Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Defnyddio gwasanaeth cyfryngu i’ch helpu i wahanu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae cyfryngu yn ffordd gost-effeithiol o ddatrys unrhyw anghytuno gyda’ch cynbartner am arian, eiddo neu blant.

Dylech geisio siarad â chyfryngwr pan fyddwch chi’n gwahanu. Gallwch fynd yn syth at gyfreithiwr, ond y cwestiwn cyntaf y byddant yn ei ofyn yn aml yw a ydych chi wedi rhoi cynnig ar gyfryngu.

Hyd yn oed os ydych chi’n gorfod mynd i’r llys yn y pen draw i ddatrys eich gwahaniaethau barn, fel arfer bydd angen i chi brofi eich bod wedi bod mewn cyfarfod gwybodaeth ac asesu cyfryngu (MIAM). Cyfarfod cyflwyniadol yw hwn i egluro beth yw cyfryngu a sut gallai’ch helpu.

Mae eithriadau pan nad oes rhaid i chi fynd i sesiwn gyfryngu gyntaf - er enghraifft, os ydych chi wedi dioddef cam-drin domestig.

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu dan fygythiad, dylech ofyn am gymorth.

Does dim rhaid i chi fynd at wasanaeth cyfryngu i’ch helpu i ddod â’ch perthynas i ben.

Gallwch ffonio Refuge neu Cymorth i Ferched ar 0808 2000 247 ar unrhyw adeg.

Elusen yw’r Men’s Advice Line sy’n helpu dynion sy’n dioddef cam-drin domestig. Gallwch ffonio eu llinell gymorth ar 0808 801 0327 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w wneud nesaf, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Mae’n well ceisio dod i gytundeb drwy gyfryngu os ydych chi’n gallu gwneud hynny – gallech chi arbed miloedd o bunnoedd mewn ffioedd cyfreithiol.
Os nad yw eich cynbartner am weld cyfryngwr, dylech fynd i’r MIAM ar eich pen eich hun. Yna, byddwch yn gallu profi eich bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu os ydych chi am fynd i lys yn ddiweddarach. Allwch chi ddim gorfodi eich cynbartner i fynd i wasanaeth cyfryngu.

Gweler y daflen ar gyfryngu i deuluoedd ar GOV.UK am ragor o wybodaeth am sut mae cyfryngu yn gweithio, a beth sy’n digwydd mewn MIAM.

Gallwch weld eich cyfryngwr teuluol agosaf ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teuluol.

Faint mae cyfryngu yn ei gostio

Dyw cyfryngu ddim yn wasanaeth rhad ac am ddim, ond mae’n gynt ac yn rhatach na mynd i’r llys. Os ydych chi ar incwm isel, fe allech chi gael cymorth cyfreithiol i dalu am:

  • y MIAM – mae hyn ar gyfer y ddau ohonoch chi, hyd yn oed os mai dim ond un ohonoch chi sy’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol
  • sesiynau cyfryngu ar gyfer y person sy’n gymwys
  • help gan gyfreithiwr ar ôl y cyfryngu, er enghraifft, i wneud eich cytundeb yn un gyfreithiol rwymol

Ystyr hynny yw bod yn rhaid i chi gadw at delerau’r cytundeb yn ôl y gyfraith.

Edrychwch i weld a ydych chi'n gymwys am gymorth cyfreithiol ar GOV.UK.

Os nad ydych chi’n gymwys am gymorth cyfreithiol

Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu £30 am MIAM, er y bydd y cyfarfod cyntaf am ddim o bryd i’w gilydd. Fel arfer, bydd sesiynau dilynol yn costio tua £80 yr un i chi a’ch partner – ac mae angen i’r rhan fwyaf o bobl fynd 3 i 4 gwaith.

Mae cost cyfryngu yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw. Ffoniwch o gwmpas i ddod o hyd i’r pris gorau, ond cofiwch nad y rhataf yw’r gorau bob tro.

