Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Newid gwlad

Beth i wneud ar ôl marwolaeth

Ble bu'r person farw

Marwolaethau yn yr ysbyty

Erbyn hyn mae’r mwyafrif o farwolaethau yn digwydd yn yr ysbyty neu mewn cartrefi nyrsio. Os yw perthynas i chi wedi marw mewn ysbyty, bydd y staff yn cysylltu â chi, yn gosod y corff ac yn trefnu iddo gael ei gludo i farwdy’r ysbyty. Yna bydd gofyn i chi i drefnu i drefnwyr angladdau gasglu’r corfff, a byddant fel arfer yn ei gludo i‘r Capel gorffwys. Ar yr un adeg, byddwn yn gofyn i chi gasglu eiddo personol y person.

Cyn y gellir cofrestru marwolaeth yn swyddogol, bydd angen i feddyg ryddhau tystysgrif meddygol sy’n datgan achos y farwolaeth. Yn yr ysbyty, mae meddyg yr ysbyty yn gallu gwneud hyn fel arfer, a byddant yn rhoi tystysgrif i chi mewn amlen caeëdig ac arni gyfeiriad y Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau. Byddant hefyd yn rhoi rhybudd i chi, yn egluro sut mae cofrestru marwolaeth. Ni chodir tâl am yr un o’r ddau yma. Os nad oes meddyg yn yr ysbyty wedi archwilio’r person, mae’n bosib bydd y meddyg teulu yn medru rhoi tystysgrif yn hytrach.

Efallai y bydd ysbyty'n gofyn i chi am ganiatad i wneud archwiliad post-mortem i ddysgu mwy am yr hyn sydd wedi achosi'r farwolaeth. Ni does rhaid i chi gytuno i hyn.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd meddyg yn medru cyhoeddu tystysgrif feddygol ar gyfer achos y farwolaeth. Efallai y bydd sawl rheswm dros hyn. Os nad yw'r meddyg yn medru cyhoeddu tystysgrif feddygol, fe fydd yn cyfeirio'r farwolaeth at y crwner. Fe fydd y crwner yn medru gorchymyn archwiliad post-mortem. Ni does hawl gennych i wtrhwynebu post-mortem u mae'r crwner wedi ei orchymyn, ond dylech ddweud wrth y crwner os oes gennych wrthwynebiad ar safil crefyddol neu wrthwynebiad cryf arall.

Mae mwy o wybodaeth am archwiliadau post-mortem ar wefan Directgov yn: www.directgov.gov.uk.

Lle bydd amlosgiad yn cael ei gynnal, bydd angen i ail feddyg arwyddo bod y corff wedi cael ei archwilio. Codir tâl am hyn.

Marwolaethau yn y cartref

Pan fo rhywun yn marw yn y cartref, dylid galw ei f/meddyg teulu cyn gynted ag y bo modd. Fel arfer bydd y meddyg yn ymweld â’r cartref, ac os oedd y farwolaeth yn ddisgwyliedig, dylai fod yn medru rhoi tystysgirf yn datgan achos y farwolaeth. Os nad oedd gan y person feddyg teulu neu os nad ydych yn ymwybodol o enw’r meddyg teulu, dylid galw ambiwlans yn hytrach.

Ni chaniateir i feddyg roi tystysgrif os ydynt yn ansicr ynglyn ag achos y farwolaeth. Pan fo hyn yn digwydd rhaid reportio’r farwolaeth i’r crwner a byddant yn mynd â’r corff i farwdy’r ysbyty, ac o bosib bydd yn rhaid cynnal post mortem.

Marwolaethau tramor

Os yw marwolaeth yn digwydd dramor mae'n rhaid ei gofrestru yn unol â chyfraith y wlad honno. Dylid reportio’r farwolaeth hefyd i’r conswl Prydeinig ac mae’n bosib y bydd yn medru trefnu i’r farwolaeth gael ei gofrestru yn y DU hefyd.

Mae dychwelyd corff i’r DU yn gostus ond mae’n bosib yr ad-delir y gost gan unrhyw yswiriant teithio oedd gan y person. Os digwyddodd y farwolaeth ar wyliau pecyn dylai'r cwmni a oedd yn trefnu'r daith fod yn medru eich cynorthwyo gyda’r trefniadau.

Pan fo corff yn cael ei ddychwelyd i’r DU, rhaid hysbysu Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau’r rhanbarth lle y cynhelir yr angladd a bydd angen iddo/iddi gyhoeddi tystysgrif cyn y gellir claddu’r corff. Os bwriedir cynnal amlosgiad mae angen caniatâd y Swyddfa Gartref hefyd.

Os nad oedd y farwolaeth yn ganlyniad i achosion naturiol bydd angen dweud wrth Grwner y rhanbarth ac mae’n bosib y bydd yn rhaid cynnal Ymchwiliad. Yng Ngogledd Iwerddon, mae crwner hefyd yn medru trefnu post-mortem neu gwest ar gais y teulu.

Rhoi organau ar gyfer trawsblaniad neu’r corff ar gyfer ymchwil meddygol

Rhoi organau

Mae’n bosib fod y person sydd wedi marw wedi dymuno rhoi organau i'w trawsblannu. Fe fydd hyn yn haws os oedden nhw ar Gofrestr Rhoddi Organau’r GIG, yn cario cerdyn i ddan gos eu bod yn dymuno rhoi organau ac wedi trafod y cynlluniau i rhoi organau gyda'u teuluoedd. Fe fydd angen i’r perthnasau roi caniatâd cyn rhoi'r organau. Daw'r rhan fwyaf o organau sy'n cael eu rhoi oddi wrth bobl sydd wedi marw tra ar wyntiedydd mewn uned gofal dwys mewn ysbyty. Am fwy o wybodaeth ynglyn â rhoi organau a thrawsblannu, cysylltwch â

NHS Organ Donor Register
NHS Blood and Transplant
Organ Donation and Transplantation Directorate
Fox Den Road
Stoke Gifford
Bristol
BS34 8RR
Llinell Rhoi Organau: 0300 123 2323 (24 awr y dydd, bob dydd)

