Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 3: gweld a yw’ch problem yn fath o wahaniaethu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gallai rhywun dorri cyfraith gwahaniaethu drwy eich trin yn annheg neu’n wahanol. Mae’n gorfod bod oherwydd nodwedd warchodedig neu oherwydd eich bod wedi herio gwahaniaethu o’r blaen.

Gall rhywun eich trin yn annheg drwy:

  • eich atal rhag rhentu neu brynu cartref, codi mwy arnoch chi neu gynnig contract gwaeth i chi
  • ceisio eich troi allan
  • eich atal rhag defnyddio cyfleusterau fel gardd gymunedol, neu ei gwneud yn fwy anodd i chi eu defnyddio
  • rhoi gwasanaeth gwaeth i chi neu wrthod eich helpu, er enghraifft, cymryd mwy o amser i ymateb i’ch cais am atgyweiriadau

Efallai na fydd yn achos o wahaniaethi os yw’r person yn eich trin yn annheg neu’n wahanol am reswm nad yw’n gysylltiedig â nodwedd warchodedig. Er enghraifft, efallai y byddwch yn talu mwy o rent na’ch cymydog gan fod eich fflat fymryn mwy, nid oherwydd eich hil.

Gweld pa fath o wahaniaethu sy’n digwydd

Mae’n bwysig deall pa fath o wahaniaethu rydych chi’n ei wynebu er mwyn i chi allu penderfynu pa gamau i’w cymryd a chael y dystiolaeth iawn.

Bydd angen i chi benderfynu pa un o’r 6 math o wahaniaethu sy’n cyfateb i’ch problem – gallai fod mwy nag un. Mae’n werth ystyried hyn – gallai cael mwy i’w crybwyll os ydych chi’n cwyno neu'n cymryd camau cyfreithiol eich helpu.

  • gwahaniaethu anuniongyrchol
  • gwahaniaethu uniongyrchol
  • aflonyddu
  • methu â gwneud addasiadau rhesymol
  • gwahaniaethu sy’n deillio o anabledd
  • erledigaeth

Os oes rheol yn berthnasol i bawb ond ei bod yn cael effaith waeth arnoch chi – gwahaniaethu anuniongyrchol

Os oes gan rywun bolisi, rheol, maen prawf neu ffordd o wneud pethau sy’n gymwys i bawb ond sy’n eich rhoi chi a phobl gyda’ch nodwedd warchodedig dan ‘anfantais benodol’ o gymharu ag eraill, gelwir hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol.

Er enghraifft, gallai fod yn wahaniaethu anuniongyrchol:

  • os oes gan eich landlord reol sy’n dweud na chaniateir anifeiliaid anwes ond eich bod angen ci tywys
  • os nad ydych chi’n cael gadael unrhyw beth yng nghyntedd eich fflat, ond bdo angen i chi gadw’ch sgwter symudedd yn eich cyntedd
  • os mai dim ond ar ddydd Sadwrn y mae landlord yn gadael i chi weld yr eiddo ond dydych chi ddim yn gallu gan fod hynny’n mynd yn groes i’ch crefydd

Efallai y bydd person sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn yn gallu ei gyfiawnhau – bydd yn rhaid i chi wirio hynny cyn cymryd unrhyw gamau.

Mae'n gallu bod yn anodd sylwi ar wahaniaethu anuniongyrchol oherwydd nad yw wedi’i dargedu atoch chi. Gallai rheol ymddangos yn deg am ei bod yn gymwys i bawb. Ond gallai fod yn wahaniaethu anuniongyrchol os yw’n cael mwy o effaith ar bobl sydd â nodwedd warchodedig.

I brofi gwahaniaethu anuniongyrchol bydd angen i chi ddangos y canlynol:

  • bod rheol neu ffordd o wneud pethau ar waith (mae’r gyfraith yn cyfeirio at hyn fel ‘darpariaeth, maen prawf neu ymarfer’)
  • bod y ddarpariaeth, maen prawf neu ymarfer yn eich rhoi o dan anfantais arbennig o gymharu â phobl eraill nad oes ganddynt eich nodwedd warchodedig
  • hefyd, ei bod yn rhoi pobl eraill sydd â’r un nodwedd warchodedig â chi o dan yr un anfantais

Dangos bod rheol neu’r ffordd o wneud pethau

Nid oes angen i’r rheol neu'r ffordd o wneud pethau fod wedi’i hysgrifennu yn unrhyw le iddi fod yn enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol. Hefyd, nid yw’n gwneud gwahaniaeth os ydych wedi cytuno i’r rheol trwy lofnodi contract neu gytundeb tenantiaeth.

