Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gofyn am addasiadau i’ch helpu gyda’ch anabledd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych chi’n rhentu’ch cartref neu os ydych chi’n chwilio am rywle i’w rentu, efallai y bydd gennych chi hawl i newidiadau a fydd yn eich helpu i fyw yno gyda’ch anabledd. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn galw’r newidiadau hyn yn ‘addasiadau rhesymol’.

Gall addasiadau rhesymol fod yn newidiadau i bolisïau, arferion neu delerau'ch cytundeb. Maen nhw hefyd yn gallu golygu darparu cyfarpar neu gymorth ychwanegol - mae’r gyfraith yn galw hyn yn gymhorthion ategol. Mae’r gyfraith yn dweud nad oes yn rhaid i berson wneud unrhyw beth a fyddai’n golygu cael gwared ar neu addasu nodwedd ffisegol. Hefyd, nid oes raid iddynt wneud unrhyw newidiadau i rannau cyffredin.

Mae’r gyfraith yn eich gwarchod os ydych chi’n un o’r canlynol:

  • tenant neu is-denant
  • lesddaliwr
  • rhan o gyfunddaliad

Mae'n gwarchod pobl sy’n byw gyda chi hefyd.

Os oes yn rhaid gwneud y newidiadau, mae’r gyfraith yn galw hyn yn ‘ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol’. Mae’n cael ei thrafod yn adran 20, 21 a 36 ac Atodlenni 4 a 5 Deddf Cydraddoldeb 2010.

Bydd y ddyletswydd ond yn gymwys i chi os oes gennych chi anabledd dan adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Edrychwch i weld a ydych chi’n anabl dan y Ddeddf Cydraddoldeb os nad ydych chi’n siŵr.

Nid oes dyletswydd i wneud ‘addasiadau rhesymol’ ym mhob sefyllfa. Mae angen i chi ystyried:

  • a yw’r ddyletswydd yn berthnasol i'r person rydych chi am iddo wneud yr addasiad – mae rhai eithriadau
  • pa addasiadau sydd angen i chi eu gwneud ac a ydynt wedi’u cynnwys yn y ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol
  • os ydych chi’n gallu gwneud y newidiadau eich hun neu sut i ofyn amdanynt
  • beth i’w wneud os nad ydynt yn gwneud y newidiadau neu'n ceisio eich troi allan oherwydd eich bod wedi gofyn amdanynt

Gweld pwy sy’n gorfod gwneud addasiadau

Mae’r ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol yn berthnasol i unrhyw un sy’n rheoli neu osod yr eiddo. Yr enw ar hyn yw bod yn ‘rheolydd’ yr eiddo – fel arfer eich landlord neu unrhyw un sydd â rheolaeth ymarferol dros sut mae’r eiddo yn cael ei osod neu ei reoli.

Gallai rheolyddion eiddo gynnwys cwmnïau rheoli eiddo a gwerthwyr tai hefyd.

Mae gan gymdeithas cyd-ddeiliaid sy’n rheoli uned cyfunddaliad ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol hefyd.

Mae adran 36 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn trafod pwy allwch chi gymryd camau yn eu herbyn. Ar hyn o bryd, nid yw’r gyfraith yn cynnwys cymryd camau yn erbyn person sy’n gyfrifol am rannau cyffredin.

Nid yw’n ddyletswydd ar bawb sy’n rheoli neu osod yr eiddo i wneud addasiadau rhesymol dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os yw’r person sy’n gosod y cartref yn byw neu wedi byw yno 

hefyd

Bydd yn rhaid iddynt wneud addasiadau oni bai bod y naill a’r llall o’r rhain yn wir:

  • nid oes gwerthwr tai wedi cael ei ddefnyddio i osod y cartref na rheolwr eiddo i reoli’r cartref
  • yr eiddo oedd arfer bod neu yw ei brif gartref

Yr enw ar y rheolau hyn yw'r 'eithriad perchen-feddiannydd (addasiadau rhesymol)’ ac maent wedi cynnwys yn Atodiad 5 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Enghraifft

Mae gan Jane ystafell sbâr yn ei chartref ac mae’n gwybod bod Daniel ei ffrind yn chwilio am rywle i fyw. Mae’n gofyn iddo a yw am rentu’r ystafell ganddi.

Mae gan Daniel nam ar y golwg ac mae am gael copi o’r cytundeb tenantiaeth y gall wrando arno. O dan y gyfraith wahaniaethu, nid oes yn rhaid i Jane wneud unrhyw newidiadau gan mai dyma ei phrif gartref ac mae’n gosod yr ystafell yn breifat.

Enghraifft

Mae Jane yn berchen ar fflat y mae’n ei osod i fyfyrwyr. Mae’n cael gwerthwr tair i hysbysebu un o’r ystafelloedd i’w gosod. Mae Daniel yn gweld yr hysbyseb ac yn cytuno i rentu’r ystafell ganddi.

Mae gan Daniel nam ar y golwg ac mae am gael copi o’r cytundeb tenantiaeth y gall wrando arno. Gan nad y fflat yw prif gartref Jane a’i bod wedi defnyddio gwerthwr tai, mae’n rhaid iddi wneud addasiadau rhesymol ar gyfer anabledd Daniel.

Os yw’r person sy’n eich trin yn annheg neu berthynas iddo yn byw yn y cartref hefyd

Os yw’n gwahaniaethu ar sail hil, nid oes gwahaniaeth pwy arall sy’n byw yn y cartref neu lety - byddwch yn cael eich gwarchod gan gyfraith wahaniaethu.