E-bost: enquiries@nhsbt.nhs.uk
Gwefan: www.organdonation.nhs.uk

Rhoi’r corff ar gyfer addysg neu ymchwil feddygol

Mae rhai pobl yn dymuno gadael eu cyrff at ddiben addysg neu ymchwil feddygol a gall unrhyw un sy’n dymuno gwneud hyn wneud trefniadau cyn iddyn nhw farw a dweud wrth eu perthnasau. Pan fydd y person yn marw, dylai perthnasau yng Nghymru a Lloegr gysylltu â'r Awdurdod Meinweoedd Dynol a fydd yn eich cynghori ynglyn â beth ddylid ei wneud. Os derbynnir y corff (ac mae llawer o gyrff yn anaddas) bydd yr ysgol feddygol yn trefnu amlosgiad neu gladdedigaeth yn y pendraw. Cyfeiriad yr Awdurdod Meinweoedd Dynol yw:-

Human Tissue Authority
2nd Floor
151 Buckingham Palace Road
Victoria
London
SW1W 9SZ
Ffôn: 020 7269 1900
Ffacs: 020 7269 1999
E-bost: enquiries@hta.gov.uk
Gwefan: www.hta.gov.uk

Yn yr Alban, cysylltwch â'ch ysgol feddygol agosaf. Yng Ngogledd Iwerddon, dylech gysylltu â'r Athro Anatomi a dyma'r manylion:-

Professor of Anatomy
Department of Anatomy
Queens' University Belfast
Medical Biology Centre
97 Lisburn Road
Belfast
BT9 7BL
Rhif Ffôn: 028 9024 5133

Cofrestru Marwolaeth

Cofrestru marwolaeth yw cofnod swyddogol marwolaeth. Y Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau sy’n gyfrifol am wneud hyn a gallwch ddod o hyd i gyfeiriad y Swyddfa gofrestru leol yn y llyfr ffôn.

Pan fo rhywun yn marw yn y cartref, dylid cofrestru’r farwolaeth yn Swyddfa Gofrestru’r rhanbarth lle roedden nhw’n byw. Os bu farw’r person mewn ysbyty neu gartref nyrsio rhaid ei g/chofrestru yn Swyddfa gofrestru’r rhanbarth lle mae'r ysbyty neu’r cartref. Yng Nghymru a Lloegr, os yn gyfleus, gallwch fynd i swyddfa wahanol i gofrestru’r farwolaeth a bydd y manylion yn cael eu trosglwyddo i’r swyddfa briodol. Dylech sicrhau oriau agor y swyddfa yr ydych yn dymuno’i defnyddio. Mae gan rai swyddfeydd system apwyntiadau.

Dylid cofrestru marwolaeth o fewn pum diwrnod ond gellir gohirio cofrestriad am naw diwrnod arall os dywedir wrth y Cofrestrydd bod tystysgrif meddygol wedi cael ei chyhoeddi. Os yw’r farwolaeth wedi cael ei reportio i’r Crwner ni fedrwch ei gofrestru nes bod ymchiliadau’r Crwner wedi dod i ben.

  • Mae’n drosedd i beidio â chofrestru marwolaeth
  • Dylai un o’r canlynol gofrestru’r farwolaeth (yn nhrefn blaenoriaeth):-
  • Perthynas a oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
  • Perthynas a oedd yn bresennol adeg salwch olaf y person
  • Perthynas sy’n byw yn yr ardal y bu farw’r person
  • Unrhyw un arall a oedd yn bresennol adeg y farwolaeth
  • Perchennog neu breswylydd yr adeilad lle fu farw’r person a’i bod yn ymwybodol o’r farwolaeth
  • y person sy’n trefnu’r angladd (ond nid y trefnwr angladdau)

Ni fedrwch ddirprwyo’r cyfrifoldeb o gofrestru’r farwolaeth i unrhyw un arall.

Rhaid i chi fynd â’r tystysgrif meddygol gyda chi, gan na ellir cofrestru’r farwolaeth nes bod y Cofrestrydd wedi ei gweld. Os yn bosib, dylech fynd â cherdyn GIG a thystysgrifau geni a phriodas y person gyda chi hefyd. Bydd y Cofrestrydd eisiau’r wybodaeth ganlynol gennych;-

  • Dyddiad a’r lleoliad lle bu farw’r person
  • Enw llawn y person (yn cynnwys ei henw cyn priodi) a’r cyfeiriad olaf
  • Dyddiad a lleoliad geni’r person
  • Swydd y person, ac yn achos menyw a oedd yn briod neu wraig weddw, enw llawn a swydd ei gwr
  • Os oedd y person yn briod o hyd, dyddiad geni ei gwr neu wraig
  • P'un ai oedd y person yn derbyn pensiwn neu fudd-daliadau nawdd cymdeithasol eraill.

Ffurflenni

Pan fyddwch wedi cofrestru’r farwolaeth, bydd y Cofrestrydd yn rhoi tystysgrif werdd i chi (yn ddi-dâl) i’w rhoi i’r trefnwr angladdau. Mae hyn yn galluogi iddyn nhw gynnal claddedigaeth neu amlosgiad. Weithiau mae’n bosib y bydd y Cofrestrydd yn medru cyhoeddi tystysgrif ar gyfer claddedigaeth yn unig (ond fyth ar gyfer amlosgiad) lle nad oes neb wedi llwyddo i gofrestru’r farwolaeth.

Yn ogystal bydd y Cofrestrydd yn rhoi ffurflen i chi anfon at yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP). Mae hyn yn galluogi iddyn nhw i ddelio gyda phensiwn y person ac unrhyw fudd-daliadau eraill.

Tystysgrif Marwolaeth

Copi o’r cofnod a wnaed gan y Cofrestrydd yn y Gofrestr farwolaethau yw tystysgrif marwolaeth. Mae angen y dystysgrif yma er mwyn delio gydag arian neu eiddo a adawyd gan y person sydd wedi marw, yn cynnwys delio gyda’r ewyllys. Mae’n bosib y bydd angen sawl copi o’r dystysgrif arnoch, a chodir tâl am hyn.

Gellir cael copïau o dystysgrif farwolaeth gan y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. Mae ei manylion cyswllt ar wefan DirectGov.

