Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Penderfynu beth i’w wneud am wahaniaethu mewn perthynas â thai

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os nad ydych weddi gwneud hynny eisoes, gofalwch bod eich problem dai wedi’i chynnwys yn Neddf Cydraddoldeb 2010 cyn i chi gymryd unrhyw gamau – edrychwch i weld a yw'ch problem yn achos o wahaniaethu.

Os oes rhywun yn aflonyddu arnoch, gallai fod yn achos o wahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Edrychwch i weld a yw'ch problem aflonyddu wedi'i chynnwys yn y Ddeddf Cydraddoldeb.

Gallai fod yn syniad da ceisio datrys eich problem trwy gwyno gyntaf. Os nad yw hyn yn gweithio, gallwch ddwyn achos llys.

Dechreuwch gasglu tystiolaeth cyn gynted â phosibl. Cadwch unrhyw negeseuon am y broblem ac ysgrifennwch nodiadau am yr hyn ddigwyddodd. Os ydych chi’n rhentu yn breifat, byddwch yn ofalus am ofyn i’ch landlord am dystiolaeth gan y gallai benderfynu eich troi allan.

Cyn i chi allu datrys y broblem bydd angen i chi:

  • edrych ar y dyddiadau cau ar gyfer cymryd camau
  • penderfynu pa ganlyniad rydych chi ei eisiau
  • penderfynu a ddylech gwyno neu gymryd camau cyfreithiol

Os ydych chi’n cael eich troi allan oherwydd gwahaniaethu, mae’ch opsiynau yn wahanol - edrychwch i weld beth i'w wneud os ydych chi’n cael eich troi allan.

Os ydych chi’n cymryd camau cyfreithiol oherwydd gwahaniaethu a’ch bod yn cael eich trin yn annheg oherwydd hynny, y term am hyn yw ‘erledigaeth’. Mae’r gyfraith yn eich gwarchod a gallwch ychwanegu erledigaeth at eich hawliad presennol.

Mae'n werth cael cymorth cynghorydd i benderfynu sut mae delio gyda'ch problem - gall eich helpu i ddatblygu achos cryfach.

Cadarnhau’r dyddiadau cau

Dylech weithredu’n gyflym oherwydd mae terfynau amser llym ar gyfer cymryd camau cyfreithiol. Y dyddiad cau ar gyfer dechrau camau cyfreithiol yw 6 mis llai un diwrnod o’r dyddiad i chi ddioddef gwahaniaethu.

Er enghraifft, os i chi ddioddef gwahaniaethu ar 13 Gorffennaf, mae angen i chi ddechrau’r broses erbyn 12 Ionawr.

Os yw’r dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, mae’n well gweithredu ar y diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau eich bod yn cyflwyno’r hawliad mewn pryd.

Gallai’r dyddiad i chi ddioddef gwahaniaethu fod y dyddiad i rywun:

  • wneud penderfyniad – er enghraifft y dyddiad i'ch landlord wrthod eich cais i wneud addasiad rhesymol
  • gwahaniaethu yn eich erbyn drwy wrthod rhentu eiddo i chi

Os oes gennych chi fwy nag un hawliad, efallai y bydd gennych chi wahanol ddyddiadau cau ar gyfer pob un. Edrychwch ar yr holl ddyddiadau i chi ddioddef gwahaniaethu a chyfrifwch y dyddiadau cau ar gyfer pob hawliad.

Hyd yn oed os ydych chi’n penderfynu peidio â chymryd camau cyfreithiol ar unwaith, dylech gwyno cyn gynted ag y gallwch. Mae’n golygu y byddwch yn gallu cymryd camau o hyd os na fyddwch yn gallu datrys y broblem drwy gwyno.

Os ydych chi wedi gofyn am addasiadau rhesymol gall fod yn anodd gwybod o ba ddyddiad y dylid dechrau cyfrif. Edrychwch i weld sut mae cyfrifo'r terfynau amser ar gyfer addasiadau rhesymol.

Os yw’r dyddiad cau wedi mynd heibio

Os yw’r dyddiad cau wedi mynd heibio, efallai y bydd dal modd i chi allu gwneud hawliad os yw’r llys yn meddwl bod hynny’n deg – gelwir hyn yn ymddygiad ‘teg a chyfiawn’. Efallai y byddant yn ystyried pethau fel y rheswm am yr oedi, hyd yr oedi ac effaith hawliad hwyr ar yr ochr arall.

Fodd bynnag, ni ddylech ddibynnu ar hyn oherwydd gallai’r llys benderfynu gwrthod hawliad hwyr.

Gweithredwch yn gyflym gan y bydd hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd y llys yn derbyn eich hawliad. Edrychwch i weld beth i'w wneud os yw'r dyddiad cau wedi mynd heibio.

Mae pŵer y llys i ganiatáu hawliad hwyr yn adran 118 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os ydych chi wedi dioddef gwahaniaethu fwy nag unwaith

Bydd angen i chi benderfynu a yw’r digwyddiadau gwahanol wedi ‘parhau' dros gyfnod o amser a bod cysylltiad rhyngddynt. Hynny yw, bod cysylltiad rhyngddynt, er enghraifft os yw’ch landlord yn defnyddio iaith homoffobig i’ch disgrifio ar sawl achlysur neu os yw’n parhau i ddefnyddio polisi sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn.

