Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Dod â phartneriaeth sifil i ben

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi am ddod â’ch partneriaeth sifil i ben bydd angen i chi gael caniatâd gan lys.

Gallwch ofyn i’r llys roi:

  • gorchymyn diddymu – os yw’ch partneriaeth sifil wedi para o leiaf flwyddyn
  • gorchymyn gwahanu – os yw’ch partneriaeth sifil wedi para llai na blwyddyn
  • dirymiad - os nad oedd eich partneriaeth yn gyfreithiol

Os nad ydych chi'n Ddinesydd Prydain, gall dod â phartneriaeth sifil i ben effeithio ar eich hawl i aros yn y DU.

Os oes gennych chi blant, bydd yn rhaid i chi wneud trefniadau ar gyfer y plant pan fyddwch chi’n dod â phartneriaeth sifil i ben. Efallai y byddwch chi hefyd angen gwneud trefniadau ariannol neu ddatrys problemau tai.

Gorchmynion diddymu

Os ydych chi am ddiddymu eich partneriaeth sifil, bydd angen i chi wneud cais i lys am orchymyn diddymu. Mae’n rhaid i’ch partneriaeth sifil fod wedi para o leiaf flwyddyn cyn i chi allu gwneud cais i’w ddiddymu. Mae’n rhaid i chi brofi i’r llys bod y bartneriaeth sifil wedi chwalu’n ‘anadferadwy’ – bod y berthynas wedi chwalu am byth. Mae’n rhaid i chi allu profi o leiaf un o’r pethau canlynol:

  • bod eich partner wedi ymddwyn yn afresymol
  • eich bod chi a’ch partner wedi byw ar wahân am ddwy flynedd, a bod y naill a’r llall wedi cytuno ar y diddymu
  • eich bod chi a’ch partner wedi byw ar wahân am o leiaf bum mlynedd, os mai dim ond un ohonoch chi sy’n cytuno i’r diddymu
  • bod eich partner wedi’ch gadael o leiaf ddwy flynedd yn ôl.

Sut mae gwneud cais am orchymyn diddymu

Bydd angen i chi lenwi ffurflen ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk. Mae’r ffurflenni hefyd ar gael o’r Llys Teulu agosaf sy’n ymdrin â diddymu partneriaeth sifil. I ddod o hyd i’ch Llys Teulu agosaf, chwiliwch am ‘lysoedd’ yn eich llyfr ffôn neu ewch i wefan GOV.UK yn www.gov.uk.

Os yw’ch partner yn cytuno i ddiddymu eich partneriaeth sifil, bydd y llys yn edrych ar y papurau ac yn gwneud gorchymyn diddymu amodol. Bydd y diddymu yn cael ei derfynu chwe wythnos o ddyddiad y gorchymyn amodol.

Os nad yw eich partner yn cytuno i’r diddymu, dylech ymgynghori â chyfreithiwr. Gall ffioedd cyfreithiol fod yn uchel iawn felly mae’n syniad da ceisio cytuno cyn mynd i’r llys. Efallai y gallwch chi gael cymorth cyfreithiol.

Am ragor o wybodaeth am gymorth cyfreithiol, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Gorchmynion gwahanu

Os ydych chi am wahanu o’ch partner sifil ond ddim am ddiddymu’r bartneriaeth sifil (neu mae wedi bod yn llai na blwyddyn ers i chi gofrestru’ch partneriaeth sifil), gallwch wneud cais i lys am orchymyn gwahanu.

Does dim rhaid i chi aros am flwyddyn ar ôl cofrestru’r bartneriaeth sifil tan i chi allu gwneud cais am orchymyn gwahanu a does dim rhaid i chi fod wedi byw ar wahân i’ch partner gyntaf. Fodd bynnag, ni fydd yr un ohonoch chi yn rhydd i gofrestru partneriaeth sifil arall (na phriodi) os nad ydych chi’n cael gorchymyn diddymu.

Gallwch gael gorchymyn gwahanu gan y Llys Teulu. Bydd y Llys Teulu yn rhoi gorchymyn gwahanu i chi os ydych chi’n gallu profi o leiaf un o’r pethau canlynol:

  • bod eich partner wedi ymddwyn yn afresymol
  • eich bod chi a’ch partner wedi byw ar wahân am ddwy flynedd, a bod y naill ochr a’r llall wedi cytuno ar y diddymu
  • eich bod chi a’ch partner wedi byw ar wahân am o leiaf bum mlynedd, os mai ond un ohonoch chi sy’n cytuno i’r diddymu
  • mae eich partner wedi’ch gadael o leiaf ddwy flynedd yn ôl.

