Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Casglu tystiolaeth am wahaniaethu'n ymwneud â thai

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os nad ydych chi wedi edrych eisoes, gofalwch fod eich problem gyda thai yn dod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb cyn i chi gymryd unrhyw gamau - edrychwch i weld a yw'ch problem yn wahaniaethu.

Os oes rhywun yn aflonyddu arnoch, gallai fod yn achos o wahaniaethu o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Edrychwch i weld a yw'ch problem aflonyddu yn dod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

Dylech benderfynu sut i ddatrys eich problem cyn i chi gasglu tystiolaeth.

Cyn i chi gwyno neu gymryd camau cyfreithiol am wahaniaethu'n ymwneud â thai, dylech baratoi’n ofalus.

Y peth cyntaf sydd angen i chi ei wneud yw ystyried pa dystiolaeth sydd angen i chi ei chasglu i gefnogi’ch achos. Mae’n fwy tebygol y byddwch chi’n cael y canlyniad rydych chi ei eisiau os ydych chi wedi paratoi’n dda.

Cofnodi’r hyn a ddigwyddodd

Bydd angen i chi gasglu tystiolaeth sy’n eich helpu i brofi beth ddigwyddodd a bod eich sefyllfa wedi’i chynnwys yn y Ddeddf Cydraddoldeb.

I ofalu eich bod yn cofio beth ddigwyddodd, gwnewch nodiadau am:

  • y ffordd i chi gael eich gwahaniaethu yn eich erbyn, er enghraifft cael eich atal rhag defnyddio’ch gardd gymunedol
  • y dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu – neu bob tro y digwyddodd os oedd hynny fwy nag unwaith, fel pryd wnaethoch chi siarad â’r asiant gosod neu'r landlord a phryd gawsoch ateb
  • enwau pawb dan sylw, fel rhywun o’ch cymdeithas dai sydd wedi aflonyddu arnoch, a’r hyn iddo ei ddweud neu ei wneud
  • unrhyw beth y gallwch ei gofio am dystiolaeth sydd wedi’i cholli, fel e-bost i chi ei ddileu heb sylweddoli ei fod yn bwysig
  • y ‘nodwedd warchodedig’ a oedd y rheswm am y driniaeth annheg - gallwch weld y nodweddion gwarchodedig yma os nad ydych chi’n siŵr
  • sut mae’r gwahaniaethu wedi effeithio arnoch chi, er enghraifft, effaith emosiynol cael eich aflonyddu neu os ydych chi wedi colli cartref roeddech chi am ei rentu
  • derbynebau am dreuliau ychwanegol – fel ffioedd asiant gosod ychwanegol os i chi gael eich troi allan neu os nad oeddech yn gallu byw yn eich cartref oherwydd y gwahaniaethu

Casglu’ch tystiolaeth

Gall tystiolaeth fod yn ddogfennau, eich disgrifiad eich hun o’r hyn a ddigwyddodd neu fersiwn tyst o ddigwyddiadau.

Ceisiwch gasglu’r dystiolaeth sy’n helpu i egluro’r sefyllfa, er enghraifft, llythyrau neu negeseuon e-bost os oes gennych chi rai.

Gallwch chwilio am dystiolaeth ar y cyfryngau cymdeithasol os ydych chi’n eu defnyddio i gyfathrebu ag unrhyw un sy’n rheoli'ch cartref. Er enghraifft, gallai’ch landlord fod wedi rhoi neges fygythiol ar Facebook. Argraffwch y negeseuon os ydych chi’n gallu, neu tynnwch lun neu sgrinlun.

Edrychwch i weld a yw’r person rydych chi’n cwyno amdano wedi dilyn ei bolisïau ei hun neu wedi gwneud fel y dylai - os nad yw, gallwch ddefnyddio’r dystiolaeth hon i gefnogi’ch achos.

Efallai y bydd ganddo, er enghraifft, bolisi neu weithdrefn ar osod cartref, casglu rhent neu sut mae'n trin tenantiaid sy’n agored i niwed.

Os yw polisi'n helpu i gefnogi’ch dadleuon, gofynnwch am gopi. Gallai fod ar wefan neu yn y dogfennau gawsoch chi ar ôl dod o hyd i’r cartref am y tro cyntaf.

Os yw’r broblem yn gysylltiedig â’ch cartref rhent, mae’n syniad da edrych ar eich cytundeb tenantiaeth. Gallai ddweud beth ddylai’ch landlord ei wneud yn eich sefyllfa benodol chi, er enghraifft, ymateb i atgyweiriadau o fewn cyfnod amser penodol.

Gweld a oedd unrhyw dystion

Pe bai rhywun arall wedi gweld neu glywed beth ddigwyddodd, gofynnwch iddyn nhw beth welon nhw. Os yw’n profi’ch cwyn, gofynnwch iddyn nhw a fydden nhw'n fodlon i chi roi eu henwau wrth gwyno. Os ydych chi’n cymryd camau cyfreithiol, holwch a ydyn nhw'n fodlon ysgrifennu datganiad ffurfiol a dod i’r llys fel tystion -bydd eich achos yn gryfach os ydyn nhw'n gwneud hyn. Gallech ofyn iddyn nhw ddechrau ysgrifennu nodiadau, a fydd yn ei gwneud yn haws iddyn nhw ysgrifennu eu datganiad tyst yn ddiweddarach.

Nid oes rhaid i chi gael tyst. Gall eich tystiolaeth chi fod yn ddigon.

Cynnwys tystion os ydych chi’n bwriadu cymryd camau cyfreithiol

Os ydych chi’n mynd i’r llys, bydd yn rhaid i chi ddilyn rheolau’r llys ynghylch sut rydych chi’n cyflwyno tystiolaeth gan eich tystion. Gelwir y rheolau yn Rheolau Trefniadaeth Sifil. Edrychwch ar adran 32 o’r Rheolau i weld y rheolau am roi tystiolaeth.

Os nad ydych chi’n dilyn y rheolau, efallai na fyddwch chi’n gallu dibynnu ar y dystiolaeth rydych chi eisiau dibynnu arni (y term cyfreithiol am gael defnyddio tystiolaeth yw ‘caniatáu’).

Bydd yn rhaid i chi ddarparu datganiad tyst ysgrifenedig am bob person a fydd yn rhoi tystiolaeth i’r llys, gan gynnwys chi'ch hun.

Beth sydd angen i dystion ei wneud

Os ydych chi’n mynd i’r llys byddwch yn cael cyfarwyddiadau ynghylch pryd mae angen i chi anfon eich datganiadau tyst i’r llys ac i’r ochr arall. Bydd angen i chi ofyn i’ch tystion ysgrifennu datganiad tyst ffurfiol. Os nad ydych chi’n gallu gwneud hynny efallai y byddwch yn gallu cynnwys tystiolaeth arall, fel llythyr, ond efallai na fydd y llys yn gadael i’r dystiolaeth honno gael ei chaniatáu neu efallai na fydd yn rhoi llawer o bwys ar y dystiolaeth.

Pan fyddwch chi’n casglu’ch tystiolaeth, mae angen i chi holi a yw’r tystion yn fodlon dod i’r llys a rhoi tystiolaeth ar eich rhan. Dylai eu datganiadau fod yn seiliedig ar yr hyn a welon nhw neu’r hyn y maen nhw'n ei wybod - nid yr hyn rydych chi wedi’i ddweud wrthyn nhw a ddigwyddodd.

