Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - faint yw oed y plant?
Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych chi'n gwahanu ac nid oes gan un o'r rhieni ofal bob dydd dros y plant, efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu taliadau cynhaliaeth i'r rhiant arall.
Mewn rhai achosion, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Ond, dim ond ychydig o bobl sy'n medru defnyddio'r cynllun hwn ar hyn o bryd. Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant yn gwneud y rhan fwyaf o drefniadau taliadau cynhaliaeth dan Gynllun 2003.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych pa oed sy'n rhaid i'r plant fod er mwyn trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon, sicrhewch eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn.
Faint yw oed y plant?
Mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth dim ond os yw'r rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant yn gofalu am bedwar o blant neu fwy, a bod gan o leiaf pedwar ohonynt yr un ddau riant. Cyfeirir at y plant hyn fel plant cymwys.
Er mwyn bod yn blentyn cymwys, rhaid bod plentyn:
- dan 16, neu
- dan 20 os yw mewn addysg lawn amser sydd ddim yn addysg uwch, neu
- rydych yn dal i gael Budd-dal Plant ar ei gyfer.
Ystyr addysg lawn amser sydd ddim yn addysg uwch yw lefel addysg heb fod yn uwch na Lefel A neu gyrsiau neu astudiaeth ôl-16 sydd gyfwerth.
Pwy sydd ddim yn cyfrif fel plentyn cymwys?
Ni fydd plant yn cyfrif fel plant cymwys dros 16 yn yr achosion canlynol:
- maen nhw'n briod neu mewn partneriaeth sifil, neu
- maen nhw wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Camau nesaf
- Mwy am bwy sy'n gymwys dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012
- Opsiynau Cynhaliaeth Plant: www.cmoptions.org
Other useful information
I ddod o hyd i gyfryngwyr teuluol lleol, rhowch glic ar:
- Find a mediator Y Weinyddiaeth Gyfiawnder ar www.familymediationhelpline.co.uk
- National Family Mediation: www.nfm.org.uk
Mae National Family Mediation yn fudiad o wasanaethau cyfryngu nid-am-elw ond nid yw’n cynrychioli pob cyfryngwr teuluol. - Advice Services Alliance: www.asauk.org.uk