Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - pwy sy'n medru cael taliadau cynhaliaeth?

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych yn gwahanu ac nid ydych yn medru cytuno rhyngoch chi pwy fydd yn talu a faint ddylai fod, efallai y byddwch yn medru cael y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i drefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012.

Am y tro, dim ond ychydig o bobl sy'n gymwys i ddefnyddio Cynllun 2012. Caiff y rhan fwyaf o bobl sy'n cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth eu taliadau wedi eu trefnu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003. Sicrhewch eich bod yn gwybod pa gynllun yr ydych chi'n ei ddefnyddio cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych a ydych yn gymwys i gael taliadau cynhaliaeth wedi eu trefnu gan ddefnyddio Cynllun 2012.

Pwy sy'n gymwys i ddefnyddio Cynllun 2012?

Fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ond yn trefnu taliadau cynhaliaeth os yw'r holl reolau canlynol yn berthnasol i'ch teulu:

  • mae pob un ohonoch yn byw yn y Deyrnas Unedig
  • mae'r plant dan oed penodol
  • fe fydd taliadau cynhaliaeth yn cael eu talu am bedwar neu fwy o blant. Cyfeirir at y plant hyn fel plant cymwys
  • mae gan bedwar o'r plant, o leiaf, yr un ddau riant.
  • mae gan un riant ofal bob dydd dros y plant, ac mae gan y llall gyfrifoldeb cyfreithiol i dalu taliadau cynhaliaeth. Os oes gan rywun heblaw am riant ofal bob dydd dros y plant, efallai y bydd y ddau riant yn gorfod talu taliadau cynhaliaeth
  • nid ydych wedi cael unrhyw gysylltiad â'r Asiantaeth Cynnal Plant yn y gorffennol
  • nid oes unrhyw drefniadau eraill ar gyfer taliadau cynhaliaeth mewn lle ar gyfer y pedwar plentyn cymwys.

Ydych chi'n gorfod talu er mwyn trefnu taliadau cynhaliaeth plant dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012?

Am y tro, nid oes tâl am ddefnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i drefnu taliadau cynhaliaeth. Ond, yn y dyfodol, fe fydd yn rhaid i chi dalu ffi pan fyddwch chi'n cyflwyno cais ac eithrio:

  • os ydych yn 18 neu'n iau, neu
  • wedi dioddef trais yn y cartref.

Beth os nad oes cyswllt gennych gyda'r rhiant a ddylai dalu'r taliadau cynhaliaeth?

Dylech gael taliadau cynhaliaeth o hyd gan y rhiant a ddylai dalu taliadau cynhaliaeth, hyd yn oed os nad oes cyswllt ganddynt gyda'r plant. Mae hyn am fod cyfrifoldeb cyfreithiol gan y ddau ohonoch dros gostau ariannol magu'r plant. Nid yw talu taliadau cynhaliaeth yn rhoi hawl i'r rhiant arall weld y plant.

  • Mwy am gyswllt gyda phlant

Faint o daliadau cynhaliaeth fyddwch chi'n eu cael?

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn trefnu taliadau cynhaliaeth, fe fydd yn cyfrifo'r taliadau cynhaliaeth ar sail rheolau cyfreithiol sy'n ystyried:

  • incwm y rhiant ddylai dalu'r taliadau cynhaliaeth
  • y nifer o blant cymwys. Y plant hyn yw'r rhai yr ydych yn gofalu amdanynt
  • nifer y plant perthnasol eraill. Y plant hyn yw'r rhai sydd hefyd yn cael eu cefnogi'n ariannol.

Nid yw'r cyfrifiad yn ystyried eich incwm na faint sydd ei angen arnoch i fagu'r plant. Fe fyddwch yn cael swm sefydlog. Ond, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn adolygu'r cyfrifiad bob blwyddyn.

Newid mewn amgylchiadau

Os yw amgylchiadau'r rhiant sy'n talu'r taliadau cynhaliaeth yn newid, efallai y bydd faint o daliadau cynhaliaeth gewch chi hefyd yn newid.

Os ydych yn rhannu'r gofal

Os ydych chi'n rhannu gofal eich plant yn gyfartal gyda'r rhiant arall, ni fydd un ohonoch yn gyfrifol yn gyfreithiol am dalu unrhyw daliadau cynhaliaeth o gwbl i'r llall.

