Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 2: llenwi’r ffurflen hawlio

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Bydd angen i chi anfon ‘ffurflen hawlio’ i’ch llys sirol lleol a thalu ffi i gychwyn y broses – gallwch chi gael y ffurflen hawlio N1 a’r nodiadau ar sut i’w llenwi yn GOV.UK.

Anfonwch y ffurflen hawlio os na fyddwch chi wedi derbyn ymateb i’ch llythyr ar ôl 14 diwrnod (neu ba bynnag gyfnod arall a nodwyd gennych chi) neu os nad ydych chi wedi llwyddo i ddod i gytundeb y tu allan i’r llys.

Os na wnaethoch chi anfon llythyr cyn cymryd camau gan y byddech chi wedi methu’r dyddiad cau, dylech chi esbonio hyn ar y ffurflen hawlio.

Dechreuwch trwy ysgrifennu:

  • eich enw llawn a’ch cyfeiriad yn yr adran ‘hawlydd’ ar y ffurflen
  • enw a chyfeiriad y person neu’r busnes rydych chi’n cymryd camau yn ei erbyn yn yr adran ‘diffynnydd’ ar y ffurflen
  • am beth rydych chi'n hawlio a beth rydych chi ei eisiau – gwnewch hyn yn yr adran ‘manylion byr yr hawliad’
  • eich bod chi’n gwneud hawliad o dan ‘Ran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010’

Gofalwch eich bod chi’n cael enw’r diffynnydd yn iawn – os byddwch chi’n enwi’r person anghywir neu’n cyflwyno eich hawliad i’r person anghywir, efallai y bydd y llys yn dweud nad yw'ch hawliad yn ddilys – a bydd eich achos yn cael ei ‘ddileu’.

Os ydych chi angen help, gallwch chi siarad â chynghorydd unrhyw bryd – mae’r broses yn gallu bod yn gymhleth.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i ysgrifennui, edrychwch ar enghraifft o ffurflen hawlio wedi’i llenwi [ 270 kb].

Peidiwch â chopïo’r enghraifft hon – bydd ffeithiau’r achos yn wahanol. Os byddwch chi’n copïo manylion sydd ddim yn berthnasol i’ch achos, gallai'ch achos gael ei wrthod gan y llys.


Os na allwch chi weld yr enghraifft ac nad ydych chi’n siŵr beth i’w roi ar eich ffurflen hawlio, gallwch chi gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Llenwi’r adran ‘gwerth’

Os ydych chi’n hawlio arian am wahaniaethu, rhowch y swm yn yr adran gwerth. Os nad ydych chi’n gofyn am arian, dylech chi adael yr adran hon yn wag.

Does dim rhaid i chi roi swm penodol – bydd amrediad yn gwneud y tro. Gall hawliadau ddilyn 3 llwybr gwahanol, yn dibynnu’n bennaf ar faint o arian sy’n cael ei hawlio. Mae pob un o’r llwybrau hyn yn cael ei alw’n ‘drac’ ac yn cwmpasu swm penodol. Mae terfynau pob trac fel a ganlyn:

  • dim mwy na £10,000 – trac hawliadau bychain
  • dim mwy na £25,000 – trac cyflym
  • mwy na £25,000 – amldrac

Darllenwch fwy am sut i gyfrifo faint allwch chi ei hawlio.

Llenwi’r adran ‘manylion yr hawliad’

Esboniwch beth ddigwyddodd a rhowch y ffeithiau yn y drefn y digwyddon nhw. Bydd angen i chi ddefnyddio’r dystiolaeth rydych chi wedi’i chasglu i brofi’r ffeithiau hyn yn y llys.

Os nad oes gennych chi lawer o amser, gallwch chi anfon y ffurflen yn gyntaf a ‘manylion yr hawliad’ hyd at 14 diwrnod yn ddiweddarach. Ar y ffurflen hawlio, rhowch groes trwy’r geiriau ‘ynghlwm’ os byddwch chi’n eu hanfon nhw yn ddiweddarach. Gallech chi ddefnyddio’r amser hwn i grynhoi manylion eich hawliad neu i drafod.