Gallai rheol neu ffordd o wneud pethau fod yn un o’r canlynol:

  • un o delerau’ch cytundeb tenantiaeth sy’n datgan bod yn rhaid i denantiaid dalu eu rhent wyneb yn wyneb yn swyddfa'r landlord
  • polisi gan reolwr eich eiddo bod yn rhaid cyflwyno pob cais am waith cynnal a chadw yn ysgrifenedig
  • bod eich landlord bob amser yn cynnal archwiliadau ar ddydd Sadwrn

Mae’n rhaid i’r rheol neu’r ffordd o wneud pethau fod yn un o’r canlynol:

  • rhywbeth sy’n berthnasol i bobl sydd â’ch nodwedd warchodedig a phobl heb eich nodwedd warchodedig
  • rhywbeth a allai fod yn berthnasol i bobl sydd â’ch nodwedd warchodedig a phobl heb eich nodwedd warchodedig

Gallai’r rheol neu’r ffordd o wneud pethau effeithio ar bobl sydd â’ch nodwedd warchodedig yn unig – er enghraifft, os yw pawb sy'n byw yn eich adeilad yn fenywod. Bydd angen i chi ddangos y gallai fod yn berthnasol i bobl eraill yn ddamcaniaethol – er enghraifft, pe bai dyn yn symud i fyw i'r adeilad, byddai’r rheol neu’r ffordd o wneud pethau yn berthnasol iddo ef hefyd.

Enghraifft

Mae Annie yn defnyddio sgwter symudedd modurol. Mae’n ei barcio yn ei chyntedd gan nad yw am ei adael y tu allan rhag ofn i rywun ei ddwyn. Mae cytundeb tenantiaeth Annie yn nodi, “Ni chaniateir i denantiaid adael unrhyw eitemau yn y cyntedd, coridor neu mewn unrhyw le arall a allai rwystro llwybr y ddihangfa dân.”

Sylwodd landlord Annie ar y sgwter pan gynhaliodd archwiliad. Ysgrifennodd ati yn gofyn iddi ei symud a dywedodd ei bod yn torri ei chytundeb tenantiaeth. Fe'i rhybuddiodd ei bod yn rhwystro llwybr dianc felly efallai y byddai’n gorfod ei throi allan.

Mae'r teler yng nghytundeb tenantiaeth Annie yn ‘ddarpariaeth, maen prawf neu arfer’. Mae hefyd yn gymwys i denantiaid eraill sydd â’r un landlord ag Annie. Mae’n effeithio ar Annie yn waeth na thenantiaid eraill. Mae hefyd yn effeithio neu byddai’n effeithio ar unrhyw bobl anabl eraill sy’n byw yn yr adeilad sydd â chymhorthion symudedd yn waeth na thenantiaid eraill.

Gallai Annie gwyno bod hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol yn ei herbyn.

Gallai landlord Annie geisio cyfiawnhau ei weithredoedd os yw'n meddwl bod ganddo reswm da drostynt.

Dangos yr effaith arnoch chi a phobl â’ch nodwedd warchodedig

Efallai y bydd yn rhaid i chi roi tystiolaeth o’r anfantais arbennig i chi, os nad yw’n amlwg. Er enghraifft, os ydych chi angen gwneud rhywbeth am resymau crefyddol efallai y bydd angen i chi ddangos tystiolaeth ei fod yn bwysig yn eich crefydd.

Bydd yn rhaid i chi ddangos hefyd sut mae neu sut byddai pobl eraill â’ch nodwedd warchodedig yn cael eu heffeithio.

Gallwch ddangos yr effaith drwy edrych ar nifer y bobl â’ch nodwedd warchodedig sy’n cael eu heffeithio. Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu dangos bod 5 person yn eich bloc o fflatiau gyda’ch crefydd, a bod 4 ohonynt yn cael problemau gyda’r un teler yn y denantiaeth.

Os nad oes unrhyw un yn cael ei effeithio yn yr un modd, gallwch geisio dangos yr effaith y byddai’n ei chael ar bobl eraill â'ch nodwedd warchodedig.

