Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cymryd camau cyfreithiol am wahaniaethu'n ymwneud â thai

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Dylech chi geisio datrys eich problem yn anffurfiol cyn cymryd camau cyfreithiol – efallai mai dyma’r ffordd orau o ddatrys y broblem. Bydd angen i chi grynhoi’r ffeithiau i gyd yn gyntaf.

Os ydych chi’n cael eich troi allan gan fod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, gallwch chi herio’r gorchymyn troi allan gyda’r gyfraith gwahaniaethu.

Mae cymryd camau cyfreithiol yn gallu bod yn ddrud ac achosi straen.

Cael help cyfreithiol

Dylech chi geisio dod o hyd i gynghorydd cyfreithiol a fydd yn helpu gyda’ch sefyllfa benodol chi. Gall helpu i esbonio prosesau’r llys, paratoi eich achos a’ch cynrychioli chi.

Efallai y gall eich Cyngor ar Bopeth lleol eich helpu chi i ddod o hyd i rywun.

Edrychwch i weld a allwch chi gael cymorth cyfreithiol am ddim – mae hyn yn cynnwys cyngor cyfreithiol am ddim, a chynrychiolaeth gyfreithiol mewn rhai achosion. Weithiau, gall gynnwys eich costau llys hefyd.

Gallwch chi ddod o hyd i help cyfreithiol mwy fforddiadwy hefyd.

Efallai y gallwch chi gael gostyngiad ar ffioedd y llys neu efallai na fydd rhaid i chi dalu’r ffioedd hynny o gwbl:

  • os ydych chi ar incwm isel neu’n cael budd-daliadau
  • os nad oes gennych chi lawer o gynilion, os o gwbl

Os na allwch chi ddod o hyd i gynghorydd cyfreithiol, gallwch chi gynrychioli’ch hun. Bydd y tudalennau hyn yn dangos y prif gamau i chi, gan gynnwys y rheolau llys mwyaf cyffredin y mae angen i chi eu dilyn.


Gwirio’r dyddiad olaf ar gyfer cymryd camau

Gallwch chi gychwyn camau cyfreithiol os oes rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn y 6 mis diwethaf neu os oes rhywun yn dal i wahaniaethu yn eich erbyn.

Mae angen i’r llys dderbyn eich ffurflen hawlio o fewn 6 mis llai un diwrnod i’r dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu.

Gallai’r dyddiad y digwyddodd y gwahaniaethu fod y dyddiad pan wnaeth rhywun:

  • benderfyniad – er enghraifft, y dyddiad i'ch landlord wrthod eich cais am addasiad rhesymol
  • gwahaniaethu yn eich erbyn trwy wrthod rhentu eiddo i chi

Os oes gennych chi fwy nag un hawliad, efallai y bydd dyddiad cau gwahanol ar gyfer pob un. Gwiriwch yr holl ddyddiadau y gwnaeth rhywun wahaniaethu yn eich erbyn a chyfrifo'r dyddiadau cau ar gyfer pob hawliad.

Os digwyddodd y gwahaniaethu fwy nag unwaith

Bydd angen i chi benderfynu a ellid ystyried bod y gwahanol ddigwyddiadau yn ‘parhau dros gyfnod o amser’ h.y. eu bod yn gysylltiedig â’i gilydd, er enghraifft, os yw’ch landlord yn defnyddio iaith homoffobig i’ch disgrifio chi ar sawl achlysur neu’n parhau i ddefnyddio polisi gwahaniaethol mewn perthynas â chi.

Os yw’r digwyddiadau’n gysylltiedig, mae’r gyfraith yn eu galw nhw’n ‘gyfres barhaus o weithredoedd’ neu’n ‘weithred barhaus’, ac mae’r cyfnod o 6 mis ond yn cychwyn yn dilyn y weithred ddiwethaf. Mae hyn yn cael sylw yn adran 118(6)(a) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os nad yw’r digwyddiadau’n gysylltiedig, bydd angen i chi wneud hawliadau ar wahân gyda gwahanol ddyddiadau cau. Er enghraifft, os gwnaeth eich landlord sylw hiliol a bod eich asiant gosod wedi gwneud sylw rhywiaethol, efallai na fyddant yn rhan o’r un weithred barhaus. Os felly, dylech chi ddefnyddio’r dyddiad cynharaf fel eich dyddiad cau.