Pryd fydda i'n derbyn fy nhaliadau cynhaliaeth?

Os yw'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo taliadau cynhaliaeth, dylai gymryd tua phedair wythnos i sefydlu'r trefniant.

Fel arfer, fe fydd yn rhaid i'r rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth dalu taliadau rheolaidd yn syth i chi, naill ai'n fisol neu'n wythnosol, fel arfer i mewn i'ch cyfrif banc neu trwy drosglwyddiad arian. Gelwir hyn yn Direct Pay.

Ond, os nad yw Direct Pay yn addas, mae'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru casglu taliadau gan y rhiant arall a'u trosglwyddo i chi. Gelwir hyn yn Collect and Pay. Am y tro, mae'r gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim, ond yn y pendraw fe fydd y rhiant sy'n talu taliadau cynhaliaeth yn gorfod talu ffi am hyn. Os ydych chi'n cael taliadau cynhaliaeth, cewch lai o arian.

Beth os oes gorchymyn llys mewn lle yn barod ar gyfer taliadau cynhaliaeth?

Ni fyddwch yn gymwys i gael taliadau cynhaliaeth dan Gynllun 2012 os oes gorchymyn llys eisoes mewn lle ar gyfer taliadau cynhaliaeth ac fe'i gwnaed cyn 3 Mawrth 2003.

Os gwnaethpwyd gorchymyn llys ar 3 Mawrth 2003, neu ar ôl y dyddiad yma, ni fyddwch yn medru cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth dan Gynllun 2012 os yw'r gorchymyn wedi bod mewn grym am lai na blwyddyn.

Beth os oes trefniadau taliadau cynhaliaeth mewn lle yn barod?

Ni fyddwch yn gymwys i gael taliadau cynhaliaeth dan Gynllun 2012 os oes cytundeb ysgrifenedig ar gyfer taliadau cynhaliaeth mewn lle yn barod ar gyfer yr un plant, ac fe'i gwnaed cyn 5 Ebrill 1993.

Beth os oes trefniant sy'n seiliedig ar y teulu mewn lle yn barod?

Efallai y cewch daliadau cynhaliaeth dan Gynllun 2012 os oes trefniant taliadau cynhaliaeth sy'n seiliedig ar y teulu eisoes mewn lle ar gyfer plentyn arall sy'n cael gofal o ddydd i ddydd.  Cyfeirir at blentyn o'r fath fel plentyn perthnasol arall.

Pan fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cyfrifo taliadau cynhaliaeth, fe fydd yn trin y plentyn perthnasol arall fel plentyn cymwys er nad yw'r trefniant sy'n seiliedig ar y teulu'n rhwymo'n gyfreithiol. Mae hyn yn golygu bod:

  • y rhiant sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth yn talu llai dan Gynllun 2012, a
  • bod y trefniant sy'n seiliedig ar y teulu yn parhau fel o'r blaen.

Rhaid i chi ddangos tystiolaeth o'r trefniant sy'n seiliedig ar y teulu pan fyddwch chi'n cyflwyno cais. Gall hyn fod yn gytundeb ysgrifenedig neu'n dystiolaeth o fath arall, fel llythyr yn cadarnhau eich trefniadau.

Enghraifft

Mae gan Mark bedwar o blant gyda'i gyn-wraig Paula. Gelwir y rhain yn blant cymwys Mae ganddo drefniant sy'n seiliedig ar y teulu gyda chyn-bartner arall, Louise, am eu plentyn nhw, James, sy'n blentyn perthnasol arall.

Mae Paula yn cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth dan Gynllun 2012. Fe fydd y cyfrifiad ar gyfer taliadau cynhaliaeth hefyd yn ystyried James fel plentyn cymwys er nad yw trefniant sy'n seiliedig ar y teulu yn medru cael ei orfodi'n gyfreithiol.

Mae hyn yn golygu y bydd Mark yn talu llai o daliadau cynhaliaeth ar gyfer y pedwar plentyn gyda Paula, ond y bydd Louise yn dal i gael yr un faint o arian ag o'r blaen ar gyfer James.

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

  • Mwy am daliadau cynhaliaeth wedi eu trefnu gan yr Asiantaeth Cynnal Plant: www.cmoptions.org
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.