Mae rhai cyfryngwyr yn seilio eu prisiau ar faint rydych chi’n ei ennill – felly efallai y byddwch chi’n talu llai os ydych chi ar incwm isel.

Os ydych chi am gadw costau cyfryngu i lawr, ceisiwch gytuno cymaint ag y gallwch chi gyda’ch cynbartner cyn dechrau. Gallech chi hefyd gytuno ar nifer penodol o sesiynau gyda’ch cyfryngwr - gallai hyn eich helpu chi a’ch cynbartner i ganolbwyntio ar ddod i ddatrysiad cynt.

Cyn ichi fynd i’r cyfryngu

Cofiwch feddwl beth rydych chi am ei gael o’r cyfryngu cyn i chi ddechrau. Mae cyfryngu yn fwy tebygol o lwyddo os ydych chi’n gallu treulio’r sesiynau yn canolbwyntio ar y pethau rydych chi wir yn anghytuno arnynt.

Os ydych chi’n ceisio dod i gytundeb am arian neu eiddo, bydd angen i chi lenwi datgeliad ariannol pan fyddwch chi’n mynd i’r cyfryngu. Mae hwn yn dangos faint o arian sydd gennych chi’n mynd allan ac yn dod i mewn.

Dechreuwch gasglu biliau a chyfriflenni gyda’ch gilydd. Bydd angen i chi fod yn barod i ddweud faint o arian sydd gennych chi mewn cyfrifon banc ac ar beth rydych chi’n gwario, fel trafnidiaeth, cyfleustodau a bwyd.

Gallwch weld enghraifft o ffurflen datgeliad ariannol ar wefan Mediation First. Bydd rhai cyfryngwyr yn anfon y ffurflen fel hon atoch cyn eich apwyntiad cyntaf.

Mae’n bwysig eich bod chi a’ch cynbartner yn onest wrth siarad am eich sefyllfaoedd ariannol. Os yw’ch cynbartner yn darganfod yn ddiweddarach eich bod wedi ceisio cuddio rhywbeth, bydd unrhyw gytundeb rhyngoch chi’n annilys. Gall eich cynbartner fynd â chi i’r llys am gyfran mwy o’ch arian.

Beth sy’n digwydd mewn sesiwn gyfryngu

Byddwch chi, eich cynbartner a chyfryngwr wedi’i hyfforddi yn eistedd gyda’ch gilydd fel arfer i drafod eich gwahaniaethau barn. Gallwch eistedd mewn gwahanol ystafelloedd os yw’n well gennych chi a gofyn i’r cyfryngwr fynd yn ôl ac ymlaen rhwng y naill a’r llall. Gelwir hyn yn ‘gyfryngu gwennol’.

Mae cyfryngu gwennol yn cymryd mwy o amser, felly bydd yn ddrutach fel arfer.

Ni all y cyfryngwr roi cyngor cyfreithiol, ond gall:

  • wrando ar safbwyntiau’r naill ochr a’r llall – ni fyddant yn ochri
  • helpu i greu awyrgylch hamddenol lle gallwch ddod i gytundeb sy’n bodloni’r naill ochr a’r llall
  • awgrymu camau ymarferol i’ch helpu i gytuno ar bethau

Mae popeth y byddwch chi’n ei ddweud mewn sesiwn gyfryngu yn gyfrinachol.

Os oes gennych chi blant, fel arfer bydd eich cyfryngwr yn canolbwyntio ar beth sydd orau ar eu cyfer nhw a’u hanghenion. Gallai’r cyfryngwr hyd yn oed siarad gyda’ch plant os ydynt yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny.

Ar ddiwedd eich cyfryngu

Bydd eich cyfryngwr yn ysgrifennu ‘memorandwm dealltwriaeth’ - sef dogfen sy’n dangos yr hyn rydych chi wedi cytuno arno. Bydd y ddau ohonoch chi’n cael copi.