Os ydych chi’n cael gorchymyn gwahanu a’ch bod am wneud cais am orchymyn diddymu yn ddiweddarach, does dim yn eich atal rhag gwneud hynny. Byddwch yn gallu defnyddio’r un dystiolaeth i gael y gorchymyn gwahanu ac ni fydd rhaid i chi brofi’r un pethau eto.

Beth sy’n cyfrif fel ymddygiad afresymol

Mae ymddygiad afresymol yn golygu na ellid disgwyl i chi fyw gyda’ch partner sifil mwyach. Gallai ymddygiad afresymol gynnwys:

  • creulondeb corfforol a meddyliol i chi a’ch plant
  • cam-drin geiriol
  • diofalwch ariannol
  • meddwdod
  • bod yn anffyddlon yn rhywiol
  • trosglwyddo mathau penodol o glefydau a drosglwyddir yn rhywiol.

Efallai bod sawl achos o ymddygiad afresymol wedi bod yn ystod y bartneriaeth sifil. Nid yw pob achos ar ei ben ei hun yn gorfod bod yn ddifrifol. Gall cyfnod hir o ddigwyddiadau llai difrifol fod yn ddigon i ddod â phartneriaeth sifil i ben. Gallai un digwyddiad difrifol iawn fod yn ddigon, er enghraifft, os yw’ch partner wedi cam-drin plentyn yn rhywiol.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais i lys am orchymyn diddymu, bydd angen i chi roi cyfrif manwl o’r ymddygiad sydd wedi arwain at chwalu’r berthynas sifil yn eich tyb chi. Os yn bosibl, cofiwch gynnwys dyddiadau a lleoliadau’r digwyddiadau.

Os ydych chi wedi aros gyda’ch partner am chwe mis neu fwy ar ôl dyddiad yr achos diwethaf o ymddygiad afresymol, gallai’r llys feddwl nad oeddech chi wedi ystyried yr ymddygiad yn afresymol.

Byw ar wahân

Gallwch wneud cais am orchymyn diddymu neu wahanu os ydych chi neu’ch partner wedi byw ar wahân am o leiaf ddwy flynedd a bod y naill a’r llall yn cytuno i’r llys wneud y gorchymyn. Os ydych chi wedi byw ar wahân am o leiaf bum mlynedd, does dim angen i’r naill na’r llall gytuno.

Fel arfer, mae byw ar wahân yn golygu nad ydych chi wedi bod yn byw ar yr un aelwyd. O dan rai amgylchiadau, efallai eich bod wedi aros yn yr un cartref ond mae’n rhaid i chi allu dangos nad ydych chi wedi rhannu prydau, heb gysgu gyda’ch gilydd na gwneud pethau i’ch gilydd fel golchi dillad, coginio neu lanhau.

Os ydych chi wedi gwneud cais am orchymyn diddymu gan eich bod wedi byw ar wahân am bum mlynedd, gall y llys wrthod rhoi’r gorchymyn pe bai’n achosi caledi ariannol neu galedi arall i’ch partner.

Gadael

Efallai eich bod am ddod â’ch partneriaeth sifil i ben am fod eich partner wedi’ch gadael. Mae hyn yn golygu ei fod ef neu hi wedi gadael y cartref yn groes i’ch dymuniad heb reswm da. Mae’n rhaid iddynt fod wedi bod i ffwrdd am o leiaf ddwy flynedd cyn i chi wneud cais i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais i ddod â’r bartneriaeth sifil i ben, mae’n rhaid i chi ddweud bod eich partner wedi gadael a’r dyddiad y gadawodd. Mae’n rhaid i chi hefyd ddweud o dan ba amgylchiadau y gadawodd eich partner a’i fod ef neu ei bod hi wedi cadw draw heb eich cytundeb.

