Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - pwy yw'r rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant?

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant.

Os ydych chi'n gwahanu, efallai y bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Ond, dim ond ychydig o ymgeiswyr sy'n medru defnyddio'r cynllun hwn ar hyn o bryd. Caiff pob cais arall ei drafod gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003. Sicrhewch eich bod yn gymwys ar gyfer y cynllun newydd cyn i chi ddefnyddio'r wybodaeth hon.

Os ydych chi'n gymwys, fe fydd y naill riant neu'r llall yn medru cyflwyno cais am asesiad cynhaliaeth plant dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am sut i benderfynu pwy yw'r rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant.

Ydych chi'n gofalu am y plant o ddydd i ddydd?

Ystyr gofal bob dydd yw gofalu am unrhyw blant am gyfanswm o 104 noson, o leiaf, yn ystod y flwyddyn. Fel arfer, fe fydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn edrych ar y nifer o ddiwrnodau yr ydych yn rhoi gofal bob dydd i'r plant yn ystod y 12 mis cyn i chi gyflwyno cais. Ond, gallwch ddefnyddio cyfnod arall o amser os byddai hynny'n fwy perthnasol.

Fe fyddwch yn cael eich gweld fel un sy'n gofalu am y plentyn o ddydd i ddydd os ydych yn bodloni'r rheol 104 noson. Hyd yn oed os oes rhywun arall yn darparu peth gofal, fel gwarchodwr plant neu aelod o'r teulu, cewch eich gweld fel cynhaliwr bob dydd os oes gennych gyfrifoldeb dros y plentyn o hyd ac mae gennych gartref gyda'r plentyn.

Efallai bod sawl un yn rhannu gofal y plant. Mae hyn yn medru golygu bod y penderfyniad ynghylch pwy yw'r rhiant sydd â gofal bob dydd yn fwy cymhleth.

Beth yw eich perthynas gyda'r plant?

Er mwyn cael taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012, rhaid eich bod naill ai'n:

  • rhiant sydd â gofal, neu
  • rhywun sydd â gofal.

Rhiant sydd â gofal

Gallwch fod yn rhiant sydd â gofal os mai chi yw'r:

  • rhiant biolegol, neu
  • riant sydd wedi ei fabwysiadu, neu
  • riant cyfreithiol y plentyn oherwydd ymhadiad rhoddwr neu driniaeth ffrwythlondeb, neu
  • riant cyfreithiol y plentyn dan orchymyn rhiant os cafodd ei genhedlu gan fam fenthyg.

Rhywun sydd â gofal

Mae rhywun sydd â gofal yn rhywun sydd ddim yn rhiant i'r plentyn, er enghraifft, perthynas neu ffrind. Os ydych chi'n darparu gofal bob dydd i blant rhywun arall am o leiaf 104 noson y flwyddyn, gallwch gyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth gan un o'r rhieni, neu'r ddau.

Rhieni maeth

Os ydych yn rhiant maeth, ni fedrwch chi gyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012.

Rhannu gofal rhwng rhieni

Efallai bod y ddau ohonoch yn rhannu gofal bob dydd y plant. Er enghraifft, efallai bod y plant yn aros gydag un ohonoch chi bedair noson yr wythnos, a gyda'r llall dair noson yr wythnos. Y rhiant sy'n treulio llai o amser yn gofalu am y plant fydd yr un sy'n gorfod talu taliadau cynhaliaeth.

Os ydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer eich plant, cymerir mai'r rhiant sydd ddim â hawl i Fudd-dal Plant fydd yr un sy'n talu taliadau cynhaliaeth. Ond, gallwch roi tystiolaeth i ddangos pam na ddylai'r rhiant sydd ddim yn cael Budd-dal Plant orfod talu taliadau cynhaliaeth os byddai hynny'n well i'ch sefyllfa chi.

Os ydych yn rhannu gofal y plant yn gyfartal, nid oes un ohonoch yn gorfod talu taliadau cynhaliaeth i'r llall.

Ffyrdd eraill o rannu gofal bob dydd

Gellir rhannu gofal bob dydd y plant rhwng pobl eraill. Er enghraifft:

  • rhywun sydd ddim yn rhiant i'r plentyn a rhiant y plentyn
  • dau berson sydd ddim yn rhieni i'r plentyn
  • rhiant y plentyn a sefydliad fel cartref plant.

Os oes gan fwy nag un person ofal bob dydd dros y plentyn, dim ond y sawl sydd â chyfrifoldeb rhiant sy'n medru cyflwyno cais i'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012.

Os yw'ch plant yn cael gofal gan sefydliadau eraill

Gofal yr awdurdod lleol

Os yw'ch plant yng ngofal awdurdod lleol, ond yn cael byw gyda chi am ran o'r amser, gallwch gael y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i drefnu taliadau cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012 hyd yn oed os nad ydych yn darparu gofal  bob dydd.

Ond, fel arfer rhaid eich bod yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer. Fe fydd swm y taliadau cynhaliaeth fyddwch chi'n eu cael yn gostwng i adlewyrchu faint o amser y mae'r plant yn cael gofal gan yr awdurdod lleol.

Os nad ydych yn cael Budd-dal Plant, efallai y byddwch yn dal i fod â hawl i daliadau cynhaliaeth. Er enghraifft, mae hyn yn medru bod oherwydd:

  • nid oes unrhyw un arall yn cael Budd-dal Plant ar gyfer y plentyn, neu
  • mae rhywun arall yn cael Budd-dal Plant ond chi yw prif ddarparwr y gofal bob dydd o hyd.

Ysgolion preswyl ac ysbytai

Os yw'r plant mewn ysgol breswyl neu yn yr ysbyty, y rhiant sydd â gofal bob dydd yw'r rhiant a fyddai fel arall yn darparu eu gofal bob dydd.

A yw plant yn medru cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth eu hunain?

Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, nid yw plant yn medru cyflwyno cais am daliadau cynhaliaeth drostyn nhw eu hunain dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012.

Camau nesaf

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

I ddod o hyd i gyfryngwyr teuluol lleol, rhowch glic ar:

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.