Eglurwch y bydd angen iddyn nhw roi datganiad ysgrifenedig mewn fformat penodol a’i lofnodi i gadarnhau ei fod yn wir. Bydd angen iddyn nhw roi tystiolaeth yn bersonol yn y llys hefyd. Dylech ddweud wrthyn nhw y gall yr ochr arall, neu eu cyfreithiwr, ofyn cwestiynau iddynt am eu datganiad (‘croesholi’ yw'r enw am hyn).

Gall mynd i’r llys achosi straen i dyst, felly mae angen i chi feddwl a fydden nhw'n gallu gwneud hyn ac yn fodlon gwneud hyn. Os ydyn nhw'n ailfeddwl ar y funud olaf, gallai effeithio ar eich tebygolrwydd o lwyddo.

Paratoi i ysgrifennu’ch datganiad tyst

Gall gymryd llawer o amser i ysgrifennu’ch datganiad tyst felly mae’n syniad da ysgrifennu nodiadau nawr i’ch helpu i arbed amser maes o law.

Cyn ei ysgrifennu, gofalwch eich bod yn deall ac yn canolbwyntio ar:

  • ba ddigwyddiadau oedd yn wahaniaethu yn eich barn chi – efallai y bydd mwy nag un digwyddiad
  • pa fath o wahaniaethu oedd pob un yn eich barn chi (uniongyrchol, anuniongyrchol, er enghraifft) - gallai fod mwy nag un math
  • beth sydd angen ei brofi ar gyfer pob math o wahaniaethu
  • pa ffeithiau y mae’r ochr arall yn eu derbyn a pha rai maen nhw’n eu gwadu

Os nad ydych chi’n credu bod gennych chi dystiolaeth

Does dim angen i chi gael dogfennau i ddangos sut mae rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn.

Yn aml, mae gwahaniaethu'n digwydd mewn sgwrs neu gyfarfod - gall eich nodiadau ar bwy oedd yn rhan o'r digwyddiad a beth wnaethon nhw fod yn dystiolaeth.

Gweld pa dystiolaeth sydd ei hangen arnoch ar gyfer gwahanol fathau o wahaniaethu

Edrychwch ar y gwahanol fathau o wahaniaethu os nad ydych chi'n siŵr pa un sy'n digwydd neu wedi digwydd i chi.

Os oes gennych chi fwy nag un hawliad gwahaniaethu, ysgrifennwch nhw i gyd yn nhrefn dyddiad – gallwch wneud hyn yn yr un ddogfen â nodiadau eraill. Nodwch pa fath o wahaniaethu yw pob un.

Bydd hyn yn eich helpu i gynnwys yr holl dystiolaeth sydd ei hangen. Bydd hefyd yn eich helpu i benderfynu a ydych chi am fynd i’r llys ac, os ydych chi, eich helpu i baratoi’ch achos. Gallai’ch rhestr edrych fel hyn:

Dyddiad Beth ddigwyddodd Pa fath o wahaniaethu oedd hyn
28 Mehefin 2018 Dywedodd fy landlord na fyddai’n gadael i mi dalu fy rhent drwy drosglwyddiad banc a dywedodd bod yn rhaid i mi ei dalu mewn arian parod yn ei swyddfa. Dywedais na allwn wneud hynny oherwydd fy mhroblemau symudedd ond dywedodd wrtha i am ‘ganfod ffordd’. Methiant i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer fy anabledd
30 Gorffennaf 2018 Dywedais wrth fy landlord y byddai fy rhent ychydig ddyddiau’n hwyr y mis hwn gan fod yn rhaid i mi aros tan i fy merch ddod i'm gweld er mwyn iddi allu mynd â mi i’r swyddfa. Codwyd taliad hwyr o £25 arna i. Methiant i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer fy anabledd a gwahaniaethu am reswm sy’n deillio o fy anabledd a gwahaniaethu anuniongyrchol
14 Awst 2018 Ffoniodd fy landlord yn mynnu fy mod yn mynd i’w swyddfa a thalu'r rhent. Dywedais nad oeddwn i’n gallu oherwydd bod yn rhaid i mi aros tan fod fy merch yn gallu mynd â mi’r wythnos wedyn ac y byddwn i’n dal i fyny gyda faint bynnag oedd arnaf. Dywedodd fy landlord nad ei broblem ef oedd hynny ac na ddylai fod wedi gosod yr eiddo i rywun fel mi. Dywedodd os nad oeddwn i’n gallu talu’r rhent y dylwn i adael ei dŷ ac y byddai’n anfon rhywun draw i’m taflu allan. Roeddwn i’n teimlo dan fygythiad ac yn llawn cywilydd. Aflonyddu ar sail anabledd
19 Awst 2018 

Es i’r swyddfa a thalu fy rhent ond dywedodd fy landlord ei fod dal am roi hysbysiad troi allan i mi gan fy mod wedi talu fy rhent yn hwyr.

Cefais hysbysiad ceisio cymryd meddiant ganddo. 

Aflonyddu ar sail anabledd

Os ydych chi’n nodi mwy nag un math o wahaniaethu bydd angen i chi gasglu tystiolaeth ar gyfer pob math – gallai’ch rhestr eich helpu gyda hyn.

Gofynnwch am gymorth os nad ydych chi’n siŵr sut i gasglu’r ffeithiau a’r dystiolaeth iawn.

Os yw’n wahaniaethu uniongyrchol

Byddwch angen tystiolaeth i ddangos y byddai ‘cymharydd’ yn yr un sefyllfa â chi wedi cael ei drin yn wahanol. Os ydych chi’n adnabod rhywun a allai fod yn gymharydd, gallwch geisio canfod beth ddigwyddodd iddo a chael datganiad ganddo.

Bydd angen i chi feddwl hefyd sut gallech chi ddangos mai’ch nodwedd warchodedig oedd y rheswm neu un o’r rhesymau i chi gael eich trin yn wahanol. Mae’n debyg y bydd y landlord, rheolwr yr eiddo neu'r rheolydd yn dweud bod ganddo reswm arall, er enghraifft, os yw’ch landlord neu asiant gosod wedi cynnig yr eiddo i rywun arall, gallai geisio dangos bod y person arall yn denant mwy addas.

Chwiliwch am dystiolaeth ei fod wedi:

  • anwybyddu ei bolisïau ei hun – gofalwch fod gennych chi gopi o’r polisi
  • rhoi rhesymau cyferbyniol am ei gamau neu fethu â'u hegluro ar y pryd – nodwch yr hyn a ddywedodd a chael copïau o unrhyw ddogfennau neu negeseuon e-bost
  • gwahaniaethu yn erbyn pobl eraill – byddwch angen datganiadau ganddynt neu dystiolaeth arall fod hyn wedi digwydd
  • dweud neu wneud pethau sy’n gwneud i chi feddwl ei fod yn gwahaniaethu – nodwch beth sydd wedi digwydd ar bapur. 

Enghraifft

Mae gan Raymond anabledd dysgu ac mae’n rhentu fflat. Mae’n gofyn i reolwr yr eiddo atgyweirio ei gawod a dydyn nhw ddim yn ateb am 4 wythnos. Pan ofynnodd Bob, ei gymydog, i'r rheolwr atgyweirio ei gawod, cafodd y gwaith ei wneud o fewn 2 wythnos.

Efallai y bydd Raymond yn gallu dadlau bod rheolwr yr eiddo yn araf yn ateb oherwydd ei anabledd – Bob fyddai ei gymharydd.

