Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch mewn perthynas â thai

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Aflonyddu yw pan fo rhywun yn creu awyrgylch sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus - gan eich tramgwyddo, eich dychryn, neu’ch bychanu o bosibl. 

Os yw rhywun fel eich landlord neu werthwr eiddo yn aflonyddu arnoch, gallai fod yn wahaniaethu.

Efallai y byddwch chi’n gallu cymryd camau i atal yr aflonyddu. Efallai y byddwch chi'n gallu cael iawndal hefyd.

Mae’r gyfraith sy’n eich amddiffyn rhag aflonyddu ym maes tai o dan adran 26 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Gallai fod yn achos o aflonyddu os oes rhywun yn:

  • eich cam-drin ar lafar
  • gofyn cwestiynau personol iawn i chi, er enghraifft am eich anabledd neu grefydd
  • gosod posteri sy’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus
  • gwneud ystumiau corfforol neu dynnu wynebau anfoesgar tuag atoch
  • dweud jôcs o natur rywiol
  • gwneud sylwadau sy’n eich tramgwyddo, er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol

Os yw’r aflonyddu yn ddifrifol iawn, gallai fod yn drosedd hefyd. Er enghraifft, mae’n drosedd os oes rhywun wedi ymosod yn rhywiol arnoch chi neu wedi’ch bygwth yn gorfforol.

Os nad yw eich problem aflonyddu yn ymwneud â’ch cartref neu gartref rydych chi’n ceisio ei rentu neu ei brynu, dylech gymryd camau mewn ffordd wahanol.

Os ydych chi’n poeni am eich diogelwch

Ffoniwch yr heddlu ar 999 mewn achos brys a 101 os nad yw’n achos brys.

Gweld beth sy'n aflonyddu o dan gyfraith wahaniaethu

Gyda phob math o aflonyddu, mae’n rhaid i’r ymddygiad rydych chi’n cwyno amdano fod yn rhywbeth nad oeddech chi ei eisiau. Mae’r gyfraith yn galw hyn yn ‘ymddygiad digroeso’.

Mae hefyd angen i chi ddangos bod y person sydd wedi aflonyddu arnoch yn bwriadu gwneud i chi deimlo mewn ffordd benodol, neu eich bod yn teimlo fel hynny er nad hynny oedd ei fwriad. Gelwir hyn yn ‘ddiben neu effaith’. Os nad oedd y person yn golygu gwneud i chi deimlo fel hyn, mae hefyd yn gorfod bod yn ‘rhesymol’ ei chi deimlo fel hynny.

Mae angen i chi ddangos mai diben neu effaith yr ymddygiad oedd lladd ar eich urddas neu greu amgylchedd a oedd:

  • yn eich sarhau
  • yn eich tramgwyddo
  • yn eich bygwth
  • yn elyniaethus
  • yn eich israddio

Mae’n rhaid i chi ddangos hefyd bod eich sefyllfa yn dod o dan un o’r 3 math o aflonyddu mewn cyfraith wahaniaethu.

Y math cyntaf yw lle'r oedd yr ymddygiad digroeso yn ymwneud â’r ‘nodwedd warchodedig’ berthnasol, fel rhyw neu hil.

Yr ail fath yw lle mae’r ymddygiad digroeso o natur rywiol.

Y trydydd math yw lle’r ydych chi’n cael eich trin yn waeth oherwydd eich bod wedi ymwrthod neu ildio i ymddygiad rhywiol digroeso neu ymddygiad sy’n gysylltiedig ag ailbennu rhywedd neu ryw. Gelwir hyn yn ‘cael eich trin yn llai ffafriol’.

Nid oes gwahaniaeth os yw’r ymddygiad wedi’i gyfeirio atoch chi ai peidio – er enghraifft, os ydych chi’n digwydd clywed y staff mewn asiantaeth gosod tai yn gwneud jôcs neu sylwadau rhywiol wrth ei gilydd.