Meddyliwch a all gyfiawnhau’r gwahaniaethu

Ni fydd yr hyn sy'n digwydd yn erbyn y gyfraith os yw’r person sy’n gwahaniaethu yn gallu dangos bod ganddo reswm digon da dros wneud hynny.

I fod â rheswm da, mae’n rhaid iddo allu dangos bod rhoi'r ddarpariaeth, maen prawf neu arfer ar waith yn ‘fodd cymesur o gyflawni amcan dilys’. Mae 2 ran i ddangos hyn.

Yn gyntaf, mae’n rhaid iddo ddangos bod yr amcan yn ddilys. Gallai amcan dilys gynnwys:

  • iechyd a diogelwch pobl eraill
  • gofalu bod y busnes yn cael ei redeg yn iawn
  • gofalu nad yw cymdogion yn cael eu tarfu'n ormodol

Yn ail, mae’n rhaid i’w ymddygiad fod yn gymesur – mae hyn yn golygu na all wahaniaethu mwy nag sydd raid. Os oes ffyrdd gwell a thecach o wneud pethau, bydd yn anoddach cyfiawnhau gwahaniaethu.

Bydd eich dadl yn gryfach os gallwch feddwl am ffordd arall o gyflawni’r amcan dilys sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn llai.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r ymddygiad yn gymesur, dylech feddwl am:

  • faint o bobl â’ch nodwedd warchodedig fyddai’n cael eu heffeithio – mae nifer uchel yn ei wneud yn anoddach i’w gyfiawnhau
  • pa mor wael yw'r effaith ar bobl - er enghraifft, bydd yn anoddach cyfiawnhau troi rhywun allan nag achosi anhwylustod bach iddynt

Os nad ydych chi’n siŵr a ellir cyfiawnhau’r gwahaniaethu, gofynnwch am gymorth gan gynghorydd.

Enghraifft

Mae landlord Rebecca yn dweud nad yw tenantiaid yn cael llosgi canhwyllau yn eu cartrefi. Mae Rebecca wedi dadlau fod hyn yn wahaniaethu anuniongyrchol oherwydd ei bod yn goleuo canhwyllau fel rhan o’i chrefydd.

Mae’r landlord yn dweud nad yw’n wahaniaethu oherwydd bod ganddynt ddyletswydd i gadw preswylwyr yr adeilad yn ddiogel rhag tân.

Mae Rebecca yn dweud wrth y landlord nad yw’n creu bod gwahardd canwyllau yn gymesur - gallai gadw diffoddwr tân yn y cartref a chytuno i beidio â gadael yr ystafell wrth i’r canwyllau losgi.

Os na all Rebecca a’r landlord gytuno, gallai Rebecca feddwl am ddwyn achos llys. Byddai’r llys yn penderfynu a ellid cyfiawnhau’r gwahaniaethu.

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn cael ei drafod yn adran 19 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os cawsoch eich trin yn waeth na rhywun arall – gwahaniaethu uniongyrchol

Os oes rhywun yn eich trin yn waeth na phobl eraill oherwydd nodwedd warchodedig, gelwir hyn yn wahaniaethu uniongyrchol. Y term cyfreithiol am gael eich trin yn waeth yw cael eich trin yn ‘llai ffafriol’.

Er enghraifft, efallai:

  • na fyddwch chi’n cael rhentu eiddo pan fo rhywun arall yn cael gwneud
  • y byddwch yn cael eich troi allan am ddifrodi rhywbeth pan na ddigwyddodd hynny i rywun arall

Os ydych chi’n cael eich trin yn annheg oherwydd nodwedd warchodedig rhywun arall

Efallai y byddwch chi’n destun gwahaniaethu oherwydd rhywun sy’n gysylltiedig â chi. Er enghraifft, gallech gael eich trin yn annheg oherwydd bod eich partner o hil benodol. Gelwir hyn yn ‘wahaniaethu uniongyrchol drwy gysylltiad’.

Os oes rhywun yn meddwl bod gennych chi nodwedd warchodedig, ond nad yw hynny'n wir

Efallai y byddwch yn cael eich trin yn annheg oherwydd bod rhywun yn meddwl bod gennych chi nodwedd warchodedig, hyd yn oed os nad yw hynny'n wir. Er enghraifft, efallai bod rhywun yn eich trin yn annheg oherwydd eu bod yn credu eich bod yn hoyw, ond eich bod yn heterorywiol mewn gwirionedd – gelwir hyn yn ‘wahaniaethu uniongyrchol drwy ganfyddiad’.