Pan mae Raymond wedi gofyn am atgyweiriadau yn y gorffennol, mae'r landlord wedi cymryd mwy o amser i ymateb iddo na thenantiaid eraill. Mae wedi clywed ei landlord yn gwneud jôcs am bobl ag anableddau dysgu hefyd. Mae hyn yn gwneud iddo amau mai’r rheswm mae ei landlord yn cymryd mwy o amser i ymateb yw ei anabledd.

Os mai’r rheswm am yr oedi ychwanegol cyn atgyweirio cawod Raymond oedd ei anabledd dysgu, yna gallai ddadlau ei fod yn wahaniaethu uniongyrchol.

Byddai angen i Raymond gael tystiolaeth bod y rheolwr eiddo wedi oedi oherwydd ei nodwedd warchodedig ac nid rheswm arall os yw’n ddigwyddiad untro.

Gallai Raymond ofyn i Bob roi datganiad ysgrifenedig iddo yn dangos beth ddigwyddodd pan wnaeth gais am waith atgyweirio i’r landlord a faint gymerodd hynny.

Os nad oes rhywun sydd wedi bod yn yr un sefyllfa neu sefyllfa debyg, dylech geisio creu ‘cymharydd damcaniaethol’. 

Enghraifft

Mae Duncan yn llosgi’r carped yn ei fflat yn ddamweiniol ac yn dweud wrth ei landlord, sy’n berchen ar yr holl fflatiau yn ei floc. Mae’r landlord yn dweud y bydd yn troi Duncan allan am achosi difrod.

Mae Duncan yn meddwl mai’r rheswm go iawn mae ei landlord am ei droi allan yw oherwydd ei fod yn anabl. Nid yw’n gwybod am unrhyw denantiaid eraill gyda’r un landlord sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg, felly does ganddo ddim cymharydd.

Mae’n dod i wybod nad yw Jasmin, ei gymydog sydd ddim yn anabl, wedi talu ei rhent ers 3 mis a'i bod wedi bod mewn trafferth gyda’r landlord am fod yn rhy swnllyd. Nid yw’r landlord wedi bygwth troi Jasmin allan.

Mae Duncan a Jasmin wedi torri telerau eu cytundebau tenantiaeth. Mae achos Jasmin o dorri ei thenantiaeth yn fwy difrifol nag achos Duncan, ond dim ond Duncan y mae'r landlord yn ceisio ei droi allan.

Gall Duncan ddadlau bod triniaeth Jasmin yn dystiolaeth o sut byddai cymharydd damcaniaethol yn cael ei drin. Gall ddweud bod ei hymddygiad wedi bod yn waeth ond nad yw'r landlord wedi gofyn iddi adael.

I gael tystiolaeth i gefnogi hyn, gall ofyn i Jasmin ysgrifennu nodiadau am sut i'r landlord ddelio â’r problemau roedd hi wedi’u hachosi.

Os nad yw Jasmine yn cytuno, gall Duncan ddefnyddio ei dystiolaeth ei hun.

Mae gwahaniaethu uniongyrchol yn dod o dan adran 13 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.


Os yw’n wahaniaethu anuniongyrchol

Mae ambell gam yn y broses o gasglu’r dystiolaeth gywir.

Gweld beth sy’n eich rhoi dan anfantais

Yn gyntaf, dewch o hyd i’r polisi, rheol neu arfer sy’n eich rhoi chi a phobl sy’n rhannu'ch nodwedd warchodedig o dan anfantais arbennig o gymharu â phobl sydd ddim yn ei rhannu. Mae’r gyfraith yn galw’r polisi neu'r rheol yn ‘ddarpariaeth, maen prawf neu arfer’.

Bydd angen i chi ddweud pa bolisi, rheol neu ffordd o wneud pethau sy’n annheg i bobl gyda’ch nodwedd warchodedig. Er enghraifft, gallai fod yn bolisi ôl-ddyledion rhent neu’n rheol am ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Os yw wedi’i nodi ar bapur, ceisiwch gael copi – gallai hyn fod yn eich cytundeb tenantiaeth neu ar wefan asiant gosod.

Enghraifft

Mae Gary wedi cael diagnosis o ADHD ac mae wedi edrych i weld a yw’n anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Yn sgil ei ADHD, mae Gary yn gallu colli ei dymer a gweiddi ar brydiau.

Mae gan y landlord bolisi sy’n dweud os oes cwynion bod tenant yn gwneud sŵn, bydd y tenant yn cael ei droi allan.

Gall Gary ddadlau bod y polisi yn ei roi ef a phobl sy’n rhannu ei nodwedd warchodedig dan anfantais arbennig o gymharu â thenantiaid sydd heb ei anabledd, felly gallai fod yn wahaniaethu anuniongyrchol. Gallai ddadlau hefyd fod hyn yn wahaniaethu sy’n deillio o anabledd.

Gallai Gary ofyn i’w landlord am gopi o’i bolisi ymddygiad gwrthgymdeithasol a throi allan neu lawrlwytho copi o’i wefan. Os nad oes polisi ysgrifenedig, dylai nodi pwy ddywedodd wrtho bod polisi a phryd gafodd hyn ei ddweud.


Nid oes yn rhaid iddo gael ei alw'n bolisi neu’n rheol ac efallai na fydd yn ysgrifenedig. Er enghraifft, gallai asiant gosod ddweud wrthych chi ei fod ond yn gadael i bobl symud i’w cartrefi ar ddiwrnod penodol. Enghraifft arall yw y gallai landlord anwybyddu bob galwad ffôn gan denantiaid ac ateb negeseuon e-bost yn unig.

Dangos sut mae’n effeithio ar bobl eraill

Bydd angen i chi ddangos bod y polisi neu’r rheol yn ymddangos yn niwtral ond ei fod yn rhoi pobl gyda’ch nodwedd warchodedig dan anfantais. Meddyliwch a yw’n cynnwys pawb, er enghraifft, gallai fod yn gytundeb tenantiaeth gyda geiriad safonol y mae landlord yn ei ddefnyddio gyda’i holl denantiaid.

Yna, mae angen i chi feddwl a yw’n rhoi pobl gyda’ch nodwedd warchodedig dan anfantais arbennig o gymharu â phobl heb y nodwedd. Nid oes yn rhaid iddo effeithio ar bawb gyda’ch nodwedd.

Er enghraifft, gallech ddadlau bod gwahardd tenantiaid rhag newid gosodiadau golau yn gwahaniaethu yn erbyn pobl â nam ar y golwg a allai fod angen gosod goleuadau cryfach.
Gallech geisio cael tystiolaeth i ddangos sut mae’n effeithio ar bobl eraill gyda’ch nodwedd warchodedig.

Cael tystiolaeth am y rheswm dros y gwahaniaethu

Gallai'r landlord neu reolwr/rheolydd yr eiddo geisio cyfiawnhau’r ffordd mae wedi’ch trin. Ysgrifennwch ato a gofyn pam iddo'ch trin fel hyn. Gallech chi godi hyn mewn llythyr cwyno. Gofynnwch pam fod angen iddo gael y rheol neu pam na all gytuno ar y newidiadau rydych chi wedi gofyn amdanynt.

Pan fyddwch yn gwybod y rheswm, meddyliwch a allai fod wedi cyflawni’r amcan heb wahaniaethu yn eich erbyn. Ceisiwch feddwl am ffyrdd y gallai fod wedi gwneud pethau yn wahanol.

Er enghraifft, efallai fod gennych chi landlord sydd am i chi symud i mewn ar ddiwrnod penodol o’r wythnos, ond nad ydych chi’n gallu oherwydd eich crefydd.