Os yw’n unrhyw fath arall o wahaniaethu, ni fyddwch yn cael eich gwarchod os yw’ch cartref neu’r cartref rydych chi’n gobeithio ei rentu yn cyfrif fel ‘eiddo bach’ o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r eithriad hwn yn berthnasol os ydych chi’n ei rannu gyda’r person sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn neu berthynas iddo. Gelwir y person hwn yn ‘breswylydd’ yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Er enghraifft, os ydych chi’n lletywr (lodger) ac yn rhannu cegin neu ystafell ymolchi gyda merch eich landlord (y preswylydd) ni fyddwch yn cael eich gwarchod gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Nid yw’r eithriad eiddo bach yn berthnasol os ydych chi ond yn rhannu mannau storio a mynedfeydd.

Mae perthynas yn golygu:

  • priod neu bartner sifil
  • partner di-briod
  • rhiant neu nain neu daid
  • plentyn neu ŵyr neu wyres (a phriod, partner sifil neu bartner di-briod y plentyn neu ŵyr neu wyres)
  • brawd neu chwaer

y landlord neu berchennog yr eiddo.

Mae hefyd yn cynnwys perthnasau ‘yng nghyfraith’ y bobl uchod – er enghraifft byddai merch yng nghyfraith eich landlord fel perthynas.

Mae’r cartref yn cyfrif fel eiddo bach:

  • os oes o leiaf 2 aelwyd yn byw yno – eich aelwyd chi ac aelwyd y preswylydd
  • os na all roi llety i fwy na 3 aelwyd i gyd

Mae hefyd yn cyfrif fel eiddo bach os nad yw’n gallu rhoi llety i fwy na chwe pherson arall (heblaw am aelwyd y preswylydd).

Enw'r rheolau hyn yw ‘eithriad eiddo bach (addasiadau rhesymol)’ ac maent wedi’u cynnwys yn Atodlen 5 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ond yn gorfod gwneud addasiadau os ydych chi’n gofyn iddynt wneud ac os ydynt yn rhesymol.

Os ydynt yn methu gwneud addasiad rhesymol, mae’n wahaniaethu o dan adran 21 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Efallai y byddwch yn gallu cael yr addasiadau sydd eu hangen arnoch chi drwy wneud cwyn neu gymryd camau cyfreithiol.

Os yw’n ddyletswydd ar y landlord, rheolwr eiddo neu reolydd i wneud addasiadau, dylent dalu costau cydymffurfio â’r ddyletswydd - ni ddylent ofyn i chi dalu neu ychwanegu’r gost at eich rhent neu dâl gwasanaeth.

Gweld beth allwch chi ofyn amdano

Efallai y bydd yn rhaid i’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd wneud addasiadau ar eich cyfer chi os ydych chi dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl heb anabledd oherwydd:

  • rheol, arfer neu ffordd o wneud pethau – mae’r gyfraith yn galw hyn yn ‘ddarpariaeth, maen prawf neu arfer’
  • diffyg cyfarpar, cymhorthion neu wasanaethau ychwanegol – mae’r gyfraith yn galw hyn yn ‘gymhorthyn ategol’

Y gofynion hyn yw gofyniad cyntaf a thrydydd gofyniad y ddyletswydd addasiadau rhesymol ac maent i'w gweld hyn adrannau 20(3) a 20(5) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gallai ‘darpariaeth, maen prawf neu arfer’ gynnwys un o delerau'ch cytundeb tenantiaeth neu ffordd y mae’ch landlord yn gwneud pethau - fel pryd neu sut mae'n casglu’r rhent.

Gallai ‘cymhorthyn ategol’ gynnwys gofyn i’ch landlord, rheolwr eiddo neu reolydd newid rhai nodweddion yn y cartref er mwyn ei gwneud yn haws i chi fyw yno gyda’ch anabledd.

Nid oes yn rhaid iddo wneud rhywbeth a fyddai’n golygu cael gwared ar neu newid nodwedd ffisegol. Nid yw eitemau penodol sy'n gallu cael eu symud fel dodrefn, celfi, deunyddiau neu gyfarpar yn nodweddion ffisegol.

Nid yw’r canlynol yn newidiadau i nodweddion ffisegol:

  • newid neu ddarparu arwyddion neu hysbysiadau
  • newid tapiau neu handlenni drws
  • newid, darparu neu addasu cloch y drws neu system dod i mewn drwy’r drws
  • newid lliw wal, drws neu unrhyw arwyneb arall

Mae’r rheolau llawn am nodweddion ffisegol yn Atodlen 4, paragraff 2 (9) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Hefyd, mae'n bosibl y bydd rhaid i'r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ddarparu gwybodaeth ar ffurf hygyrch, er enghraifft cyfieithu copi o’ch cytundeb tenantiaeth i Braille os oes gennych chi nam ar y golwg.

Os ydych chi angen gwneud addasiadau i nodweddion ffisegol yn eich cartref

Mae’r ddyletswydd addasiadau rhesymol ond yn cynnwys newidiadau penodol yn eich cartref. Nid yw’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i’ch landlord newid neu gael gwared ar ‘nodweddion ffisegol’, er enghraifft newidiadau strwythurol, dymchwel waliau, lledu drysau neu osod rampiau parhaol.

Os ydych chi angen newid un o’r pethau hyn, efallai y byddwch yn gallu defnyddio ffyrdd eraill er mwyn i welliannau gael eu gwneud.

Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud gwelliannau sydd eu hangen i’ch helpu gyda’ch anabledd os ydych chi’n denant neu’n lesddaliwr. Edrychwch ar eich cytundeb i weld a yw’n dweud eich bod yn gallu gwneud gwelliannau gyda chysyniad eich landlord. Ni fyddwch yn gallu os oes gennych chi:

  • denantiaeth warchodedig o dan Ddeddf Rhent 1977
  • tenantiaeth statudol o dan Ddeddf Rhent 1977
  • tenantiaeth ddiogel – tenant cyngor fel arfer

Mae gwelliannau'n cynnwys:

  • ychwanegu neu newid gosodiadau a ffitiadau
  • ychwanegu neu newid rhywbeth sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau i’r eiddo
  • gosod erial diwifr neu deledu
  • gwneud gwaith addurno allanol

Ni ddylai’r landlord wrthod rhoi caniatâd yn afresymol. Os yw'n gwneud hynny a’ch bod chi'n lesddaliwr, holwch am gyngor.

Mae’r rheolau hyn yn cael eu trafod yn adran 190 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Darllenwch fwy am gael addasiadau wedi'u gwneud yng nghanllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o denantiaeth sydd gennych, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Gweld a yw’ch anfantais yn ‘sylweddol’ o gymharu â phobl sydd ddim yn anabl

Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi ddangos bod eich mwynhad o’r eiddo neu’r defnydd o fudd neu gyfleuster rydych chi’n ei gael o dan eich tenantiaeth yn cael ei effeithio. Er enghraifft, gallu mynd at a defnyddio garej sydd hefyd yn cael ei gosod gyda’r eiddo, neu allu byw yn yr eiddo yn gyfforddus heb ymyrraeth.

Yna, bydd angen i chi ddangos eich bod dan ‘anfantais sylweddol’ cyn bod rhaid i'r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd wneud unrhyw addasiadau. Mae hyn yn golygu cael eich effeithio mewn ffordd sy’n fwy na ‘mân neu ddibwys’.

Er enghraifft, os yw rheol nad yw tenantiaid yn cael cadw sgwteri symudedd yn eu cartrefi yn achosi problem i rywun sy’n dibynnu ar ddefnyddio un, ond eu bod yn gallu ei gyrraedd yn hawdd gan fod lle iddo y tu allan i’r drws ffrynt, efallai y bydd yn effaith mor fân fel na fydd angen addasiad arno.

Fodd bynnag, os nad oes lle i’w gadw ger y cartref a bod y tenant yn cael anhawster ei gyrraedd, gallai fod yn effaith mwy na ‘mân neu ddibwys’.

Bydd angen i chi ddangos na fyddai rhywun heb anabledd yn cael ei effeithio, neu y byddai'n cael ei effeithio i raddau llai na chi, gan y rheol benodol neu ddiffyg cyfarpar neu gymorth.

Mae hyn yn adran 20(3) a 20(5) ac Atodlen 4, paragraff 2(5) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gweld a yw'n gwybod pa addasiadau sydd eu hangen arnoch chi

Mae’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ond yn gorfod gwneud addasiadau rhesymol os ydych chi wedi gofyn iddo am addasiadau. Mae’n bwysig eich bod yn glir am ba addasiadau rydych chi eu heisiau a pham y byddant yn eich helpu. Mae’n syniad da cadw cofnod o’r hyn rydych chi wedi gofyn amdano rhag ofn y byddwch ei angen maes o law.


Penderfynu pa addasiadau sydd eu hangen arnoch chi

Nid oes yn rhaid i chi ddweud pa addasiadau sydd eu hangen arnoch ond byddai’n syniad da meddwl am beth fyddai’n eich helpu a sut byddai’n eich helpu. Gallech siarad â’ch meddyg neu weithiwr meddygol proffesiynol arall i weld a oes ganddynt unrhyw syniadau am beth fyddai’n eich helpu i fyw yn y cartref.

Meddyliwch a yw’ch cais yn ‘rhesymol’

Mae’n rhaid i’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ond cymryd camau rhesymol i osgoi eich rhoi dan anfantais, neu ddarparu cymhorthyn os ydych chi angen un.

Nid oes diffiniad o beth sy’n rhesymol ond bydd yn dibynnu ar lawer o ffactorau fel pa mor hawdd fyddai gwneud yr addasiad. Gallai hefyd gynnwys adnoddau’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd. Er enghraifft, byddai disgwyl i landlord gyda sawl eiddo wneud mwy na landlord sydd ag un eiddo.

Dylech hefyd ystyried:

  • a fyddai addasiad penodol yn atal yr anfantais honno i chi - po fwyaf tebygol ydyw o wneud hynny, po fwyaf tebygol ydyw o fod yn rhesymol
  • pa mor hir rydych chi’n debygol o fod yn yr eiddo o gymharu â chost ac anghyfleusrtra'r addasiad
  • y gost – efallai y bydd awdurdod lleol yn gallu gwario mwy na landlord preifat sydd â dim ond un eiddo
  • pa mor anodd fydd hi i’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd wneud yr addasiad
  • pa mor anodd fydd dadwneud yr addasiad pan fyddwch chi’n gadael y cartref

Enghraifft

Mae gan Liz sglerosis ymledol ac mae’n defnyddio cadair olwyn. Mae 3 gris i fyny i’w chartref ac mae’n cael anhawster mynd i mewn ac allan ar ei phen ei hun. Mae hefyd yn cael trafferth defnyddio rhai gosodiadau yn y cartref.

Gofynnodd i’w landlord:

  • ddarparu ramp symudol wrth ei drws ffrynt
  • gosod handleni drws hygyrch
  • darparu tapiau hygyrch yn y gegin
  • newid y dodrefn fel ei bod yn gallu eu defnyddio – fel gwely is
  • newid lliw y waliau gan nad yw’n hoffi'r lliw

Byddai’r rhain i gyd yn rhesymol ar wahân i’r un olaf – ni fydd newid lliwiau’r waliau yn atal yr anwasterau sydd gan Liz.