Dangos eich bod wedi cael eich trin yn llai ffafriol

Bydd angen i chi ddangos eich bod wedi cael eich trin yn llai ffafriol na rhywun arall heb eich nodwedd warchodedig.

Efallai y byddwch yn gwybod bod rhywun yn union yr un sefyllfa â chi ond eich bod wedi cael eich trin yn llai ffafriol. Mae’r gyfraith yn galw’r person hwn yn ‘gymharydd gwirioneddol’.

Efallai na fyddwch angen cymharydd os yw’r gwahaniaethu'n amlwg – er enghraifft os yw asiant gosod yn dweud na fydd yn helpu cwpl o’r un rhyw oherwydd ei fod yn ‘anghytuno â’u ffordd o fyw’.

Enghraifft

Mae Ibrahim yn rhentu ystafell mewn tŷ mawr. Mae 4 tenant arall yn y tŷ.

Nid oedd y rheiddiadur yn ystafell Ibrahim yn gweithio. Rhoddodd Ibrahim wybod i’w landlord sawl gwaith ond ni atebodd ei negeseuon. Yn y pen draw anfonodd y landlord blymwr i’w atgyweirio ar ôl 8 wythnos.

Pan roddodd un o’r tenantiaid eraill wybod i’r landlord fod y rheiddiadur yn ei ystafell wedi torri, anfonodd y landlord rywun i’w atgyweirio ar unwaith.

Mae Ibrahim yn credu mai’r rheswm bod y landlord wedi cymryd mwy o amser i ddelio â’i broblem ef yw oherwydd ei fod yn Fwslim – mae wedi clywed y landlord yn gwneud sylwadau amdano wrth denantiaid eraill.

Gan nad yw’r tenantiaid eraill yn Fwslimiaid a gan eu bod hefyd wedi gwneud yr un ceisiadau am waith cynnal a chadw, gallai Ibrahim eu defnyddio fel cymaryddion gwirioneddol. Os yw landlord Ibrahim yn ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei fod yn Fwslim, byddai’n wahaniaethu uniongyrchol oherwydd crefydd neu gredo.


Os na allwch chi ddod o hyd i unrhyw un sydd wedi bod yn yr un sefyllfa, bydd angen i chi ddychmygu rhywun heb eich nodwedd warchodedig yn yr un sefyllfa. Mae’r gyfraith yn galw’r person hwn yn ‘gymharydd damcaniaethol’.

Bydd angen i chi ddangos bod y ffordd y cawsoch eich trin yn llai ffafriol na’r ffordd y byddai yntau wedi cael ei drin. Gallech wneud hyn drwy ddefnyddio enghraifft wirioneddol lle mae rhywun wedi bod mewn sefyllfa wahanol ond tebyg.

Enghraifft

Difrododd John ddrws yn ei dŷ ar ddamwain. Pan ddaeth y landlord i wybod, dywedodd wrtho nad oedd yn cymryd gofal o’r eiddo ac anfonodd hysbysiad troi allan iddo.

Mae John yn ddu ac mae’n meddwl mai hyn yw’r rheswm gwirioneddol pam mae ei landlord yn ceisio ei droi allan. Mae am ddod o hyd i gymharydd i’w helpu i brofi hyn.

Mae Karl, cymydog John, yn rhentu gan yr un landlord. Mae Karl yn wyn.

Torrodd Karl ei gytundeb tenantiaeth unwaith hefyd pan fethodd dalu ei rent am 2 fis. Pan ddigwyddodd hynny, dywedodd y landlord wrth Karl y gallai ei dalu yn ôl maes o law - ni chafodd hysbysiad troi allan.

Fodd bynnag, roedd sefyllfa Karl yn wahanol i un John. Roedd John a Karl wedi torri eu cytundebau tenantiaeth ond roedd eu sefyllfaoedd yn wahanol.

Mae’n debyg nad oes unrhyw un wedi bod yn union yr un sefyllfa â John felly mae’n rhaid iddo ddefnyddio cymharydd damcaniaethol. Gall ddweud bod yr hyn a ddigwyddodd i Karl yn awgrymu na fyddai cymharydd damcaniaethol yn yr un sefyllfa wedi cael ei droi allan.

Meddyliwch am y rheswm pam i chi gael eich trin yn llai ffafriol

Bydd yn rhaid i chi feddwl a yw’r person wedi’ch trin yn llai ffafriol oherwydd y nodwedd warchodedig. Gelwir hyn yn ‘achosiad’ yn ôl y gyfraith.

