Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Ydy’ch problem gyda thai yn achos o wahaniaethu?

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai ei bod yn anghyfreithlon os oes rhywun yn eich trin yn annheg neu’n wahanol oherwydd pwy ydych chi, fel os ydych chi’n anabl neu’n fenyw. Os yw’n anghyfreithlon, gallwch chi gwyno neu fynd â nhw i’r llys.

Y brif gyfraith sy’n gwarchod rhag gwahaniaethu o ran tai yw Deddf Cydraddoldeb 2010 – mae Rhan 4 yn ymwneud â thai. Mae’n cynnwys chwilio am le i fyw neu’n byw yn rhywle.

Os ydych chi’n cael eich troi allan, efallai y gallwch chi ddefnyddio’ch hawliau gwahaniaethu i helpu i amddiffyn y dadfeddiant yn y llys hefyd.

Mae ystyr penodol i wahaniaethu yn y gyfraith – ni fydd pob problem yn anghyfreithlon ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’w datrys.

Mae rhai camau i’w dilyn cyn i chi benderfynu pa gamau i’w cymryd. Bydd y camau yn eich helpu i gymhwyso’r gyfraith i’ch sefyllfa – dydyn nhw ddim yn cynnwys enghreifftiau o bob math o broblemau gwahaniaethu.

Y cam cyntaf yw gwirio eich bod yn cael eich amddiffyn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Go to step 1
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.