Bydd cost y cyfarpar arbennig yn ffactor wrth benderfynu a yw’n rhesymol i’r landlord ei ddarparu, ond bydd maint y landlord a faint o arian sydd gan y lanlord fel a ydynt yn landlord preifat gydag un eiddo neu landlord corfforaethol mwy yn ffactor hefyd.


Gofyn i’ch landlord neu reolwr eiddo am addasiadau

Ar ôl i chi wneud cais am addasiadau rhesymol, mae’n ddyletswydd ar eich landlord, rheolwr eiddo neu reolydd i wneud yr addasiadau hynny. Os nad ydych chi wedi gofyn am yr addasiad rhesymol eto, dylech ofyn. Gofalwch fod eich cais yn gwrtais ac yn fuddiol – rydych chi’n ceisio dod o hyd i’r ateb gorau gyda’ch gilydd.

Os ydych chi’n gofyn am addasiadau

Gofalwch eich bod yn dweud wrth y landlord, rheolwr eiddo neu reolydd am eich anabledd a sut mae'n effeithio arnoch chi yn eich cartref.

Os nad yw’r addasiadau wedi’u gwneud a'ch bod eisiau mynd â'r mater ymhellach

Mae’n rhaid i chi allu dangos eich bod chi - neu rywun ar eich rhan - wedi gwneud cais i gymryd camau i osgoi’r anfantais neu ddarparu'r cymhorthyn ategol.

Mae’n syniad da egluro yn eich cais sut rydych chi’n bodloni’r diffiniad o anabledd yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd hyn yn osgoi’r risg y bydd yn dweud nad oes yn rhaid iddo wneud addasiadau rhesymol oherwydd nad ydych chi’n cael eich gwarchod gan y Ddeddf.

Penderfynu sut i wneud eich cais

Yn aml, mae’n syniad da gwneud cais anffurfiol yn y lle cyntaf, ac yna gwneud un ffurfiol os nad yw hynny’n gweithio. Ond mewn rhai achosion, efallai mai'r peth gorau fyddai gwneud cais ffurfiol yn syth.

Wrth benderfynu a ddylech chi wneud cais ffurfiol neu anffurfiol gyntaf, dylech feddwl am:

  • bwy rydych chi’n gofyn iddynt wneud addasiadau
  • pa hawliau sydd gennych chi i aros yn y cartref a’r risg y gallech chi gael eich troi allan am wneud y cais - fel os ydych chi’n denant byrddaliad sicr neu’n denant cyngor
  • eich perthynas ar hyn o bryd ac yn y dyfodol gyda’r person rydych chi’n gofyn iddo
  • a ydych chi wedi crybwyll y broblem o’r blaen

Enghraifft

Mae Christian yn rhentu fflat gan landlord preifat ac mae perthynas dda rhwng y ddau. Mae ganddo denantiaeth byrddaliad sicr sy’n golygu ei fod yn gallu cael ei droi allan yn hawdd ar ôl i’w dymor penodol ddod i ben.

Ganed Christian gyda nam ar y golwg ac mae ei anabledd wedi gwaethygu'n ddiweddar. Mae’n cael trafferth gweld y drysau yn ei gartref oherwydd eu bod wedi’u peintio yr un lliw â’r waliau.

Mae angen iddo ofyn am addasiadau rhesymol (i’w peintio mewn lliw arall). Mae’n teimlo bod ei landlord yn eithaf parod ei chymwynas fel arfer a dyw ddim am ei chythruddo, felly mae’n penderfynu gofyn iddi’n anffurfiol am yr addasiadau.

Os nad yw ei landlord yn gwneud y newid, gallai ofyn yn fwy ffurfiol neu gallai benderfynu peidio â gofyn yn ffurfiol a chymryd camau eraill.

Os yw am gymryd camau mewn ffordd arall, dylai feddwl a oes ganddo ddigon o dystiolaeth i ddangos ei fod wedi gwneud cais. Un ffordd o wneud hyn yw gofyn yn ffurfiol neu ysgrifennu at y landlord i gydnabod ei bod wedi gwrthod ei gais.

Efallai y bydd angen i chi ysgrifennu llythyr mwy ffurfiol os yw un neu fwy o’r canlynol yn wir:

  • rydych chi eisoes wedi siarad gyda’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ond heb lwyddiant
  • rydych chi angen i’r addasiadau gael eu gwneud ar unwaith
  • rydych chi’n gofyn i sefydliad mawr sydd wedi arfer ymdrin â cheisiadau o’r fath – fel cyngor lleol

Os ydych chi’n gwneud cais anffurfiol

Gallech siarad â rhywun wyneb yn wyneb neu ar y ffôn, ond gofalwch eich bod yn nodi pryd i chi gael y sgwrs a beth gafodd ei ddweud a gan bwy.

Gallech wneud eich cais yn ysgrifenedig fel bod gennych chi gofnod o’r hyn i chi ofyn amdano neu os nad ydych chi’n meddwl y byddai siarad gyda nhw gyntaf yn gweithio. Gallwch ysgrifennu llythyr neu e-bost.

Pa bynnag ffordd y byddwch yn gwneud eich cais, dylech anfon cais dilynol ysgrifenedig os nad ydych chi’n cael ateb o fewn cyfnod rhesymol – fel 14 diwrnod.