Gallai’r person sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn ddweud bod ganddo reswm arall am y ffordd y cawsoch eich trin ar wahân i’ch nodwedd warchodedig. Er enghraifft, efallai na fydd yn gadael i chi rentu cartref gan na allwch ddangos eich bod yn gallu ei fforddio.

Os byddwch yn dwyn achos yn ei erbyn yn y llys, bydd yn rhaid i chi ddangos pam eich bod yn meddwl mai’ch nodwedd warchodedig oedd y rheswm dros hyn, er enghraifft gallech ddangos bod pobl eraill â’ch nodwedd warchodedig wedi cael eu trin yn yr un modd.

Os yw’r llys yn derbyn eich tystiolaeth bod gwahaniaethu wedi digwydd o bosibl, bydd angen i’r ochr arall brofi nad oedd y ffordd y cawsoch eich trin yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig. Mae’r rheolau ar hyn yn adran 136 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os oes rhywun yn eich trin yn llai ffafriol am fwy nag un rheswm, mae'n parhau i fod yn achos o wahaniaethu cyn belled â bod eich nodwedd warchodedig yn un ohonynt. Er enghraifft, gallai'ch landlord eich trin yn llai ffafriol yn rhannol am eich bod yn hoyw ac yn rhannol am eich bod chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent. Byddai hyn yn dal i fod yn wahaniaethu.

Mae'n dal i fod yn wahaniaethu os nad oedd rhywun wedi bwriadu eich trin yn llai ffafriol.

Enghraifft

Mae gan Harper anabledd dysgu ac mae ei landlord yn ymwybodol o hynny. Mae ei landlord yn meddwl y bydd yn gwneud ei bywyd yn haws drwy ddweud bod yn rhaid iddi dalu ei rhent drwy ddebyd uniongyrchol, yn hytrach na gwneud iddi orfod trafferthu gyda bancio ar-lein bob mis.

Byddai’n well gan Harper dalu ar-lein. Os yw ei landlord yn gwrthod gadael iddi wneud hynny, gallai fod yn achos o wahaniaethu uniongyrchol, er ei fod yn meddwl ei fod yn ei helpu.


Mae adran 13 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn trafod gwahaniaethu uniongyrchol.

Os oes rhywun yn aflonyddu arnoch neu'n eich bwlio

Gallai fod yn achos o aflonyddu os oes rhywun yn ymddwyn mewn ffordd sy’n:

  • eich tramgwyddo
  • gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus neu’n ofidus
  • eich bygwth chi

Gallai hyn gynnwys pethau fel:

  • sylwadau neu jôcs difrïol
  • ystumiau corfforol neu ystumiau’r wyneb sarhaus
  • sylwadau sarhaus ar gyfryngau cymdeithasol

Ar ôl cadarnhau a oes unrhyw fathau eraill o wahaniaethu yn berthnasol i chi, gallwch edrych i weld a yw'ch problem yn achos o aflonyddu.

Mae adran 26 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn trafod aflonyddu.

Os ydych chi wedi gofyn am newidiadau i helpu gyda’ch anabledd (addasiadau rhesymol)

Mae gan eich landlord, rheolwr eiddo neu unrhyw un arall sy’n ‘rheolydd’ ar yr eiddo ddyletswydd i wneud newidiadau penodol i’w gwneud hi’n haws i chi fyw yno. Y ‘ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol’ yw hyn.

Os mai cymdeithas cyd-ddeiliaid sy’n berchen ar eich adeilad, mae’n ddyletswydd arnyn nhw i wneud addasiadau rhesymol hefyd.

Gallwch ofyn am newidiadau cyn i chi symud i mewn neu pan rydych chi’n byw yno. Os ydynt yn gwrthod gwneud y newidiadau sydd eu hangen arnoch chi, gallai gyfrif fel math o wahaniaethu a elwir yn fethiant i wneud addasiadau rhesymol.

Mae addasiadau rhesymol ond yn cynnwys newidiadau penodol i’ch cartref. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw beth a fyddai’n gofyn i’ch landlord gael gwared ar neu newid nodwedd ffisegol, er enghraifft, dymchwel waliau, lledu drysau neu osod rampiau parhaol.

Edrychwch i weld pa addasiadau rhesymol y gallwch chi ofyn amdanynt a phwy sy’n gorfod eu gwneud.