O dan rai amgylchiadau, os yw’ch partner wedi’ch gadael, gallai hyn gyfrif fel ymddygiad afresymol. Os yw’ch partner yn gadael yn cyfrif fel ymddygiad afresymol, dim rhaid i chi aros am ddwy flynedd cyn i chi wneud cais i ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Dirymiad

I bartneriaeth sifil fod yn gyfreithiol, mae’n rhaid iddi fodloni amodau penodol. Er enghraifft, mae’n rhaid i chi a’ch partner fod yn 16 oed pan gofrestrwyd y bartneriaeth a chewch chi ddim eisoes fod â phartner sifil neu fod wedi priodi rhywun arall.

Os nad yw eich partneriaeth sifil yn bodloni’r amodau hyn, gall y llys ddod â’r bartneriaeth i ben drwy ei dirymu. Am ragor o wybodaeth am yr amodau hyn mae’n rhaid i chi gofrestru partneriaeth sifil, gweler Cofrestru partneriaeth sifil.

Pan fydd y llys yn gwarantu dirymiad, gall ddweud bod eich partneriaeth sifil naill ai’n:

  • ddi-rym – nad oedd y bartneriaeth sifil wedi bodoli erioed mewn gwirionedd
  • dirymadwy – mae hyn yn golygu bod y bartneriaeth sifil yn gyfreithlon ar yr adeg y cafodd ei chofrestru ond nad ydy hi bellach

Mae a fydd y llys yn dweud bod eich partneriaeth yn ddi-rym neu’n ddirymadwy yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Os ydych chi am wneud cais am ddirymiad, mae’n rhaid i chi wneud hynny fel arfer o fewn tair blynedd i ddyddiad cofrestru’ch partneriaeth sifil. Mae rhai eithriadau i’r rheol hon.

Bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol os ydych chi am wneud cais am ddirymiad. Efallai y gallwch chi gael cymorth ariannol gyda’ch costau cyfreithiol.

Am ragor o wybodaeth am gymorth ariannol gyda chostau cyfreithiol, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Os nad ydych chi’n Ddinesydd Prydain

Os nad ydych chi’n Ddinesydd Prydain a bod eich partneriaeth sifil yn dod i ben, gallai hyn effeithio ar eich hawl i aros yn y DU.

Os nad ydych chi’n Ddinesydd Prydain ac yn ystyried dod â’ch partneriaeth sifil i ben, dylech gael cyngor gan gynghorydd mewnfudo profiadol. Dylai’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol allu helpu. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor ar e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Plant ar ddiwedd partneriaeth sifil

Pan fydd partneriaeth sifil yn dod i ben, bydd angen i bawb â chyfrifoldeb rhiant benderfynu pwy fydd yn gofalu am eu plant o ddydd i ddydd.

Mae ysgwyddo cyfrifoldebau rhiant yn golygu eich bod yn rhannu gyda’ch partner y cyfrifoldeb am iechyd, addysg a lles eich plentyn.

Os ydych chi mewn partneriaeth sifil, mae ffyrdd amrywiol y gallech chi fod â chyfrifoldeb rhiant am blant eich partner.

Am ragor o wybodaeth am gyfrifoldeb rhiant, gweler Cyfrifoldeb am blant yn Partneriaethau sifil a chyd-fyw - gwahaniaethau cyfreithiol.

Mae’n syniad da cael pawb sydd â chyfrifoldeb rhiant i gytuno am ofal eich plant.

Os ydych chi’n cael anhawster cytuno, gallwch ofyn am helpu gan wasanaeth cyfryngu i deuluoedd lleol. Mae cyfryngwyr wedi’u hyfforddi i wrando ar bob ochr mewn anghydfod, a’ch helpu i ddod i gytundeb ar yr hyn fyddai orau i’r plant. Ni fydd unrhyw benderfyniad y byddwch chi’n ei wneud yno yn rhwymol gyfreithiol.

Os na allwch chi gytuno ar ofal eich plant, gallwch ofyn i’r llys benderfynu (gorchymyn llys) drosoch chi. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y llys yn disgwyl i chi drefnu cyfarfod â chyfryngwr teulu i ddechrau, cyn y byddant yn ystyried eich cais.

