Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 - sut i ymgeisio am amrywiad

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n defnyddio Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012 i gyfrif eich taliadau cynhaliaeth a bod eich amgylchiadau’n newid am resymau penodol mae’n bosibl y gallech ofyn am amrywiad. Os caiff y rhesymau pam rydych chi’n gofyn am amrywiad eu derbyn, bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ailgyfrif eich taliadau cynhaliaeth i adlewyrchu’r newidiadau.

Gall y naill neu’r llall ohonoch chi ofyn am amrywiad ar unrhyw adeg os oes gennych chi sail dros wneud hynny. Gellir gwneud hyn cyn i’r cyfrifiad gael ei wneud neu os oes rhywbeth yn newid yn ddiweddarach.

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut i ymgeisio am amrywiad.

Ar hyn o bryd, dim ond nifer fach o bobl sy’n gymwys i ddefnyddio Cynllun Cynhaliaeth Plant 2012. Caiff tâl cynhaliaeth y mwyafrif o bobl ei gyfrif gan yr Asiantaeth Cynnal Plant dan Gynllun 2003 - edrychwch pa gynllun sy’n berthnasol i chi cyn i chi ddefnyddio’r wybodaeth hon.

Sut i ymgeisio am amrywiad

Gall y naill neu’r llall ohonoch ymgeisio i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am amrywiad os ydych chi’n credu bod rhesymau dros wneud hynny. Gelwir hyn yn sail dros amrywiad. Nid oes terfyn amser ar gyfer gwneud hyn. Fodd bynnag dim ond am rai rhesymau penodol y cewch chi ymgeisio am amrywiad. Ar gyfer newidiadau eraill yn eich amgylchiadau mae’n bosibl y bydd rhaid i chi ofyn am adolygiad neu apelio’r cyfrifiad.

Gallwch ymgeisio dros y ffôn. Mewn rhai amgylchiadau penodol, efallai y bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gofyn i chi wneud y cais yn ysgrifenedig. Pa bynnag ddull y defnyddiwch chi i ymgeisio, cadwch gofnod ysgrifenedig o’r cais, gan nodi pethau fel yr amser y ffonioch chi a phwy y siaradoch chi â nhw.

Pryd gallai’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ofyn am wybodaeth ychwanegol

Fe all y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ofyn am wybodaeth neu dystiolaeth ychwanegol er mwyn iddyn nhw allu penderfynu caniatáu’r amrywiad ai peidio. Fel arfer, os mai chi yw’r rhiant a ddylai fod yn derbyn cynhaliaeth, bydd dim angen i chi ddarparu tystiolaeth ariannol i gefnogi eich cais am amrywiad. Mae hyn oherwydd y gallai’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant gael manylion ariannol am y rhiant a ddylai fod yn talu cynhaliaeth gan Refeniw a Thollau EM.

Fodd bynnag, os ydych chi’n gofyn am amrywiad oherwydd eich bod yn credu bod y rhiant arall wedi cael gwared ag arian i osgoi talu’r swm cywir o gynhaliaeth, rhaid i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ddibynnu ar wybodaeth y gallwch chi ei darparu. Gelwir hyn yn ddargyfeirio incwm.

Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant fel arfer yn anfon manylion am y cais, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth rydych chi’n ei darparu, at y rhiant a ddylai dalu cynhaliaeth.

Sut mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn gwneud penderfyniad

Bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn edrych ar bob cais am amrywiad. Gelwir hyn yn ystyriaeth ragarweiniol. Ar y cam hwn mae’n bosibl y caiff y cais ei wrthod, er enghraifft am nad oes sail am amrywiad. Os yw hyn yn digwydd bydd y cyfrifiad cynhaliaeth gwreiddiol yn parhau’n gymwys.

Os nad yw’r cais yn methu ar ôl yr ystyriaeth ragarweiniol bydd y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn penderfynu a fydd yn cytuno i amrywiad ac yn gwneud penderfyniad ar gyfrifiad cynhaliaeth newydd.

Os nad ydych chi’n hapus gyda’r penderfyniad mae’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ei wneud, gallwch ofyn iddyn nhw edrych arno eto. Gofyn am adolygiad neu ailystyriaeth yw hyn.

O fis Ebrill 2013, dim ond ar ôl i’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ailystyried y penderfyniad y cewch chi apelio yn ei erbyn.

Talu cynhaliaeth wrth aros am benderfyniad

Os mai chi yw’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth, bydd rhaid i chi barhau i dalu’r hen gyfradd cynhaliaeth tra bo’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ystyried y cais am amrywiad. Mae hyn yn wir os mai chi neu’r rhiant arall sydd wedi ymgeisio am amrywiad.

Os ydych chi’n cael trafferth talu’r swm cyflawn y gorchmynnwyd i chi ei dalu, cysylltwch â’r swyddfa Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant leol sy’n ymdrin â’ch achos. Dylai’r rhif ffôn fod ar unrhyw lythyrau maen nhw wedi’u hanfon atoch chi eisoes.

Pryd fydd amrywiad yn weithredol?

Mae’n dibynnu pryd y digwyddodd y rhesymau pam rydych chi’n gofyn am amrywiad. Caiff rhai newidiadau i gyfrifiadau eu hôl-ddyddio i’r dyddiad pan ddigwyddon nhw, a bydd rhai eraill yn dechrau o’r dyddiad rydych chi’n hysbysu’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant.

Os oes sail dros ofyn am amrywiad pan gaiff y cais cynhaliaeth ei wneud

Os oes sail eisoes dros ofyn am amrywiad ar y dyddiad y caiff y rhiant sy’n talu cynhaliaeth ei hysbysu am y cais am gynhaliaeth gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant newid y cyfrifiad yn ôl i’r dyddiad hwnnw. Gelwir hyn y dyddiad daw i rym.

Serch hynny, cyn y gall y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wneud hyn rhaid i’r rhiant sy’n ymgeisio am amrywiad ddweud wrthyn nhw:

  • o fewn 30 diwrnod i gael ei hysbysu o swm y cyfrifiad cynhaliaeth, neu
  • cyn y dyddiad y caiff y cyfrifiad cynhaliaeth ei wneud.

Os yw’n ymgeisio’n hwyrach na hyn, dim ond ar y dyddiad y mae’n hysbysu’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ei f/bod am ymgeisio am amrywiad y caiff yr amrywiad ddechrau.

Os ceir sail am amrywiad ar ôl i’r taliad cynhaliaeth cyntaf fod yn ddyledus

Os yw’r rhesymau pam rydych chi’n dymuno ymgeisio am yr amrywiad yn digwydd ar ôl i’r gynhaliaeth fodd yn ddyledus am y tro cyntaf, dim ond o’r dyddiad y cafodd y cais ei wneud y gellir gweithredu’r amrywiad. Er enghraifft os ydych chi wedi cynyddu eich costau oherwydd bod gennych chi gostau ychwanegol i gadw cysylltiad â phlant sydd wedi symud ty, gallwch ymgeisio am amrywiad ar y pwynt hwn. Bydd yr amrywiad yn dechrau o’r dyddiad rydych chi’n cysylltu â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am y tro cyntaf, ac ni roddir ystyriaeth i’r dyddiad y dechreuodd y newid.

Y camau nesaf

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.