Os ydych chi’n meddwl bod yr aflonyddu yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig (math 1)

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn eich amddiffyn rhag aflonyddu sy’n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig - fel hil neu fod yn anabl.

Mae’r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i’r ymddygiad greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, israddol, bychanol neu sarhaus eich cyfer chi neu ladd ar eich urddas.

Trafodir nodweddion gwarchodedig yn adrannau 5 i 18 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Edrych i weld a yw’ch nodwedd warchodedig yn cael ei gwarchod gan y gyfraith

Mae’r nodweddion gwarchodedig ar gyfer aflonyddu mewn perthynas â thai wedi’u cynnwys yn Rhan 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Dyma nhw:

Anabledd

Rydych chi’n cael eich gwarchod am anabledd sydd gennych chi nawr ac un rydych chi wedi gwella ohono bellach. Gallai anabledd fod yn gorfforol neu feddyliol – gallech gael eich gwarchod hyd hyn oed os nad ydych chi’n ystyried eich hun yn anabl.

Dylech - edrych i weld a yw'ch anabledd yn dod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Diffinnir anabledd yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Ailbennu rhywedd

Mae’r gyfraith yn cynnwys ‘ailbennu rhywedd’ - mae hyn yn golygu os ydych chi’n drawsrywiol.

Rydych chi’n cael eich gwarchod os ydych chi:

  • yn bwriadu trawsnewid – nid oes yn rhaid i chi fod wedi cael unrhyw driniaeth feddygol
  • wrthi’n trawsnewid
  • eisoes wedi trawsnewid

Os ydych chi’n arddel hunaniaeth anneuaidd ond nad ydych chi’n trawsnewid, efallai eich bod yn cael eich cynnwys ond mae’r gyfraith yn gymhleth. Mae angen i chi gael cyngor arbenigol cyn i chi fynd ymhellach.

Mae adran 7 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio ailbennu rhywedd.

Hil

Mae hyn yn cynnwys eich:

  • lliw – er enghraifft os ydych chi’n ddu neu’n wyn
  • cenedligrwydd
  • tarddiad ethnig – er enghraifft os ydych chi’n Sipsi Romani
  • tarddiad cenedlaethol - gallai hyn fod yn wahanol i’ch cenedligrwydd, er enghraifft os yw’ch teulu o India ond bod gennych chi basbort Prydeinig

Mae adran 9 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio hil.

Rhyw

Mae hyn yn golygu a ydych chi’n ddyn neu’n fenyw.

Os ydych chi’n arddel hunaniaeth anneuaidd ond nad ydych chi’n trawsnewid, efallai eich bod yn cael eich cwmpasu ond mae’r gyfraith yn gymhleth. Mae angen i chi gael cyngor arbenigol cyn i chi fynd ymhellach

Mae adran 11 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn diffinio rhyw.

Os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch am reswm arall

Ni allwch gymryd camau am aflonyddu o dan Ran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch oherwydd eich:

  • cyfeiriadedd rhywiol
  • crefydd neu gredo

Efallai y byddwch yn gallu cymryd camau o dan gyfraith wahaniaethu. Gallai fod yn ‘wahaniaethu uniongyrchol’ - edrychwch i weld a yw'ch problem yn achos o wahaniaethu. Mae’r rheol hon yn adran 212(5) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os oes rhywun wedi aflonyddu arnoch oherwydd beichiogrwydd a mamolaeth, ni allwch gymryd camau dan gyfraith aflonyddu ond efallai y gallwch ddadlau eich bod wedi dioddef aflonyddu oherwydd eich rhyw (oherwydd eich bod yn fenyw). Efallai y byddwch yn gallu dangos ei fod yn fath arall o wahaniaethu, fel gwahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol - edrychwch ar y mathau o wahaniaethu.

Ni fyddwch yn gallu cymryd camau o dan Ran 4 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 am wahaniaethu ar sail oedran, neu oherwydd eich bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Rhan 4 yw’r rhan o’r Ddeddf sy’n ymdrin â thai.