Trafodir addasiadau rhesymol yn adrannau 20, 21, 36 ac Atodlenni 4 a 5 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os yw’r gwahaniaethu yn deillio o rywbeth sy’n gysylltiedig â’ch anabledd

Gallai fod yn wahaniaethu sy’n deillio o anabledd. Mae hyn yn wahanol i wahaniaethu uniongyrchol, lle’r ydych chi’n cael eich trin yn annheg neu’n wahanol oherwydd eich anabledd ei hun.

Nid oes angen i chi brofi eich bod wedi cael eich trin yn waeth na rhywun arall. Mae angen i chi ddangos eich bod wedi cael eich trin yn annheg oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’ch anabledd. Mae’r gyfraith yn galw hyn yn cael eich trin yn ‘anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n codi yn sgil’ eich anabledd.

Ni fydd yn wahaniaethu os nad oedd y person dan sylw yn gwybod am eich anabledd.

Mae’n wahaniaethu o hyd pe bai'n rhesymol i chi ddisgwyl iddynt wybod am eich anabledd. Er enghraifft, os ydych chi wedi rhoi manylion eich anabledd ar eich ffurflen cais am denantiaeth, mae’n rhesymol disgwyl i’ch landlord wybod amdano.

Mae’n wahaniaethu hefyd os oedd yn gwybod eich bod yn anabl ond ddim yn gwybod yn union sut mae’ch anabledd yn effeithio arnoch chi.

Enghraifft

Mae Hayley yn byw mewn fflat. Mae ganddi ADHD sy’n golygu ei bod yn aml yn gweiddi ac yn cau drysau gyda chlec.

Cwynodd cymydog Hayley ac anfonodd ei landlord hysbysiad troi allan ati gan fod ei thenantiaeth yn dweud nad yw’n cael gwneud sŵn afresymol.

Mae landlord Hayley yn gwybod am ei ADHD. Nid yw’n ceisio ei throi allan oherwydd ei bod yn anabl, ond oherwydd y sŵn a achoswyd gan ei hanabledd. Gallai’r troi allan fod yn wahaniaethu sy’n deillio o anabledd.

Efallai bod mwy nag un rheswm dros y broblem – rhai sy’n gysylltiedig â’ch anabledd a rhai sydd ddim. Os oedd eich anabledd yn ffactor, gall fod yn wahaniaethu sy’n deillio o anabledd o hyd.

Er enghraifft, efallai mai'ch iselder a'r ffaith eich bod yn gaeth i alcohol sy'n gyfrifol am eich ôl-ddyledion rhent. Gallai’ch iselder fod yn anabledd, ond nid yw bod yn gaeth i alcohol.

Meddyliwch a oes modd cyfiawnhau’r gwahaniaethu

Os gall y person sy’n gwahaniaethu ddangos bod ganddo reswm digon da drosto, ni fydd y gwahaniaethu sy’n deillio o’r anabledd yn torri’r gyfraith.

I gael rheswm da, mae’n rhaid iddo ddangos bod y ffordd y cawsoch eich trin yn ‘fodd cymesur o gyflawni amcan dilys’. Mae 2 ran i ddangos hyn.

Yn gyntaf, mae’n rhaid iddo ddangos bod yr amcan yn ddilys. Gallai amcan dilys gynnwys:

  • iechyd a diogelwch pobl eraill
  • gofalu bod y busnes yn cael ei redeg yn iawn
  • gofalu nad yw cymdogion yn cael eu tarfu'n ormodol

Yn ail, mae’n rhaid i’w ymddygiad fod yn gymesur – mae hyn yn golygu na all wahaniaethu mwy nag sydd angen. Os oes ffyrdd gwell a thecach o wneud pethau, bydd yn anoddach cyfiawnhau'r gwahaniaethu.

Os nad yw'ch landlord wedi gwneud y newidiadau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich anabledd

Gallai fod yn fath o wahaniaethu a elwir yn ‘fethiant i wneud addasiadau rhesymol’.

Os felly, mae’n debyg na fydd yn gallu cyfiawnhau mathau eraill o wahaniaethu yn eich erbyn. Edrychwch i weld pa addasiadau rhesymol sy'n rhaid i'ch landlord eu gwneud.

Bydd eich dadl yn gryfach os gallwch chi feddwl am ffordd o gyflawni'r amcan dilys sy’n gwahaniaethu llai yn eich erbyn.

