Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - rheolau preswylio
Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych yn gwahanu, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu taliadau cynhaliaeth os nad chi sydd â gofal bob dydd dros unrhyw blant sydd gennych.
Mewn rhai achosion, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Am y tro, mae hyn yn berthnasol i ychydig o bobl yn unig, ac fe fydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu taliadau cynhaliaeth wedi eu cyfrifo a'u rhedeg gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003.
Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych am y rheolau preswylio ar gyfer Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012.
Rheolau preswylio
Fel arfer, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ond yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth os yw'r ddau riant a'r plant yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig. Ystyr hyn yw eich bod yn cael byw yn y Deyrnas Unedig, wedi ymgartrefu yma ac yn bwriadu byw yma am y tro.
Os yw'r rhiant a ddylai dalu taliadau cynhaliaeth yn gweithio dramor
Os nad yw'r rhiant sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth yn byw yn y Deyrnas Unedig fel arfer, fe fyddwch yn dal i fedru cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012 os ydyn nhw'n gweithio dramor ar gyfer:
- y gwasanaeth sifil
- y lluoedd arfog
- awdurdod lleol
- y GIG (HPSS yng Ngogledd Iwerddon).
Os oes rhiant fel arfer yn gweithio dramor ond mae eu cwmni yn eu talu yn y Deyrnas Unedig, fe allai'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant eu hasesu ar gyfer taliadau cynhaliaeth. Mae hyn am fod gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant y pwer cyfreithiol i dynnu arian ar gyfer taliadau cynhaliaeth o'u henillion.
Os oes gan y rhiant a ddylai dalu taliadau cynhaliaeth blant eraill sy'n byw dramor
Gallai'r plant sy'n byw dramor gael eu hystyried pan fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo faint o daliadau cynhaliaeth ddylid eu talu.
Enghraifft