Egluro pam eich bod angen yr addasiad

Efallai na fydd eich anabledd yn amlwg i’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd, felly gofalwch eich bod yn dweud yn union beth yw’ch anabledd a sut mae’n effeithio arnoch chi.

Rhowch ddigon o wybodaeth am eich nam er mwyn iddo ddeall eich bod, neu y gallech fod, yn anabl. Mae angen i chi wneud yn glir bod eich nam wedi para, neu’n debygol o bara, o leiaf 12 mis a’i fod yn effeithio ar eich bywyd a bod ei effaith ar eich bywyd o ddydd i ddydd yn debygol o fod yn fwy na mân neu ddibwys.

Edrychwch ar y diffiniad o anabledd dan y Ddeddf Cydraddoldeb os nad ydych chi’n siŵr.

Mae angen i chi ddisgrifio hefyd sut mae’r peth rydych chi am ei newid yn achosi problemau i chi. Eglurwch pam eich bod dan anfantais sylweddol o gymharu â rhywun heb anabledd.

Mewn cwyn anffurfiol, does dim rhaid i chi ddefnyddio iaith gyfreithiol, ond gallwch wneud hynny os ydych chi’n meddwl y bydd yn perswadio’r person rydych chi’n ysgrifennu ato i weithredu. Efallai y bydd angen i chi egluro'r gyfraith iddo hefyd os nad ydych chi’n meddwl y bydd yn ymwybodol o’i rwymedigaethau cyfreithiol – os yw'n landlord bach neu ddibrofiad, er enghraifft.

Os ydych chi am ddefnyddio iaith gyfreithiol neu os gofynnir i chi am ragor o wybodaeth, dywedwch wrtho fod dyletswydd arno i wneud addasiadau rhesymol o dan adrannau 20, 21, 36 ac Atodlen 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dylech hefyd ddweud pam eich bod dan anfantais sylweddol heb yr addasiad. Er enghraifft, dywedwch pa ran o’r cartref neu reol yn eich cytundeb tenantiaeth sy’n eich rhoi dan anfantais a disgrifiwch yr effaith y mae hyn yn ei chael arnoch chi.

Eglurwch beth rydych chi am iddo ei wneud

Dywedwch wrth y landlord, rheolwr eiddo neu reolydd sut rydych chi am iddo newid pethau i helpu gyda’ch anabledd. Byddwch mor fanwl â phosibl – bydd yn ei chael hi’n haws i wneud yr addasiadau.

Gallwch orffen y llythyr neu’r sgwrs trwy ofyn iddo ystyried yr addasiadau a rhoi gwybod i chi’n ysgrifenedig os nad yw'n gallu eu gwneud. Dylech ofyn iddo ymateb o fewn cyfnod penodol – mae 7 i 14 diwrnod yn rhesymol fel arfer.

Enghraifft

Annwyl Bill

Hoffwn drafod sut mae’ch cais i dalu rhent i chi’n bersonol yn eich siop yn creu anhawster i mi. Mae’r anawsterau hynny’n gysylltiedig â'm hiechyd. Hoffwn drefnu amser i drafod hyn gyda chi.

Mae gennyf arthritis drwg yn fy nghlun ac rwyf wedi dioddef hyn ers 2 flynedd. Nid yw’n debygol o wella'n fuan yn ôl y meddyg.

Mae’r arthritis yn effeithio ar fy ngallu i gerdded i’ch siop a dringo’r grisiau i lawr y siop.

Rwy’n gwybod na allwch adael y siop yn wag i gasglu’r rhent gennyf, ond credaf y byddai’n fy helpu pe baech yn gadael i mi dalu drwy drosglwyddiad banc neu anfon yr arian i chi drwy’r post.

Hoffwn drafod hyn gyda chi ymhellach, a cael sgwrs fyddai modd i ni siarad am ryw hanner awr wythnos nesaf?

Yn gywir

John


Os ydych chi’n gwneud cais ffurfiol

Dylech gyflwyno cais ffurfiol ysgrifenedig fel bod gennych chi gofnod o’r hyn rydych chi wedi gofyn amdano. Gallwch ysgrifennu llythyr neu e-bost.

Gallech hefyd gael rhywun i ofyn i’ch landlord, rheolwr eiddo neu reolydd ar eich rhan os nad ydych chi’n teimlo’n ddigon hyderus gwneud hynny ar eich pen eich hun. Bydd yn rhaid i'r unigolyn hwnnw ddangos eich bod wedi rhoi caniatâd iddo wneud hynny.

Mae’n syniad da defnyddio iaith gyfreithiol, yn enwedig os ydych chi’n meddwl y bydd yn perswadio’r person rydych chi’n ysgrifennu ato i weithredu. Dylai’ch llythyr:

1. Egluro pam eich bod angen yr addasiad

Efallai na fydd eich anabledd yn amlwg i’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd, felly gofalwch eich bod yn dweud yn union beth yw’ch anabledd a sut mae’n effeithio arnoch chi.

Rhowch ddigon o wybodaeth am eich nam er mwyn iddo allu deall eich bod, neu y gallech fod, yn anabl. Mae angen i chi nodi’n glir bod eich nam wedi para, neu’n debygol o bara 12 mis a bod ei effaith ar eich bywyd o ddydd i ddydd yn fwy nag effaith mân neu ddibwys.

Os ydych chi’n defnyddio iaith gyfreithiol, dywedwch fod gennych chi anabledd yn unol â'r diffiniad yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Edrychwch ar y diffiniad o anabledd dan y Ddeddf Cydraddoldeb os nad ydych chi’n siŵr.