Efallai y byddwch yn gallu casglu tystiolaeth i ddangos bod swyddfa’r landlord ar agor ar ddiwrnod arall felly gallai'r broses symud i mewn ddigwydd ar y diwrnod hwnnw.

Mae gwahaniaethu anuniongyrchol wedi’i gynnwys yn adran 19 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os ydych chi’n destun gwahaniaethu oherwydd anabledd

Bydd angen i chi allu dangos eich bod yn anabl a’r effaith mae hyn yn ei chael arnoch chi.

Edrychwch ar ddiffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb o anabledd ac ysgrifennwch pam ei fod yn eich cynnwys chi.

Bydd angen i chi ddweud sut rydych chi’n bodloni holl elfennau bod yn anabl, sef:

  • bod gennych chi nam corfforol neu feddyliol
  • bod y nam hwnnw yn cael effaith niweidiol sylweddol neu hirdymor ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau arferol dydd i ddydd

Bydd hefyd angen i chi ysgrifennu

  • ers pryd mae'r anabledd gennych
  • y ffordd y mae’n effeithio ar eich gweithgareddau o ddydd i ddydd
  • unrhyw driniaeth rydych chi wedi’i chael
  • sut bydd yn effeithio ar eich bywyd yn y dyfodol – er enghraifft os bydd gennych chi’r cyflwr am weddill eich oes.

Os ydych chi’n ceisio newid polisi dylech wneud nodyn hefyd o sut mae’r polisi yn effeithio arnoch chi a phobl gyda’ch nodwedd warchodedig. Bydd angen i chi drosglwyddo’r wybodaeth hon i’r person sy'n gwahaniaethu yn eich erbyn.

Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth, nodwch pa mor aml rydych chi’n ei chymryd, faint rydych chi’n ei gymryd a’i sgil-effeithiau. Dywedwch beth fyddai’n digwydd pe baech chi’n rhoi’r gorau i’w chymryd, neu beth sy’n digwydd pan mae’r effaith yn cilio - fel os ydych chi’n cymryd tabledi lladd poen.

Ceisiwch roi enghreifftiau yn hytrach na gwneud datganiadau cyffredinol. Felly, yn hytrach na dweud ‘dydw i ddim yn gallu codi pethau’, dywedwch ‘dydw i ddim yn gallu cario’r siopa adref bellach, nac ei roi yn y car fy hun. Mae’n rhaid i rywun ddod gyda mi i’m helpu.’

Os ydych chi’n cael trafferth dweud sut mae’n effeithio arnoch chi, neu os yw’ch symptomau'n newid o wythnos i wythnos, efallai y byddai’n ddefnyddiol i chi gadw dyddiadur.

Enghraifft

Mae gan Dev iselder. Gallai ddisgrifio ei sefyllfa fel hyn:

‘Rydw i wedi cael iselder ers tair blynedd. Er fy mod yn cymryd cyffuriau gwrthiselder, ac yn gweld therapydd, mae fy iselder yn cael effaith fawr ar fy mywyd. Rydw i’n aml yn cael trafferth codi yn y boreau ac mae’n cymryd amser maith i mi gael fy hun yn barod i fynd i’r gwaith. Rydw i’n cael anhawster siopa bwyd a choginio ac yn ei chael hi'n anodd iawn cymysgu â phobl gan fy mod yn teimlo’n nerfus mewn mannau prysur.’


Enghraifft

Gallai Lisa ddisgrifio ei harthritis fel hyn:

‘Mae gen i arthritis yn fy nghluniau ers blwyddyn – mae’r meddyg yn dweud y bydd y cyflwr gen i am weddill fy mywyd. Roedd yn rhaid i mi fynd yn rhan-amser yn y gwaith gan fy mod mewn poen yn y boreau. Mae’n cymryd llawer mwy o amser i mi gerdded nag o'r blaen ac mae angen i mi ddefnyddio ffon gerdded’.


Os ydych chi’n meddwl y gallai’r person a wahaniaethodd yn eich erbyn anghytuno eich bod yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallech ofyn i bobl sy’n gwybod am eich anabledd ysgrifennu llythyrau i’w defnyddio fel tystiolaeth. Er enghraifft, gallech ofyn i’ch gofalwr, meddyg neu ffisiotherapydd ysgrifennu un. Os ydych chi’n gofyn am lythyr, holwch a fydd angen i chi dalu amdano.

Does dim rhaid i chi wneud hyn yn syth. Gallwch aros i weld os yw'r person rydych chi'n cwyno amdano yn anghytuno eich bod yn anabl.

Profi a oedd eich landlord neu reolwr/rheolydd eich eiddo'n gwybod eich bod yn anabl

Mae angen i chi ddangos ei fod yn gwybod bod gennych chi anabledd os oedd yn achos o wahaniaethu yn deillio o’ch anabledd.

Gallai hyn fod oherwydd eich bod wedi dweud wrtho neu oherwydd y dylai fod wedi gwybod.

Mae tystiolaeth i ddangos ei fod yn gwybod neu y dylai fod wedi gwybod yn cynnwys:

  • e-bost i chi anfon ato'n egluro'ch anabledd
  • copïau o unrhyw gŵyn neu gais rydych chi wedi’i wneud iddo am newidiadau i’ch cartref i’w gwneud yn haws i chi fyw yno
  • nodiadau o unrhyw gyfarfodydd neu sgyrsiau lle gwnaethoch chi ddweud wrtho am eich anabledd
  • eich ffurflen gais am dŷ os wnaethoch chi ddweud wrtho ar honno

Os mai dim ond ar lafar i chi ddweud wrtho, nodwch wrth bwy a phryd.

Os na wnaethoch chi ddweud wrtho am eich anabledd, efallai y byddwch chi’n gallu profi y dylai fod wedi gwybod beth bynnag. Y term cyfreithiol am hyn yw dylai fod wedi ‘disgwyl gwybod yn rhesymol’. Dylid seilio hyn ar beth roedd yn ei wybod ar adeg y gwahaniaethu.

Mae hyn wedi’i gynnwys yn adran 15 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Enghraifft

Dywedodd Helena wrth ei landlord nad oedd apwyntiad am arolwg eiddo yn gyfleus gan fod ganddi apwyntiad ysbyty. Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae landlord Helena wedi ceisio aildrefnu’r ymweliad ond nid yw Helena wedi gallu cadw at yr apwyntiadau gan ei bod wedi gorfod treulio sawl cyfnod yn yr ysbyty.

Dywedodd Helena wrth ei landlord i anfon copïau o unrhyw lythyrau at ei mab gan ei fod yn helpu tra’i bod yn yr ysbyty am gyfnodau hir.

Nid yw Helena wedi dweud wrth ei landlord yn uniongyrchol bod ganddi anabledd ond gallai hynny i gyd olygu y dylai landlord Helena fod wedi sylweddoli bod ganddi anabledd o bosibl ar sail yr hyn a ddywedodd wrtho.

Os yw’ch landlord neu reolwr/rheolydd eich eiddo'n dweud nad yw'n meddwl bod gennych chi anabledd

Dylech egluro pam eich bod yn meddwl bod gennych chi anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a gofyn iddo pam ei fod yn anghytuno. Gallech geisio cael tystiolaeth i gefnogi'ch achos ac yna ei dangos iddo i geisio ei gael i newid ei feddwl.

Efallai y byddwch yn gallu dangos bod eich cyflwr yn anabledd o dan y Ddeddf Cydraddoldeb drwy edrych ar y we. Edrychwch i weld a oes unrhyw elusennau neu sefydliadau sy’n cynrychioli pobl gyda’ch anabledd. Gallai eu gwefan eich helpu i benderfynu a yw’ch cyflwr wedi’i gynnwys yn y Ddeddf Cydraddoldeb.

