Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - sail dros amrywiad

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n rhiant sy’n talu cynhaliaeth dan Gynllun Cynhaliaeth Plant 2012 a bod gennych chi gostau penodol, mae’n bosibl y gallech chi ofyn i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant addasu faint o gynhaliaeth y dylech chi ei dalu.

Os ydych chi’n rhiant sy’n derbyn y tâl cynhaliaeth, ac yn ymwybodol bod gan y rhiant arall incwm trethadwy na chafodd ei gynnwys yn y cyfrifiad ar gyfer cynhaliaeth, mae’n bosibl y gallech chi ofyn i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant addasu faint o gynhaliaeth rydych chi’n ei dderbyn.

Gelir hyn yn ymgeisio am amrywiad. Gallwch ymgeisio am amrywiad ar unrhyw adeg. Fodd bynnag dim ond ar seiliau penodol y cewch chi ymgeisio. Mae’r dudalen hon yn dweud mwy am y seiliau hynny.

Ar hyn o bryd, dim ond nifer fach o bobl sy’n gymwys i ddefnyddio Cynllun 2012. Caiff cynhaliaeth y mwyafrif o bobl ei gyfrif gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003. Mae eu rheolau nhw am amrywiadau’n wahanol. Edrychwch pa gynllun sy’n berthnasol i chi cyn i chi ddefnyddio’r wybodaeth hon.

Os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth

Os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth, a’ch bod yn gorfod talu unrhyw rai o’r costau neu dreuliau canlynol, gallech fod yn gymwys i ymgeisio am amrywiad. Os caiff eich cais ei dderbyn, bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gwneud cyfrifiad cynhaliaeth newydd, ar sail eich incwm gros, ar ôl tynnu’r treuliau hyn. Gelwir y math hwn o amrywiad yn amrywiad Treuliau Arbennig ac mae’n cynnwys y costau canlynol:

Costau cadw cysylltiad â’ch plant

Gelwir y rhain yn gostau cyswllt. Maen nhw’n cynnwys y treuliau sy’n rhaid i chi eu talu i gadw cysylltiad â’r plant rydych chi’n talu cynhaliaeth ar eu cyfer, a elwir yn blant cymwys. Caniateir costau cyswllt hefyd i blant eraill rydych chi’n gyfrifol amdanyn nhw, a elwir yn blant eraill perthnasol.

Caiff costau cyswllt eu cyfrif hyd yn oed os ydych chi’n talu llai o gynhaliaeth oherwydd eich bod yn rhannu gofal y plentyn cymwys. Gall y costau hyn gynnwys tanwydd, tocyn trên neu fws a llety dros nos os nad yw dychwelyd yr un diwrnod yn ymarferol.

Costau ychwanegol gofalu am blentyn sâl neu anabl

Os yw plentyn rydych chi’n gyfrifol amdano’n ariannol yn mynd yn sâl neu’n anabl ac rydych chi’n wynebu treuliau ychwanegol oherwydd hyn, gallwch ofyn am amrywiad. Mae’r costau y cewch eu hawlio’n cynnwys gofal personol, presenoldeb, gwresogi ychwanegol a dillad.

Dyledion blaenorol

Os oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch chi i dalu rhai dyledion penodol yr aed iddynt cyn i chi a’ch partner wahanu, gallwch ofyn am amrywiad. Gallai hyn fod, er enghraifft, yn fenthyciad a gymerwyd ar gyfer gwelliannau i’r cartref. Gelwir y rhain hefyd yn ddyledion blaenorol. Ni chewch ofyn am amrywiad ar gyfer dyledion megis cardiau credyd neu ôl-dalu dirwyon.

Ffioedd ysgol breswyl

Mae’n bosibl y cewch hawlio treuliau os ydych chi’n talu at ffioedd ysgol breswyl y plant rydych chi’n talu cynhaliaeth ar eu cyfer.

Rhai morgeisi, benthyciadau a pholisïau yswiriant

Efallai y gallech hawlio treuliau os ydych chi’n talu morgais, benthyciad neu bolisi yswiriant ar y cartref lle mae eich cyn-bartner a’r plant yn byw. Fodd bynnag rhaid i chi beidio â bod ag unrhyw gyfran gyfreithiol yn yr eiddo.

Y terfynau isaf y cewch eu hawlio

Os yw’r costau rydych chi’n eu talu yn llai na £10 yr wythnos, ni chewch ofyn am amrywiad.

Os yw’r costau’n £10 neu fwy, gellir ystyried y swm cyfan.

Nid yw’r terfyn £10 yn gymwys i gostau plentyn â salwch tymor hir neu anabledd.

Ceir rheolau caeth am y treuliau hyn ac ni fydd pob un yn cael ei ystyried. Ym mhob achos, bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn penderfynu a yw’r treuliau a hawlir yn rhesymol. Gallent gyfyngu ar y swm a ddidynnir o’ch incwm gros neu benderfynu na ddylid gwneud unrhyw ddidyniad.

Os mai chi yw’r rhiant sy’n derbyn cynhaliaeth

Gallwch ymgeisio am amrywiad os ydych chi’n credu bod gan y rhiant sy’n talu cynhaliaeth incwm trethadwy arall nad chafodd ei gynnwys yn y cyfrifiad ar gyfer cynhaliaeth. Os gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ganfod yr incwm ychwanegol hwn, caiff ei ychwanegu at weddill incwm gros y rhiant arall a’i ddefnyddio i wneud cyfrifiad newydd.

Os yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth wedi adrodd yr incwm arall i Gyllid a Thollau EM, bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gallu cael yr wybodaeth hon ac fel arfer ni fydd yn dibynnu arnoch chi i roi’r manylion ariannol iddyn nhw.

Fodd bynnag, os nad yw Cyllid a Thollau EM yn dal unrhyw wybodaeth am yr incwm hwn, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi ddarparu gwybodaeth bellach fanwl i alluogi’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i edrych ar eich cais.

Gelwir y math hwn o amrywiad yn amrywiad Incwm Ychwanegol ac mae’n cynnwys:

  • incwm nad yw wedi’i ennill
  • incwm a enillir
  • gwaredu incwm, a elwir yn ddargyfeirio incwm.

Incwm nad yw wedi’i ennill

Gall hwn fod yn incwm trethadwy o unrhyw un o’r ffynonellau canlynol:

  • eiddo, er enghraifft incwm rhentu
  • cynilon a buddsoddiadau
  • incwm amrywiol, megis incwm achlysurol o ddarnau unigol o waith, neu daliadau hwyr a dderbyniwyd ar ran busnes nad yw bellach yn weithredol.

Incwm a enillir

Mae hyn yn golygu bod y rhiant sy’n talu cynhaliaeth yn talu ar y gyfradd safonol neu nil ond bod gan y rhiant incwm wythnosol gros o £100 neu fwy yn deillio o gyflogaeth, hunangyflogaeth neu bensiwn.

Dargyfeirio incwm

Mae hyn yn golygu y gall y rhiant sy’n talu cynhaliaeth fod yn rheoli faint o incwm mae’n ei dderbyn drwy:

  • ei roi i rywun arall. Gallai hyn fod er enghraifft yn bartner ond mae’n dal i gael budd o’r incwm
  • dargyfeirio’r incwm fel nad oes modd ei gynnwys yn y cyfrifiad cynhaliaeth. Er enghraifft cadw elw mewn cwmni yn hytrach na chymryd cyflog, neu gael buddiant megis car cwmni yn lle rhan o gyflog
  • gwneud cyfraniadau pensiwn gormodol. Gallai’r hyn fydd yn cyfrif fel taliadau gormodol ddibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Y camau nesaf

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.