Gwiriwch:

  • a yw’r digwyddiad diwethaf yn wahaniaethu – os nad yw’n wahaniaethu a bod hyn yn golygu eich bod chi wedi gwneud hawliad hwyr, gallai’r llys wrthod eich achos
  • a oes bwlch mawr rhwng y gwahanol ddigwyddiadau – os oes bwlch mawr rhyngddynt, efallai na fyddant yn rhan o’r un weithred barhaus 

Os nad ydych chi’n siŵr o’r dyddiad, y peth gorau i’w wneud fel arfer yw defnyddio’r dyddiad cynharaf. Os byddwch chi’n defnyddio dyddiad hwyrach ar gyfer y dyddiad terfyn, gallai’r llys benderfynu nad oedd y digwyddiad hwyrach yn wahaniaethu neu nad yw’r digwyddiadau’n gysylltiedig, ac efallai na fydd gennych chi amser i wneud hawliad newydd.

Er enghraifft, os digwyddodd y gwahaniaethu diwethaf ar 12 Mawrth, rhaid i’r llys dderbyn eich ffurflen hawlio erbyn 11 Medi. Os yw’ch dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, y peth gorau i’w wneud fyddai gweithredu ar y diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad cau fel y gallwch chi fod yn siŵr bod eich hawliad yn cael ei wneud mewn pryd.

Os i'ch landlord neu reolwr/rheolydd eich eiddo fethu â gwneud addasiadau rhesymol

Os gofynnoch chi am addasiadau rhesymol, mae’n gallu bod yn anodd penderfynu o ba ddyddiad i gychwyn cyfrif. Edrychwch i weld sut mae cyfrifo terfynau amser ar gyfer addasiadau rhesymol.

Os byddwch chi’n methu’r dyddiad cau, efallai y gallwch chi gychwyn hawliad os bydd y llys yn credu ei fod yn deg – ‘teg a chyfiawn’ yw'r enw ar hyn. Efallai y bydd yn ystyried pethau fel y rheswm dros yr oedi, hyd yr oedi ac effaith hawliad hwyr ar yr ochr arall.

Ond peidiwch dibynnu ar hyn, fodd bynnag, gan efallai y bydd y llys yn penderfynu peidio â chaniatáu i chi wneud hawliad hwyr. Gweithredwch yn gyflym gan y bydd hyn yn ei gwneud hi’n fwy tebygol y bydd y llys yn derbyn eich hawliad.

Mae pŵer y llys i ganiatáu hawliad hwyr yn adran 118 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dylech chi geisio anfon llythyr cyn i chi gychwyn cymryd camau cyfreithiol – neilltuwch amser i wneud hyn cyn y dyddiad cau hefyd. Bydd hi’n cymryd amser i anfon y llythyr, cael ymateb ac yna cychwyn cymryd camau cyfreithiol.

Os nad oes gennych chi amser i anfon llythyr cyn cymryd camau cyfreithiol, dylech chi gychwyn y broses gyfreithiol beth bynnag trwy gael eich hawliad wedi’i gyhoeddi gan y llys. Mae rheolau’r llys yn caniatáu i chi ohirio anfon y ffurflen at yr ochr arall yn syth ar ôl cyhoeddi’r hawliad. Gofalwch eich bod chi’n dweud wrth swyddfa’r llys eich bod chi eisiau anfon y ffurflen at yr ochr eich hun. Mae gennych chi 4 mis i anfon y ffurflen. Gallwch chi drafod gyda'r ochr aralll yn ystod yr amser hwnnw.

Mae’r rheolau am yr hyn sy’n rhaid i chi ei wneud a phryd i gyflwyno’r ffurflen hawlio i’r ochr arall yn Rhannau 6 a 7 o Reolau Trefniadaeth Sifil 1998.

Mae’n werth i chi geisio trafod hefyd – efallai y bydd y llys yn gwneud i chi dalu costau’r ochr arall neu’n dewis peidio â gorchymyn yr ochr arall i dalu’ch costau chi, hyd yn oed os byddwch chi’n ennill yr achos, os na fyddwch chi’n ceisio datrys eich anghydfod y tu allan i’r llys yn gyntaf.

Os na chawsoch chi gyngor cyfreithiol cyn cychwyn yr achos, dylech chi gael cyngor cyfreithiol ar yr achos cyn gynted ag y gallwch chi.