Os oes gennych chi blant ac y bydd anghydfod yn debygol o godi ynglŷn â threfniadau ar gyfer eu gofal, bydd angen i chi ymgynghori â chyfreithiwr profiadol. Efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Am ragor o wybodaeth am gymorth gyda chostau cyfreithiol, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Am ragor o wybodaeth am ddod o hyd i gyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr. Gallwch gael cymorth hefyd wrth ddod o hyd i gyfreithiwr gan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor ar e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Pa orchmynion y gall llys eu gwneud o ran plant

Bydd llys ond yn gwneud gorchymyn ynghylch plant os yw’n teimlo y byddai gwneud hynny er budd gorau’r plant. Gorchymyn trefniadau plant yw’r enw am hyn. Mae gorchmynion trefniadau plant yn nodi’r trefniadau o ran gyda phwy y dylai plentyn fyw, gyda phwy y dylai dreulio amser a gyda phwy y dylai gael cyswllt a phryd ddylid rhoi’r trefniadau hyn ar waith. Mae’r gorchymyn trefniadau plant yn disodli’r hen orchmynion preswyl a chyswllt.

Gall y gorchymyn trefniadau plant gynnwys amodau gweithgarwch, er enghraifft, mynychu rhaglen rianta. Gall ddweud hefyd pa fath o gyswllt y gallwch chi ei gael, er enghraifft, ymweld, ffonio neu ysgrifennu llythyrau. Gall gorchmynion gael eu gwneud hefyd i alluogi cyswllt rhwng plentyn a pherthnasau neu ffrindiau eraill.
Am ffeithlenni defnyddiol am gyswllt â phlant, ewch i wefan Coram Children’s Legal Centre yn www.childrenslegalcentre.com.

Trefniadau ariannol ar ddiwedd partneriaeth sifil

Ar ddiwedd partneriaeth sifil, mae’r ddau riant yn gyfrifol am gefnogi eu plant yn ariannol, ble bynnag y bydd y plant yn byw. Mae hyn yn golygu rhieni biolegol a phobl sydd â chyfrifoldeb rhiant.

Mae gennych chi a’ch partner gyfrifoldeb cyfreithiol i gefnogi eich gilydd yn ariannol ar ddiwedd partneriaeth sifil. Mae hyn yn wir os oes gennych chi blant ai peidio.

Mae tair ffordd bosibl o drefnu cymorth ariannol.

  • drwy gytundeb
  • Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
  • drwy’r llysoedd

Gallwch gael cymorth i gytuno ar drefniadau ariannol.

Cytuno ar gynhaliaeth ariannol

Os ydych chi’ch dau yn cytuno ar gynhaliaeth ariannol, gelwir hyn yn gytundeb gwirfoddol neu’r trefniant teulu. Gellir ei nodi ar bapur neu gall fod yn gytundeb llafar.

Er enghraifft, gallwch gytuno y bydd un ohonoch chi yn gwneud taliadau wythnosol i’r llall er mwyn cynnal y plant, neu y bydd un ohonoch chi yn gwneud taliadau wythnosol i’r llall i gynnal plant, neu y bydd un ohonoch chi’n talu rhent neu forgais, biliau’r aelwyd, neu’n talu am ddillad a gwyliau’r plant.

Os oes angen cyngor arnoch chi ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer trefnu cynhaliaeth plant ac eisiau cyngor ar sefydlu trefniant cynnal plant gwirfoddol, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn: www.cmoptions.org.

Gall y Gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant eich helpu i:

  • ddeall yr opsiynau ar gyfer gwneud trefniant cynhaliaeth plant
  • gwirio bod unrhyw drefniant presennol yn iawn i chi a’ch plentyn
  • amcangyfrif faint o gynhaliaeth plant fyddech chi’n ei dalu neu’n ei gael
  • eich cyfeirio at sefydliadau eraill am gymorth a chyngor.

Am ragor o wybodaeth am wneud trefniant seiliedig ar y teulu, gweler Sut i ddod i drefniant cynhaliaeth plant sy'n seiliedig ar y teulu.

Cyn i chi gytuno ar becyn cymorth ariannol, gallai fod yn ddefnyddiol cael cyngor cyfreithiol ynghylch a yw’n drefniant priodol. Gallai fod yn ddefnyddiol gofyn i gyfreithiwr nodi’r cytundeb ar bapur rhag ofn bod problemau yn y dyfodol. Gallwch gael cymorth gyda chostau llunio cytundeb gwirfoddol.

Am ragor o wybodaeth am gymorth gyda chostau cyfreithiol, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant

Os yw’ch perthynas wedi dod i ben a bod y plant yn byw gyda chi, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i gael cymorth ariannol ar gyfer eich plant. Fodd bynnag, does dim rhaid i chi ddefnyddio’r Gwasanaeth os nad ydych chi am wneud hynny.