Mae angen i chi ddisgrifio hefyd sut mae’r peth rydych chi am ei newid yn achosi problemau i chi.

2. Crybwyll eu dyletswydd i wneud addasiadau rhesymol

Os ydych chi’n defnyddio iaith gyfreithiol, neu os ydych chi'n cael cais am ragor o wybodaeth, dywedwch fod dyletswydd arno i wneud addasiadau rhesymol o dan adrannau 20, 21, 36, ac Atodlen 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dylech ddweud hefyd pam eich bod dan anfantais sylweddol heb yr addasiad. Er enghraifft, dywedwch pa ran o’r cartref neu ba reol yn eich cytundeb tenantiaeth sy’n eich rhoi dan anfantais a disgrifiwch ei effaith arnoch chi.

Dywedwch os ydych chi’n gofyn am addasiad i reol neu ffordd o wneud pethau (‘darpariaeth, maen prawf neu arfer’) neu gyfarpar neu gymorth (‘cymhorthyn ategol’).

Os ydych chi’n gofyn am addasiad i reol neu ffordd o wneud pethau, gallech ddweud rhywbeth fel:

'Fel landlord yr eiddo, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae’n ddyletswydd arnoch chi wneud addasiadau rhesymol i ddarpariaeth, maen prawf neu arfer sy’n fy rhoi dan anfantais sylweddol oherwydd fy anabledd.

Mae methu â gwneud addasiadau rhesymol yn anghyfreithlon ac yn achos o wahaniaethu ar sail anabledd’.

Os ydych chi’n gofyn am gymhorthyn ategol, gallech ddweud rhywbeth fel:

'Fel landlord yr eiddo, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae’n ddyletswydd arnoch chi wneud addasiadau rhesymol lle mae’r diffyg cyfarpar ychwanegol neu gymorth (sef ‘cymhorthyn ategol’) yn fy rhoi dan anfantais sylweddol oherwydd fy anabledd.

Mae methu â gwneud addasiadau rhesymol yn anghyfreithlon ac yn achos o wahaniaethu ar sail anabledd’.

3. Egluro beth ydych chi am iddo ei wneud

Dywedwch wrth y landlord, rheolwr eiddo neu reolydd sut rydych chi am iddo newid pethau i’ch helpu gyda’ch anabledd. Byddwch mor fanwl â phosib - bydd yn ei chael yn haws gwneud yr addasiadau.

Enghraifft

Annwyl Mr Evans

Hoffwn i chi dderbyn y cais ffurfiol hwn am addasiad rhesymol i’ch eiddo i helpu gyda'm hanabledd.

Fel y gwyddoch, rwy’n fyddar, felly mae gen i anabledd fel y'i diffinnir gan adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Nid wyf yn clywed cloch y drws. Nid wyf yn gallu dweud pryd mae rhywun wrth y drws os nad ydynt yn gwybod i ffonio fy ffôn symudol sy'n crynu pan fydd yn canu. Rwyf wedi methu ateb y drws i rywun yn dosbarthu nwyddau o leiaf 3 gwaith yn y mis diwethaf oherwydd hyn.

Rwyf angen cloch drws y gallaf ei gweld ac mae bod heb gloch o'r fath yn fy rhoi dan anfantais sylweddol o gymharu â rhywun sydd ddim yn anabl.

Fel landlord yr eiddo, o dan adrannau 20 a 36 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 mae’n ddyletswydd arnoch chi i wneud addasiadau rhesymol lle mae’r diffyg cymhorthyn ategol yn achosi anfantais sylweddol i mi oherwydd fy anabledd.

Mae methu â gwneud addasiadau rhesymol yn anghyfreithlon ac yn achos o wahaniaethu ar sail anabledd o dan adran 21 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gallwch wneud addasiad drwy osod system cloch drws weladwy sy’n defnyddio golau sy’n fflachio i ddweud wrthyf pan fo rhywun wrth y drws. Heb hyn, byddaf dal i fod dan anfantais sylweddol o gymharu â rhywun sydd ddim yn anabl. Mae systemau fel hyn ar gael ar-lein.

Mae hwn yn gais ffurfiol i chi ystyried yr addasiad uchod. Os nad ydych chi’n credu y gallwch wneud hyn, atebwch y llythyr hwn i egluro pam.

Edrychaf ymlaen at dderbyn eich ymateb o fewn 14 diwrnod.

Yn gywir

Ms James, tenant yn 22 Acacia Avenue

Os ydych chi am wneud yr addasiadau eich hun

Mae a allwch chi wneud yr addasiadau eich hun yn dibynnu ar yr hyn y mae’ch prydles neu gytundeb tenantiaeth yn ei ddweud.

Os yw’r brydles neu gytundeb tenantiaeth yn dweud y gallwch wneud newidiadau i nodweddion ffisegol ond i chi gael caniatâd

Efallai y byddwch chi’n gallu gwneud y gwelliannau sydd eu hangen i helpu gyda’ch anabledd os ydych chi’n denant neu’n lesddaliwr. Edrychwch ar eich cytundeb i weld a yw’n dweud eich bod yn gallu gwneud gwelliannau o’r fath gyda chaniatâd y landlord. Ni fyddwch yn gallu os oes gennych chi:

  • denantiaeth warchodedig dan Ddeddf Rhent 1977
  • tenantiaeth statudol dan Ddeddf Rhent 1977
  • tenantiaeth sicr – sef tenant cyngor fel arfer

Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o denantiaeth sydd gennych chi, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf.