Os ydych chi’n anfon manylion yr hawliad gyda’ch ffurflen hawlio a’ch bod chi wedi eu teipio ar ddalenni ar wahân, gallwch chi ddweud ‘gweler y dalenni sydd ynghlwm’ a’u rhoi ynghlwm wrth y ffurflen.

Os ydych chi’n bwriadu gofyn i’r llys gyhoeddi’r hawliad ond eich bod eisiau ei anfon at y diffynnydd eich hun, does dim rhaid i chi anfon manylion yr hawliad bryd hyn. Gofalwch eich bod chi’n eu hanfon nhw gyda’r ffurflen hawlio o fewn 4 mis i gyhoeddi’r hawliad. Darllenwch fwy am pryd y gallech chi fod eisiau anfon y ffurflen eich hun.

Gofalwch eich bod chi’n sôn am:

  • pam rydych chi’n credu bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn – bydd angen i chi roi’r nodwedd warchodedig
  • y math o wahaniaethu, er enghraifft, gwahaniaethu uniongyrchol – os oes mwy nag un math o wahaniaethu rydych chi eisiau sôn amdano, soniwch amdanyn nhw i gyd
  • y cymharydd os yw’n wahaniaethu uniongyrchol (does dim rhaid i chi wneud hyn, ond mae’n syniad da) – gweithiwch allan pwy yw’r cymharydd
  • y ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer sy’n wahaniaethol (os yw’n wahaniaethu anuniongyrchol) a pham mae’n eich rhoi chi a phobl eraill â’ch nodwedd warchodedig o dan anfantais benodol o gymharu â phobl sydd ddim yn rhannu’r nodwedd
  • eich bod chi’n cael eich trin yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy’n gysylltiedig â’ch anabledd (os yw’n wahaniaethu sy'n deillio o anabledd) ac esboniwch sut
  • yr effaith y mae wedi’i chael arnoch chi – gallai hyn fod yn arian rydych chi wedi’i golli neu’r effaith emosiynol
  • y ddarpariaeth, y maen prawf neu’r arfer, un o nodweddion yr eiddo neu ddiffyg gymhorthyn ategol sy’n eich rhoi chi o dan anfantais sylweddol o gymharu â rhywun nad yw’n anabl (os yw’n fethiant i wneud addasiad rhesymol ar gyfer eich anabledd) ac esboniwch pam mae ganddyn nhw ddyletswydd i wneud yr addasiad 

Disgrifio’r amgylchiadau

Mae angen i chi ddweud pa ran o’r gyfraith sy’n berthnasol i'ch amgylchiadau – gall fod mwy nag un.

Os oes rhywun sy’n rheoli eiddo neu denantiaethau yn gwahaniaethu yn eich erbyn, dylech chi ddweud bod y gwahaniaethu wedi digwydd wrth ‘reoli eiddo’. Dyma’r term cyfreithiol sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o bethau mae landlordiaid yn ei wneud, fel casglu rhent a delio ag atgyweiriadau. Mae angen i chi ddweud eich bod chi’n cyflwyno’r hawliad o dan adran 35 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os i'ch problem ddigwydd wrth werthu neu rentu cartrefi, gallwch chi ddweud bod y gwahaniaethu wedi digwydd wrth ‘waredu eiddo’, er enghraifft, os i landlord wrthod dangos eiddo penodol i chi oherwydd eich hil neu'ch crefydd. Mae angen i chi ddweud eich bod chi’n cyflwyno’r hawliad o dan adran 33 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dywedwch fod y broblem yn ymwneud â ‘chaniatâd i waredu eiddo’ os yw’r gwahaniaethu'n cael ei wneud gan rywun sydd angen cytuno i werthu neu rentu cartrefi. Er enghraifft, efallai bod eich landlord wedi gwrthod gadael i chi is-osod ystafell yn eich fflat oherwydd crefydd y tenant. Mae angen i chi ddweud eich bod chi’n cyflwyno’r hawliad o dan adran 34 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os yw’r broblem yn ymwneud ag addasiadau rhesymol, dywedwch pwy yw ‘rheolydd yr eiddo’. Gallai hyn fod y person sy’n ei rentu neu’n ei reoli. Dylech chi ddweud hefyd ei fod wedi methu â gwneud addasiadau rhesymol o dan adrannau 20 a 36 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a’ch bod chi’n cyflwyno’r hawliad o dan adran 21 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Yna, bydd angen i chi ddweud beth ddigwyddodd a pham fod hyn yn y gyfraith.