Y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yw gwasanaeth cynhaliaeth plant y llywodraeth sy’n trefnu cynhaliaeth ar gyfer plant o dan Gynllun 2012.

Am ragor o wybodaeth am gael cymorth ariannol ar gyfer eich plant drwy’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant, gweler Cynhaliaeth plant - ble i ddechrau.

Gorchmynion llys

Gallwch wneud cais am orchymyn llys am gymorth ariannol ar ddiwedd partneriaeth sifil. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd disgwyl i’r llys drefnu cyfarfod â chyfryngwr teulu i ddechrau, cyn y bydd yn ystyried eich cais.

Bydd y llys yn ystyried holl amgylchiadau ariannol y naill ochr a’r llall, gan gynnwys trefniadau pensiwn. O dan rai amgylchiadau, gall y llys wneud gorchymyn hefyd am gymorth ariannol ar gyfer y plant.

Gall llys orchymyn bod taliadau rheolaidd yn cael eu gwneud neu gyfandaliad unigol. Gall hefyd wneud gorchymyn am drefniadau pensiwn hefyd. Gallech gael cymorth gyda chostau cyfreithiol pan fyddwch chi’n gwneud cais i lys am gymorth ariannol. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu rhai o’r costau hyn yn ôl allan o’r arian neu’r eiddo rydych chi’n ei gael gan y gorchymyn llys. Gelwir hyn yn dâl statudol. Gofalwch bod eich cyfreithiwr yn egluro’r tâl statudol yn iawn i chi cyn i chi ddechrau cymryd camau yn y llys. Os oes trefniadau pensiwn, dylech ystyried cael cyngor ariannol arbenigol.

Am ragor o wybodaeth am gymorth gyda chostau cyfreithiol, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Hawliau tai ar ddiwedd partneriaeth sifil

Mae gan y ddau bartner sifil yr hawl i fyw yng nghartref y teulu ac ni all yr un ohonoch chi fynnu bod y llall yn gadael. Mae hyn yn wir os yw’r ddau ohonoch chi, neu dim un ohonoch, yn berchen ar neu’n rhentu’r cartref. Mae hyn yn gymwys os nad yw’r llys wedi gorchymyn fel arall.

Os yw’ch partneriaeth sifil yn chwalu, gall llys eich helpu chi neu’ch partner i orfodi hawliau tymor byr i’r cartref. Gelwir y rhain yn hawliau cartref a gallant gynnwys:

  • yr hawl i aros yn y cartref
  • yr hawl i symud yn ôl i mewn os ydych chi wedi gadael
  • o dan amgylchiadau penodol, yr hawl i atal eich partner rhag dod i’r cartref.

Gall llys wneud trefniadau hirdymor am dai. Os oes anghytuno am dai, gall y llys ddelio â’r anghytuno law yn llaw ag achos i ddiddymu partneriaeth sifil. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y llys yn disgwyl i chi drefnu cyfarfod gyda chyfryngwr teulu i ddechrau, cyn y bydd yn ystyried eich cais am orchymyn llys ynghylch tai.

Os ydych chi’n ystyried mynd i’r llys ynghylch eich hawliau tai ar ôl i’ch partneriaeth sifil chwalu, dylech ymgynghori â chynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr cyfraith teulu neu Ganolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy’n gallu rhoi cyngor ar e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Am ragor o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd i’ch cartref os yw’ch perthynas sifil yn chwalu, ewch i Perthynas yn chwalu a thai.

Cyfryngu a chymrodeddu i deuluoedd

Mae cyfryngu i deuluoedd yn ffordd o helpu cyplau sy’n gwahanu neu’n diddymu eu partneriaeth sifil i ddatrys unrhyw anghytuno a dod i benderfyniadau am bethau fel arian, eiddo a gofal plant. I ddefnyddio gwasanaeth cyfryngu, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch chi fod yn barod i fynd yn wirfoddol. Gallwch gyfeirio eich hun neu gael eich cyfeirio gan gyfreithiwr neu gynghorwr. Os ydych chi’n cymryd rhan mewn achos llys, gall y llys eich cyfeirio at wasanaeth cyfryngu, neu os oes plant yn rhan o’r achos, at swyddog CAFCASS.

