Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gorfodi taliadau cynhaliaeth plant - tynnu arian o'ch cyfrif banc

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gynhaliaeth ariannol eu plant.

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi trefnu taliadau cynhaliaeth dan unrhyw un o'r cynlluniau cynhaliaeth plant, ac nid ydych yn talu, maen nhw'n medru trefnu tynnu arian yn uniongyrchol o'ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu i ad-dalu'r ôl-ddyledion.

Mae'r dudalen hon yn dweud mwy wrthych am yr adegau y gall yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant dynnu arian o'ch cyfrif banc.

Pryd mae'n debygol y bydd arian yn cael ei dynnu o'ch cyfrif banc

Os oes gennych ôl-ddyledion cynhaliaeth, fe allai'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wneud gorchymyn sy'n golygu y bydd eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu yn tynnu arian o'ch cyfrif i ad-dalu'r ôl-ddyledion. Gelwir hyn yn orchymyn tynnu arian.

Rydych chi'n fwy tebygol o gael gorchymyn tynnu arian yn eich erbyn os nad yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru tynnu arian o'ch cyflog trwy orchymyn tynnu arian o enillion, neu am nad ydych yn gweithio i gyflogwr. Efallai bod hyn oherwydd:

  • eich bod yn hunangyflogedig
  • rydych yn newid eich swydd yn aml
  • rydych wedi ymddeol.

Gellir tynnu'r arian fel:

  • taliadau rheolaidd, neu
  • un taliad mawr.

Nid yw'r Asiantaeth Cynnal Plant a'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant angen mynd i'r llys i gael gorchymyn tynnu arian. Maen nhw'n medru gwneud y gorchymyn eu hunain.

Gorchmynion tynnu arian rheolaidd o'ch banc neu'ch cymdeithas adeiladu

Gellir gwneud gorchymyn tynnu arian rheolaidd i dynnu arian o'ch cyfrif, naill ai'n fisol neu'n wythnosol.

Rhaid bod gennych o leiaf 60 y cant o'ch incwm wythnosol net ar ôl. Eich incwm net yw'r arian sydd ar ôl wedi i chi dalu treth, Yswiriant Gwladol, a thaliadau eraill sy'n dod allan o'ch incwm gros, fel cyfraniadau pensiwn neu fenthyciadau tocyn tymor.

Pryd na fyddan nhw'n medru tynnu arian

Ni ddylid tynnu arian os yw'r swm sydd ar ôl yn eich cyfrif ar y dyddiad y tynnir yr arian yn llai na:

  • £40 am orchymyn misol
  • £10 am orchymyn wythnosol.

Os ydych yn hunangyflogedig

N i fydd gorchymyn tynnu arian rheolaidd ar gyfrif yr ydych yn ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol at ddibenion busnes, ac eithrio os ydych yn fasnachwr unigol.

Ffioedd

Efallai y bydd y banc neu'r gymdeithas adeiladu yn codi hyd at £10 arnoch am bob swm y mae’n ei dynnu, i dalu eu costau gweinyddol.

Adolygiadau ac apelio

You can apply to the CSA or CMS for a review of a regular deduction order at any time. For example, you might want to ask for a review because your gross weekly income has been reduced or there’s been a change in the amount of child maintenance you pay.

Fe fyddwch yn medru cyflwyno cais i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am adolygiad o orchymyn tynnu arian rheolaidd ar unrhyw adeg. Er enghraifft, efallai y byddwch chi am ofyn am adolygiad am fod eich incwm wythnosol gros wedi gostwng neu mae yna newid yn swm y taliadau cynhaliaeth yr ydych yn eu talu.

Gallwch hefyd apelio i lys sirol yn erbyn gorchymyn tynnu arian rheolaidd neu yn erbyn unrhyw benderfyniad y mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ei wneud ar ôl i chi gyflwyno cais i adolygu'r gorchymyn.

Diweddu gorchymyn tynnu arian rheolaidd

Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn diweddu gorchymyn tynnu arian rheolaidd os, er enghraifft:

  • rydych yn cau'r cyfrif sydd wedi ei enwi yn y gorchymyn
  • rydych cytuno ar ddull arall o dalu
  • rydych apelio ac mae'r llys wedi rhoi'r gorchymyn o’r neilltu
  • mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi adolygu'r gorchymyn ac wedi ei ganslo
  • nad oedd digon o arian yn y cyfrif er mwyn tynnu arian ar ddau ddyddiad tynnu arian yn olynol, ac
  • mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi gadael i'r gorchymyn dreulio ac mae o leiaf chwe mis wedi mynd heibio ers hynny.

