Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Pa ofal iechyd alla i ei gael o dan y GIG?

This advice applies to Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Loegr, Cymru a’r Alban a Gogledd Iwerddon

Erthyliad

Mae’r gyfraith yn Lloegr, Cymru a’r Alban yn dweud y gallwch gael erthyliad yn ystod 24 wythnos gyntaf beichiogrwydd cyhyd â bod rhai rheolau yn cael eu cadw. Fe fyddwch yn gallu cael erthyliad o dan y GIG os cewch chi gytundeb dau feddyg. Mae’n rhaid iddynt fod yn sicr fod yr erthyliad yn ateb y rheolau. Fel arfer y meddyg cyntaf yw eich Meddyg Teulu a’r ail yw’r meddyg sy’n gweithio yn yr ysbyty neu’r clinig lle bydd yr erthyliad yn digwydd. Mae erthyliadau cyfreithiol ar gael i wragedd yng Ngogledd Iwerddon dim ond mewn amgylchiadau cyfyng yn unig.

Fe allwch chi gael cyngor a gwybodaeth gyffredinol ynglŷn â chael erthyliad oddi wrth eich Meddyg Teulu neu glinigau cynllunio teulu.

Mae help ar gael hefyd oddi wrth sefydliadau gwirfoddol, er enghraifft, Gwasanaeth Ymgynghorol Beichiogrwydd Prydain (BPAS), sy’n cynnal ei glinigau ei hun yn Lloegr, Cymru a’r Alban (www.bpas.org.uk). Mae GIG yn talu am rai erthyliadau mewn clinig BPAS. Mae hyn yn dibynnu lle yr ydych yn byw. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth ar wefan BPAS yn: www.bpas.org.uk. Mae gan y wefan wybodaeth mewn amrywiaeth o ieithoedd cymunedol, yn cynnwys Sbaeneg, Pwyleg a Punjabi.

Os na allwch chi gael erthyliad o dan y GIG, bydd yn rhaid i chi dalu’n breifat. Mae’r pris yn dibynnu ar faint o wythnosau yn feichiog yr ydych a pha ddull a ddefnyddir i gyflawni’r erthyliad.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag erthyliadau o dan y GIG, ewch i wefan NHS Direct yn Lloegr yn: www.nhsdirect.nhs.uk. Yng Nghymru, ewch i wefan Galw Iechyd Cymru yn www.nhsdirect.wales.nhs.uk. Yn yr Alban ewch i www.nhsinform.co.uk. Mae gwybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn mewn amrywiaeth o ieithoedd cymuned ac mewn sawl fformat, er enghraifft, fformat clywedol.

Meddygaeth amgen

Mae rhai mathau o feddygaeth amgen (a adwaenir hefyd fel meddygaeth gyflenwol) ar gael trwy’r GIG oddi wrth rhai Meddygon Teulu ac ysbytai. Therapïau a all fod ar gael trwy GIG yw aciwbigo, osteopathi, homeopathi a chiropracteg.

Ambiwlansys

Mae ambiwlansys yn darparu cludiant brys a chludiant arferol i gleifion y GIG. Gellir cysylltu ag ambiwlansys brys trwy’r gwasanaeth ffôn argyfwng (999). Gellir trefnu ambiwlansys ar gyfer teithiau arferol trwy Feddygon Teulu neu ysbytai, neu yng Ngogledd Iwerddon trwy Wasanaeth Ambiwlans Gogledd Iwerddon.

Sgrinio Cancr ar y fron

Mae sgrinio cancr ar y fron ar gael o dan y GIG bob tair blynedd os ydych chi’n fenyw rhwng 50 a 64 oed. Os ydych chi’n fenyw dros 64 oed, fe ellir eich sgrinio pan wneir cais. Cysylltwch â’ch Meddyg Teulu am fwy o wybodaeth. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sgrinio cancr ar y fron y GIG, ewch i wefan NHS Direct yn Lloegr (www.nhsdirect.nhs.uk) neu yng Nghymru, gwefan Bron Brawf Cymru. Yn yr Alban, ewch at wefan NHS inform ar www.nhsinform.co.uk.

Mae gwybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn mewn amrywiaeth o ieithoedd cymuned ac mewn sawl fformat, er enghraifft, mewn fformat clywedol.

Sgrinio serfigol

Mae sgrinio serfigol ar gael o dan y GIG bob tair i bum mlynedd os ydych chi’n fenyw rhwng 20 a 64 oed. Os ydych chi’n fenyw dros 64 fe ellir eich sgrinio pan wneir cais. Cysylltwch â’ch Meddyg Teulu am fwy o wybodaeth. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sgrinio serfigol y GIG, ewch i wefan NHS Direct yn Lloegr (www.nhsdirect.nhs.uk) neu yng Nghymru gwefan Galw Iechyd Cymru ( Yn yr Alban, rhowch glic ar wefan NHS inform ar: www.nhsinform.co.uk.