Bydd angen i chi feddwl am eich sefyllfa eich hun. Ni fydd pawb gyda’r un cyflwr yn cael eu heffeithio yn yr un modd – efallai fod rhai yn anabl o dan y Ddeddf Cydraddoldeb ac eraill ddim.

I ddangos bod gennych chi anabledd gallwch naill ai gael adroddiad gan eich meddyg neu fynd at arbenigwr meddygol annibynnol. Efallai y byddwch chi’n gorfod talu am yr adroddiad.

Mae’n debyg y bydd mynd at eich meddyg teulu yn llawer rhatach nag arbenigwr annibynnol, sy'n gallu costio cannoedd o bunnoedd. Bydd arbenigwr annibynnol yn cyfrif fel tystiolaeth gryfach os ydych chi’n mynd i’r llys. Mewn rhai achosion bydd y llys yn eich gorchymyn i gael adroddiad annibynnol ac efallai y byddant yn dweud y dylai'r naill ochr a’r llall ofyn i’r un arbenigwr ysgrifennu un adroddiad. Gelwir hyn yn ‘adroddiad arbenigol ar y cyd’. Os yw hyn yn digwydd, bydd y ddwy ochr yn rhannu’r gost.

Gofalwch fod y meddyg yn gallu rhoi’r adroddiad i chi yn barod ar gyfer pryd y byddwch ei angen.

Llythyr enghreifftiol i ofyn am adroddiad meddygol

Annwyl Dr Wilkes,

Rwy’n glaf i chi ym Meddygfa’r Pentref.

Rwy’n bwriadu dod ag achos yn erbyn fy landlord, Seaview Housing Association.

Mae fy hawliad yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd. Mae angen i mi gael tystiolaeth feddygol i ddangos i fy landlord a’r llys bod fy arthritis yn bodloni’r diffiniad o anabledd o dan adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae adran 6(1) yn dweud:
“A person (P) has a disability if (a) P has a physical or mental impairment, and (b) the impairment has a substantial and long-term adverse effect on P's ability to carry out normal day-to-day activities.”

Rhowch wybod i mi a fydd ffi cyn i chi baratoi’r adroddiad.

Rwyf angen i’r adroddiad gynnwys:

  • disgrifiad o’r symptomau rwy’n cael fy nhrin ar eu cyfer
  • effaith y symptomau ar weithgareddau dydd i ddydd arferol
  • disgrifiad o’r driniaeth rwy’n ei derbyn
  • disgrifiad o’r symptomau a fyddai gennyf pe bawn i’n rhoi’r gorau i’r driniaeth
  • eich diagnosis o’r cyflyrau sydd gennyf
  • am ba mor hir rwyf wedi cael y symptomau a’r cyflyrau, a pha mor hir maent yn debygol o bara
  • a yw fy symptomau yn debygol o waethygu neu wella yn y dyfodol
  • set gyflawn o gopïau o'm cofnodion meddygol ers 2010, sef pan ddes i weld y meddyg gyntaf gyda symptomau arthritis.

Allwch chi anfon eich adroddiad i mi erbyn dydd Iau 18 Hydref? Os na allwch wneud hynny erbyn y dyddiad dan sylw, rhowch wybod i mi erbyn pryd y gallwch ei anfon.

Diolch am eich cymorth.

Yn gywir,
Adam Jones


Os yw’r landlord neu reolwr/rheolydd yr eiddo'n anghytuno o hyd, gallech gwyno a chynnwys eich tystiolaeth. Os ydych chi’n cymryd camau cyfreithiol, byddai angen i chi fwrw ymlaen a chyflwyno hawliad a gofyn i’r llys benderfynu a oes gennych chi anabledd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd y llys yn gwrando ar yr hyn sydd gennych i’w ddweud ond bydd gennych chi achos llawer cryfach os gallwch ddangos tystiolaeth feddygol iddyn nhw. Efallai y bydd y llys yn gofyn am dystiolaeth feddygol gennych ar ffurf cyd-adroddiad arbenigol hefyd.

Gallwch ofyn i’r proffesiwn meddygol gynnwys sylwadau eraill, ar sail eich sefyllfa. Er enghraifft, os oes rhywun yn cwyno am eich ymddygiad, gallwch ofyn a yw’r ymddygiad yn gysylltiedig â’ch anabledd.

Gallech ofyn i’r gweithiwr proffesiynol roi sylwadau ynghylch a oes unrhyw ffyrdd eraill o ddatrys neu wella'r broblem a fyddai’n gwahaniaethu llai yn eich erbyn. Er enghraifft, os ydych chi’n cael eich cyhuddo o ymddygiad gwrthgymdeithasol rydych chi’n meddwl sy’n deillio o’ch cyflwr iechyd meddwl, gallwch ofyn a fyddai unrhyw driniaeth yn eich helpu. Galli hyn fod ar ffurf cwnsela neu gymorth arall.


Os nad yw'ch landlord neu reolwr/rheolydd eich eiddo wedi gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer eich anabledd

Crynhowch yr holl ffeithiau sydd gennych chi ar:

Dylech chi ganfod pam mae’n dweud nad yw'n gallu gwneud yr addasiadau. Meddyliwch am ei resymau ac a allwch chi gael unrhyw dystiolaeth arall i ddadlau yn eu herbyn. Er enghraifft, os yw’n dweud ei fod yn rhy ddrud, meddyliwch am ba wybodaeth sydd ar gael am sefyllfa ariannol eich landlord neu reolwr eich eiddo. Does dim rhaid i chi wneud hyn, ond gallai'ch helpu chi i asesu cryfder eich achos.

Meddyliwch am sut y byddwch chi’n esbonio bod y newid i chi ofyn amdano yn ‘rhesymol’.

Mae’n syniad da ystyried:

  • pa mor hir rydych chi’n debygol o fyw yn yr eiddo
  • faint y bydd yn ei gostio
  • pa mor anodd fydd hi i’r landlord neu’r rheolwr wneud y newid
  • faint mae’r newid yn debygol o’ch helpu chi

Er enghraifft, os yw’n gymdeithas dai fawr, efallai y byddwch chi’n disgwyl iddyn nhw wario mwy ar addasiadau na landlord sydd â dim ond un eiddo.

Mae’n syniad da ysgrifennu’r anawsterau rydych chi’n eu cael heb yr addasiad a sut byddai’r newidiadau roeddech chi eu heisiau wedi helpu.

Meddyliwch a oedd unrhyw newidiadau eraill y gallai fod wedi’u gwneud na wnaethoch chi ofyn amdanyn nhw ar y pryd. Gallwch chi sôn am y rhain os byddwch chi’n penderfynu mynd i’r llys, neu gallwch chi eu hawgrymu nhw nawr.

Os ydych chi’n gwybod unrhyw beth am ei amgylchiadau ariannol, neu addasiadau y mae wedi’u gwneud ar gyfer pobl eraill, gallech chi ystyried hyn wrth feddwl am beth sy’n rhesymol.

Mae addasiadau rhesymol yn cael sylw yn adrannau 20, 21, 36 ac Atodlen 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os oes rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd rhywbeth ‘sy’n deillio o anabledd’

Crynhowch dystiolaeth i ddangos bod y rheswm rydych chi wedi cael eich trin fel gwnaethoch chi yn gysylltiedig â’ch anabledd.