Gallai’r sefyllfa fod yn ‘drosedd casineb’ hefyd - gallwch roi gwybod i'r heddlu am drosedd casineb. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cymryd camau am aflonyddu drwy ddefnyddio'r Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu.

Dangos bod yr hyn a ddigwyddodd yn ‘ymddygiad digroeso’

Bydd angen i chi brofi bod yr ymddygiad yn ‘ddigroeso’ – does dim angen i chi fod wedi gofyn i’r person roi’r gorau iddi.

Gall ddadlau nad yw’n ymddygiad digroeso os ydych chi wedi gwneud pethau tebyg eich hun. Er enghraifft, os ydych chi wedi dweud jôcs hiliol yn y gorffennol, gallai’ch landlord ddweud na allech chi gael eich tramgwyddo gan bobl arall yn dweud jôcs hiliol.

Bydd angen i chi egluro pam bod yr hyn a ddigwyddodd i chi yn ddigroeso – er enghraifft oherwydd ei fod yn fwy difrifol.

Os oes rhywun yn rheoli eiddo neu denantiaethau, ni fydd yn cael aflonyddu arnoch. Gallai hyn fod yn landlord neu rywun sy’n casglu rhent.

Dangos bod yr hyn a ddigwyddodd yn ‘gysylltiedig â nodwedd warchodedig’.

Nid oes yn rhaid i’r aflonyddu fod yn gysylltiedig â’ch nodwedd warchodedig er mwyn i chi gymryd camau. Er enghraifft, efallai y byddwch yn cael eich tramgwyddo gan boster hiliol yn swyddfa’ch landlord. Does dim gwahaniaeth o ba hil ydych chi - gallech gael eich tramgwyddo neu deimlo dan fygythiad.

Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r aflonyddu'n gysylltiedig â nodwedd warchodedig, edrychwch ar y dystiolaeth. Er enghraifft, os ydych chi ond wedi dechrau cael eich trin yn annheg ar ôl i bobl ddod i wybod eich bod yn anabl, gallai fod yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig.

Dangos bod gan yr hyn a ddigwyddodd y ‘diben neu effaith’ o’ch tramgwyddo

Bydd angen i chi ddangos:

  • bod y person a fu’n aflonyddu arnoch wedi bwriadu’ch tramgwyddo – bod ‘â’r diben’ o’ch tramgwyddo yw'r enw ar hyn
  • eich bod wedi cael eich tramgwyddo gan yr hyn a ddigwyddodd, hyd yn oed os nad oedd rhywun yn bwriadu’ch tramgwyddo – dyma’r ‘effaith’ a gafodd arnoch chi

Os nad oedd y person yn bwriadu’ch tramgwyddo, bydd ond yn aflonyddu os oedd yn ‘rhesymol’ i chi gael eich tramgwyddo. Er enghraifft, os wnaethoch chi ddechrau sgwrs am ryw gyda’ch landlord ac mae'n dweud na ddylai menywod weithio, efallai y bydd yn dweud nad oedd yn rhesymol i chi gael eich tramgwyddo.

Os ydych chi’n ystyried cymryd camau cyfreithiol, edrychwch i weld beth fydd y llys yn ei ystyried wrth wneud penderfyniad am ‘ddiben neu effaith’. Mae adran 26(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn trafod hyn.

Os i rywun aflonyddu'n rhywiol arnoch (math 2)

Gall hyn fod yn unrhyw ymddygiad rhywiol digroeso ac nid oes yn rhaid iddo fod wedi’i gyfeirio atoch chi - gan gynnwys sylwadau am eich ymddangosiad neu weld lluniau o bobl noeth yn swyddfa’ch landlord.

Mae’r gyfraith yn galw hyn yn ‘ymddygiad digroeso o natur rywiol’. Mae’n dweud bod yn rhaid i’r ymddygiad greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, israddol, bychanol neu sarhaus ar eich cyfer chi neu ladd ar eich urddas.