Mae gwybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn mewn amrywiaeth o ieithoedd cymuned ac mewn sawl fformat, er enghraifft, mewn fformat clywedol.

Atal cenhedlu

Mae cyngor a chyflenwadau atal cenhedlu ar gael am ddim o dan y GIG trwy Feddygon Teulu a chlinigau cynllunio teulu.

Fe allwch chi gael ataliwr cenhedlu brys, er enghraifft, y bilsen bore wedyn, oddi wrth eich Meddyg Teulu, clinigau cynllunio teulu, y rhan fwyaf o ganolfannau galw-i-mewn y GIG a rhai fferyllfeydd.

Mae cyngor a chyflenwadau am ddim ar gael hefyd oddi wrth rai sefydliadau gwirfoddol, er enghraifft, Gwasanaeth Ymgynghorol Beichiogrwydd Prydain (www.bpas.org.uk).

Yng Nghymru, mae atal cenhedlu brys ar gael yn rhad ac am ddim mewn rhai fferyllfaoedd hefyd.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag atal cenhedlu, ewch i wefan NHS Direct yn Lloegr yn: www.nhsdirect.nhs.uk neu yng Nghymru ar http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/LifestyleWellbeing/Sexualhealthcontraception/, neu yn yr Alban, rhowch glic ar www.nhsinform.co.uk.

Mae gwybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn mewn amrywiaeth o ieithoedd cymuned ac mewn sawl fformat, er enghraifft, mewn fformat clywedol.

Ceiropodyddion

Gall gwasanaeth trin traed fod ar gael o dan y GIG yn rhad ac am ddim, er bod hyn yn dibynnu ar eich Ymddiriedolaeth Gofal Cychwynnol (PCT), neu Fwrdd GIG lleol yn yr Alban. Asesir pob achos yn unigol ac mae cael triniaeth am ddim yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’ch cyflwr a’ch ffactor risg. Os na effeithir ar eich iechyd neu symudedd, ystyrir chi yn ‘risg-isel’ ac efallai na chewch chi wasanaeth trin traed y GIG. Os oes gennych glefyd y siwgr, fe gewch eich trin fel achos blaenoriaeth uchel. Fel arfer rhaid eich cyfeirio at geiropodydd gan Feddyg Teulu neu glinig. Os nad ydych yn gymwys i dderbyn triniaeth y GIG, bydd angen i chi drefnu triniaeth breifat.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gwasanaeth trin traed y GIG, ewch i wefan NHS Direct yn Lloegr (www.nhsdirect.nhs.uk) neu yng Nghymru (www.nhsdirect.wales.nhs.uk). Yn yr Alban, ewch at wefan NHS inform ar: www.nhsinform.co.uk.

Mae gwybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn mewn amrywiaeth o ieithoedd cymuned ac mewn sawl fformat, er enghraifft, mewn fformat clywedol.

Am fwy o wybodaeth, yn Lloegr a Chymru, ynglŷn â dod o hyd i ofal iechyd preifat, gweler Triniaeth Iechyd Preifat, yn nhaflen ffeithiau Iechyd.

Gofal cymunedol

Os ydych chi’n oedrannus, anabl, neu’n sâl yn feddyliol, efallai y bydd angen cymorth arnoch i barhau i fyw gartref. Er enghraifft, efallai y bydd angen rhywun arnoch i ddod i mewn a helpu gyda phethau personol megis ymolch a gwisgo. Neu efallai y byddwch am help gyda choginio neu siopa. Nid yw’r GIG yn darparu’r gwasanaethau hyn. Yn Lloegr a Chymru fe’u darperir gan y gwasanaethau cymdeithasol. Yn yr Alban fe’u darperir gan yr adran gwaith cymdeithasol. Yng Ngogledd Iwerddon, fe’u darperir gan Ymddiriedolaethau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Sut bynnag, os oes angen gofal nyrsio arnoch dylid darparu hwn gan y GIG. Er enghraifft, gall eich Meddyg Teulu drefnu i nyrs ardal ymweld â chi (gweler o dan y pennawd Nyrsys ardal).

Os ydych chi wedi bod yn yr ysbyty, ni ddylid eich rhyddhau hyd nes y byddwch wedi cael asesiad o’ch anghenion gofal iechyd parhaus a, lle mae’n angenrheidiol, o’ch anghenion gofal cymunedol. Gall meddyg benderfynu, er enghraifft, fod angen pecyn o ofal iechyd a chymdeithasol arnoch er mwyn gallu dychwelyd adref.

