Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Ôl-ddyledion cynhaliaeth plant - adennill ôl-ddyledion o ystad rhywun sydd wedi marw

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gynhaliaeth ariannol eu plant.

Os yw'r rhiant a ddylai dalu'r taliadau cynhaliaeth yn marw ac mae arnynt daliadau cynhaliaeth, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru trefnu adennill yr ôl-ddyledion o'u hystad.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am yr hyn fedrwch chi ei wneud i adennill ôl-ddyledion o ystad rhywun sydd wedi marw.

Adennill ôl-ddyledion o'r ystad

Os yw'r rhiant ddylai dalu taliadau cynhaliaeth yn marw, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru cymryd camau i adennill ôl-ddyledion taliadau cynhaliaeth plant o'u hystad.

Mae hyn yn hawl orddewisol. Mae'n golygu bod yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru penderfynu a yw am wneud hyn ai peidio. Ni ddylai geisio adennill ôl-ddyledion yn y ffordd yma heb ganiatâd y rhiant sydd â gofal bob dydd dros y plant. Rhaid hefyd ystyried lles y plant.

Os oes ewyllys

Os yw'r rhiant y mae arno/arni daliadau cynhaliaeth yn marw ac yn gadael ewyllys, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru cysylltu ag ysgutorion yr ewyllys, gan roi manylion yr arian sy'n ddyledus mewn ôl-ddyledion.

Os nad oes ewyllys

Os yw'r rhiant sydd ag ôl-ddyledion taliadau cynhaliaeth yn marw heb adael ewyllys, dywedir eu bod yn ddiewyllys. Fe allai'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant hawlio gan weinyddwyr yr ystad.

Sut fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn hawlio gan ysgutorion neu weinyddwyr yr ystad?

Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn rhoi manylion yr ôl-ddyledion i'r ysgutorion neu'r gweinyddwyr. Ond, yn gyntaf, rhaid i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant sicrhau bod unrhyw adolygiadau y mae'r rhiant sydd wedi marw wedi gofyn amdanynt wedi cael sylw a bod y swm sy'n cael ei hawlio am ôl-ddyledion yn gywir.

Ni ddylai'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant roi cyfeiriad y rhiant ddylai fod yn cael y taliadau cynhaliaeth i'r ysgutor neu'r gweinyddydd, nac unrhyw wybodaeth a allai eu helpu i ddod o hyd iddynt neu eu hadnabod.

Os mai chi yw'r ysgutor neu'r gweinyddydd

Os mai chi yw ysgutor neu weinyddydd yr ystad, gallwch ofyn i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am fanylion ariannol i'ch helpu i benderfynu a ydych chi am ad-dalu'r ôl-ddyledion Cynhaliaeth Plant.

Os nad ydych yn cytuno bod yr ôl-ddyledion yn ddyledus, gallwch apelio yn yr un ffordd â'r sawl sydd wedi marw.

Os mai chi yw ysgutor neu weinyddydd yr ystad, dylech ddelio gydag ôl-ddyldion Cynhaliaeth Plant yn yr un ffordd ag unrhyw ddyledion eraill sy'n ddyledus o'r ystad. Nid ydynt yn cael blaenoriaeth dros ddyledion eraill.

Os nad oes digon o arian yn yr ystad i ad-dalu'r holl ddyledion, fe fydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr sy'n arbenigo mewn ewyllysiau a phrofiant oherwydd mae dwyn ystad mathdaliadol i fwcwl yn medru bod yn gymhleth.

Os nad yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru adennill ôl-ddyledion o'r ystad

Efallai y bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn dileu unrhyw ôl-ddyledion os nad yw’n medru:

  • dod o hyd i'r ysgutor neu'r gweinyddydd
  • adennill ôl-ddyledion o'r ystad am nad oes digon o asedau i ganiatáu hynny.

Camau nesaf

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.