Er enghraifft, os yw'ch landlord yn llawn cydymdeimlad am y ffaith eich bod chi’n fyddar ond bod ganddo broblem gyda’ch ci cymorth, gallech chi:

  • argraffu copïau o unrhyw negeseuon e-bost y mae wedi’u hanfon atoch chi ynglŷn â’r ffaith bod gennych chi gi yn yr eiddo
  • cael tystion i wneud nodiadau o drafodaethau maen nhw wedi’u cael gyda’r landlord am y ci ar eich rhan 

Mae’n debygol y bydd y person rydych chi’n cwyno amdano yn dweud bod ganddo reswm da dros wneud yr hyn a wnaeth – y term cyfreithiol am hyn yw ‘modd cymesur o gyflawni amcan dilys’. Ceisiwch feddwl am resymau pam iddo'ch trin chi fel y gwnaeth, neu gofynnwch iddo. Yna, meddyliwch am unrhyw dystiolaeth sydd gennych chi i ddangos y gallen nhw fod wedi cyflawni ei amcan heb wahaniaethu yn eich erbyn.

Mae gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd yn cael sylw yn adran 15 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Enghraifft

Cymdeithas dai yw landlord Martin. Maen nhw’n dweud bod ei ymddygiad yn wrthgymdeithasol ac y byddan nhw’n ei droi allan. Mae gan Martin anhwylder deubegynol ac mae ei hwyl yn gallu newid yn gyflym – os yw rhywun yn ei herio, mae’n gallu ymateb trwy weiddi a rhegi. Mae wedi gofyn i gynghorydd am help i ddelio â’r bygythiad o gael ei droi allan.

Mae ei gynghorydd yn dweud wrth y landlord pe bai Martin yn cael ei symud i fflat tawelach, ni fyddai mor debygol o ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol. Neu gallai aros yn ei fflat a chael cymorth ychwanegol – yn y sefyllfa hon, gallai cynghorydd Martin awgrymu bod y landlord weithio gydag ef a’r gwasanaethau cymorth i’w helpu i reoli ei anabledd yn hytrach na’i droi allan. Dylai’r opsiwn hwn helpu i ddiogelu tenantiaid eraill rhag ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus, ond byddai’n gwahaniaethu llai yn erbyn Martin.

Os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch chi

Gofalwch eich bod chi wedi nodi’n fanwl yr hyn gafodd ei ddweud, pryd, ble a gan bwy. Nodwch yn glir fod yr ymddygiad yn ddigroeso a’i fod yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig. Efallai eich bod chi wedi gwneud cwynion neu ddweud rhywbeth, felly bydd angen i chi gynnwys hynny yn eich tystiolaeth.

Ni fydd y llys yn disgwyl bod gennych chi dyst i’ch cefnogi chi – nid oes tyst i aflonyddu fel arfer.

Os welodd rhywun yr aflonyddu, gofynnwch iddo ysgrifennu beth iddo ei weld neu ei glywed. Gallai hwn fod yn ffrind roeddech chi wedi dweud wrtho am yr hyn oedd yn digwydd ar y pryd.

Neu gallai fod yn denant arall sydd wedi bod trwy'r un peth. Gofalwch ei fod yn ymwybodol y gallai gael ei holi am yr hyn welodd mewn gwrandawiad llys, felly mae angen iddo fod mor glir a chywir â phosibl.

Os na fydd rhywun yn cytuno i fod yn dyst, gofynnwch a yw’n barod i ddweud wrthych chi beth ddigwyddodd yn eich achos ef neu beth a welodd. Gwnewch nodyn o bopeth sy'n cael ei ddweud rhag ofn y bydd yn ddefnyddiol maes o law.

Os nad oedd unrhyw un yn dyst i’r aflonyddu, gallwch chi dal wneud cwyn neu gymryd camau cyfreithiol – mae'ch fersiwn chi o’r hyn ddigwyddodd yn dystiolaeth. Mae’n syniad da ysgrifennu’r hyn a ddigwyddodd cyn gynted ag y gallwch chi fel bod gennych chi gofnod cywir.

Mae aflonyddu yn cael sylw yn adran 26 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.


Os ydych chi wedi cael eich erlid

Os ydych chi wedi cael eich erlid, byddwch chi angen manylion y camau i chi eu cymryd y tro diwethaf. Gallai’r dystiolaeth y byddwch chi ei hangen gynnwys:

  • copi o’ch cwyn – neu nodyn o’r hyn a ddywedoch chi os mai ar lafar y gwnaethoch chi’r gŵyn
  • nodyn o sut cawsoch chi'ch trin a chopïau o unrhyw ddogfennau perthnasol
  • rheswm eich landlord neu reolwr/rheolydd eich eiddo dros y ffordd iddo'ch trin chi
  • ffeithiau sy’n awgrymu cysylltiad rhwng y ffordd y cawsoch chi'ch trin a’r gŵyn – fel cael rhybudd ffurfiol yn gofyn i chi adael rai diwrnodau ar ôl eich cwyn, neu os na ddilynodd eich landlord ei bolisïau ei hun
  • enghreifftiau o sut cafodd pobl eraill eu trin mewn achosion tebyg – gallwch chi ofyn i’r ochr arall am hyn os ydych chi angen mwy o wybodaeth

Os gwnaethoch chi ddatganiad i gefnogi cwyn rhywun arall, dylech chi gynnwys hwnnw yn eich tystiolaeth.

Efallai y byddai o gymorth i chi restru’r holl ddigwyddiadau yn nhrefn dyddiad wrth wneud hawliad erledigaeth. Gelwir hyn yn ‘gronoleg digwyddiadau’.

Mae erledigaeth yn cael sylw yn adran 27 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os yw cyngor lleol, cymdeithas dai neu gorff cyhoeddus arall wedi gwahaniaethu yn eich erbyn

Mae dyletswyddau ychwanegol ar sefydliadau sy’n:

  • ‘gyrff cyhoeddus’ – mae hyn yn cynnwys cynghorau lleol
  • 'arfer swyddogaethau cyhoeddus' – sef, fel arfer, lle maen nhw’n darparu rhywbeth sydd fel arfer yn cael ei ddarparu i’r cyhoedd gan y wladwriaeth, fel tai cymdeithasol 

Os nad yw’r sefydliadau hyn wedi cyflawni eu dyletswyddau ychwanegol, gallwch chi gyflwyno dadl ychwanegol pan fyddwch chi’n cwyno am wahaniaethu neu pan fyddwch chi’n cymryd camau cyfreithiol. Dylech chi geisio cael cyngor cyfreithiol os ydych chi eisiau gwneud hyn gan ei fod yn gallu bod yn gymhleth.

Efallai y gallwch chi ddadlau eu bod nhw ‘wedi methu â rhoi sylw i Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED)’ neu fod gennych chi 'her cyfraith gyhoeddus'.

Gweld a allwch chi wneud her cyfraith gyhoeddus

Gallwch chi wneud her cyfraith gyhoeddus os yw’r sefydliad wedi gweithredu’n anghyfreithlon.

Gall hyn gynnwys pethau fel os ydyn nhw wedi:

  • gwneud rhywbeth nad oes ganddyn nhw’r pŵer cyfreithiol i’w wneud
  • gweithredu mewn ffordd na fyddai unrhyw awdurdod cyhoeddus arall yn gweithredu yn yr un sefyllfa
  • methu â dilyn eu polisïau eu hunain heb reswm da
  • methu â dilyn y gyfraith, gan gynnwys cyfraith hawliau dynol a chyfraith cydraddoldeb
  • methu ag esbonio eu penderfyniad yn iawn 

Yn gyntaf, bydd angen i chi weld a yw’r sefydliad yn ‘gorff cyhoeddus’ neu’n ‘arfer swyddogaethau cyhoeddus’. Bydd cyngor lleol sy’n gweithredu fel landlord yn cyfrif fel ‘awdurdod cyhoeddus’.