Yng Ngogledd Iwerddon, gellir cael hyd i fanylion Cofrestryddion Rhanbarthol ar wefan indirect yn www.nidirect.gov.uk.

Crwner

Meddyg neu Gyfreithiwr yw Crwner a benodwyd gan yr Awdurdod lleol i ymchwilio i farwolaethau penodol. Yng Ngogledd Iwerddon, mae'r Arglwydd Ganghellor yn apwyntio crwner. Mae’r Crwner yn gwbl annibynnol o’r Awdurdod ac mae ganddo/ganddi swyddfa a staff ar wahân. Gallwch ddod o hyd i gyfeiriad Swyddfa eich Crwner lleol yn y llyfr ffôn.

Mae Crwner yn medru ymchwilio i farwolaeth os yw’r corff yn eu rhanbarth, hyd yn oed os bu farw’r person yn rhywle arall. e.e. dramor.

Mae'n rhaid reportio marwolaeth i’r Crwner yn y sefyllfaoedd canlynol:-

  • Os nad oedd meddyg y person wedi eu gweld yn ystod y 14 diwrnod cyn iddyn nhw farw neu yn syth wedi hynny (28 diwrnod yng Ngogledd Iwerddon)
  • Os na fu’r meddyg yn gofalu, yn gweld neu’n trin y person yn ystod eu salwch olaf (hynny yw, os oedd eu marwoaleth yn sydyn)
  • Os oedd achos y farwolaeth yn anhysbys neu’n ansicr
  • Os oedd y farwolaeth yn dreisgar neu’n annaturiol (er enghraifft, hunanladdiad, damwain neu gorddos cyffuriau neu alcohol)
  • Os oedd y farwolaeth yn amheus mewn unrhyw ffordd
  • Os digwyddodd y farwolaeth yn ystod llawdriniaeth neu wrth adfer ar ôl anasthetig
  • Os digwyddodd y farwolaeth mewn carchar neu yn nalfa’r heddlu
  • Achoswyd y farwolaeth gan glefyd diwydiannol.

Gall unrhyw un sy’n anfodlon ynglyn ag achos marwolaeth hysbysu’r Crwner, ond yn y mwyafrif o achosion bydd marwolaeth yn cael ei reportio i’r Crwner gan Feddyg neu gan yr heddlu.

Mewn rhai achosion bydd angen i’r Crwner orchymyn post-mortem, yn achos o’r fath bydd y corff yn cael ei gymryd i’r ysbyty er mwyn cynnal y post mortem. Nid oes hawl gennych i wrthwynebu cynnal post mortem a orchmynnir gan y Crwner, ond dylech ddweud wrth y Crwner os oes gennych unrhyw wrthwynebiadau crefyddol neu wrthwynebiad cryf arall. Mewn achosion lle caiff marwolaeth ei reportio i’r Crwner oherwydd nad oedd y person wedi gweld meddyg yn ystod y 14 diwrnod cyn eu marwolaeth (28 diwrnod yng Ngogledd Iwerddon) bydd y Crwner yn cysylltu gyda meddyg teulu’r person a fel arfer ni fydd yn rhaid gorchymyn post mortem.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ymchwiliadau post-mortem a’ch hawliau i gael gwybod beth sy’n digwydd gydag organau a meinwe, rhowch glic ar wefan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol yn www.hta.gov.uk.

Ni ellir cofrestru marwolaeth nes bod ymchwiliadau’r Crwner wedi eu cwblhau a bod tystysgrif wedi cael ei chyhoeddi i alluogi’r cofrestriad. Fel arfer, mae hyn yn golygu gohirio'r angladd. Lle cynhaliwyd post mortem mae'n rhaid i’r Crwner roi caniatâd cyn medru cynnal amlosgiad.

Ymchwiliadau

Mae unrhyw ymchwiliad yn ymchwiliad cyfreithiol i farwolaeth. Cynhelir ymchwiliad yn gyhoeddus (weithiau gyda rheithgor) gan y Crwner mewn achosion lle roedd y farwolaeth yn dreisgar neu’n anaturiol neu fod y person wedi marw mewn carchar neu yn nalfa’r heddlu neu mewn achosion lle mae achos y farwolaeth yn ansicr o hyd wedi’r post-mortem, neu yng Ngogledd Iwerddon, lle mae plentyn wedi marw mewn gofal. Dim ond y Crwner sy’n medru gorchymyn ymchwiliad ac nid oes hawl gan berthnasau i fynnu cynnal ymchwiliad.

Mae’n bosib y cynhelir ymchwiliad i farwolaeth a ddigwyddodd dramor os yw’r corff wedi dychwelyd i’r DU.

Gall y perthnasau fynychu ymchwilad a holi cwestiynau i’r llygad dystion. Yng Nghymru a Lloegr, efallai y bydd cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer cyngor cyfreithiol ar ymchwiliadau. Yng Ngogledd Iwerddon, nid oes cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer ymchwiliadau ond efallai y bydd rhywfaint o gyngor cyn yr ymchwiliad ar gael o dan gynllun y daflen werdd. Yng Nghymru a Lloegr, weithiau mae’n bosib y bydd cymdeithas o’r enw INQUEST yn medru trefnu cynrychiolaeth cyfreithiol, un ai yn ddi-dâl neu am bris gostyngol. Cyfeiriad INQUEST yw:-

89-93 Fonthill Road
London N4 3JH
Ffôn: 020 7263 1111
Ffacs: 020 7561 0799
E-bost: inquest@inquest.org.uk
Gwefan: www.inquest.org.uk

Dylai’r ymchwiliad ddarparu mwy o wybodaeth am sut a pham y bu farw’r person a ph'un ai oedd rhywun arall yn gyfrifol. Mewn rhai achosion, mae’n bosib y bydd erlyniad troseddol yn digwydd yn hwyrach.

Unwaith y bydd ymchwiliad wedi cael ei gynnal gellir cofrestru’r farwolaeth a gellir cynnal yr angladd (er yn rhai achosion mae’n bosib y bydd y Crwner yn caniatau i’r angladd fynd yn ei blaen cyn bod yr ymchwilad wedi dod i ben).