Bydd cyfryngwr annibynnol wedi’i hyfforddi yn cwrdd â’r naill a’r llall (ar wahân neu gyda’ch gilydd) i ddeall y problemau rhyngoch chi a’ch helpu i ddod i gytundeb. Ar ddiwedd y broses gyfryngu, bydd y cyfryngwr yn llunio’r cytundeb arfaethedig ac yn gwneud yn siŵr bod y naill ochr a’r llall yn deall yr hyn y byddai’n ei olygu iddynt. Efallai y byddwch am gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr, er enghraifft, os ydych chi am i’r cytundeb wedi ei gyfryngu fod yn gytundeb rhwymol gyfreithiol.

Am ragor o wybodaeth am gyfryngu, gwyliwch y fideo cyfryngu i deuluoedd.

Beth yw manteision cyfryngu i deuluoedd

Mae manteision cyfryngu yn cynnwys:

  • mae’n rhoi mwy o lais i barau yn yr hyn a fydd yn digwydd
  • mae’n llai o straen ac yn cynnwys llai o wrthdaro na mynd i’r llys
  • mae’n gwella cyfathrebu rhwng parau
  • mae’n gynt ac yn rhatach na mynd i’r llys
  • gellir newid cytundebau wrth i amgylchiadau newid
  • mae’n ystyried anghenion plant uwchlaw teimladau’r partïon
  • mae’n creu llai o bryder i’r plant ac yn eu helpu i barhau â pherthnasau teuluol pwysig.

Pryd ddylid defnyddio gwasanaeth cyfryngu i deuluoedd

Gall pâr ddefnyddio gwasanaethau cyfryngu i deuluoedd cyn gynted â’u bod wedi penderfynu bod eu perthynas yn dod i ben a’u bod yn teimlo’u bod yn gallu trafod unrhyw anghydfodau. Gall cyfryngu fod yn ddefnyddiol cyn dechrau ar achosion cyfreithiol, er mwyn annog cydweithrediad rhwng y pâr ac i atal anghydfodau rhag gwaethygu a’i gwneud hi’n anoddach cytuno yn y dyfodol. Gellir defnyddio cyfryngu i deuluoedd hefyd ar ôl i bâr wahanu neu ar ôl diddymiad os oes materion newydd yn dod i’r wyneb neu os oes hen faterion heb eu datrys.

Os ydych chi am wneud cais llys am orchymyn i setlo anghytundeb am y plant, arian neu eiddo, fel arfer bydd disgwyl i chi gysylltu â chyfryngwr a threfnu Cyfarfod Gwybodaeth am Gyfryngu ac Asesu i weld a allwch chi ddatrys yr anghydfod heb fynd i’r llys. Gellir cynnal y cyfarfod ar y cyd neu ar wahân. Bydd rhai sefyllfaoedd lle na fydd angen i chi fynychu cyfarfod, er enghraifft, os yw’r heddlu yn ymchwilio i drais domestig.

Talu am gyfryngu

Efallai y gallwch wneud cais am gymorth cyfreithiol i gael help ariannol gyda chostau cyfryngu i deuluoedd. Os nad ydych chi’n gallu cael cymorth cyfreithiol, bydd yn rhaid i chi dalu’n breifat amdano. Dylech ofyn i’r cyfryngwr am fanylion y taliadau gan y gallai’r rhain amrywio. Dylech ofyn pa opsiynau sydd ar gael a chwilio o gwmpas.

Gallwch dderbyn sesiwn gyfryngu am ddim os oes un ohonoch chi’n cael cymorth cyfreithiol.

Am ragor o wybodaeth am gymorth ariannol gyda chostau cyfreithiol cyfryngu i deuluoedd, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

Dod o hyd i gyfryngwr

Gallwch ddod o hyd i gyfryngwr ar wefan Family Mediation Council yn www.familymediationcouncil.org.uk.

Rhagor o wybodaeth am gyfryngu

Mae rhagor o wybodaeth am gyfryngu yn www.justice.gov.uk .

Os ydych chi am fynd i’r llys

Os ydych chi’n gofyn i lys wneud penderfyniadau am drefniadau ar gyfer eich plant ar ddiwedd eich partneriaeth sifil, fel arfer byddant yn gofyn i swyddog CAFCASS helpu.