Fe fydd y gorchymyn hefyd yn diweddu os ydych yn marw.

Hyd yn oed os bydd gorchymyn tynnu arian rheolaidd yn diweddu, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn mynd ar drywydd dulliau eraill o orfodi os oes ôl-ddyledion gennych o hyd.

Gorchmynion tynnu arian mewn un taliad o'ch banc neu'ch cymdeithas adeiladu

Mae gorchymyn tynnu arian mewn un taliad yn golygu bod yn rhaid i'r banc neu'r gymdeithas adeiladu dynnu swm penodol o arian o'ch cyfrif fel un swm, yn hytrach nag ar gyfnodau rheolaidd.

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant eisiau gwneud gorchymyn tynnu arian mewn un taliad, fe fydd yn anfon copi o orchymyn interim i chi sy'n nodi faint o arian fydd yn cael ei dynnu o'ch cyfrif.

Mae gennych 14 niwrnod i ddweud wrthynt am unrhyw newidiadau a ddylai gael eu gwneud, yn eich barn chi, cyn gwneud y gorchymyn terfynol. Gelwir hyn yn gyflwyno sylwadau. Os ydych chi'n anfon sylwadau, gwnewch yn siwr eich bod yn egluro os ydych chi angen yr arian y mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am ei dynnu ar gyfer eitemau hanfodol, ac yn nodi beth ydyn nhw.

Ar yr un pryd, anfonir copi o'r adroddiad interim at y banc neu'r gymdeithas adeiladu. Mae hyn yn rhewi'r cyfrif hyd at y swm a nodwyd yn y gorchymyn. Fe fyddwch yn dal i fedru cael mynediad at unrhyw arian yn y cyfrif dros y swm yma.

Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ystyried eich sylwadau. Unwaith fyddan nhw wedi gwneud hyn, neu ar ôl 16 niwrnod os nad ydych yn cyflwyno unrhyw sylwadau, fe fyddan nhw'n gwneud gorchymyn terfynol. Mae hyn yn dweud wrth y banc neu'r gymdeithas adeiladu i dynnu'r arian a'i drosglwyddo at yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ar ôl 21 niwrnod. Yn ystod y cyfnod hwn o 21 niwrnod, mae unrhyw un y mae'r gorchymyn yn effeithio arnynt yn medru apelio i'r llys sirol.

Pryd na fyddan nhw'n medru tynnu un taliad mawr

Ni ddylid tynnu un taliad mawr os oes llai na £100 yn y cyfrif.

Os gwneir gorchymyn tynnu arian ac nid oes digon o arian y eich cyfrif, tynnir unrhyw swm hyd at £110. Ond, fe fydd y gorchymyn yn aros yn ei le fel bod modd tynnu unrhyw arian sy'n cael ei dalu i mewn i'r cyfrif yn y dyfodol i dalu tuag at yr ôl-ddyledion.

Ffioedd

Mae'r banc neu'r gymdeithas adeiladu yn medru codi hyd at £55 arnoch am dynnu'r arian, tuag at eu costau gweinyddol.

Diweddu gorchymyn tynnu arian mewn un taliad

Fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn diweddu gorchymyn tynnu arian mewn un taliad yn yr achosion canlynol:

  • rydych wedi cau'r cyfrif sydd wedi ei enwi yn y gorchymyn
  • rydych wedi talu'r ôl-ddyledion yn llawn
  • mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi ystyried eich sylwadau ac wedi penderfynu peidio â gwneud gorchymyn
  • mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn teimlo ei bod yn addas gwneud hynny.

Fe fydd y gorchymyn hefyd yn diweddu os ydych yn marw.

Hyd yn oed os bydd gorchymyn yn diweddu, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ceisio dulliau eraill o orfodi os oes ôl-ddyledion gennych o hyd.

Os ydych yn hunangyflogedig

N i fydd gorchymyn tynnu arian mewn un taliad yn medru cael ei wneud ar gyfrif yr ydych yn ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n rhannol at ddibenion busnes, ac eithrio os ydych yn fasnachwr unigol.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.