Angladdau

Gellir cynnal angladd ar unrhyw adeg wedi’r farwolaeth. Trefnir y mwyafrif o angladdau gan y perthnasau agosaf, er enghraifft cymar neu bartner sifil. Fodd bynnag, os nad oes yna berthnasau, gall unrhyw un sy’n agos at y person drefnu’r angladd.

Mae’n bosib fod y person wedi gadael cyfarwyddiadau (yn eu ewyllys neu yn rywle arall) ynglyn â’r math o angladd yr oeddent yn dymuno ei gael a/neu p'un ai eu bod yn dymuno cael eu claddu neu eu hamlosgi. Nid oes dyletswydd cyfreithiol gan y perthnasau i ddilyn y cyfarwyddiadau yma. Mewn rhai achosion, mae’n bosib bydd y perthnasau yn dymuno cael claddedigaeth neu amlosgiad dramor. Mae’r rheolau ynglyn â hyn yn gymhleth iawn a bydd angen cymorth trefnwr angladdau arbenigol. Mae angen caniatâd y Crwner o hyd cyn y gellir anfon corff dramor.

Os nad oes unrhyw berthnasau na ffrindiau i drefnu angladd, yng Nghymru a Lloegr, bydd yr awdurdod lleol neu'r awdurdod iechyd yn trefnu angladd syml. Yng Ngogledd Iwerddon, gall y bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol lleol wneud hyn. Yna, bydd yr awdurdod cyhoeddus sy'n trefnu'r angladd yn ceisio adennill y gost o unrhyw arian sydd wedi ei adael gan y person a fu farw.

Trefnwyr angladdau

Caiff y mwyafrif o angladdau eu trefnu drwy drefnwr angladdau. Mae'n bwysig cael trefnwr angladdau sy'n perthyn i un o'r cymdeithasau proffesiynol, fel Cymdeithas Cenedlaethol Trefnwyr Angladdau (NAFD) neu'r Gymdeithas Trefnwyr Angladdau Annibynnol a Chynghreiriol (SAIF) gan bod codau ymarfer a gweithdrefnau cwyno gan y cymdeithasau hyn. Mae rhai awdurdodau lleol hefyd yn rhedeg eu gwasanaethau angladd eu hun gyda chwmni o drefnwyr angladdau lleol. Os nad yw trefnwr angladdau yn aelod o gymdeithas broffesiynol neu os nad yw cwyn yn cael ymdriniaeth foddhaol, efallai y bydd angen cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y trefnwr angladdau.

Pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau trefnwr angladdau, mae'r gyfraith yn rhoi rhai hawliau penodol i chi fel defnyddiwr. Am fwy o wybodaeth ynghylch eich hawliau defnyddwyr pan fyddwch chi'n defnyddio gwasanaeth, gweler Prynu gwasanaethau – eich hawliau.

Cymdeithas Cenedlaethol Trefnwyr Angladdau (National Association of Funeral Directors)

618 Warwick Road
Solihull
W. Midlands B91 1AA
Ffôn: 0845 230 1343
Ffacs: 0121 711 1351
E-mail: info@nafd.org.uk
Website: www.nafd.org.uk

Mae'n rhaid i aelodau'r NAFD gydymffurfio â'i Gôd Ymddygiad. Mae gan y gymdeithas wasanaethau cymrodedd mewnol, a chynllun cyflafareddiad sy'n cael ei redeg yn annibynnol.

The National Society of Allied and Independent Funeral Directors

3 Bullfields
Sawbridgeworth
Herts CM21 9DB
Ffôn: 0845 230 6777
Ffacs: 01279 726300
E-bost: info@saif.org.uk
Gwefan: www.saif.org.uk

Mae gan y Gymdeithas uchod gôd ymddygiad ar gyfer ei aelodau.

Cyngor Safonau Angladd

30 Ffordd y Gogledd
Caerdydd CF10 3DY
Ffôn: 029 2038 2046
Ffacs: 029 2034 3557

Mae gan y Cyngor Safonau Angladd gôd ymddygiad ar gyfer ei aelodau.

Costau angladd

Y person sy'n trefnu'r angladd sy'n gyfrifol am dalu'r bil terfynol ac mae'n bwysig gwybod o ble bydd yr arian ar gyfer yr angladd yn dod. Efallai bod y person a fu farw wedi cymryd cynllun angladd rhag-daledig, gan dalu am yr angladd ymlaen llaw. Mae'n bwysig gwirio'u papurau personol i weld os oedd ganddynt gynllun. Os oedd ganddynt gynllun, dylai gwmpasu holl gost yr angladd.

Os nad oes yna gynllun angladd, fel arfer bydd cost yr angladd yn dod allan o unrhyw arian a adawyd gan y person a fu farw, lle mae yna arian wedi'i adael, dylid talu tâl yr angladd cyn unhyw filiau neu ddyledion. Hyd yn oed os yw cyfrif banc y person wedi'i rhewi yn dilyn y marwolaeth efallai ei fod yn bosib i'r gymdeithas adeiladu neu gyfrif cynilion cenedlaethol ryddhau arian wedi gweld y tystysgrif marwolaeth. Efallai hefyd fod gan y person bolisi yswiriant a fydd yn cwmpasu costau'r angladd. Mewn achosion eraill, efallai bod angen i berthnasau fenthyg arian nes cael trefn ar arian ac eiddo'r person. Bydd rhai trefnwyr angladdau yn caniatau oedi'r taliad nes i hyn ddigwydd.

Mae yna rai pobl sydd ddim yn gadael digon o arian i dalu am hyd yn oed angladd syml. Os bydd hyn y digwydd, bydd y person sy'n trefnu'r angladd yn gorfod talu amdano, er efallai bod perthnasau neu ffriindiau eraill yn fodlon cyfrannu. Nid oes grant marwolaeth cyffredinol, ond os ydych yn y sefyllfa yma ac yn derbyn budd-dâl nawdd cymdeithasl sydd â phrawf moddion (fel cymhorthdal incwm) efallai y gallwch gael taliad gan y gronfa gymdeithasol (sef taliad angladd) i gwmpasu cost angladd syml. Hyd yn oed pan gwneir taliad angladd, efallai na fydd yn ddigon ar gyfer holl gost yr angladd ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â'r gronfa gymdeithasol, gweler Help i bobl ar incwm isel – Y Gronfa Gymdeithasol.

