Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Beth sy’n digwydd i’ch cartref pan fyddwch chi’n gwahanu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n byw gyda’ch partner, bydd angen i chi benderfynu beth i’w wneud gyda’ch cartref pan fyddwch chi’n gwahanu. Mae’ch opsiynau yn dibynnu ar a ydych chi’n ddi-briod, wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil, ac a ydych chi’n rhentu neu os oes gennych forgais.

Os ydych chi eisoes wedi ceisio datrys pethau gyda’ch cyn-bartner ac yn ei chael hi’n anodd, gallwch gael cymorth i ddod i gytundeb. Gall arbenigwr o’r enw ‘cyfryngwr’ eich helpu chi a’ch partner i ddod o hyd i ateb heb orfod mynd i’r llys.

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n ofidus neu eich bod chi’n teimlo dan fygythiad, dylech ofyn am gymorth.

Peidiwch â cheisio cytuno ar beth i’w wneud am eich cartref heb siarad gyda rhywun yn gyntaf.

Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.

Elusen yw’r Men's Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.

Os ydych chi’n dal i fyw gyda’ch gilydd

Gallwch ill dau aros yn y cartref ar ôl i chi wahanu, ond os ydych chi’n bwriadu ysgaru bydd angen i chi brofi eich bod yn byw bywydau ar wahân. I wneud hyn, dylech:

  • fod ag ystafelloedd gwely ar wahân
  • osgoi bwyta neu gymdeithasu gyda’ch gilydd
  • cael cyfrifon banc ar wahân – yn enwedig os ydych chi’n cael budd-daliadau ar y cyd i un cyfrif banc

Os ydych chi’n rhentu

Os ydych chi’ch dau am adael, bydd angen i chi ddod â’ch tenantiaeth i ben – sef ‘rhoi rhybudd’. Dyma sut mae dod â'ch tenantiaeth i ben.

Os mai dim ond un ohonoch chi sydd am symud allan, bydd angen i chi ystyried pa fath o denantiaeth sydd gennych chi i ddechrau.

Os ydych chi wedi arwyddo am gyfnod penodol, mae gennych chi ‘gontract tymor penodol’.

Os nad oes gan eich contract gyfnod penodol neu ddyddiad dirwyn i ben, mae’n debyg y byddwch ar ‘gontract treigl’.

Gallwch hefyd weld pa denantiaeth sydd gennych chi gyda gwiriwr tenantiaeth Shelter.

Bydd angen i chi hefyd edrych ar ein cytundeb tenantiaeth i weld enw pwy sydd arno.

Os ydych chi’ch dau yn cael eich enwi fel tenantiaid, byddwch yn ‘denantiaid ar y cyd’ a bydd gennych yr un hawliau. Os oes un ohonoch chi wedi’i enwi fel ‘preswylydd’, ni fydd gennych chi’r un hawliau.

Os yw’ch cyn-bartner yn symud allan, gallant symud yn ôl i mewn ar unrhyw adeg tra’u bod wedi’u henwi fel tenant ar y contract. Os ydych chi’n symud allan, bydd dal disgwyl i chi dalu’r rhent os ydych chi dal wedi’ch enwi ar y denantiaeth.

Dylech geisio gofalu bod eich cytundeb tenantiaeth wedi’i ddiweddaru os yw’r naill neu’r llall yn gadael. Mae sut a phryd y gallwch chi wneud hyn yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych chi, pwy arall sydd wedi’u henwi ar y denantiaeth a disgresiwn eich landlord.

Os oes gennych chi denantiaeth tymor penodol

Os ydych chi’n denantiaid ar y cyd bydd angen i chi benderfynu pwy sy’n symud allan. Gofynnwch i’ch landlord a yw’n fodlon rhentu i’r person sy’n bwriadu aros – os yw’n cytuno, gofynnwch i’r landlord nodi hyn ar bapur.

Yna, bydd angen i’ch landlord ddod â’r denantiaeth ar y cyd i ben a dechrau un newydd gyda’r person sy’n aros. Bydd disgwyl i chi’ch dau dalu rhent tan i’r denantiaeth newydd ddechrau.