Os oes cysylltiad rhwng y digwyddiadau, mae’r gyfraith yn cyfeirio atynt fel 'cyfres barhaus o weithredoedd’ neu 'weithred barhaus' a bydd yr amser yn cychwyn ar ôl cwblhau’r weithred olaf. Mae adran 118(6)(a) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn trafod hyn.

Os nad oes cysylltiad rhwng y digwyddiadau, bydd angen i chi wneud hawliadau gwahaniaethu ar wahân gyda dyddiadau cau gwahanol. Er enghraifft, os yw'ch landlord wedi gwneud sylw hiliol a’ch rheolwr wedi gwneud sylw rhywiaethol, mae’n bosibl nad ydynt yn un weithred barhaus. Mewn achos o’r fath, dylech ddefnyddio’r dyddiad cynharaf fel eich dyddiad cau.

Dylech wirio:

  • a yw’r digwyddiad olaf yn achos o wahaniaethu – os nad yw’n achos o wahaniaethu a’ch bod wedi cyflwyno hawliad hwyr o ganlyniad, gallai’r llys wrthod eich achos
  • nad oes bwlch hir rhwng y digwyddiadau gwahanol – os oes bwlch mawr rhyngddynt, mae’n bosibl na fyddant yn un weithred barhaus

Os nad ydych chi'n siŵr am y dyddiad, mae’n well defnyddio’r dyddiad cynharaf fel arfer. Os ydych yn defnyddio dyddiad hwyrach ar gyfer y dyddiad cau, gallai’r llys benderfynu nad oedd y digwyddiad hwyrach yn achos o wahaniaethu neu nad oes cysylltiad rhwng y gweithredoedd. Ni fyddai amser i chi wneud hawliad newydd wedyn.

Os yw’r dyddiad cau yn agosáu

Os yw bron yn 6 mis ers i’r broblem ddigwydd neu ddigwydd ddiwethaf, gallech gymryd camau cyfreithiol ar unwaith heb gwyno'n gyntaf.

Os yw'n debygol o gymryd tipyn o amser i chi gael eich tystiolaeth at ei gilydd, gallech gymryd camau cyfreithiol ar unwaith.

Os ydych chi eisiau rhagor o amser, mae rheolau’r llys yn caniatáu i chi ddechrau’r hawliad ond ddim ei anfon i’r ochr arall ar unwaith. Mae angen i chi lenwi’r ffurflen hawlio a gofyn i’r llys ‘gyhoeddi’r hawliad’ - bydd angen i chi dalu ffi'r llys. Dywedwch wrth y llys nad ydych chi am iddynt gyflwyno’r ffurflen i’r ochr arall. Yna, bydd gennych hyd at 4 mis i’w hanfon i’r ochr arall - gelwir hyn yn ‘gyflwyno’r hawliad’ eich hun.

Mae’r rheolau am beth sydd raid i chi ei wneud a phryd i gyflwyno’r ffurflen hawliad i’r ochr arall yn Rhannau 6 a 7 o Reolau Gweithdrefnau Sifil 1998.

Gallai hyn roi’r amser i chi geisio datrys eich achos heb fynd i’r llys. Byddwch yn gallu dod â’ch achos llys i ben os ydych chi’n dymuno gwneud hynny - er enghraifft os ydych chi’n penderfynu nad oes gennych chi achos cadarn.

Os na chawsoch chi hyngor cyfreithiol cyn dechrau'ch hawliad dylech gael cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosibl ar ôl ei ddechrau.

Penderfynu pa ganlyniad rydych chi am ei gael

Meddyliwch beth ydych chi eisiau i ddigwydd. Efallai y gallech gael:

  • ymddiheuriad
  • addasiad rhesymol i’ch cartref, er enghraifft newid y tapiau neu system drws
  • stop ar y gwahaniaethu
  • ad-daliad, er enghraifft os ydych chi wedi talu asiant gosod am rywbeth sydd heb gael ei wneud
  • iawndal, er enghraifft os ydych chi wedi colli arian neu wedi bod dan bwysau neu'n ddigalon
  • newidiadau i bolisi neu arfer a fydd yn atal y broblem rhag digwydd eto, neu ddigwydd i rywun arall

Penderfynu pa gamau i’w cymryd

Y prif opsiynau yw cwyno neu gymryd camau cyfreithiol. Gall fod yn syniad da cwyno gyntaf ac yna cymryd camau cyfreithiol os nad yw cwyno’n datrys y broblem.

Gall fod yn straen a chymryd llawer o amser i ddatrys problem wahaniaethu.

Meddyliwch faint o dystiolaeth sydd gennych chi o’r ffeithiau yn eich achos a pha mor gryf yw'ch achos. Os ydych chi’n cymryd camau cyfreithiol bydd angen i’r llys fod yn fodlon y gellir ‘cadarnhau pob elfen yn ôl pwysau tebygolrwydd’ – mae hyn yn golygu ei fod yn fwy tebygol na pheidio.