Os oedd y person a fu farw yn derbyn pensiwn anabledd rhyfel, bydd yr Asiantaeth Personel a Chyn-filwyr Gwasanaeth yn medru helpu gyda chost angladd syml. Cyfeiriad yr Asiantaeth yw:-

Norcross
Thornton Cleveleys
Lancashire
FY5 3WP
Llinell Gymorth: 0800 169 2277
E-bost: veterans.help@spva.gsi.gov.uk
Gwefan: www.veterans-uk.info/pensions/pensions.html

Dylai'r trefnwr angladdau roi amcanbris ysgrifenedig o gost yr angladd, ond efallai bydd y bil terfynol yn uwch. Bydd y bil yn cwmpasu costau claddu neu amlosgi, ffioedd y gwasanaeth a ffioedd proffesiynol a threfnwr angladdau. Bydd tâl hefyd am bethau ychwanegol, fel blodau, ceir, taflenni gwasanaeth a hysbysiadau yn y papur newydd.

Costau eraill

Efallai bod unrhyw un sy'n derbyn budd-dâl sy'n ddarostyngedig i brawf moddion (fel cymhorthdal incwm) yn medru derbyn help gan gronfa gymdeithasol yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) trwy fenthyciad cyllidebu tuag at gost teithio i angladd perthynas agos.

Os yw'r person sy'n talu am yr angladd yn derbyn budd-dâl sy'n ddarostyngedig i brawf moddion efallai y bydd yn bosib cael help o'r gronfa gymdeithasol drwy daliad angladd tuag at gost teithio i'r angladd.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â'r gronfa gymdeithasol, gweler Help i bobl ar incwm isel – Y Gronfa Gymdeithasol.

Trefnu angladd heb drefnwr angladdau

Rydych yn medru trefnu angladd heb help trefnwr angladdau. Os ydych yn dymuno gwneud hyn, cysylltwch ag Adran Mynwentydd ac Amlosgfeydd eich awdurdod lleol am gyngor ac arweiniad. Mae gwybodaeth a help ar gael gan The Natural Death Centre.

Angladd neu amlosgi

Gellir claddu mewn mynwent Eglwys Lloegr, mynwent awdurdod lleol neu fynwent breifat. Gellir claddu hefyd ar dir preifat, neu mewn safle coetir, er yng Ngogledd Iwerddon, bydd yn rhaid i'r awdurdod sy'n gyfrifol am y safle gymeradwyo hyn.

Mae gan unrhyw un sy'n byw o fewn y plwyf yr hawl i gael eu claddu ym mynwent y plwyf, os oes lle, neu mewn unrhyw dir claddu cyfagos. Efallai y bydd rhai eglwysi yn caniatau i eraill gael eu claddu yno hefyd (er enghraifft cyn-blwyfolion neu'r rheiny sydd a beddau teuluol). Nid oes hawl gennych i gael eich claddu mewn unrhyw ran penodol o fynwent neu dir claddu.

Nid oes hawl claddu tu mewn i'r eglwys mewn ardaloedd trefol ac anaml y caiff hyn ei ganiatau yn unman arall.

Mae'r rhan fwyaf o fynwentydd yn eiddo i awdurdodau lleol neu gwmnïau preifat ac maent yn anenwadol er bod rhai â safleoedd wedi eu cysegru i grwpiau crefyddol penodol. Yn achos mynwent awdurdod lleol, mae gan unrhyw un sy'n byw o fewn ardal yr awdurdod yr hawl i gael eu claddu yn y fynwent. Efallai bydd hawl gan eraill hefyd ond am dâl claddu uwch.

Yn y mwyafrif o fynwentydd mae yna gategorïau amrywiol o feddau. Mae yna rai beddau sydd ddim yn rhoi hawliau egsgliwsif i gladdedigaeth tra bod eraill yn rhoi'r hawl ar gyfer claddedigaeth egsgliwsif am gyfnod penodol o amser. Mae'n bwysig gwirio papurau'r person a fu farw i ddarganfod a ydynt eisoes wedi prynu lle mewn mynwent neu dir claddu coetirol. Er nad oes deddf yn gwahardd claddedigaeth ar dir preifat (gan gynnwys gardd) dylai unrhyw un sydd am wneud hyn gysylltu â'r awdurdod lleol a allai ryddhau tystysgrif yn cadarnhau bod y gladdedigaeth yn un gyfreithlon.

Institute of Cemetery and Crematorium Management

Mae Institute of Cemetery and Crematorium Management yn cynhyrchu siarter ar gyfer y rheiny sydd wedi cael Profedigaeth. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth ynghylch claddu ac amlosgi, gan gynnwys gwybodaeth ynghylch claddu ar dir preifat, er enghraifft, coetiroedd, tir fferm neu gerddi. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth ar angladdau heb drefnwyr angladdau, a materion amgylcheddol. Cyslltwch â Institute of Cemetery and Crematorium Management yn:

City of London Cemetery
Aldersbrook Road
Manor Park
London
E12 5DQ
Ffôn:  020 8989 4661
Ffacs: 020 8989 6112
Gwefan: www.iccm-uk.com

The Natural Death Centre

Gall y Ganolfan Marwolaeth Naturiol (Natural Death Centre) roi cyngor ar gladdedigaethau sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd ac hefyd ar angladdau sydd ddim yn ddrud ac sydd ddim angen gwasanaeth trefnwr angladdau. Dyma'r manylion cyswllt:-

In The Hill House
Watley Lane
Twyford
Winchester
SO21 1QX

Rhif Ffôn: 01962 712690
Ffacs: 020 7354 3831
E-bost: rosie@naturaldeath.org.uk
Gwefan: www.naturaldeath.org.uk

Yr awdurdod lleol sy'n rhedeg y mwyafrif o amlosgfeydd. Dim ond un amlosgfa sydd yng Ngogledd Iwerddon, yn Roselawn, a chaiff ei redeg gan Gyngor Dinas Belfast. Mae angen nifer o ffurflenni cyn y gellir cynnal amlosgiad, gan gynnwys tystysgrif gan feddyg, wedi'i arwyddo gan feddyg arall a ffurflen gais wedi'i chwblhau gan berthynas. Mae'r ffurflenni yma ar gael gan y trefwnr angladdau. Fel arfer, mae cost amlosgi yn llai na chost claddedigaeth. Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch ofyn am gael offeiriad, gweinidog neu glerigwr i gynnal gwasanaeth yn yr amlosgfa. Gall yr amlosgfa roi manylion cyswllt i chi os oes angen.

