Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 3: anfon y ffurflen hawlio i’r llys

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gofalwch fod yr holl ffeithiau ar y ffurflen hawlio yn gywir cyn i chi ei hanfon. Dylech chi ysgrifennu llythyr eglurhaol i’w anfon gyda’r ffurflen hefyd. Dylai’r llythyr gynnwys manylion sut rydych chi’n talu’r ffi neu os nad oes rhaid i chi dalu’r ffi oherwydd eich bod chi ar incwm isel.

Gwnewch gopi neu dynnwch lun o’r ffurflen a’r dogfennau eraill rydych chi wedi’u cynnwys – efallai y byddwch chi angen hwn maes o law.

Fel arfer, bydd angen i chi anfon 3 chopi o bopeth i’r llys – bydd y llys yn cadw un, yn dychwelyd un atoch chi ac yn anfon un at y diffynnydd. Os ydych chi eisiau anfon y ffurflen at y diffynnydd eich hun, rhaid i chi ddweud hynny yn eich llythyr eglurhaol. Fel arall, bydd y llys yn ei hanfon at y diffynnydd.

Dylech chi anfon y ffurflenni i’r llys neu eu cyflwyno yn y llys eich hun. Gofalwch eich bod chi’n cael prawf o bostio os ydych chi’n eu postio nhw. Gallwch weld pa lys i’w hanfon iddo yn GOV.UK. Fel arfer, y llys agosaf i gyfeiriad y diffynnydd fydd hwn.

Os ydych chi wedi llenwi'ch ffurflen yn gywir a thalu’r ffi (os oes rhaid i chi ei thalu), bydd y llys yn stampio’r ffurflen ac yn rhoi rhif hawliad iddi.  ‘Cyhoeddi’r hawliad’ yw'r enw ar hyn.

Os nad ydych chi wedi llenwi’r ffurflen yn iawn neu os oedd rhaid i chi dalu ffi ond eich bod chi heb wneud hynny, ni fyddan nhw’n cyhoeddi'ch hawliad. Mae hyn yn golygu efallai y byddwch chi’n methu’r dyddiad terfyn ar gyfer gwneud hawliad.

Dylech chi ysgrifennu i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) i ddweud eich bod chi wedi cychwyn y broses llys. Weithiau, gallan nhw gymryd rhan yn yr achos – y term cyfreithiol am hyn yw ymyrryd.

Gwirio a ddylech chi anfon y ffurflen at y diffynnydd

Ar ôl i’r llys gyhoeddi’r hawliad, fel arfer byddan nhw’n anfon y ffurflen yn uniongyrchol at y diffynnydd oni bai eich bod chi’n dweud wrthyn nhw y byddwch chi’n anfon y ffurflen at y diffynnydd eich hun. Y term cyfreithiol am anfon y ffurflen at y diffynnydd yw ei ‘chyflwyno’ iddo.

Bydd angen i chi anfon 3 chopi i’r llys – byddan nhw’n dychwelyd 2 gopi atoch chi fel y gallwch chi anfon un at y diffynnydd os ydych chi’n bwriadu cyflwyno’r ffurflen iddo eich hun.

Efallai y byddwch chi eisiau anfon y ffurflen at y diffynnydd er mwyn rhoi mwy o amser i chi baratoi eich achos neu geisio setlo’r achos. Fel arfer, bydd y llys yn anfon y ffurflen at y diffynnydd yn syth ond os byddwch chi’n cyflwyno’r hawliad eich hun, byddwch chi’n cael 4 mis i wneud hynny.

Gallwch chi ddefnyddio’r amser ychwanegol i drafod r gyda'r ochr arall i geisio dod i gytundeb y tu allan i’r llys. Mae hyn yn syniad da os na anfonoch chi lythyr cyn cymryd camau neu os ydych chi’n dal i drafod ond bod angen i chi gyhoeddi’r hawliad erbyn y dyddiad cau. Mae ceisio dod i gytundeb yn gallu'ch helpu chi i osgoi costau ychwanegol yn y llys.

Os ydych chi’n anfon y ffurflen eich hun, rhaid iddi gyrraedd y diffynnydd o fewn 4 mis i’r dyddiad y cyhoeddodd y llys yr hawliad. Ni fydd y llys yn rhoi dyddiad hwn i chi, felly trowch at Rannau 6 a 7 a Rheol 7.5 y Rheolau Trefniadaeth Sifil yn GOV.UK a fydd yn dweud wrthych chi sut i gyfrifo'r dyddiad.

Mae’r rheolau ar gyflwyno yn gymhleth ac yn amrywio yn dibynnu ar sut rydych chi’n mynd i anfon y ffurflen – yn electronig, trwy bost dosbarth cyntaf neu â llaw.