Mae swyddogion CAFCASS yn gweithio i’r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS). Maen nhw’n annibynnol o’r llysoedd ac asiantaethau eraill fel y gwasanaethau cymdeithasol, awdurdodau addysg ac iechyd. Mae ganddyn nhw gymwysterau gwaith cymdeithasol a phrofiad o weithio gyda phlant a theuluoedd.

Bydd y swyddog CAFCASS yn ceisio’ch helpu chi a’ch partner i benderfynu ar y trefniadau gorau posibl ar gyfer eich plant.

O bryd i’w gilydd, bydd y llys yn gofyn i chi a’ch partner, ac unrhyw rieni eraill sy’n rhan o’r sefyllfa, i gyfarfod â’r swyddog CAFCASS i weld a allwch chi gael trefn ar bethau heb orfod bwrw ymlaen ag achos llys. Os ydych chi’n gallu cytuno bryd hynny, gall y barnwr wneud gorchymyn i gadarnhau’r hyn y cytunwyd arno.

Os allwch chi gytuno, gall y barnwr orchymyn bod adroddiad yn cael ei lunio cyn i’r achos fynd ymhellach.

Mae cynlluniau datrys anghydfod yn y llys am ddim.

Am ragor o wybodaeth am ddatrys anghydfod am ddim a swyddogion CAFCASS, ewch i llyw.cymru yng Nghymru neu www.cafcass.gov.uk yn Lloegr.

Cymrodeddu i deuluoedd

Mae cymrodeddu i deuluoedd yn fath o wasanaeth datrys anghydfod sy’n galluogi parau i ddod i gytundeb am anghydfod teuluol heb orfod mynd i’r llys. Yn wahanol i gyfryngu i deuluoedd, mae’n broses fwy ffurfiol ac yn debyg i achos llys. Yn ogystal, mae penderfyniad y cymrodeddwr, sef y dyfarniad, yn derfynol ac yn rhwymol gyfreithiol i bawb.

Ar hyn o bryd, mae cymrodeddu i deuluoedd ar gael drwy’r cynllun Institute of Family Law Abritrators (IFLA) yn unig. Nid yw’n cynnwys anghydfodau am blant, ac eithrio anghydfodau ariannol.

Mae IFLA yn argymell eich bod yn cael cyngor cyfreithiol cyn dod i gytundeb cymrodeddu.

Chewch chi ddim cymorth cyfreithiol ar gyfer cymrodeddu.

Am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais am gymrodeddu ac am reolau’r Cynllun, cysylltwch ag IFLS yn:

Institute of Family Law Arbitrators (IFLA)
PO Box 302
Orpington
Kent
BR6 8QX
Ffôn: 01689 820272
E-bost: info@ifla.org.uk
Gwefan: http://ifla.org.uk

Wrth bwy ddylech chi ddweud

Os ydych chi a’ch partner yn gwahanu, efallai y bydd angen i chi hysbysu:

  • eich landlord neu swyddfa dai
  • eich swyddfa budd-daliadau tai
  • eich swyddfa treth gyngor
  • eich benthyciwr morgais
  • cwmnïau dŵr, nwy, trydan a ffôn
  • eich swyddfa budd-daliadau
  • eich swyddfa dreth, yn enwedig os ydych chi’n cael credydau treth
  • ysgol bresennol ac ysgol nesaf eich plant os ydynt yn symud
  • eich banc neu unrhyw sefydliad ariannol arall os oes gennych chi gyfrif ar y cyd. Gallai fod yn syniad i chi rewi’r cyfrif i atal eich partner rhag symud yr holl arian neu rywfaint ohono
  • cwmnïau hur bwrcas neu gredyd
  • cwmnïau yswiriant, yn enwedig os oes gennych chi bolisïau ar y cyd
  • swyddfa’r post, os ydych chi am ailgyfeirio’r post
  • eich meddyg, deintydd neu glinig iechyd plant

Cymorth pellach

Gwefan Ysgaru a Gwahanu y Gwasanaeth Cynghori Ariannol

www.moneyadviceservice.org.uk

Gwefan y Gwasanaeth Cyfryngu Cenedlaethol

Mae gwybodaeth am wahanu, ysgaru a chyfryngu i deuluoedd ar gael ar wefan y Gwasanaeth Cyfryngu Cenedlaethol yn: www.nfm.org.uk.

Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS)

llyw.cymru (yng Nghymru)

www.cafcass.gov.uk (yn Lloegr)

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.