Gwasanaeth yr angladd

Gall y person sy'n trefnu'r angladd ddewis unrhyw fath o wasanaeth. Os nad ydych ym unrhyw fath o seremoni grefyddol, gall Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain roi cyngor ynglyn â gwasanaeth anghrefyddol (seciwlar). Cyfeiriad y gymdeithas yw:-

1 Gower Street
London WC1E 6HD
Rhif Ffôn: 020 7079 3580
Fax: 020 7079 3588
E-bost: info@humanism.org.uk
Gwefan: www.humanism.org.uk

Os nad ydych am wasanaeth o unrhyw fath, gall y trefnwr angladdau drefnu claddedigaeth neu amlosgiad heb unrhyw fath o wasanaeth.

Os, am ryw reswm, nad oes corff, gellir trefnu gwasanaeth coffa yn lle gwasanaeth angladd.

Gwaredu'r llwch

Gellir taenu'r llwch neu ei gladdu yn yr amlosgfa, naill ai gan staff yr amlosgfa neu gan berthnasau a ffrindiau. Gellir claddu'r llwch mewn mynwent hefyd, yn aml gyda gwasanaeth fer.

Yn gyffredinol, gellir taenu llwch yn unrhyw fan, ond os ydych am daenu llwch ar dir preifat dylech gael caniatâd y perchennog tir.

Er bod cyfraith y DU yn caniatau mynd â llwch dramor, mae gan rai gwledydd reolau llym ar fewnforio llwch ac mae'n bwysig sicrhau cyn teithio.

Cofebau

Mae gan fynwentydd reolau llym ynglyn â maint a math cofebau a ganiateir ac mae'n bwysig gwirio'r rheolau yma cyn archebu unrhyw beth. Fel arfer, mae gan mynwentydd Eglwys Lloegr fwy o reolau na mynwentydd awdurdod lleol. Mae rhai mynwentydd coetir yn caniatau placiau pren ond bydd y mwyafrif ond yn caniatau plannu coeden. Yng Ngogledd Iwerddon, dylech gysylltu â'ch gweinidog, clerigwr neu offeiriad y plwyf lleol cyn trefnu codi cofeb. Efallai y bydd angen cymeradwyo cynllun y gofeb.

Fel arfer, bydd y trefnwr angladdau yn gwneud cais i awdurdod y fynwent neu'r eglwys am ganiatâd i godi cofeb. Fel arfer bydd yr awdurdod yn codi tâl am roi caniatâd. Gellir cael enwau seiri coffa lleol gan Gymdeithas Cenedlaethol Seiri Coffa. Cyfeiriad y Gymdeithas yw:-

1 Castle Mews
Rugby
Warwickshire
CV21 2XL
Rhif Ffôn: 01788 542264
Ffacs: 01788 542276
Ebost: enquiries@namm.org.uk
Gwefan: www.namm.org.uk

Mae'r person sy'n codi cofeb yn gyfrifol am ei chynnal a'i chadw.

Yn yr amlosgfa, fel arfer bydd Llyfr Coffa a gall berthnasau dalu am gael eu cynnwys ynddo. Efallai y bydd hefyd yn bosib prynu clawdd coffa gyda phlac.

Os gofynnir i'r rheiny sy'n mynychu angladd gyfrannu at elusen, bydd y trefnwr angladdau yn casglu'r arian a'i anfon at yr elusen. Rhoddir rhestr o'r rhoddion i'r perthnasau.

Camesgor, genedigaethau marw, colli baban newydd-anedig a marwolaethau ameni

Camesgor

Camesgor yw colli babi cyn 24ain wythnos y beichiogrwydd. Nid oes angen cofrestru. Ond os yw’r baban yn byw am gyfnod byr, hyd yn oed, ar ôl cael ei eni, efallai y bydd angen i chi gofrestru’r enedigaeth a’r farwolaeth. Am fwy o wybodaeth, gweler Colli baban newydd-anedig a marwolaethau ameni.

Genedigaethau Marw

Mae baban sydd wedi’i eni'n farw yn faban a aned wedi 24ain wythnos y beichiogrwydd. Bydd meddyg neu fydwraig yn rhyddhau tystysgrif feddygol, gan nodi'r achos.

Rhaid i'r rhieni gyflwyno'r dystysgrif i'r Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau o fewn 42 diwrnod i eni'r baban. Yn yr Alban, y terfyn amser yw 21 diwrnod ac yng Ngogledd Iwerddon, y terfyn amser yw pum niwrnod.

Os yw'r rhieni'n briod, fe fydd y cofrestrydd angen manylion y ddau riant. Os nad yw'r rhieni'n briod, dim ond manylion y fam sydd angen ond mae'r tad yn medru rhoi ei fanylion.

Os ydych yn fenywaidd ac mewn partneriaeth sifil a ganed y plentyn trwy atgenhedlu â chymorth, fe fydd y cofrestrydd angen manylion y ddau bartner.

Mae'r cofrestrydd yn medru cyhoeddi tystysgrif marwolaeth, ond dim ond i'r fam, y tad neu bartner sifil y fam os yw eu manylion ar y cofrestriad neu i frodyr neu chwiorydd os yw'r rhieni wedi marw.

Mae llawer o drefnwyr angladdau ddim yn codi tâl am drefnu angladd plentyn a aned yn farw ac nid yw llawer o amlosgfeydd yn codi chwaith i am losgi na chladdu.

Yng Ngogledd Iwerddon, efallai y bydd Eglwysi Presbyteraidd neu Eglwysi Pabyddol Rhufeinig yn cynnig gwasanaeth ar gyfer genedigaethau marw. Dylech gysylltu â'ch gweinidog neu offeiriad am fwy o wybodaeth. Bydd yr Eglwys yn Iwerddon (Church of Ireland) yn darparu cefnogaeth fugeiliol i rieni ac yn trefnu seremoni addas ar gyfer genedigaethau marw, os gofynnir iddynt.