Dangos bod yr hyn a ddigwyddodd yn ‘ymddygiad digroeso’

Does dim rhaid i chi fod wedi gofyn i’r person roi’r gorau i’r ymddygiad er mwyn iddo fod yn ddigroeso. Gallai’ch landlord ddweud nad yw’n ‘ddigroeso’ os ydych chi wedi gwneud pethau tebyg eich hun.

Bydd angen i chi egluro pam bod yr hyn a ddigwyddodd i chi yn ddigroeso – er enghraifft, gan ei fod yn fwy difrifol.

Dangos bod gan yr hyn a ddigwyddodd y diben neu’r effaith’ o’ch tramgwyddo

Bydd angen i chi ddangos:

  • bod y person a fu’n aflonyddu arnoch wedi bwriadu’ch tramgwyddo – gbod ‘â’r diben’ o’ch tramgwyddo yw'r enw ar hyn
  • eich bod wedi’ch tramgwyddo gan yr hyn a ddigwyddodd, hyd yn oed os nad oedd rhywun yn bwriadu’ch tramgwyddo – dyma’r ‘effaith’ a gafodd arnoch chi

Os nad oedd y person yn bwriadu’ch tramgwyddo, bydd ond yn aflonyddu os oedd yn ‘rhesymol’ i chi gael eich tramgwyddo.

Er enghraifft, os yw’ch asiant gosod yn gofyn i chi fynd allan unwaith, mae’n debyg nad yw hyn yn aflonyddu – hyd yn oed os yw’n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus. Mae hyn oherwydd nad yw’n rhesymol fel arfer i chi gael eich tramgwyddo – heblaw ei fod yn digwydd fwy nag unwaith, neu mewn ffordd ddigywilydd neu dramgwyddus.

Os ydych chi’n ystyried cymryd camau cyfreithiol, edrychwch i weld beth fydd y llys yn ei ystyried wrth wneud penderfyniad am ‘ddiben neu effaith’. Mae adran 26(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn trafod hyn.

Os ydych chi’n cael eich trin yn wahanol ac yn waeth ar ôl i chi gael eich aflonyddu (math 3)

Dyma ble’r ydych chi’n cael eich trin yn wahanol ac yn waeth oherwydd y ffordd rydych chi wedi ymateb i:

  • aflonyddu rhywiol
  • aflonyddu sy’n gysylltiedig â rhyw
  • aflonyddu sy’n gysylltiedig ag ailbennu rhywedd

Mae’r gyfraith yn galw hyn yn cael eich trin yn ‘llai ffafriol’ oherwydd eich ymateb i’r aflonyddu. Nid oes gwahaniaeth os mai’ch ymateb oedd derbyn neu wrthod yr aflonyddu.

Enghraifft

Fis yn ôl roedd landlord Charlotte yn aflonyddu'n rhywiol arni – roedd e'n cadw gofyn iddi fynd allan am swper ac yn digwydd ei chyfarfod pan roedd hi’n gadael y tŷ.

Un noswaith gofynnodd iddi fynd adref gydag ef - gwrthododd Charlotte.

Roedd Charlotte yn teimlo dan fygythiad gan ymddygiad ei landlord, felly dywedodd wrtho am gysylltu â hi yn ysgrifenedig yn unig. Dywedodd wrtho am beidio dod i’r tŷ heb roi rhybudd ymlaen llaw.

Fis yma mae landlord Charlotte wedi gwrthod adnewyddu ei chytundeb tenantiaeth ac wedi dweud y bydd yn rhoi geirda gwael iddi. Os yw hyn oherwydd ei bod wedi gwrthod ymddygiad ei landlord, yna mae’n weithred arall o aflonyddu.


Edrych i weld yn erbyn pwy allwch chi gymryd camau

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud eich bod yn gallu cymryd camau yn erbyn pobl benodol. Mae hyn yn cynnwys eich landlord – gallai hyn hefyd fod yn denant sy’n is-osod ei eiddo i chi.