Os yw’ch cytundeb am arian neu eiddo, mae’n syniad da mynd â’ch memorandwm dealltwriaeth at gyfreithiwr a gofyn iddo ei droi yn ‘orchymyn cydsynio’. Mae hyn yn golygu y gallwch fynd â’ch cynbartner i’r llys os nad yw’n cadw at rywbeth y cytunwyd arno.

Gallwch wneud cais am orchymyn cydsynio cyn gynted ag y byddwch chi wedi dechrau’r broses o ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben. Mae angen i farnwr ei gymeradwyo mewn llys – bydd hyn yn costio £50. Bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd eich cyfreithiwr.

Edrychwch i weld a allwch chi gael cymorth cyfreithiol i dalu’ch costau yn GOV.UK.

Os nad ydych chi’n gallu dod i gytundeb drwy gyfryngu

Dylech ofyn i gyfreithiwr os na allwch chi ddod i gytundeb â’ch cynbartner drwy gyfryngu. Bydd yn dweud wrthych chi beth i’w wneud nesaf.

Dewch o hyd i’ch cyfreithiwr agosaf ar wefan Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Os ydych chi’n anghytuno ynglŷn â beth ddylai ddigwydd i’ch plant, gallai cyfreithiwr awgrymu eich bod yn dal ati i geisio dod i gytundeb rhwng eich gilydd.

Fel arfer, ni fydd llysoedd yn penderfynu gyda phwy mae plentyn yn byw neu’n treulio eu hamser os ydynt yn credu y gall y rhieni ddatrys hyn rhwng ei gilydd. Gelwir hyn yn ‘egwyddor dim gorchymyn’.

Gallech geisio llunio cynllun rhianta. Cofnod ysgrifenedig ac ar-lein yw hwn o sut rydych chi a’ch cynbartner yn gofalu am eich plant - gallwch lunio cynllun rhianta ar-lein ar wefan Put Kids First.

Os ydych chi’n anghytuno am arian neu eiddo a’ch bod wedi rhoi cynnig ar gyfryngu, mae’n debyg y bydd cyfreithiwr yn awgrymu eich bod yn cael trefn ar bethau mewn llys.

Os byddai’n well gennych chi osgoi mynd i’r llys, gallech roi cynnig ar:

  • sesiwn ‘cyfraith gydweithredol’ – bydd gennych chi a’ch partner gyfreithwyr yn yr ystafell yn cydweithio i ddod i gytundeb
  • sesiwn cymrodeddu teuluol - mae cymrodeddwr fel barnwr i raddau - bydd yn edrych ar y pethau rydych chi a’ch cynbartner yn cytuno arnynt ac yn gwneud penderfyniad

Gall y ddau opsiwn yma fod yn ddrud, ond fe allent fod yn rhatach na mynd i’r llys. Mae’n syniad da cael cyngor gan gyfreithiwr cyn rhoi cynnig ar y naill neu’r llall.

Cyfraith gydweithredol

Gyda chyfraith gydweithredol, bydd gennych chi a’ch cynbartner eich cyfreithwyr eich hunain. Bydd y pedwar ohonoch chi’n cyfarfod yn yr un ystafell ac yn gweithio gyda’ch gilydd i ddod i gytundeb.

Bydd angen i chi dalu ffioedd eich cyfreithwyr, sy’n gallu bod yn ddrud. Bydd faint y byddwch chi’n ei dalu yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw ac i ba raddau rydych chi a’ch cynbartner yn anghytuno.

Cyn i chi ddechrau sesiynau cyfraith gydweithredol, mae’n rhaid i bawb lofnodi contract yn dweud y byddwch chi’n ceisio dod i gytundeb. Os nad ydych chi’n gallu dod i gytundeb o hyd a’ch bod yn penderfynu mynd i’r llys, bydd angen i chi ddod o hyd i gyfreithiwr gwahanol - ni allwch ddefnyddio’r un cyfreithiwr.