Enghraifft

Mae landlord Hayley yn ei throi allan am niwsans sŵn.

Achoswyd y niwsans gan ei ADHD, sy’n anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gallai ei landlord ddadlau bod ei throi allan yn ‘fodd cymesur o gyflawni’r amcan dilys’. Mae angen iddo sicrhau nad yw’n tarfu ar denantiaid eraill yn y bloc - a dyma’r amcan dilys. Mae’r landlord yn dweud bod yn rhaid iddo droi Hayley allan i ddiogelu’r tenantiaid eraill.

Mae’n rhaid i landlord Hayley ddangos hefyd bod ei throi allan yn gymesur. Gallai Hayley ddadlau bod ffyrdd mwy cymesur y gallai’r landlord gyflawni ei amcan, er enghraifft gosod deunydd gwrthsain neu ei symud i dŷ gwahanol lle bydd y sŵn yn llai o broblem.

Os na all Hayley a’i landlord gytuno beth i’w wneud, gallai amddiffyn y penderfyniad i’w throi allan mewn llys. Byddai'r barnwr yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a oedd ei throi allan yn fodd cymesur o gyflawni’r amcan dilys.

Os nad ydych chi’n siŵr a ellir cyfiawnhau’r gwahaniaethu, gofynnwch am gymorth gan gynghorydd.

Mae adran 15 o’r Ddeddf Cydraddoldeb yn trafod gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd.


Os ydych chi wedi cael eich trin yn annheg oherwydd eich bod wedi herio gwahaniaethu yn y gorffennol - erledigaeth

Gallai fod yn erledigaeth. Yn y gyfraith, cyfeirir at gwyno yn erbyn gwahaniaethu neu helpu rhywun arall i gwyno yn erbyn gwahaniaethu fel ‘gweithredoedd gwarchodedig’.

Gallai gweithred warchodedig gynnwys:

  • cwyno i’ch landlord am wahaniaethu
  • rhoi tystiolaeth i gefnogi cwyn rhywun arall am wahaniaethu
  • mynd i’r llys i wneud hawliad gwahaniaethu

Mae’n achos o erledigaeth os yw rhywun yn eich trin yn annheg oherwydd eich bod wedi cwyno neu helpu rhywun arall i gwyno. Mae’r gyfraith yn galw hyn yn bod yn ‘destun niwed oherwydd eich bod wedi cyflawni gweithred warchodedig’.

Nid yw'n cael eich trin yn annheg chwaith oherwydd ei fod yn meddwl eich bod wedi cwyno, neu y gallech gwyno yn y dyfodol.

Nid ydych yn cael eich amddiffyn rhag erledigaeth os ydych chi:

  • yn gwneud cyhuddiadau ffug neu'n rhoi gwybodaeth ffug ac
  • yn gwneud hynny mewn ewyllys drwg

Er enghraifft, os ydych chi wedi gorliwio’n fwriadol pa mor ddrwg y cawsoch eich aflonyddu i gael setliad iawndal uwch, ni fyddai’n erledigaeth pe baech chi’n cael eich trin yn annheg oherwydd hynny.

Byddech yn cael eich amddiffyn pe baech yn gwneud cwyn oherwydd eich bod wedi credu’n ddidwyll ei fod yn wahaniaethu ond nad felly oedd yn y diwedd.

Enghraifft

Helpodd Johann ei gymydog Paul drwy fod yn dyst pan wnaeth Paul hawliad gwahaniaethu ar sail hil yn erbyn eu landlord. Mae bod yn dyst yn ‘weithred warchodedig’ yn ôl y gyfraith.

Mae landlord Johann bellach wedi rhoi hysbysiad troi allan iddo. Mae Johann yn meddwl bod hynny oherwydd iddo helpu Paul gyda’i hawliad yn erbyn eu landlord.

Gallai hyn fod yn achos o erledigaeth a gallai helpu Johann i amddiffyn y penderfyniad i’w droi allan yn y llys. Byddai’r barnwr yn penderfynu a oedd yn achos o erledigaeth neu a oedd rheswm arall pam mae'r landlord yn ceisio ei droi allan, er enghraifft oherwydd bod gan Johann ôl-ddyledion rhent.

Mae adran 27 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn trafod erledigaeth.

Penderfynu beth i’w wneud am wahaniaethu

Mae gwahanol opsiynau yn dibynnu ar a ydych chi’n:

Previous
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.