Os nad oes gennych chi lawer o dystiolaeth neu os yw’ch tystiolaeth yn wan, gall fod yn anodd ennill eich achos. Dylech feddwl hefyd am unrhyw dystiolaeth sydd gan yr ochr arall o bosib a allai gwanhau’ch achos.

Ar ôl i chi gasglu’ch tystiolaeth, dylech edrych eto i weld pa mor gryf yw’ch achos.

Mynd i’r llys

Fel arfer bydd yn cymryd misoedd i ddatrys problem os ydych chi’n mynd i’r llys. Bydd angen i chi ofalu eich bod yn cwrdd â holl ddyddiadau cau'r llys hefyd.

Gall fod yn ddrud hefyd, ond efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth gyda’r costau cyfreithiol.

Os ydych chi’n cymryd camau cyfreithiol bydd angen i chi dalu ffi gyflwyno pan fyddwch chi’n dechrau’r hawliad. Os ydych chi’n gofyn am iawndal bydd y ffi yn dibynnu ar swm yr iawndal rydych chi’n ei hawlio.

Gallwch weld y ffioedd ar GOV.UK.

Os nad ydych chi’n gofyn am arian, bydd y ffi cyflwyno yn £308. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu costau eraill yn ystod eich achos hefyd  – bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau’ch achos.

Efallai y byddwch yn cael gorchymyn gan y llys ar ddiwedd yr achos y dylai’r ochr arall dalu’r costau rydych chi wedi’u talu hyd yma.

Os ydych chi’n ystyried cymryd camau, mae’n syniad da trafod hyn gyda chynghorydd - edrychwch i weld ble gallwch chi gael cymorth.

Os ydych chi’n rhentu

Mae’n syniad da edrych pa fath o denantiaeth sydd gennych chi i weld pa mor hawdd yw hi i’ch landlord eich troi allan. Gall rhai landlordiaid geisio troi tenantiaid sy’n cwyno allan, er bod hynny’n anghyfreithlon.

Edrychwch i weld pa fath o denantiaeth sydd gennych chi os ydych chi’n rhentu gan landlord preifat – os oes gennych chi denantiaeth byrddaliad sicr mae’n haws i’ch landlord eich troi allan heb orfod rhoi rheswm.

Edrychwch pa fath o denantiaeth sydd gennych chi os ydych chi’n rhentu gan y cyngor neu gymdeithas dai – fel arfer byddwch yn saffach rhag cael eich troi allan os ydych chi’n rhentu gan un o’r rhain.

Siaradwch â chynghorydd os ydych chi’n poeni am gael eich troi allan am wneud cwyn.

Os ydych chi am aros yn y cartref tra'ch bod yn cymryd camau, gallai fod yn syniad da ceisio datrys y broblem yn anffurfiol gyntaf. Mae hyn oherwydd y gallai greu awyrgylch annifyr neu letchwith.

Cyfrifo gwerth eich achos

Efallai y gallwch chi gael iawndal am:

  • unrhyw arian rydych chi wedi’i golli oherwydd y gwahaniaethu
  • effaith emosiynol y gwahaniaethu, fel straen - brifo teimladau’ yw'r enw ar hyn
  • anaf personol
  • unrhyw ymddygiad drwg iawn gan yr ochr arall - ‘iawndal gwaethygiedig’ yw'r enw ar hyn

Gallwch gael gwahanol symiau am ‘frifo teimladau’ – yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw’r gwahaniaethu.

Mewn rhai achosion gwahaniaethu anuniongyrchol, mae’n rhaid i’r llys ystyried ffyrdd eraill o ddatrys eich problem cyn y bydd yn ystyried iawndal. Er enghraifft, efallai y byddant yn gorchymyn eich landlord i newid polisi fel nad yw’n gwahaniaethu. Mae’r rheolau ar hyn yn adran 119 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gallwch gyfrifo gwerth eich achos yn fanylach, ond nid oes yn rhaid i chi wneud hyn ar unwaith.

Meddwl am drafod

Mae’n syniad da dal ati i siarad gyda’r ochr arall ar ôl i chi gymryd camau. Efallai y byddwch chi’n gallu trafod a chytuno gyda nhw.

Gallwch drafod hyd yn oed os ydych chi wedi anfon cwyn ffurfiol neu ddechrau camau cyfreithiol.

Gallech hefyd ddefnyddio cyfryngwr i’ch helpu i ddatrys y broblem. Person annibynnol yw hwn sydd wedi’i hyfforddi i ddatrys anghytundebau. Gallwch chwilio am gyfryngwr ar GOV.UK.

Os ydych chi’n penderfynu cymryd camau yn y llys, mae’n syniad da gallu dangos i’r llys eich bod wedi ceisio datrys eich achos y tu allan i’r llys.

Camau nesaf

Bydd angen i chi gasglu tystiolaeth i’ch helpu pan fyddwch yn cymryd camau.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.