Os ryddheir chi o’r ysbyty ac angen lefel uchel o ofal iechyd parhaus arnoch, fe ellir darparu a chyllido hyn gan y GIG. Gellir darparu hyn yn yr ysbyty, cartref gofal, hosbis neu yn eich cartref eich hun.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gofal cymunedol, gweler Gofal Cymunedol.

Gwasanaethau Cynghori

Mae rhai meddygfeydd Meddyg Teulu yn darparu gwasanaethau cynghori am ddim o dan y GIG. Cysylltwch â’ch Meddyg Teulu am fwy o wybodaeth.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chynghori, ewch i wefan NHS Direct yn Lloegr (www.nhsdirect.nhs.uk) neu yng Nghymru rhowch glic ar: http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/doityourself/stress/ neu yn yr Alban rhowch glic ar wefan NHS Inform.

Mae gwybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn mewn amrywiaeth o ieithoedd cymuned ac mewn sawl fformat, er enghraifft, mewn fformat clywedol.

Deintyddion

Fe allwch chi gael rhestr o ddeintyddion sy’n darparu triniaeth y GIG oddi wrth awdurdodau iechyd yn Lloegr a Chymru, byrddau iechyd a chynghorau iechyd lleol yn yr Alban a Byrddau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon. Fe allwch chi hefyd gael manylion cyswllt deintydd lleol y GIG yn Lloegr a Chymru oddi wrth NHS Direct/Galw Iechyd Cymru neu Wasanaeth Gwybodaeth Iechyd ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Mae’n rhaid i chi dalu am driniaeth ddeintyddol y GIG, er gall grwpiau o bobol gael triniaeth am ddim.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thriniaeth ddeintyddol am ddim, yn Lloegr, Cymru a’r Alban gweler Cymorth gyda chostau iechyd. Am fwy o wybodaeth yn Lloegr a Chymru ynglŷn â thriniaeth ddeintyddyol y GIG gweler Triniaeth ddeintyddol y GIG ar y taflenni ffeithiau am Iechyd. Am fwy o wybodaeth yn yr Alban am driniaeth ddeintyddol ar y GIG, gweler gwefan NHS inform.

Nyrsys ardal

Mae nyrsys ardal yn nyrsys a gyflogir gan GIG i ddarparu gofalnyrsio i gleifion sy’n byw gartref. Er enghraifft, fe allan nhw newid gorchudd neu roi pigiadau. Maen nhw wedi’u lleoli ym meddygfeydd Meddygon Teulu a chanolfannau iechyd ac fe ellir cysylltu â nhw hefyd trwy swyddfeydd nyrsio cymuned leol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â nyrsys ardal yn Lloegr a Chymru, ewch i wefan NHS Direct yn Lloegr (www.nhsdirect.nhs.uk) neu yng Nghymru (www.nhsdirect.wales.nhs.uk).

Mae gwybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn mewn amrywiaeth o ieithoedd cymuned ac mewn sawl fformat, er enghraifft, mewn fformat clywedol.

Meddygon Teulu

Mae pawb yn gymwys i gael eu cofrestru gan Feddyg Teulu. Am gymorth i ddod o hyd i Feddyg Teulu, cysylltwch â’ch awdurdod iechyd lleol. Yn Lloegr a Chymru fe allwch chi hefyd gael cymorth oddi wrth NHS Direct/Galw Iechyd Cymru. Yn yr Alban, mae gwybodaeth am wasanaethau lleol ar wefan NHS 24. Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â Health Information Service for Northern Ireland.

Yn ogystal â darparu cyngor a thriniaeth iechyd, mae Meddygon Teulu yn darparu archwiliadau, cymryd profion ceg y groth, rhoi brechiadau yn erbyn clefydau heintus (imiwneiddiadau) ac arwyddo tystysgrifau ar gyfer pobol sy’n methu gweithio oherwydd salwch. Mae llawer o Feddygon Teulu hefyd yn darparu clinigau hyrwyddo iechyd, gwasanaethau atal cenhedlu, mân lawdriniaethau, cynghori, gwasanaethau mamolaeth ac archwiliadau meddygol ar gyfer yswiriant a dibenion eraill (ac fe allan nhw godi tâl am hyn).

Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon am fwy o wybodaeth ynglŷn â Meddygon Teulu, gweler Hawliau cleifion y GIG.

Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth ynglŷn â Meddygon Teulu, see NHS patients' rights.