Gallai hyn fod yn gwmnïau neu bobl sy’n gwahaniaethu yn eich erbyn pan fyddant:

  • yn gwerthu neu rentu cartref, fel rhentu drwy asiant gosod – gelwir hyn yn ‘ganiatâd i gael gwared ar eiddo’ yn y gyfraith
  • angen cytuno i werthu neu rentu cartref, fel cydberchennog - gelwir hyn yn ‘ganiatâd i gael gwared ar eiddo’ yn y gyfraith
  • yn rheoli cartref, fel landlordiaid, asiantau a phobl sy’n casglu rhent – gelwir hyn yn ‘rheoli eiddo’ yn y gyfraith

Os yw gwerthwr tai yn gweithredu ar ran landlord a’i fod wedi gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y byddwch chi’n gallu cymryd camau yn erbyn y naill a’r llall. Bydd hyn yn dibynnu ar yr hyn y mae’r landlord wedi caniatáu i’r gwerthwr tai ei wneud.

Er enghraifft, efallai y bydd gan landlord amddiffyniad pe bai gwerthwr tai wedi mynd yn groes i gyfarwyddiadau i beidio ag aflonyddu ar bobl.

Mae pwy y gallwch chi gymryd camau yn eu herbyn mewn perthynas â gwerthu, rhentu neu reoli eiddo yn cael ei drafod yn adrannau 33 i 35 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Nid yw Rhan 4 o’r Ddeddf Cydraddoldeb sy’n trafod tai yn cynnwys pob man y gallech chi fod yn byw ynddo. Nid yw’n cynnwys llefydd fel gwestai, cartrefi gwyliau neu garchardai. Os yw’ch problem yn ymwneud ag unrhyw un o’r rhain, edrychwch i weld a allwch chi gymryd camau.

Os yw’ch problem yn gysylltiedig â llety prifysgol, bydd angen i chi gymryd camau yn erbyn gwahaniaethu mewn addysg.

Gweld a yw’n aflonyddu troseddol

Gallai fod yn aflonyddu troseddol ynghyd â gwahaniaethu os yw’ch landlord yn ceisio gwneud eich bywyd yn anodd drwy wneud pethau fel:

  • ymyrryd gyda neu dorri cysylltiad gwasanaethau fel dŵr, nwy neu drydan
  • ymweld â’ch cartref yn rheolaidd yn ddirybudd, yn enwedig fin nos

Cysylltwch ag adran dai eich cyngor lleol neu’r heddlu – gallant gymryd camau yn erbyn eich landlord.

Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio iawndal gan ddefnyddio gyfraith aflonyddu arall, sef Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997.

Gallwch gael cymorth gan gynghorydd os nad ydych chi’n siŵr beth ddylech chi ei wneud.

Dylech hefyd roi gwybod i Rhentu Doeth Cymru am eich landlord os yw'n torri’r gyfraith.

Os oes rhywun arall yn aflonyddu arnoch

Os ydych chi’n cael eich trin yn wael gan denantiaid eraill neu gymdogion, gallwch gwyno am eich cymydog.

Efallai y byddwch chi’n gallu cymryd camau yn erbyn darparwyr gwasanaethau os oes rhywun arall sy’n ymdrin â’ch cartref wedi aflonyddu arnoch, er enghraifft:

  • syrfewyr a phriswyr
  • cyfreithwyr
  • benthycwyr morgeisi

Os nad ydych chi’n cael eich amddiffyn gan y Ddeddf Cydraddoldeb

Os nad yw’n aflonyddu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gallwch dal gwyno am eich landlord preifat neu gwyno am dai cymdeithasol.

Os ydych chi’n credu eich bod yn cael eich amddiffyn gan y Ddeddf Cydraddoldeb

Gallwch benderfynu beth i'w wneud am eich problem gwahaniaethu tai.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.