Os ydych chi eisiau cyflwyno’r ffurflen yn electronig, rhaid i chi gael yr ochr arall i gytuno i'w derbyn fel hyn yn gyntaf.

Edrychwch i weld a yw’r diffynnydd wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau. Os mai cwmni yw’r diffynnydd, efallai y bydd y cyfeiriad ar bapur pennawd.

Os yw’r diffynnydd wedi rhoi manylion ei gyfreithwyr i chi, gwiriwch eu bod yn gallu derbyn cyflwyniad yr hawliad. Os felly, anfonwch yr hawliad at y cyfreithwyr. Os na, anfonwch ef at y diffynnydd.

Os na fyddwch chi’n cyflwyno’r hawliad i’r diffynnydd yn gywir neu ar amser, gallen nhw amddiffyn yr achos ar sail y ffaith ei fod allan o amser a gofyn i’r llys ddileu eich achos. Gallai hyn olygu y byddech chi’n colli eich cyfle i wneud hawliad.

Os nad ydych chi’n siŵr o’r dyddiad cau, peidiwch ag aros tan y diwrnodau olaf rhag ofn i chi fethu’r dyddiad ar gyfer cyflwyno. Gallwch chi gael help gan gynghorydd yn syth neu edrych ar Reol 6 y Rheolau Trefniadaeth Sifil yn GOV.UK.

Os oes angen i chi gyflwyno’r hawliad i rywun y tu allan i’r DU, mae’r rheolau'n wahanol a dylech chi gael cyngor ar sut i gyflwyno’r hawliad. Gallwch chi wirio'r rheolau yn Rhan 6 a Rheol 7.5 y Rheolau Trefniadaeth Sifil hefyd.

Os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau – gwneud hawliad hwyr

Weithiau, gallwch chi gymryd camau cyfreithiol ar ôl y dyddiad cau os bydd y llys yn cytuno (‘gwneud hawliad hwyr’ yw'r enw ar hyn). Bydd rhaid i chi gychwyn eich camau cyfreithiol a gofyn am ganiatâd y llys i wneud hawliad hwyr hefyd.

Bydd y llys ond yn gadael i chi wneud hawliad hwyr os bydd y barnwr yn credu ei fod yn deg i’r ddau barti – bod yn ‘deg a chyfiawn’ yw hyn. Ond ni ddylech chi ddibynnu ar hyn – bydd yn dibynnu ar yr holl amgylchiadau.

Bydd y llys yn edrych ar yr effaith y byddai gwneud hawliad hwyr yn ei chael ar yr achos ac a fyddai’n rhoi mantais i chi neu’r ochr arall. Byddan nhw’n ystyried hefyd pam mae'ch hawliad yn hwyr a pha mor hwyr ydyw.

Er enghraifft, efallai y byddwch chi’n gallu cymryd camau cyfreithiol os oeddech chi’n sâl fel na allech chi gymryd camau yn gynharach neu os oeddech chi o dan 18 oed pan ddigwyddodd y gwahaniaethu.

Gweithredwch yn syth gan y gallai unrhyw oedi ei gwneud hi’n anoddach i gael y llys i dderbyn eich hawliad. Gofalwch fod gennych chi dystiolaeth i brofi bod y gwahaniaethu wedi digwydd – os nad oes gennych chi dystiolaeth, fyddwch chi ddim yn ennill eich achos.

Mae’r gyfraith am hyn yn adran 118 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Talu ffioedd y llys

Er mwyn i’r llys gychwyn y broses yn ffurfiol, rhaid i chi anfon neu gyflwyno'ch ffurflenni a chopïau i’r llys a thalu ffi – ‘cyhoeddi’r hawliad’ yw enw hyn.

Os nad ydych chi’n gofyn am arian, bydd angen i chi dalu £308 i gyhoeddi’r hawliad. Os ydych chi’n gofyn am arian, bydd y gost yn dibynnu ar faint rydych chi’n gofyn amdano – gwiriwch y costau yn GOV.UK – edrychwch am yr adran hawlio arian ar gyfer hawliad llys sirol.

Os ydych chi’n gofyn am arian a rhywbeth arall – fel gwaharddeb i atal y driniaeth annheg – efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi am bob un.

Os ydych chi ar incwm isel, efallai y gallwch chi gael gostyngiad ar y ffioedd neu efallai na fydd rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd o gwbl. Edrychwch i weld a allwch chi gael help gyda’ch costau llys yn GOV.UK.