Yng Nghymru, am fwy o wybodaeth ynglŷn â Meddygon Teulu, gweler Defnyddio Meddyg Teulu’r GIG yng Nghymru.

Gwasanaethau iechyd yn y carchar

Dylai carcharorion gael mynediad i’r un amrywiaeth a’r un safon o wasanaethau iechyd, yn cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, ag y mae’r cyhoedd yn eu derbyn oddi wrth y GIG.

Ymwelwyr Iechyd

Gall ymwelwyr iechyd ddarparu cefnogaeth trwy’r GIG i deuluoedd sydd â phlant o dan bump oed ac i gleifion hŷn. Fel arfer maen nhw wedi’u lleoli ym meddygfeydd Meddygon Teulu.

Hosbisau

Gweler o dan y pennawd Gofal terfynol.

Ysbytai

Mae’r rhan fwyaf o dderbyniadau ac apwyntiadau ysbytai’r GIG yn digwydd trwy atgyfeiriadau gan Feddygon Teulu. Fe allwch chi fynd i’r adran Damweiniau ac Achosion brys heb gael eich cyfeirio. Fe allwch chi hefyd fynd i glinig arbenigol am driniaeth i glefydau a drosglwyddir yn rhywiol heb gael eich cyfeirio.

Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, am fwy o wybodaeth am ysbytai, gweler Hawliau cleifion y GIG.

Yn yr Alban, am fwy o wybodaeth am ysbytai, gweler Hawliau cleifion y GIG.

Yng Nghymru, am fwy o wybodaeth am ysbytai, gweler Defnyddio gwasanaethau ysbytai’r GIG yng Nghymru.

Imiwnieiddiad

Gweler o dan y pennawd Brechiadau.

Triniaeth anffrwythlondeb

Os ydych chi am driniaeth anffrwythlondeb, ac mae’ch Meddyg Teulu yn eich cyfeirio at arbenigwr am brofion pellach, bydd y GIG yn talu am hyn. Mae gennych yr hawl i gael eich cyfeirio at glinig y GIG am yr archwiliad cyntaf. Sut bynnag, nid yw triniaeth anffrwythlondeb ar gael yn gyffredin iawn o dan y GIG a gall fod rhestrau aros hir. Mae’r driniaeth sydd ar gael yn dibynnu hefyd ar ble yr ydych yn byw a beth yw’r broblem. Bydd eich Meddyg Teulu yn dweud wrthych os ydych yn gymwys i dderbyn triniaeth y GIG.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â thriniaeth anffrwythlondeb, ewch i wefan NHS Direct yn Lloegr (www.nhsdirect.nhs.uk) neu yng Nghymru (www.nhsdirect.wales.nhs.uk), neu yn yr Alban, rhowch glic ar wefan NHS 24.

Mae gwybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn mewn amrywiaeth o ieithoedd cymuned ac mewn sawl fformat, er enghraifft, mewn fformat clywedol.

Gwasanaethau Mamolaeth

Os ydych chi’n feichiog, mae yna nifer o wasanaethau gwahanol ar gael i chi. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • bydwragedd. Gall eich bydwraig fod wedi’i lleoli naill mewn ysbyty neu mewn canolfan iechyd lleol neu glinig. Mae bydwragedd yn gyfrifol am ofalu am bob beichiogrwydd normal ac esgor. Nid oes rhaid cael eich cyfeirio at fydwraig gan eich meddyg teulu. Yn Lloegr, fe allwch gael mwy o wybodaeth am y gofal oddi wrth fydwraig ar wefan NHS Choices yn: www.nhs.uk.  Yn yr Alban, mae gwybodaeth bellach am eich gwsanaethau mamolaeth lleol ar wefan NHS inform ar www.nhsinform.co.uk.
  • Meddyg Teulu. Nid yw pob Meddyg Teulu yn darparu gofal cyn-geni a threfnu ar gyfer genedigaeth. Os nad yw’ch Meddyg Teulu yn darparu’r gwasanaeth hwn, efallai y byddwch am gofrestru gyda Meddyg Teulu arall am eich gofal mamolaeth. Yn Lloegr, fe allwch gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Meddyg Teulu lleol ar wefan NHS Choices yn: www.nhs.uk. Yng Nghymru, mae gwybodaeth ynglŷn â Phwy yw Pwy ar y Tîm Cyn-geni ar wefan Galw Iechyd Cymru. Yng Ngogledd Iwerddon, fe allwch gael mwy o wybodaeth am wasanaethau Meddyg Teulu lleol oddi wrth linell gymorth gwybodaeth eich Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn yr Alban, fe allwch gael mwy o wybodaeth am eich gwasanaethau Meddyg teulu lleol ar wefan NHS24 yn: www.nhs24.com. Yng Nghymru, gall eich Canolfan Gwasanaethau Busnes roi manylion i chi o Feddyg Teulu sy’n cynnig gofal mamolaeth.
  • Obstetregydd wedi’i leoli mewn ysbyty. Mae obstetregydd yn feddyg sy’n arbenigo mewn gofalu am fenywod a phlant yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth ac ar ôl geni. Fel arfer, bydd obstetregydd yn ymwneud dim ond os bydd cymhlethdodau. Ond fe allwch chi ofyn am gael gweld obstetregydd hyd yn oed os yw eich bydwraig neu Feddyg Teulu yn darparu eich holl ofal.