Gofyn am yr hyn rydych chi eisiau ei weld yn digwydd

Gofalwch eich bod chi’n gofyn am yr hyn rydych chi eisiau ei weld yn digwydd, fel rhywbeth yn cael ei newid. Dylech chi ddweud hyn hyd yn oed os ydych chi wedi gofyn am arian yn barod yn yr adran ‘gwerth’.

Gallwch chi ofyn bod y gwahaniaethu'n dod i ben trwy ddweud eich bod chi eisiau ‘gwaharddeb’. Dyma ffordd o ofyn i’r llys orchymyn pwy bynnag sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn naill ai i wneud rhywbeth neu i roi’r gorau i wneud rhywbeth. Gallai hyn fod yn rhywbeth fel:

  • cymdeithas tai yn newid polisi sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl
  • landlord yn gwneud addasiad rhesymol
  • asiant tai yn rhoi’r gorau i ffordd o weithio sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl o grefydd penodol 

Os nad oes digon o le i nodi manylion yr hawliad

Gallwch chi ysgrifennu mwy ar dudalen ar wahân os nad oes digon o le i nodi holl fanylion yr hawliad yn y bocs. Os ydych chi’n defnyddio tudalen ar wahân, ysgrifennwch yn y bocs “gweler manylion yr hawliad sydd ynghlwm” neu “gweler y dalenni sydd ynghlwm” os ydych chi’n parhau i ysgrifennu ar dudalen ar wahân.

Ysgrifennwch:

  • ‘Manylion yr hawliad’ ar y top
  • mai chi yw’r ‘Hawlydd’ ac mai’r person neu’r busnes rydych chi’n gwneud hawliad yn ei erbyn yw’r ‘Diffynnydd’
  • rhif yr hawliad os oes gennych chi un
  • enw’r llys

Dywedwch ar y ffurflen hawlio fod manylion yr hawliad ynghlwm.

Ysgrifennu pa ran o’r gyfraith sy’n berthnasol i'ch hawliad

Dylech chi ddweud hefyd eich bod chi’n hawlio o dan ‘Ran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010’.

Yna, ysgrifennwch pa fath o wahaniaethu a ddigwyddodd:

Am beth rydych chi’n hawlio Pa ran o’r Ddeddf Cydraddoldeb sy'n berthnasol
Gwahaniaethu uniongyrchol Adran 13
Gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd Adran 15
Gwahaniaethu anuniongyrchol Adran 19
Methiant i wneud addasiadau rhesymol  Adrannau 20, 21 a 36 ac Atodlen 4
Aflonyddu Adran 26
Fictimeiddio Adran 27

Llofnodi’r ‘datganiad gwirionedd’

Gofalwch eich bod chi’n llofnodi’r ‘datganiad gwirionedd’ ar waelod y ffurflen. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n cytuno bod popeth rydych chi wedi’i ysgrifennu yn wir.

Os ydych chi wedi defnyddio dalen ychwanegol sy'n rhoi ‘manylion yr hawliad’, ysgrifennwch ddatganiad gwirionedd arall arni a’i lofnodi. Copïwch y geiriad o’r brif ffurflen hawlio.

Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w ysgrifennu, gallwch chi weld enghraifft o fanylion yr hawliad [ 84 kb]. Os na allwch chi agor y ddogfen, gallwch chi weld y fersiwn hon, ond nid yw’n dangos y fformatio mae’r llys yn ei ddefnyddio. Os na fyddwch chi’n defnyddio’r fformat a nodir yn rheolau’r llys, gallai gael effaith negyddol ar eich achos. Gallwch chi gael help gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi’n poeni am fformatio eich dogfen.

Peidiwch â chopïo’r enghraifft hon – bydd ffeithiau’r achos yn wahanol. Os byddwch chi’n copïo manylion sydd ddim yn berthnasol i’ch achos, gallai'ch achos gael ei wrthod gan y llys.

Previous Step 3
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.