydd cais yn dod i law'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant dan Gynllun 2012, ac
  • mae yna gysylltiadau at hen achos y mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn ei redeg oherwydd mae'n ymwneud â'r un person sy'n talu taliadau cynhaliaeth plant.

Enghreifftiau

Roedd gennych drefniant ar gyfer taliadau cynhaliaeth yn defnyddio Cynllun 1993 a oedd wedi cau cyn 3 Mawrth 2003. Os ydych yn cyflwyno cais newydd fwy na 13 wythnos ar ôl i'ch hen gynllun gau, defnyddir rheolau Cynllun 2012. Ond, fe fydd yn rhaid i chi fod yn gymwys o hyd cyn i chi fedru defnyddio Cynllun 2012.
Rydych chi'n cael taliadau cynhaliaeth plant gan eich cyn-wr John dan Gynllun 2003 ar gyfer plant o'r berthynas hon. Nawr, mae gennych bedwar o blant gyda phartner newydd, Steve, ac mae'r berthynas hon yn chwalu. Nawr, rydych chi'n cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth plant gan Steve, dan reolau Cynllun 2012. Gallai'r cyfrifiad ar gyfer taliadau cynhaliaeth plant gan John ddod o dan y cynllun hwn nawr.
Rydych eisoes yn talu taliadau cynhaliaeth plant am eich mab David dan Gynllun 2003. Mae gennych bedwar plentyn arall gyda phartner newydd sydd nawr yn cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth dan Gynllun 2012. Fe fydd eich hen gyfrifiad ar gyfer taliadau cynhaliaeth plant nawr yn dod o dan Gynllun 2012 ac yn cynnwys y pedwar o blant newydd a David.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Mwy am Gynlluniau 1993 a 2003, gan gynnwys casglu ôl-ddyledion a sut i ofyn am adolygiad: www.cmoptions.org
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.