Gallech chi ysgrifennu at y sefydliad yn gofyn iddo roi rhesymau dros ei benderfyniad – mae hyn yn cynnwys gofyn am unrhyw gyfraith neu bolisi y mae’n seiliedig arno. Gallech chi ofyn iddo am gopi o unrhyw gofnodion sydd ganddo amdanoch chi hefyd.

I weld a yw'r cyngor neu gymdeithas dai wedi torri eu polisïau eu hunain, chwiliwch am y polisi ar eu gwefan neu gofynnwch iddyn nhw ei anfon atoch chi. Er enghraifft, efallai bod ganddyn nhw bolisi cydraddoldeb neu bolisi rheoli tenantiaeth.

Gwnewch gopi o’r polisi, er enghraifft, trwy ei argraffu oddi ar eu gwefan. Dylech chi wneud nodiadau hefyd ar y rhannau o’r polisi nad ydyn nhw wedi cadw atyn nhw neu sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn.

Gweld a allwch chi wneud her o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Rhaid i sefydliadau sy’n arfer swyddogaethau cyhoeddus ystyried cydraddoldeb pan maen nhw’n:

  • gwneud penderfyniadau
  • ysgrifennu polisïau
  • rhoi polisïau ar waith

Mae hyn yn cynnwys cynghorau lleol a rhai cymdeithasau tai. Os nad ydych chi wedi gwirio hyn yn barod, bydd angen i chi weld a ydyn nhw’n cyfrif fel ‘awdurdod cyhoeddus’ neu a ydyn nhw’n ‘arfer swyddogaethau cyhoeddus’ gan mai dim ond os felly y bydd ganddyn nhw’r dyletswyddau ychwanegol hyn. Bydd cyngor lleol sy’n gweithredu fel landlord yn cyfrif fel ‘awdurdod cyhoeddus’.

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn dweud bod rhaid i awdurdodau cyhoeddus, wrth arfer eu swyddogaethau, roi ‘sylw priodol’ i’r angen i:

  • ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon
  • gwella cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai sydd ddim
  • meithrin neu annog cysylltiadau da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rhai sydd ddim

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn cael sylw yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gallwch chi ddarllen mwy am yr hyn mae'r Ddyletswydd yn ei olygu yma.

Gwnewch nodiadau am y ffordd y maen nhw wedi methu â chadw at eu dyletswyddau a chasglwch unrhyw dystiolaeth sy’n helpu i ddangos hyn, er enghraifft, polisïau neu negeseuon e-bost.

Os ydych chi’n bwriadu cymryd camau cyfreithiol neu’n amddiffyn camau i'ch troi allan

Mae pethau ychwanegol y mae angen i chi eu gwneud pan rydych chi’n casglu tystiolaeth ar gyfer y llys.

Gwneud yn siŵr eich bod chi’n gallu dangos pob rhan o’ch achos

Pan rydych chi’n casglu'ch tystiolaeth, mae angen i chi feddwl am yr hyn y bydd angen i chi ei ddangos yn y llys.

Bydd angen i chi ddangos:

  • eich bod chi’n cael eich gwarchod gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 – edrychwch i weld a yw'r Ddeddf yn berthnasol i'ch sefyllfa 
  • os yw'ch achos yn dibynnu ar y ffaith bod gennych chi neu berson arall nodwedd warchodedig, eich bod yn gallu profi’r diffiniad o’r nodwedd warchodedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010
  • bod y driniaeth annheg yn un o’r gwahanol fathau o wahaniaethu, er enghraifft, anuniongyrchol neu uniongyrchol – gelwir hyn yn ‘ymddygiad gwaharddedig’

Bydd angen i chi ddangos holl elfennau’r ymddygiad gwaharddedig a amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010 hefyd.

Er enghraifft, os yw’n wahaniaethu anuniongyrchol, bydd angen i chi ddangos bod darpariaeth, maen prawf neu arfer wedi’i roi ar waith mewn perthynas â chi sy’n eich rhoi chi a phobl sy’n rhannu'ch nodweddion gwarchodedig dan anfantais arbennig o gymharu â phobl sydd ddim yn rhannu’r nodwedd warchodedig. Bydd angen i chi ddangos sut mae’n eich rhoi chi dan anfantais hefyd.

Sut bydd y llys yn trin eich tystiolaeth

O dan gyfraith gwahaniaethu, mae yna reol arbennig o ran pwy sy'n gorfod profi pa rannau o’r achos – bod â'r ‘baich profi’ yw hyn. Fel rheol, rhaid i chi brofi pob elfen o'ch achos. Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd angen i’r parti arall brofi bod rhywbeth ddim yn wahaniaethu neu fod modd cyfiawnhau’r gwahaniaethu – ‘trosglwyddo'r baich profi’ yw hyn.

Os byddwch chi’n cymryd camau yn y llys, bydd angen i chi amlinellu ffeithiau'ch achos – mae hyn yn cynnwys dangos bod yr hyn a ddigwyddodd wedi digwydd fel y dywedoch chi a pham oedd hynny’n wahaniaethu yn eich barn chi.

Bydd y llys yn penderfynu a allai’r hyn a ddigwyddodd fod yn wahaniaethu yn seiliedig ar y ffeithiau rydych chi wedi’u rhoi. Ar yr adeg hon, ni fyddan nhw’n edrych ar esboniad y parti arall. Rhaid i’r llys ddyfarnu o’ch plaid chi oni bai bod y parti arall yn gallu profi nad oedd y ffordd y gwnaeth eich trin chi yn wahaniaethu.

Nid yw’r rheol yn hawdd i'w rhoi ar waith ac mae’n gallu bod yn gymhleth. Mae'r rheolau hyn yw gweld yn adran 136 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae'r baich profi yn ‘trosglwyddo’ mewn ffyrdd eraill hefyd. Os yw’n wahaniaethu anuniongyrchol neu’n wahaniaethu o ganlyniad i anabledd, rhaid i chi ddangos elfennau’r ymddygiad gwaharddedig ond, os yw’r ochr arall eisiau amddiffyn ei ymddygiad, mae'r baich profi yn trosglwyddo iddi i brofi bod modd cyfiawnhau’r gwahaniaethu (ei fod yn ‘fodd cymesur o gyflawni amcan dilys’).

Safon y profi y mae angen i’r llys fod yn fodlon am bob elfen berthnasol iddi yw’r ‘pwysau tebygolrwydd’ – mae hyn yn golygu ei fod yn fwy tebygol na pheidio.

Gofalu eich bod chi’n cadw at reolau’r llys ar dystiolaeth

Bydd disgwyl i chi ddilyn rheolau ynghylch dwyn achos yn y llys – mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi'u cynnwys yn y ‘Rheolau Trefniadaeth Sifil’ ('CPR'). Prif nod y llys yw sicrhau bod pob achos yn cael ei drin yn deg. Mae rhai o’r rheolau yn ymwneud â’ch tystiolaeth, er enghraifft, bod rhaid i ddatganiadau tyst fod mewn fformat penodol.