Pa fath o ofal cyn geni yr ydych am ei gael?

Efallai y bydd gennych ddewisiadau ynglŷn â’r math o ofal cyn geni yr ydych am ei gael a ble yr ydych am roi genedigaeth. Bydd faint o ddewis sydd gennych yn dibynnu ar ble yr ydych yn byw. Gallai eich dewisiadau gynnwys:

  • gofal ysbyty llawn. Bydd hyn yn digwydd, yn ymarferol, dim ond os bydd angen ymyriad meddygol gradd uchel arnoch
  • gofal ar y cyd rhwng eich Meddyg Teulu a’r ysbyty. Yn arferol, fe fyddech yn dychwelyd adre yn fuan ar ôl yr enedigaeth
  • genedigaeth gartref, gyda gofal wedi’i ddarparu gan fydwraig ac o bosibl Meddyg Teulu. Mae gennych yr hawl i gael eich babi gartref. Os dewiswch chi hyn, efallai y bydd angen i chi gysylltu ag arolygwr y bydwragedd i drefnu hyn. Rhaid i chi fod yn barod i drosglwyddo o’r cartref i ysbyty os bydd cymhlethdodau yn codi yn ystod esgor neu enedigaeth.

Fe allwch gael gwybodaeth am wasanaethau mamolaeth lleol oddi wrth eich Ymddiriedolaeth Gofal Cychwynnol neu Fwrdd Iechyd Lleol, ymwelydd iechyd neu Feddyg Teulu. Bydd y wybodaeth hon yn cynnwys:

  • y math o ofal a gynigir
  • ble all yr enedigaeth ddigwydd
  • pa ryddhad poen sydd ar gael
  • pa brofion sydd ar gael a beth yw eu pwrpas.

Mewn rhai ardaloedd, mae yna siarteri mamolaeth sy’n nodi hawliau menywod beichiog a mamau newydd, a safonau’r gwasanaeth y gallwch eu disgwyl.

Os ydych yn cael problemau yn cael y math o ofal yr ydych amdano, neu os ydych chi am fwy o wybodaeth am wasanaethau mamolaeth yn eich ardal, fe ddylech chi gysylltu ag arolygwr y bydwragedd yn eich ysbyty mamolaeth leol neu yn yr Ymddiriedolaeth Gofal Cychwynnol neu Fwrdd Iechyd Lleol.

Cymorth arall y gallwch ei dderbyn os ydych yn feichiog

Os ydych yn feichiog, fe gewch bresgripsiynau am ddim a thriniaeth ddeintyddol o’r amser y cadarnheir y beichiogrwydd tan flwyddyn ar ôl yr enedigaeth.

Yn Lloegr, Cymru a’r Alban am fwy o wybodaeth ynglŷn â phresgripsiynau a thrinaeth ddeintyddol am ddim, gweler Cymorth gyda chostau iechyd.

Os ydych chi ar incwm isel, efallai y cewch chi gymorth pellach os ydych yn feichiog, er enghraifft, talebau i helpu gyda chostau llaeth, ffrwythau neu lysiau. Os ydych chi o dan 18 oed ac yn feichiog, fe allwch gael y cymorth hwn beth bynnag yw’ch incwm.

Yn Lloegr, Cymru a’r Alban am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth os ydych chi ar incwm isel, gweler Cymorth gyda chostau iechyd, addysg a chyfreithiol.

Gwasanaeth Mân Afiechydon y GIG yn yr Alban

Mae Gwasanaeth Mân Afiechydon y GIG yn caniatáu i fferyllwyr i ddarparu triniaeth ar gyfer amrywiaeth o fân afiechydon a chwynion, am ddim, i blant, pobl dros 60, unrhyw un sydd â thystysgrif eithriad feddygol a phobl ar rai budd-daliadau penodol.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, fe allwch gael meddyginiaethau neu driniaethau ar gyfer mân afiechyd neu gwyn yn rhad ac am ddim gan eich fferyllydd heb bresgripsiwn gan eich Meddyg Teulu. Mae yna daflen ddefnyddiol ar wefanHealth Rights Information Scotland o’r enw The NHS Minor Ailments Service and your local pharmacy.