Gweld pa mor gryf yw'ch achos

Dylech chi asesu pa mor gryf yw eich achos ac ailystyried hyn pan fyddwch chi’n cael unrhyw dystiolaeth gan yr ochr arall.

Dylech chi wneud yn siŵr eich bod chi:

  • wedi canfod beth yw'ch hawliau cyfreithiol
  • wedi dangos sut mae’r hawliau cyfreithiol hyn wedi cael eu torri
  • yn gwybod yr elfennau sy’n rhaid eu sefydlu i brofi bod gennych chi hawl gyfreithiol – mae hyn yn wahanol ar gyfer pob math o wahaniaethu

Dylech chi ysgrifennu gwahanol elfennau’r achos ac ychwanegu’r ffeithiau sydd gennych chi i’w cefnogi nhw. Yna, gallwch chi ysgrifennu a oes gennych chi unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r ffeithiau hynny – fel e-bost yn dweud pam rydych chi’n cael eich trin mewn ffordd benodol.

Bydd gwneud hyn yn eich helpu chi i weld pa dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen arnoch chi i brofi’ch achos a gweld unrhyw fylchau neu wendidau yn eich achos.

Os ydych chi’n hawlio mwy nag un math o wahaniaethu

Bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob un. Weithiau, byddwch chi’n gallu defnyddio’r un dystiolaeth i ddangos y gwahanol fathau o wahaniaethu. Er enghraifft, efallai y gallwch chi ddefnyddio’r un ffeithiau a thystiolaeth i ddangos hawliad o wahaniaethu sy'n deillio o anabledd, yn ogystal â methiant i wneud addasiadau rhesymol.

Gweld a oes unrhyw amddiffyniad i’r gwahaniaethu

Ar ôl i chi baru’r dystiolaeth sydd gennych chi ag elfennau pob math o wahaniaethu, dylech chi ystyried a fydd eich landlord neu reolwr/rheolydd eich eiddo yn ceisio amddiffyn yr achos, hyd yn oed os gallwch chi brofi bod y gwahaniaethu wedi digwydd.

Ar gyfer gwahaniaethu anuniongyrchol a gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd, gallen nhw ddweud bod modd cyfiawnhau’r weithred gan ei bod yn ‘fodd cymesur o gyflawni amcan dilys’. Mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn cael sylw yn adran 19 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd yn cael sylw yn adran 15 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ar gyfer addasiadau rhesymol, gallen nhw ddweud nad yw’r hyn rydych chi wedi gofyn amdano yn rhesymol neu nad oes rhaid iddyn nhw wneud yr addasiadau rydych chi wedi gofyn amdanyn nhw. Mae addasiadau rhesymol yn cael sylw yn adrannau 20 a 36 ac Atodlen 4 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dylech chi feddwl am unrhyw beth a fydd yn gwanhau eu dadl, er enghraifft, os oes ffordd lai gwahaniaethol o gyflawni eu hamcan neu os yw eu rhesymau wedi bod yn anghyson fel nad ydyn nhw’n ymddangos yn gredadwy.

Os byddwch chi’n gweld bylchau yn eich tystiolaeth neu’n credu, ar ôl edrych ar eich tystiolaeth chi a thystiolaeth eich landlord neu reolwr/rheolydd eich eiddo, bod ganddo cryfach, gallwch chi benderfynu crynhoi mwy o dystiolaeth ac ailasesu eich achos.

Gweld pa mor gryf yw'ch tystiolaeth

Dydych chi ddim wastad angen llawer o dystiolaeth i fod ag achos cryf – fel arfer, mae’n bwysicach bod y dystiolaeth o safon uchel.

Gallai tystiolaeth gref gynnwys tystiolaeth:

  • gan rywun a oedd yn dyst i’r digwyddiad gwahaniaethol
  • gan rywun nad yw’n gysylltiedig â’r naill ochr na’r llall
  • ffeithiol – fel llythyr yn rhoi rheswm gwael dros wrthod addasiad rhesymol
  • a gasglwyd ar y pryd neu yn fuan ar ôl y digwyddiad 

Gofalwch nad ydych chi'n gwneud hawliadau neu'n dibynnu ar ddigwyddiadau nad oes gennych chi dystiolaeth i’w cefnogi – mae yna risg y bydd rhaid i chi dalu costau (neu ran o gostau) yr ochr arall os byddwch chi wedi gwastraffu amser y llys am nad oedd eich hawliad yn gryf iawn neu am ei fod yn sicr o fethu. Mae yna risg hefyd y gallai dynnu sylw’r llys oddi ar eich dadleuon cryfach. Gofynnwch i gynghorydd am help i wneud hyn.