Mae gwelliannau'n cynnwys:

  • ychwanegu neu newid gosodiadau a ffitiadau'r landlord 
  • ychwanegu neu newid rhywbeth sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau i’r eiddo
  • gosod erial diwifr neu deledu
  • gwneud gwaith addurno allanol

Mae'r rheolau hyn i'w gweld yn adran 190 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cael y caniatâd hwn cyn i chi wneud unrhyw newidiadau. Dylech wneud hyn yn ysgrifenedig. Dylech roi manylion y newidiadau rydych chi am eu gwneud i’ch landlord a gofyn am ei ganiatâd. Dylech hefyd ddweud a ydych chi’n bwriadu rhoi pethau yn ôl fel yr oeddent cyn i chi adael.

Dylai’r landlord beidio â gwrthod caniatâd yn afresymol.

Os yw'n gwrthod rhoi caniatâd yn afresymol efallai y byddwch yn gallu gwneud y newidiadau eich hun neu ddwyn achos yn ei erbyn yn y llys. Dylech gael cyngor cyfreithiol cyn i chi wneud hyn gan fod perygl y gallai gymryd camau i geisio eich troi allan neu fynd â chi i'r llys am dorri eich cytundeb tenantiaeth.

Os ydych chi’n lesddaliwr a'i fod yn gwrthod rhoi caniatâd, gallwch gael cyngor gan LEASE.

Mae’ch landlord yn cael gofyn i chi fodloni rhai amodau, cyhyd â’u bod yn rhesymol. Os ydych chi’n gwneud y newidiadau a ddim yn bodloni’r amodau (os ydynt yn rhesymol), byddwch yn torri’ch cytundeb tenantiaeth.

Gallai amod rhesymol gynnwys:

  • bod eich landlord yn gallu cymeradwyo’r adeiladwr neu'r cwmni a fydd yn gwneud y gwaith
  • eich bod yn egluro sut byddwch yn rhoi pethau yn ôl fel yr oeddent cyn i chi adael

Mae’r broses lawn sydd angen i chi ei dilyn os ydych chi angen addasiadau oherwydd anabledd yn adran 190 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’n syniad da darllen eich cytundeb tenantiaeth yn ofalus gan y gallai adael i chi wneud mwy o newidiadau nag y gallech eu gwneud o dan y gyfraith gwahaniaethu.


Os yw’ch prydles neu gytundeb tenantiaeth yn dweud na allwch wneud newidiadau neu ddim yn sôn am newidiadau o gwbl

Os oes adran yn eich prydles neu gytundeb tenantiaeth sy’n eich atal rhag gwneud yr addasiadau sydd eu hangen arnoch chi a bod hyn yn eich rhoi dan anfantais sylweddol, dylech ofyn i’ch landlord newid y geiriad.

Mae’n rhaid iddo newid geiriad eich cytundeb er mwyn i chi allu gwneud unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen ond dim ond i'r graddau sydd eu hangen i osgoi’r anfantais. Ni fydd byth yn rhesymol iddo orfod cymryd cam a fyddai’n golygu cael gwared ar neu newid nodwedd ffisegol.

Mae hyn yn cael ei drafod yn Atodlen 4, paragraff 2(7) a 2(8) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os nad yw’ch prydles neu gytundeb tenantiaeth yn dweud a allwch wneud newidiadau ai peidio, ni fyddech yn gallu gwneud newidiadau fel arfer oni bai fod y landlord yn cytuno.

Dylech wastad gael eich landlord, rheolwr eiddo neu reolydd i gytuno cyn gwneud unrhyw addasiadau i’r cartref – mae’n syniad da gofyn iddo gytuno yn ysgrifenedig.

Os ydych chi’n gwneud yr addasiadau nad yw’ch landlord wedi cytuno iddynt, gall gymryd camau i geisio eich troi allan neu fynd â chi i’r llys am dorri eich cytundeb tenantiaeth oni bai eich bod wedi gofyn am ei ganiatâd a’i fod wedi’i wrthod yn afresymol.


Mae’ch landlord yn cael gofyn i chi fodloni rhai amodau, cyhyd â’u bod yn rhesymol. Os ydych chi’n gwneud y newidiadau a ddim yn bodloni’r amodau (os ydynt yn rhesymol), byddwch yn torri’ch cytundeb tenantiaeth.

Gallai amod rhesymol gynnwys:

  • bod eich landlord yn gallu cymeradwyo’r adeiladwr neu'r cwmni a fydd yn gwneud y gwaith
  • eich bod yn egluro sut byddwch yn rhoi pethau yn ôl fel yr oeddent cyn i chi adael


Os nad oes addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud ar ôl eich cais

Os yw’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd yn gwrthod eich cais heb reswm da neu os nad yw'n gwneud yr addasiadau yn ôl ei addewid, gallwch gymryd camau yn ei erbyn.

Os yw'n dweud nad yw'n gallu gwneud yr addasiad oherwydd bod tun o delerau ei denantiaeth ei hun sy’n dweud nad yw'n gallu gwneud newidiadau yna gallech ofyn iddo gael cydsyniad ysgrifenedig gan ei landlord ei hun i adael iddo wneud y newid hwnnw. Trafodir hyn yn Atodlen 21 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os nad yw'n ymateb i'ch cais o gwbl, mae’r un peth â gwrthod gwneud yr addasiad. Bydd angen i chi benderfynu beth i'w wneud am y gwahaniaethu.

Os yw’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd wedi methu gwneud addasiadau rhesymol a’ch bod am gymryd camau cyfreithiol oherwydd gwahaniaethu, mae’n rhaid i chi wneud hynny o fewn 6 mis llai un diwrnod.