Colli baban newydd-anedig a marwolaethau ameni

Os yw’r baban yn byw am gyfnod byr, hyd yn oed, ar ôl cael ei eni, ac yna’n marw, gelwir hyn yn golli baban newydd-anedig neu’n farwolaeth ameni. Mae colli baban newydd-anedig yn golygu bod y baban yn marw o fewn 28 diwrnod i’r enedigaeth, faint bynnag oedd hyd y beichiogrwydd. Mae marwolaeth ameni yn golygu bod y baban yn cael ei eni ar ôl 24ain wythnos y beichiogrwydd, ond ei fod yn marw o fewn 7 diwrnod i’r enedigaeth.

Os yw’r baban yn byw hyd yn oed am amser byr ar ôl cael ei eni, rhaid cofrestru’r enedigaeth a'r farwolaeth. Pan fydd baban wedi marw o fewn mis i gael ei eni, gellir cofrestru'r enedigaeth a'r farwolaeth ar yr un pryd.

Cofrestrir yr enedigaeth yn y ffordd arferol. Cofrestrir y farwolaeth trwy fynd â'r dystysgrif marwolaeth at y Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau o fewn pum niwrnod i'r farwolaeth (wyth niwrnod yn yr Alban). Os nad yw hyn yn bosib, dylai'r ysbyty neu'r rhiant ffonio'r cofrestrydd ac esbonio'r sefyllfa, er enghraifft, bod y fam yn rhy sâl i fynychu.

Os yw'r rhieni'n briod, fe fydd y cofrestrydd angen manylion y ddau riant. Os nad yw'r rhieni'n briod, dim ond manylion y fam sydd angen ond mae'r tad yn medru rhoi ei fanylion.

Os ydych mewn partneriaeth sifil fenywaidd, a ganed y plentyn trwy atgenhedlu â chymorth, fe fydd y cofrestrydd angen manylion y ddau bartner.

Efallai y bydd y rhieni'n dal i fedru cael budd-dalidau fel Budd-dal Plant a Chredyd Treth Plant am wyth wythnos ar ôl marwolaeth y babi.

Am fwy o wybodaeth ynghylch budd-daliadau os yw'ch babi'n marw, gweler Budd-daliadau ar gyfer teuluoedd a phlant.

Dweud wrth y llywodraeth am y farwolaeth

Pan fydd rhywun yn marw, fel arfer mae’n rhaid i chi ddweud wrth sawl un o adrannau llywodraeth leol a’r llywodraeth yn ganolog, yn ogystal ag asiantaethau eraill y llywodraeth, er mwyn iddynt fedru diweddaru eu cofnodion.

Tell Us Once

Yn y mwyafrif o ardaloedd yng Nghymru a Lloegr, mae’r gwasanaeth Tell Us Once yn eich galluogi chi i ddweud wrth sawl un o adrannau ac asiantaethau’r llywodraeth, a’r awdurdod lleol, am y farwolaeth, ar yr un pryd. Er enghraifft, fe fydd Tell us Once yn eich helpu i ddweud wrth fwyafrif y swyddfeydd a oedd yn talu budd-daliadau i’r person a fu farw, am y farwolaeth, ac i ddweud wrth asiantaethau eraill y llywodraeth hefyd fel y Gwasanaeth Pasbort a’r DVLA. Rhaid i chi gofrestru’r farwolaeth yn gyntaf.

Fe allwch gysylltu â Tell Us Once wyneb-yn-wyneb trwy’r awdurdod lleol, drwy radffôn sy’n cael ei weithredu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP), neu ar-lein trwy wefan Directgov. Fe fydd y Cofrestrydd yn rhoi’r manylion cyswllt i chi pan fyddwch chi’n cofrestru’r farwolaeth, gan gynnwys cyfeirnod i’w ddefnyddio ar-lein.

I ddarganfod mwy am Tell Us Once ac i weld ble mae’r gwasanaeth ar gael, rhowch glic ar wefan Directgov.

Os nad yw’r gwasanaeth Tell Us Once ar waith yn eich ardal chi, fe fydd angen i chi gysylltu â phob mudiad perthnasol yn unigol.

Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau

Yng Nghymru a Lloegr, mae Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) yn eich galluogi chi i ddweud wrth y DWP am farwolaeth trwy un alwad ffôn, a fydd yn delio â phob un o’r budd-daliadau yr oedd y person a fu farw yn eu cael drwy’r DWP. Ar yr un pryd, mae’r Gwasanaeth Profedigaeth yn medru cynnal gwiriad budd-daliadau i weld os yw’r person agosaf at y person a fu farw yn medru hawlio unrhyw fudd-daliadau, ac mae hefyd yn medru derbyn cais am fudd-daliadau profedigaeth neu daliad angladd dros y ffôn.

Dyma fanylion cyswllt Gwasanaeth Profedigaeth y DWP:

Ffôn: 0845 606 0265

Ffôn Testun: 0845 606 0285

Ffôn: 0845 606 0275 (Cymraeg)

Ffôn Testun: 0845 606 0295 (Cymraeg).

Os ydych eisoes wedi dweud wrth wasanaeth Tell Us Once am y farwolaeth, ni fydd angen i chi ddweud wrth Wasanaeth Profedigaeth y DWP. Ond, fe allwch gysylltu â’r DWP hefyd os hoffech iddynt gynnal gwiriad budd-daliadau neu’ch helpu i geisio am fudd-daliadau profedigaeth.

Budd-daliadau profedigaeth

Yng Nghymru a Lloegr, mae budd-daliadau profedigaeth yn daliadau a wneir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (y DWP) i weddwon neu i’r partner sifil sydd wedi goroesi.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae Social Security Agency yn talu budd-daliadau profedigaeth i weddwon.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â budd-daliadau profedigaeth, gweler Budd-daliadau a Phrofedigaeth.