Mae mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Mân Afiechydon ar gael oddi wrth Linell Gymorth hysbysu’r GIG ar 0800 22 44 88.

Gwasnaethau pobol hŷn

Fe allwch chi gael nifer o wasanaethau’r GIG os ydych chi’n berson hŷn. Er enghraifft, dylai Meddygon Teulu gynnig archwiliadau iechyd blynyddol i gleifion sy’n 75 oed a drosodd. Mae cymorth ar gael oddi wrth ymwelwyr iechyd a nyrsys ardal - gweler o dan Gofal cymunedol.

Gwasanaethau Optegol

Mae optometryddion yn cyflawni profion llygaid i wirio ansawdd eich golwg. Maen nhw’n edrych am arwyddion clefyd y llygaid sy’n galw efallai am driniaeth oddi wrth feddyg neu lawfeddyg llygaid ac maen nhw hefyd yn pennu ac yn ffitio sbectol a lensys cyffwrdd. Mae optegwyr yn ffitio a gwerthu sbectolau ond dydyn nhw ddim yn profi llygaid. Fe allan nhw roi cyngor i chi ynglŷn â’r math o lens, megis golwg sengl neu ddeuffocal a’ch helpu i ddewis fframiau. Os ewch chi at optegwyr y stryd fawr, fe gewch chi’ch llygaid wedi’u profi gan optometrydd ond nid oes rhaid i chi brynu’ch sbectol yno. Fe allech chi fynd a phresgripsiwn optometrydd at optegwr fydd yn gwerthu’r sbectol sydd ei hangen arnoch.

Mae’n rhaid i chi dalu am eich profion llygaid, eich sbectol a’ch lensys cyffwrdd. Ond gall rhai pobol gael profion llygaid am ddim a thalebau tuag at gostau sbectol a lensys cyffwrdd. Mae hyn yn cynnwys:

  • pob plentyn o dan 16 oed
  • rhai pobol ifanc o dan 19 oed
  • pobol 60 oed a drosodd
  • pobol yn yr Alban (profion golwg am ddim yn unig)
  • pobol a chyflyrau llygaid arbennig
  • pobol sy’n gymwys i dderbyn rhai budd-daliadau arbennig
  • unrhyw un arall ar incwm isel.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â phwy all gael triniaeth optegol am ddim, yn Lloegr, Cymru a’r Alban gweler Cymorth gyda chostau iechyd, yng Ngogledd Iwerddon gweler Cymorth gyda chostau iechyd.

Fferyllwyr

Mae fferyllwyr yn gyfrifol am ddosbarthu moddion. Fe allan nhw hefyd ddarparu gwybodaeth a chyngor am ddim ynglŷn â nifer o broblemau meddygol cyffredin.

Am wybodaeth ynglŷn ag a oes rhaid i chi dalu am bresgripsiynau gewch chi yn y fferyllfa, gweler Cymorth gyda chostau iechyd.

Ffisiotherapi

Mae Ffisiotherapi yn driniaeth gorfforol sy’n eich helpu i adennill y defnydd o’ch corff ar ôl anaf neu glefyd. Fe’i defnyddir hefyd i arafu cyflymder cyflyrau hirdymor. Mae ar gael trwy’r GIG i gleifion gaiff eu cyfeirio am driniaeth gan Feddygon Teulu neu ysbytai.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â ffisiotherapi, ewch i wefan NHS Direct yn Lloegr (www.nhsdirect.nhs.uk) neu yng Nghymru (www.nhsdirect.wales.nhs.uk).

Ar y gwefannau hyn mae gwybodaeth ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd cymunedol ac ar fformatau gwahanol, er enghraifft ar fformat sain.

Presgripsiynau

Gall meddygon, deintyddion a rhai nyrsys bennu amrywiaeth o gyffuriau ac offer o dan y GIG. Fel arfer fe allan nhw bennu swm cyfyngedig iawn o gyffur yn unig ar unrhyw un adeg (fel arfer cyflenwad mis)

Am wybodaeth ynglŷn â phwy all gael presgripsiynau am ddim, yn Lloegr, Cymru a’r Alban gweler Cymorth gyda chostau iechyd, yng Ngogledd Iwerddon gweler Cymorth gyda chostau iechyd.

Iechyd ysgol

Cyflawnir archwiliadau iechyd ar blant ysgol gan nyrs yr ysgol. Mae’r profion hyn yn cynnwys profion ar y clyw, golwg a thyfiant. Mae gan rieni'r hawl i fod yn bresennol yn yr archwiliadau hyn. Mae nyrsys ysgol hefyd yn darparu addysg iechyd a chyngor cyffredinol ynglŷn â rheoli problemau iechyd yn yr ysgol.