Mae’n bwysig gwybod pryd mae’r cyfnod amser yn dechrau fel eich bod yn gwybod faint sydd gennych chi i ddechrau cymryd camau cyfreithiol. Fel arfer, mae’r terfyn amser yn dechrau pan fydd yn penderfynu peidio â gwneud addasiadau rhesymol.

Os nad yw wedi dod i benderfyniad, mae’r terfyn amser yn dechrau ar ôl iddo gael cyfnod rhesymol i gydymffurfio â’i ddyletswydd. Os nad ydych yn siŵr os yw’r landlord, rheolwr eiddo neu reolydd wedi penderfynu neu ddyddiad y penderfyniad, gallai fod yn syniad gwell cyfrif y terfyn amser o’r dyddiad i chi wneud eich cais. Bydd hyn yn golygu y byddwch chi o fewn y terfyn amser.

Gallech wneud hawliad hwyr os yw’r llys yn credu bod hynny’n deg - bod yn ‘deg a chyfiawn’ yw'r enw ar hyn. Efallai y byddant yn ystyried pethau fel y rheswm am yr oedi, hyd yr oedi ac effaith yr hawliad hwyr ar yr ochr arall.

Ni ddylech ddibynnu ar hyn gan y gallai’r llys benderfynu peidio â gadael i chi wneud hawliad hwyr. Gweithredwch ar unwaith gan y bydd hyn yn rhoi ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y llys yn derbyn eich hawliad. Gweld beth i'w wneud os ydych chi wedi methu'r dyddiad cau..

Mae pŵer y llys i ganiatáu hawliad hwyr yn adran 118 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Mewn rhai achosion, os ydych chi wedi methu’r dyddiad cau, gallech ofyn am yr addasiad unwaith eto, gan egluro pam eich bod angen yr addasiad o hyd ac unrhyw newid mewn amgylchiadau – ni fydd yn rhoi dyddiad cau newydd i chi ond gallai sbarduno’r ochr arall i wneud yr addasiad.

Ni ddylech wneud newidiadau i nodweddion ffisegol eich hun am nad ydych chi wedi clywed gan eich landlord neu am nad yw wedi gwneud yr addasiadau i chi ofyn amdanynt. Os ydych chi’n gwneud newidiadau nad yw’ch landlord wedi cytuno iddynt, gallai gymryd camau i’ch troi allan neu gymryd camau cyfreithiol eraill yn eich erbyn am dorri’ch cytundeb tenantiaeth.


Os yw’ch landlord yn ceisio eich troi allan oherwydd eich bod wedi gofyn am addasiadau

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn eich gwarchod os yw’ch landlord yn ceisio’ch troi allan oherwydd eich bod wedi gofyn am addasiadau - ‘erledigaeth’ yw'r enw ar hyn ac mae wedi’i gynnwys yn adran 27. Darllenwch fwy am beth i'w wneud os yw'ch landlord wedi ceisio'ch troi allan a chael cyngor ar wahaniaethu.

Amddiffyn penderfyniad i’ch troi allan pan nad yw’ch landlord wedi gwneud addasiadau rhesymol

Dylech feddwl a yw’r landlord wedi methu gwneud addasiadau rhesymol ar ôl i chi ofyn amdanynt. Efallai y byddwch yn gallu defnyddio methiant y landlord i wneud addasiadau rhesymol i amddiffyn y penderfyniad i’ch troi allan.

Gallai methiant y landlord i wneud addasiadau rhesymol eich helpu i amddiffyn penderfyniad i’ch troi allan os yw’r rheswm am eich troi allan:

  • yn gysylltiedig ag addasiad rhesymol
  • yn ôl-ddyledion rhent ond gallwch leihau'r swm sy'n ddyledus oherwydd na wnaed addasiad rhesymol drwy gael iawndal

Enghraifft

Ni allai Sandy dalu’r rhent drwy system ar-lein am fod ganddi anabledd dysgu sy’n ei gwneud defnyddio cyfrifiaduron yn anodd iddi. Gofynnodd i’w landlord pe gallai dalu yn bersonol neu dros y ffôn. Dywedodd ei landlord bod yn rhaid iddi dalu’r rhent ar-lein.

Mae ei landlord yn ceisio ei throi allan oherwydd ôl-ddyledion rhent. Yn ei hamddiffyniad, gallai geisio dweud bod y landlord wedi methu gwneud addasiadau rhesymol a fyddai wedi osgoi unrhyw ôl-ddyledion rhent.

Dylai egluro sut iddi geisio talu’r rhent mewn ffordd arall neu, os nad oedd yn gallu talu mewn ffordd arall, bod ganddi’r arian yn ei chyfrif a'i bod yn gallu talu'r landlord os yw'n rhoi ffordd arall iddi dalu.

Enghraifft

Mae gan Afzal broblemau symudedd ac yn y gorffennol mae wedi gofyn i’w landlord, y cyngor, wneud addasiadau rhesymol - fel darparu tapiau a handlenni drws y gall eu defnyddio.

Mae arno £1,000 mewn rhent ac mae’r cyngor am ei droi allan. Mae Afzal wedi cyfrifo bod ei hawliad werth oddeutu £1,000. Gall geisio amddiffyn cael ei droi allan am yr ôl-ddyledion rhent drwy ddweud y bydd yr iawndal sy’n ddyledus iddo yn dileu’r ôl-ddyledion rhent. Gall wneud hyn er nad yw’r addasiad rhesymol yn gysylltiedig â’i ôl-ddyledion rhent.

Darllenwch fwy am beth i'w wneud os yw'ch landlord wedi ceisio'ch troi allan a chael cyngor ar wahaniaethu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.