Ailgyfeirio post ar ôl i rywun farw

Fe allwch drefnu bod y swyddfa bost leol yn ailgyfeirio post rhywun sydd wedi marw. Efallai y bydd y swyddfa bost yn mynnu cael prawf fod awdurdod cyfreithiol gennych i wneud hyn. Efallai y byddai'n ddefnyddiol pe medrech ddangos tystysgrif marwolaeth a datganiad ysgrifenedig yn nodi bod hawl gennych i weithredu ar ran y person. Fe fydd yn rhaid i chi dalu ffi am ailgyfeirio'r post.

Fe allwch hefyd atal post diangen rhag cael ei anfon at rywun sydd wedi marw. Er mwyn gwneud hyn, fe allwch gofrestru manylion y farwolaeth gyda'r Gofrestr Brofedigaeth. Fe fydd cwmnïau sy'n gwirio'r Gofrestr Brofedigaeth yn tynnu manylion y person sydd wedi marw oddi ar restrau postio a chronfeydd data marchnata. Ond, ni fydd hyn yn atal post diangen gan gwmnïau sydd ddim yn gwirio'r gofrestr. Mae'r Gofrestr Brofedigaeth yn wasanaeth rhad ac am ddim.

Dyma'r manylion cyswllt ar gyfer y Gofrestr Brofedigaeth:

The Bereavement Register
Freepost SEA8240
Sevenoaks
TN13 1YR
Ffôn: 0870 600 7222
Ffacs: 0870 400 5644
Gwefan: www.the-bereavement-register.org.uk

Fe allwch hefyd ddefnyddio gwasanaeth o'r enw Mailing Preference Service (MPS) i atal post diangen rhag cael ei anfon at rywun sydd wedi marw.

Am fwy o wybodaeth ynghylch yr MPS, gan gynnwys manylion cyswllt, gweler Prynu nwyddau – eich hawliau.

Delio gydag eiddo'r person sydd wedi marw

Efallai y byddwch wedi cael y cyfrifoldeb o ddelio gydag eiddo'r person sydd wedi marw. Rhaid gwneud hyn yn unol â rheolau penodol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch y rheolau yng Nghymru a Lloegr, gweler Delio gyda materion ariannol rhywun sydd wedi marw.

Cyngor a chefnogaeth

Cymorth Cyffredinol

Am gynghori a chefnogaeth cyffredinol, cysylltwch â:

Cruse-Bereavement Care

Blwch Post 800
Richmond
Surrey
TW9 1RG
Llinell gymorth ddyddiol: 0844 477 9400 (Llun – Gwener 9.30yb – 5.00 yp)
Llinell gymorth am ddim i bobl ifanc: 0808 808 1677
Ffôn: 020 8939 9530 (swyddfa)
Ffacs: 020 8940 1671
e-bost: helpline@cruse.org.uk (llinell gymorth); info@rd4u.org.uk (llinell gymorth i bobl ifanc); info@crusebereavementcare.org.uk (cyffredinol).
Gwefan: www.crusebereavementcare.org.uk
Gwefan i bobl ifanc: www.rd4u.org.uk

Cruse (Gogledd Iwerddon)

Knockbracken health Care Park
Saintfield Road
Belfast BT8 8BH
Ffôn: 028 9079 2419
Ffacs: 028 9079 2474
E-bost: northern.ireland@cruse.org.uk
Gwefan: www.crusebereavementcare.org.uk

Gwasanaeth Profedigaeth Plant Barnardo’s

Mae’r Gwasanaeth Profedigaeth Plant yn darparu cymorth fel unigolion a grwpiau i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profedigaeth. Mae yna linell gyngor hefyd sy’n agored i unrhyw oedolyn sy’n poeni am blentyn sydd wedi cael profedigaeth. Darperir y gwasanaeth ar gyfer Gogledd Iwerddon yn bennaf, ond fe fydd yn rhoi cyngor a gwybodaeth dros y ffôn neu drwy e-bost i bobl unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Dyma’r manylion cyswllt:

23 Windsor Avenue
Belfast
BT9 6EE

Llinell Gyngor: 028 9066 8333
E-bost: catherine.meighan@barnardos.org.uk
Gwefan: www.barnardos.org.uk/childbereavementservice.htm

The WAY Foundation

Mae The WAY Foundation yn sefydliasd hunan-help i bobl sy'n 50 neu'n iau ac sy'n weddw. Dyma gyfeiriad eu gwefan: www.wayfoundation.org.uk.

Cymorth yn dilyn marwolaeth plentyn

Compassionate Friends

14 New King Street
Deptford
London
SE8 3HS

Llinell gymorth: 08451 232304
Rhif fôn (swyddfa): 08451 203785
E-bost: info@tcf.org.uk
Gwefan: www.tcf.org.uk

Llinell Gymorth Child Death Helpline

York House
37 Queen Square
London
WC1N 3BH

Llinell Gymorth: 0800 282 986
E-bost: contact@childdeathhelpline.org
Gwefan: www.childdeathhelpline.org.uk

The Foundation for the Study of Infant Deaths

11 Belgrave Road
London
SW1V 1RB
Llinell gymorth: 020 7233 2090
E-bost y llinell gymorth: helpline@fsid.org.uk
Gwefan: www.sids.org.uk/fsid

Cymorth wedi marwolaeth partner o'r un rhyw

Lesbian and Gay Bereavement Project

Llinell gymorth: 020 7403 5969 (Mawrth, Iau, 7.30yh – 10yh)

Cymorth wedi geni baban yn farw

The Stillbirth and Neonatal Death Society (SANDS)

28 Portland Place
London W1B 1LY
Llinell gymorth: 020 7436 5881
E-bost: support@uk-sands.org
Gwefan: www.uk-sands.org

Cymorth wedi colli baban

The Miscarriage Association

C/O Clayton Hospital
Northgate
Wakefield
W Yorkshire WF1 3JS
Ffôn: 01924 200 799
E-bost: info@miscarriageassociation.org.uk
Gwefan: www.miscarriageassociation.org.uk

Cymorth yn dilyn hunanladdiad

Survivors of Bereavement by Suicide

The Flamsteed Centre
Albert Street
Ilkeston
Derbyshire DE7 5GU
Llinell Gymorth Genedlaethol: 0844 561 6855
Ffôn: 0115 944 1117
E-bost: sobs.admin@care4free.net
Gwefan: www.uk-sobs.org.uk/index.htm

Did this advice help?