Clingiau iechyd rhyw ac atgenhedlu

Mae yna nifer o glinigau sy’n darparu gwasanaethau iechyd rhyw arbenigol ac iechyd atgenhedlu. Yn y clinigau hyn fe allwch chi gael gwasanaethau megis:

  • cynllunio teulu
  • terfynu beichiogrwydd
  • cyngor a gwybodaeth merched iach
  • gwasanaethau i bobol ifanc.

Os ydych chi am ddefnyddio’r gwasanaethau hyn, fe allwch chi fynd yn syth i’r clinig. Nid oes rhaid i chi fynd at eich Meddyg Teulu i gael mynediad i glinigau iechyd rhyw ac atgenhedlu. Mae’r clinigau fel arfer wedi’u lleoli mewn ysbytai.

Fe allwch chi ddod o hyd i’ch clinig iechyd rhyw agosaf ar-lein.

Yn Lloegr edrychwch ar NHS Choices yn: www.nhs.uk.

Yng Nghymru, edrychwch ar wefan Galw Iechyd Cymru: www.nhsdirect.wales.nhs.uk.

Yn yr Alban, edrychwch ar NHS 24 yn: www.nhs24.com.

Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Health Information Service: ffôn 0800 665544.

Mae gwybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn mewn amrywiaeth o ieithoedd cymuned ac mewn sawl fformat, er enghraifft, mewn fformat clywedol.

Camddefnyddio sylweddau

Gall rhai pobol ddefnyddio sylweddau megis alcohol neu gyffuriau yn rheolaidd heb unrhyw broblemau. Mae pobol eraill yn profi effeithiau seicolegol a chorfforol niweidiol wrth i’w harfer droi’n gaethiwed. Mae yna lawer o wahanol sefydliadau sy’n darparu triniaeth, cefnogaeth a chyngor i bobol sy’n gaeth. Fe allech chi ddewis ymgynghori â’ch Meddyg Teulu yn gyntaf, ond mae cymorth ar gael hefyd oddi wrth ganolfannau caethiwed cymuned lle y gallwch chi alw i mewn heb apwyntiad. Darperir triniaeth a chefnogaeth gan amrywiaeth o bobol wahanol, yn cynnwys nyrsys arbenigol, cynghorwyr a seiciatryddion.

Yn Lloegr, am fwy o wybodaeth ynglŷn â chamddefnyddio alcohol, ewch i www.nhs.uk. Mae gan asiantaeth y Llywodraeth o’r enw Alcohol Concern wefan sy’n cynnwys llawer o wybodaeth a chysylltiadau defnyddiol - ewch i www.alcoholconcern.org.uk.

Yng Nghymru, mae gwybodaeth bellach ar gamddefnyddio alcohol ar wefan Galw Iechyd Cymru

Yn yr Alban, mae mwy o wybodaeth ar gamddefnyddio alcohol ar wefan NHS inform ar www.nhsinform.co.uk.

Yn Lloegr, am  fwy o wybodaeth ar gamddefnyddio cyffuriau, rhowch glic ar www.nhs.uk.

Yng Nghymru, mae gwybodaeth bellach am gamddefnyddio cyffuriau a bod yn gaeth i gyffuriau ar wefan Galw Iechyd Cymru

Yn yr Alban, mae gwybodaeth bellach ar gamddefnyddio cyffuriau ar wefan NHS inform ar www.nhsinform.co.uk

Gofal terfynol

Mae Gofal Terfynol (a elwir weithiau yn ofal lliniarol) yn golygu triniaeth symptomau lle nad yw gwellhad bellach yn cael ei ystyried yn opsiwn, mewn geiriau eraill, pan mae rhywun yn marw. Mae gofal terfynol yn canolbwyntio ar:

  • rheoli poen a symptomau eraill
  • gwella ansawdd bywyd i’r claf a’i deulu
  • ateb anghenion cymdeihasol, emosiynol ac ysbrydol y claf.

Gellir rhoi gofal terfynol y GIG yn yr ysbyty neu gartref. Mae yna hefyd nifer o hosbisau y GIG sy’n darparu gofal i’r cleifion yng ogystal ag hosbisau o dan ofal sefydliadau gwirfoddol.

Am wybodaeth ynglŷn â sut i ddod o hyd i hosbis, ewch i wefan Gwybodaeth Hosbis (www.hospiceinformation.info).