Gallwch wneud cais i ‘drosglwyddo tenantiaeth’ os yw’ch landlord yn gwrthod newid eich contract - gorchymyn llys yw hwn a all newid tenantiaeth eich cyn-bartner i’ch enw chi, neu ddileu ei enw oddi ar denantiaeth ar y cyd.

Bydd angen i chi fynd i’r llys i drosglwyddo tenantiaeth, felly mae’n syniad da ceisio dod i gytundeb gyda’r partner gyntaf os gallwch chi. Os ydych ch’n ysgaru, fel arfer gallwch gynnwys trosglwyddo tenantiaeth yn eich achos ysgaru.

Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi am wneud cais i drosglwyddo tenantiaeth - gall cynghorydd egluro’r broses i chi a’ch helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr.

Os mai dim ond un person sydd wedi’i enwi ar y contract

Gofynnwch i’ch landlord newid yr enw ar y contract os yw’r person a enwir am adael – gelwir hyn yn ‘drosglwyddiad’.

Gallwch wneud cais i drosglwyddo tenantiaeth os yw’ch landlord yn gwrthod newid eich contract. Bydd angen i chi fynd i’r llys.

Fel arfer, dydy hi ddim yn werth mynd i’r llys i drosglwyddo os oes gennych chi denantiaeth fyrddaliol – oni bai bod eich landlord yn gymdeithas dai.

Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth i drosglwyddo’ch tenantiaeth, neu os nad ydych chi’n siŵr ydy hynny’n cael ei ganiatáu.

Os oes gennych chi denantiaeth dreigl

Os ydych chi’n denantiaid ar y cyd a bod y ddau ohonoch chi am adael, gallwch chi a’ch cyn-bartner ddod â'r denantiaeth i ben drwy roi rhybudd – 28 diwrnod fel arfer. Bydd angen i chi’ch dau symud allan.

Os oes un ohonoch chi’n bwriadu aros yno, mae’n syniad da fel arfer egluro hyn i’ch landlord neu gymdeithas dai a gofyn iddynt ddiweddaru’r cytundeb tenantiaeth.

Fel arall, rydych chi’ch dau dal yn gyfrifol am y rhent a gall y person sy’n gadael dal roi rhybudd i ddod â’r denantiaeth i ben. Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am dŷ cymdeithasol, efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod os ydych chi dal wedi’ch enwi ar gytundeb tenantiaeth arall.

Efallai y bydd eich landlord am ddod â’r denantiaeth ar y cyd i ben a dechrau un newydd gyda’r person sy’n aros. Os ydych chi’n aros, meddyliwch a ydynt yn debygol o rentu i chi cyn gofyn am gael siarad gyda nhw – er enghraifft, os ydych chi wedi bod yn hwyr yn talu’ch rhent yn y gorffennol.

Gallwch wneud cais i ‘drosglwyddo tenantiaeth’ os yw’ch landlord yn gwrthod newid eich contract - gorchymyn llys yw hwn all newid tenantiaeth eich cyn-bartner i’ch enw chi, neu dynnu ei enw oddi ar denantiaeth ar y cyd.

Fel arfer, dydy hi ddim yn werth mynd i’r llys os oes gennych chi denantiaeth fyrddaddiol sicr – oni bai mai cymdeithas dai yw eich landlord.

Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf cyn mynd ymhellach os ydych chi’n bryderus y gallai’ch landlord wrthod dechrau tenantiaeth newydd gydag un ohonoch chi. Pan fyddwch yn siarad â chynghorydd, ewch â chopi o’ch cytundeb tenantiaeth gyda chi os gallwch chi.

Os yw’ch cyn-bartner am ddod â’r denantiaeth i ben

Gallwch geisio atal hyn rhag digwydd os ydych chi am aros. Bydd angen i chi wneud cais i lys am waharddeb cyn i’ch partner roi rhybudd - gall hyn fod yn gymhleth, felly mae’n syniad da cael cymorth cyfreithiol i wneud cais am waharddeb.