Gweld rheolau'r llys y mae’n rhaid i chi eu dilyn

Os byddwch chi’n penderfynu mynd i’r llys gan fod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, disgwylir i chi ddilyn y rheolau ar achosion llys. Mae’r rheolau hyn yn cynnwys:

  • y Rheolau Trefniadaeth Sifil
  • y Cyfarwyddyd Ymarfer ar ymddygiad cyn yr achos
  • y Cyfarwyddyd Ymarfer - Trafodion o dan Ddeddfiadau yn ymwneud â Chydraddoldeb

Os na fyddwch chi neu’r ochr arall - ‘y partïon’ – yn dilyn y rheolau hyn, bydd y llys yn ystyried hyn wrth wneud ei benderfyniad. Os na fyddwch chi wedi gwneud yr hyn roeddech chi fod ei wneud, efallai:

  • na fydd eich achos yn cael ei glywed
  • na fyddwch yn cael dibynnu ar dystiolaeth neu ddadleuon penodol
  • y cewch chi'ch gorchymyn i dalu costau cyfreithiol yr ochr arall os byddwch chi’n colli neu’n creu costau cyfreithiol yn ddiangen trwy fod yn afresymol
  • na fyddwch chi’n adennill eich costau yn erbyn y parti arall os byddwch chi’n ennill yr achos os byddwch chi’n creu costau cyfreithiol yn ddiangen trwy fod yn afresymol 

Y Rheolau Trefniadaeth Sifil

Prif nod y llys yw sicrhau bod pob achos yn cael ei drafod yn deg. Os byddwch chi’n penderfynu eich bod chi eisiau mynd â rhywun i’r llys, bydd y llys yn disgwyl i’r ddau barti weithio gyda’i gilydd cyn belled ag y bo modd.

Mae’r Rheolau Trefniadaeth Sifil yn GOV.UK – maen nhw yno i sicrhau:

  • bod y partïon yn cael cyfle cyfartal
  • bod y partïon wedi ceisio defnyddio dulliau eraill i ddatrys y broblem – fel dulliau datrys anghydfod eraill
  • bod y partïon yn ceisio arbed costau lle bo hynny’n bosibl
  • bod y ffordd mae’r achos yn cael ei drin yn adlewyrchu faint o arian sy’n gysylltiedig â’r achos, pa mor bwysig neu gymhleth yw’r broblem a sefyllfa ariannol y partïon
  • bod yr achos yn cael ei drin yn gyflym, yn effeithlon ac yn deg – y term cyfreithiol am hyn yw ‘yn gyflym ac yn deg’

Rheolau y mae’n rhaid i chi eu dilyn cyn i chi fynd i’r llys

Mae yna reolau y mae’n rhaid i’r partïon eu dilyn fel rheolau arfer gorau cyffredinol i sicrhau nad yw amser ac arian yn cael eu gwastraffu cyn mynd i’r llys. Mae’r rheolau wedi’u hamlinellu yn y Cyfarwyddyd Ymarfer ar ymddygiad cyn yr achos yn GOV.UK.

Mae’n dweud bod rhaid i’r partïon:

  • adael i’r parti arall weld unrhyw ddogfennau allweddol sy’n berthnasol i’r materion dan sylw
  • rhannu cost tystiolaeth arbenigol lle bo hynny’n bosibl

Os yw’r hawliad yn cynnwys hawliad am anaf personol, mae yna reolau arbennig sy’n berthnasol, sef y ‘protocol cyn-achos ar gyfer hawliadau anaf personol’

Cychwyn camau cyfreithiol

Os ydych chi wedi penderfynu bod eich achos yn ddigon cryf a’ch bod chi eisiau cychwyn camau cyfreithiol, mae yna rai camau y bydd angen i chi eu dilyn:

  1. ceisio setlo'ch anghydfod
  2. llenwi ffurflen hawlio
  3. anfon y ffurflen hawlio i’r llys
  4. paratoi ar gyfer y llys
  5. mynd i wrandawiad llys
Go to step 1
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.