Am wybodaeth ynglŷn â’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael pan fyddwch chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn marw, fe allwch chi hefyd fynd i wefan Gofal Cancr Marie Curie yn www.mariecurie.org.uk.

Teithio i ysbyty am driniaeth

Efallai y gallwch chi gael costau teithio hanfodol i’r ysbyty ac oddi yno ar gyfer triniaeth y GIG wedi’u talu i chi, er enghraifft, os ydych chi ar incwm isel neu’n derbyn budd-daliadau megis Cymhorthdal Cynnal, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, elfen credyd gwarant o’r Credyd Pensiwn neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â chymorth gyda chostau iechyd, yn Lloegr, Cymru a’r Alban gweler Cymorth gyda chostau iechyd, yng Ngogledd Iwerddon, gweler Cymorth gyda chostau iechyd.

Brechiadau

Mae brechiadau (a elwir hefyd yn imiwneiddiad) yn eich diogelu yn erbyn clefydau heintus gwahanol. Mae’r GIG yn darparu brechiadau ar gyfer plant a rhai oedolion. Efallai y bydd tâl am frechiadau sydd eu hangen ar gyfer teithio dramor.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â brechiadau, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu neu ewch i wefan NHS Direct yn Lloegr (www.nhsdirect.nhs.uk) neu yng Nghymru (www.nhsdirect.wales.nhs.uk) neu yn yr Alban rhowch glic ar wefan NHSinform.

Mae gwybodaeth ar gael ar y gwefannau hyn mewn amrywiaeth o ieithoedd cymuned ac mewn sawl fformat, er enghraifft, mewn fformat clywedol.

Canolfannau galw-i-mewn

Canolfannau’r GIG yng Nghymru a Lloegr ydyw canolfannau galw i mewn, ac yn cael eu staffio gan nyrsys. Fe allwch fynd yno heb apwyntiad. Fe fyddan nhw’n trin mân afiechydon, er enghraifft, peswch, annwyd, a heintiau, ynghyd â mân anafiadau megis ysigiadau a briwiau. Maen nhw’n darparu gwybodaeth ynglŷn â phob gwasanaeth iechyd lleol arall, yn cynnwys fferyllfeydd, gwasanaethau deintyddol a gwasanaethau Meddyg Teulu y tu allan i oriau agor.

Er mwyn cael cyfeiriad eich canolfan galw-i-mewn agosaf, cysylltwch â NHS Direct yn Lloegr yn (www.nhsdirect.nhs.uk) neu yng Nghymru (www.nhsdirect.wales.nhs.uk).

Ar y gwefannau hyn mae gwybodaeth ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd cymunedol ac ar fformatau gwahanol, er enghraifft ar fformat sain.

Yn yr Alban, mae gwybodaeth ar gael ar eich gofal iechyd yn lleol trwy glicio ar wefan NHS inform ar www.nhsinform.co.uk. Os ydych yn sâl pan fydd eich meddygfa leol ar gau, ffoniwch NHS 24 ar 08454 24 24 24.

Cymorth ychwanegol

Yn Lloegr mae NHS Direct a NHS Choices wedi uno i ddarparu ffynhonnell sengl ar-lein o wybodaeth iechyd a gwasanaethau iechyd. Mae NHS Direct yn darparu cyngor iechyd a gwybodaeth ac mae NHS Choices yn hyrwyddo lles a phenderfyniadau deallus ynglŷn â darparwyr iechyd. Mae NHS yn parhau i ddarparu gwasanaeth ffôn i’r cyhoedd ar: 0845 4647. Fe allwch chi ofyn am eu gwasanaeth dehongli os ydych yn dymuno hynny. Y wefan ar gyfer y ddau wasanaeth yw: www.nhs.uk.

Yng Nghymru, y wefan ar gyfer Galw Iechyd Cymru yw www.nhsdirect.wales.nhs.uk. Y rhif ffôn yw 0845 4647.

Yn yr Alban, mae cyngor a chefnogaeth iechyd ar gael oddi wrth NHS 24 yn www.nhs24.com neu dros y ffôn ar 0845 424 24 24. Mae gwybodaeth bellach am iechyd ar gael gan linell ffôn rhad ac am ddim NHS inform ar 0800 224488 ac oddi ar ei wefan ar www.nhsinform.org.uk.

Ar y gwefannau hyn mae gwybodaeth ar gael mewn amrywiaeth o ieithoedd cymunedol ac ar fformatau gwahanol, er enghraifft ar fformat sain.

Yn Ngogledd Iwerddon, mae gwybodaeth bellach am Wsanaethau’r GIG ar gael oddi wrth y Gwasanaeth Gwybodaeth Iechyd ar 0800 665544.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.