Os ydych chi’n berchen ar eich cartref

Mae gennych chi’r hawl i aros yn y cartref os ydych chi’n briod, mewn partneriaeth sifil neu ar y ‘gweithredoedd eiddo’ – y ddogfen sy’n profi pwy sy’n berchen ar eich cartref.

Os ydych chi’ch dau ar y gweithredoedd eiddo, mae’n golygu eich bod chi’ch dau yn berchen ar yr eiddo. Bydd angen i chi’ch dau benderfynu beth sy’n digwydd i’ch cartref.

Efallai eich bod eich dau yn berchen ar yr eiddo cyfan gyda’ch gilydd - sef ‘tenantiaeth ar y cyd’. Bydd angen i chi fynd i sesiwn cyfryngu neu at gyfreithiwr os na allwch chi gytuno ar ba gyfran y byddwch chi’ch dau yn ei chael - y man cychwyn fel arfer yw y byddwch yn cael hanner yr un.

Efallai eich bod chi’ch dau yn berchen ar ran o’r eiddo – er enghraifft, hanner yr un – sef ‘tenantiaeth gydradd’.

Os ydych chi’n denantiaid cydradd, efallai y bydd eich cyfreithiwr wedi rhoi dogfen i chi yn dangos faint o gyfran roeddech chi’ch dau yn berchen arni pan brynwyd y cartref. Os nad oes gennych chi unrhyw beth ar bapur i ddangos faint rydych chi’ch dau yn berchen arno, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol.

Os ydych chi’ch dau am adael, gallwch werthu’r cartref a rhannu unrhyw elw (yr ‘ecwiti’) - gallwch gael cymorth i werthu’ch cartref

Efallai y gallwch brynu cyfran eich cyn-bartner os ydych chi am aros, neu werthu eich cyfran chi iddynt os ydych chi am adael. Byddwch angen morgais.

Gallwch siarad â’ch benthycwr morgais - neu gallwch geisio dod o hyd i forgais gyda benthycwr arall. Gallwch wneud hyn drwy siarad â banciau neu gymdeithasau adeiladu eich hun neu drwy frocer morgais. Bydd rhai broceriaid morgais yn codi ffi arnoch chi.

Fel arfer, bydd eich benthycwr morgais am gadarnhau bod y person sydd am aros yn gallu fforddio’r morgais cyfan ar ei ben ei hun. Fel arfer, byddant yn gofyn am gael gweld tystiolaeth fel slipiau cyflog a chyfriflenni.

Bydd angen i chi gysylltu â chyfreithiwr i drosglwyddo perchnogaeth ar y gofrestrfa tir. Gofalwch eich bod yn gallu cael morgais ar eich pen eich hun yn gyntaf – fel arall gallech wastraffu arian ar gyfreithiwr.

Os ydych chi’ch dau wedi’ch enwi ar y morgais, rydych chi’ch dau yn gyfrifol am y taliadau – gan gynnwys unrhyw ôl-ddyledion – hyd yn oed os oes un ohonoch chi yn symud allan.

Cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n meddwl prynu neu werthu cyfran o’ch cartref. Gall cynghorydd egluro’r broses a’ch helpu i benderfynu beth sydd orau i chi.

Os nad ydych chi wedi’ch enwi ar y gweithredoedd eiddo

Efallai y byddwch chi dal yn gallu profi eich hawl i’r cartref os ydych chi’n gallu dangos bod gennych chi ‘fuddiant llesiannol’. Fel arfer, mae hyn yn golygu eich bod wedi cyfrannu at y cartref mewn ffyrdd heblaw am dalu’r morgais yn uniongyrchol - er enghraifft, drwy dalu biliau neu’r dreth gyngor.

Yn y llys, bydd angen i chi ddangos i farnwr sut rydych chi wedi cyfrannu at dalu am y cartref – gall hyn fod yn anodd, felly cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf cyn i chi ddechrau. Gall cynghorydd eich helpu drwy’r broses.

Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil, mae’n syniad da cofrestru eich 'hawliau cartref priodasol' ar-lein. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n cael clywed os yw’ch cyn-bartner yn ceisio gwerthu’r tŷ neu fod y benthycwr morgais yn ceisio ei ailfeddiannu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.