Os na fyddwch chi’n dilyn y rheolau, gall hynny effeithio ar eich achos, er enghraifft:

  • efallai na fydd eich achos yn cael ei glywed
  • efallai na fyddwch yn cael dibynnu ar ddogfennau neu dystiolaeth arbennig
  • efallai y bydd rhaid i chi dalu costau cyfreithiol yr ochr arall, hyd yn oed os byddwch chi’n ennill 

Byddwch chi’n cael gorchymyn llys yn dweud wrthych chi y bydd rhaid i chi rannu dogfennau gyda’r llys a’r ochr arall. Enw hyn yw ‘datgelu ac archwilio dogfennau’. Nid dim ond dogfennau papur sy’n rhaid i chi eu rhannu - mae ‘dogfen’ yn golygu unrhyw beth sy’n cynnwys gwybodaeth, gan gynnwys data electronig, fel negeseuon e-bost a negeseuon testun.

Rhaid i chi ddatgelu unrhyw ‘ddogfennau’ rydych chi wedi’u hanfon, eu derbyn neu gael gwared â nhw rydych chi eisiau dibynnu arnyn nhw. Mae angen i chi ddatgelu unrhyw ddogfennau sydd gennych chi sy'n gallu cefnogi achos yr ochr arall hefyd. Os oes gennych chi ddogfennau rydych chi’n gwybod fydd yn gwanhau eich achos, efallai nad oes gwerth i chi fynd i’r llys.

Does dim angen i chi ddatgelu dogfennau ‘breintiedig’. Mae dogfennau breintiedig yn cynnwys pethau fel llythyrau gan eich cyfreithiwr yn rhoi cyngor cyfreithiol i chi.

Mae’n bwysig cydymffurfio’n llawn ag unrhyw orchymyn llys i ddatgelu dogfennau. Mae’r rheolau yn Rhan 31 y Rheolau Trefniadaeth Sifil.

Penderfynu ar y ffordd orau o ddatrys eich problem

Ar ôl i chi gasglu'ch holl dystiolaeth, mae’n syniad da ystyried eto sut byddwch chi’n datrys y broblem. Efallai y byddwch chi’n gweld nad oes gennych chi ddigon o dystiolaeth ar gyfer un hawliad neu'ch bod yn gallu gwneud hawliad am reswm gwahanol. Os ydych chi’n credu y gallech hawlio am reswm arall, edrychwch i wela a allai fod yn wahaniaethu.

Os ydych chi wedi nodi mwy nag un math o wahaniaethu, gallwch chi gymryd camau yn seiliedig ar bob un ohonyn nhw. Weithiau, bydd y dystiolaeth sydd gennych chi o un math yr un fath ag ar gyfer math arall, er enghraifft, os oes methiant i wneud addasiadau rhesymol a gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd.

Ar ôl i chi gasglu'ch tystiolaeth, bydd angen i chi feddwl am ba mor gryf ydyw. Ni fydd yn gryf:

  • os nad yw'n cefnogi’r hyn a ddigwyddodd i chi, er enghraifft, does gennych chi ddim dogfennau neu dystion – cofiwch y gallwch chi fod yn dyst i chi’ch hun
  • os nad yw'n dangos bod y broblem yn wahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
  • os yw’n gwrthddweud ei hun neu’n annibynadwy, er enghraifft, os yw gwahanol ddogfennau neu dystion yn dweud pethau gwahanol

Enghraifft

Mae Raj eisiau cwyno bod aelod o staff yn ei swyddfa dai leol wedi aflonyddu’n hiliol arno. Does dim angen llawer o dystion arno ond mae angen iddo feddwl am unrhyw dystiolaeth a allai fod gan ei landlord.

Mae Raj wedi gofyn i’w ffrind a oedd yn dyst i’r aflonyddu ysgrifennu llythyr, ond mae’r ffeithiau’n wahanol i’r hyn mae Raj yn ei gofio.

Gallai hyn gael ei ddefnyddio i danseilio cofnod Raj o’r hyn a ddigwyddodd a, phe bai’n mynd i’r llys, byddai’n rhaid iddo ddatgelu’r ddogfen hon i’w landlord.

Mae’n credu hefyd efallai y bydd gan ei landlord nodiadau o archwiliad tenantiaeth a gynhaliwyd ar ôl yr aflonyddu. Gofynnodd ei swyddog tai a oedd popeth yn iawn, a dywedodd Raj ei fod e. Gallai hyn gael ei ddefnyddio i wrth-ddweud ei ddadl.

Enghraifft

Mae Lee eisiau hawlio gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd gan ei landlord.

Mae wedi gofyn i’w feddyg teulu ysgrifennu llythyr i gefnogi ei achos. Mae meddyg teulu Lee wedi ysgrifennu bod ei nam yn debygol o bara 12 mis, ond nid yw’n dweud sut mae ei nam yn effeithio arno. Mae’r llythyr yn dystiolaeth bod gan Lee nam hirdymor ond nid yw’n dweud os yw ei nam yn cael effaith andwyol sylweddol ar ei weithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Gallai Lee fynd yn ôl at ei feddyg teulu a gofyn am fwy o wybodaeth fel y bydd ganddo dystiolaeth ei fod yn bodloni’r diffiniad o anabledd yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os bydd Lee yn cymryd camau heb y wybodaeth hon, bydd ei achos yn wanach gan efallai gallai'r landlord ddadlau nad yw Lee yn cael ei warchod gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gallai Lee ddadlau bod ei ddisgrifiad ei hun o sut mae ei nam yn effeithio arno yn ddigon i brofi bod ganddo anabledd, ond efallai na fydd y dystiolaeth hon mor gryf â phe bai wedi’i chyflwyno gan weithiwr meddygol proffesiynol.


Mae’n syniad da i ystyried pa fath o dystiolaeth neu dystion allai fod gan yr ochr arall. Ceisiwch benderfynu pa ochr sydd â’r dystiolaeth gryfaf. Os ydych chi’n credu bod gan eich landlord neu reolwr/reolydd eich eiddo dystiolaeth gryfach sy’n gwanhau eich achos, mae’n annhebygol y byddwch chi’n gallu ennill eich achos.

Dylech chi feddwl am ba mor gryf yw'ch tystiolaeth cyn cwyno. Os byddwch chi’n cwyno heb lawer o dystiolaeth, gallai fod yn anodd cadw perthynas dda gyda’ch landlord neu reolwr/rheolydd eich eiddo – er na allan nhw eich erlid oherwydd eich cwyn.

Os byddwch chi’n penderfynu gwneud cwyn, gallwch chi fachu ar y cyfle i ofyn i’ch landlord neu reolwr/rheolydd eich eiddo am dystiolaeth a fydd yn eich helpu chi i benderfynu pa mor gryf yw'ch achos, os ydych chi’n ystyried mynd â’r mater ymhellach.

Os ydych chi’n bwriadu cymryd camau cyfreithiol, bydd y llys yn gwneud ei benderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth gan y ddwy ochr. Os oes gennych chi dystiolaeth i gefnogi pob elfen o’ch achos, rydych chi’n fwy tebygol o ennill.

Os byddwch chi’n colli'ch achos, efallai y bydd rhaid i chi dalu costau’r ochr arall – ond mae hyn yn dibynnu ar eich achos.

Os byddwch chi’n penderfynu mynd i’r llys, bydd angen i chi feddwl eto am eich tystiolaeth i wneud yn siŵr bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch chi i gefnogi'ch achos.

Camau nesaf

Gallwch chi gwyno am y gwahaniaethu neu gymryd camau cyfreithiol.

Os ydych chi’n amddiffyn penderfyniad i'ch troi allan, gallwch chi ddefnyddio cyfraith gwahaniaethu i herio’r penderfyniad i'ch troi allan.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.