Y peth gorau i’w wneud yw talu’r ffi eich hun yn y llys. Gallwch chi dalu gydag arian parod, siec, archeb bost neu gerdyn debyd neu gredyd. Os na fyddwch chi’n talu’r ffi gywir i'r llys, ni fydd y llys yn cyhoeddi'ch hawliad – gallai hyn achosi i chi fethu’r dyddiad cau os ydych chi’n agos ato.

Efallai y gallwch chi dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd dros y ffôn – holwch eich llys lleol yn gyntaf. Mae manylion cyswllt eich llys yn GOV.UK.

Ar ôl i chi anfon y ffurflen hawlio

Os yw’r ochr arall eisiau amddiffyn yr hawliad, byddan nhw’n ymateb gydag amddiffyniad. Bydd hyn yn esbonio eu fersiwn nhw o’r hyn a ddigwyddodd – bydd y llys yn anfon copi atoch chi.

Dylen nhw ymateb o fewn 14 diwrnod i gael manylion yr hawliad, oni bai eu bod nhw’n anfon ‘cydnabyddiaeth o gyflwyniad’ atoch chi – mae hyn yn rhoi 28 diwrnod iddyn nhw anfon eu hamddiffyniad atoch chi.

Edrychwch ar yr hyn maen nhw wedi’i ddweud yn yr amddiffyniad a gwnewch nodyn o unrhyw beth rydych chi’n anghytuno ag ef. Casglwch unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi sy’n eu profi nhw’n anghywir – gallwch chi ddefnyddio hyn i amddiffyn eich hun yn y llys.

Os na fydd y diffynnydd yn ymateb, gallwch chi wneud cais am ‘ddyfarniad diofyn’ – mae hyn yn golygu mai chi fydd yn ennill yr achos. Edrychwch sut i wneud cais am ddyfarniad diofyn.

Efallai y bydd angen i chi fynd i wrandawiad er mwyn i’r llys benderfynu ar rai manylion. Er enghraifft, efallai y bydd y llys eisiau penderfynu faint yn union o arian fyddwch chi'n ei gael. Bydd y llys yn rhoi’r manylion i chi.

Os yw’r diffynnydd yn gwneud hawliad yn eich erbyn

Gall y diffynnydd gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os yw’n credu bod arnoch chi arian iddo neu fod ganddo hawliad arall yn eich erbyn chi – gelwir hyn yn ‘wrth-hawliad’. Efallai na fydd yr hawliad yn ymwneud â gwahaniaethu ond, fel arfer, rhaid bod cysylltiad o ryw fath rhwng yr hawliadau. Y llys fydd yn penderfynu a fydd yn caniatáu i’r hawliadau gael eu clywed o fewn yr un achos.

Er enghraifft, rydych chi’n gofyn i’ch landlord wneud iawn am wahaniaethu yn eich erbyn – ond rydych chi arno llawer o rent iddo. Gallai'ch landlord wneud hawliad yn eich erbyn am swm y rhent rydych chi arno iddo.

Os ydych chi’n anghytuno â’i hawliad, dylech chi ymateb i’w wrth-hawliad gyda manylion yr hyn rydych chi’n anghytuno ag ef – ‘amddiffyniad i wrth-hawliad’ yw hyn.

Fel arfer, bydd angen i chi ymateb o fewn 14 diwrnod i dderbyn y gwrth-hawliad. Hefyd, gallwch chi ofyn am fwy o amser i anfon eich amddiffyniad trwy anfon ‘cydnabyddiaeth o gyflwyniad’ yn gyntaf. Bydd hyn yn rhoi 28 diwrnod i chi ymateb gydag amddiffyniad. Llenwch ffurflen N9 yn GOV.UK a’i hanfon i’r llys ac at y diffynnydd.

Bydd angen i chi allu profi eich ochr chi o’r stori, ond nid oes angen i chi gynnwys tystiolaeth gyda’ch amddiffyniad i wrth-hawlio.

Dylech chi gynnwys:

  • eich enw chi ac enw’r diffynnydd
  • manylion eich amddiffyniad i’r gwrth-hawliad a’ch fersiwn chi o’r hyn a ddigwyddodd – dylech chi ddweud a ydych chi’n cyfaddef neu’n gwadu unrhyw hawliadau maen nhw wedi’u gwneud yn eich erbyn
  • datganiad gwirionedd wedi’i lofnodi
  • enw’r llys
  • rhif yr hawliad

Os yw’r gwrth-hawliad mewn paragraffau wedi’u rhifo, defnyddiwch yr un strwythur ar gyfer eich amddiffyniad – ymatebwch i bob paragraff yn ei dro. Dywedwch pa rannau o’r paragraff rydych chi’n cytuno â nhw a pha rannau rydych chi’n anghytuno â nhw.

Previous Step 4
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.