Ar ôl i chi ddod i gytundeb drwy gyfraith gydweithredol, fel arfer bydd eich cyfreithwyr yn drafftio ‘gorchymyn cydsynio’ – cytundeb rhwymol gyfreithiol yw hwn am eich sefyllfaoedd ariannol.

Os nad ydych chi’n barod eto i wneud cais am ysgariad neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben, gallant gofnodi eich trefniadau fel ‘cytundeb gwahanu’.

Dydy cytundeb gwahanu ddim yn rhwymol gyfreithiol. Fodd bynnag, fel arfer byddwch yn gallu ei ddefnyddio yn y llys:

  • os yw wedi’i ddrafftio’n iawn, er enghraifft gan gyfreithiwr
  • os yw eich sefyllfaoedd chi a’ch cynbartner yr un fath ag yr oeddynt pan wnaethoch y cytundeb

Dewch o hyd i gyfreithiwr cydweithredol ar wefan Resolution.

Os ydych chi’n poeni am gost cyfreithiwr

Gall cyfreithwyr fod yn ddrud iawn – dros £150 yr awr weithiau. Paratowch yr hyn rydych chi am ei drafod cyn i chi siarad â nhw i gadw’ch sesiwn mor fyr â phosibl.

Mae rhai cyfreithwyr yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim am 30 munud - defnyddiwch yr amser hwn i gasglu cymaint o wybodaeth ag y gallwch. Rydych chi’n annhebygol o gael cyngor manwl, ond dylech gael syniad o ba mor gymhleth yw eich achos a brasamcan o faint y bydd yn ei gostio.

Gallech ofyn i’ch cyfreithiwr a fyddent yn fodlon gwneud y gwaith am ffi benodol fel eich bod yn gwybod o’r dechrau faint fydd y ffioedd cyfreithiol. Does dim rhaid iddynt gytuno i hyn.

Cymrodeddu teuluol

Cymrodeddu teuluol yw’r opsiwn olaf os ydych chi am osgoi gorfod mynd i’r llys.

Mae ychydig fel mynd i’r llys, ond mewn sesiwn gymrodeddu teuluol bydd cymrodeddwr yn dod i benderfyniad yn seiliedig ar eich amgylchiadau - nid barnwr. Chi a’ch cynbartner fydd yn dewis y cymrodeddwr rydych chi am ei gael. Gallwch hefyd ddewis ble fydd y gwrandawiad.

Mae penderfyniad cymrodeddwr yn rhwymol gyfreithiol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi gadw at delerau’r cytundeb yn ôl y gyfraith.

Gall cymrodeddu teuluol fod yn opsiwn da os ydych chi a’ch cyn-bartner:

  • am gael penderfyniad cyflym - gall gymryd dros flwyddyn i aros am wrandawiad llys o bryd i’w gilydd, lle gallai cymrodeddwr ddechrau llawer cynt fel arfer
  • yn methu dod i gytundeb drwy gyfryngu neu drwy ddefnyddio cyfreithwyr – ond am osgoi’r llys
  • am i rywun arall wneud y penderfyniad ar eich rhan, yn hytrach na gorfod trafod eich hun

Dyw cymrodeddu ddim yn rhad a fyddwch chi ddim yn gallu cael cymorth cyfreithiol ar ei gyfer, ond gall fod yn rhatach na mynd i’r llys. Mae llys yn costio miloedd o bunnoedd.

Gall achos cymrodeddu syml gostio £1,000, ond gallech orfod talu llawer mwy - mae’r union swm yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a faint y bydd yn ei gymryd i ddod i gytundeb.

Mae’n syniad da siarad â chyfreithiwr cyn penderfynu ar gymrodeddu - gallant ddweud wrthych chi a yw’n iawn ar eich cyfer chi, ac efallai argymell cymrodeddwr teuluol lleol da.

Gallwch hefyd ddod o hyd i gymrodeddwr teuluol ar-lein ar wefan yr Institute of Family Law Arbitrators.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.