Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tai

This advice applies to Cymru

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Beth yw ymddygiad gwrth-gymdeithasol

Nid oes diffiniad union ar gyfer ymddygiad gwrth-gymdeithasol mewn tai. Yn gyffredinol, mae'n golygu gweithredu mewn ffordd sy'n achosi, neu sy'n debygol o achosi, aflonyddu, dychryn neu ofid. I fod yn ymddygiad gwrth-gymdeithasol, mae'n rhaid i'r ymddygiad fod yn barhaus.

Mae'n bosib bod ffîn denau iawn rhwng ymddygiad gwrth-gymdeithasol a dadleuon rhwng cymdogion dros anghyfleusterau cymharol fach, er bod y rhain, os ydynt yn barhaus, yn gallu tyfu'n ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Gall ymddygiad gwrth-gymdeithasol gynnwys:-

  • dychryn cymdogion ac eraill trwy fygythiadau neu drais go iawn
  • aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu hiliol
  • camdrin llafar
  • ymddygiad homoffobig
  • bwlio plant mewn parciau cyhoeddus, ar y ffordd i'r ysgol neu hyd yn oed ar dir yr ysgol, os nad yw trefniadau disgyblu yr ysgol yn dod â'r ymddygiad i ben
  • ymddygiad treisgar gyda'r nod o achosi dychryn neu ofid i bobl penodol, er enghraifft pobl hyn neu bobl anabl
  • swn
  • gollwng sbwriel
  • niwsans o ran anifeiliaid, gan gynnwys baw cŵn
  • fandaliaeth, niwed i eiddo a graffiti.

Beth ellir ei wneud ynglyn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol

Os ydych chi am gymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, dylech geisio sefydlu pwy sy'n gyfrifol am yr ymddygiad yn gyntaf. Mae hefyd yn bwysig sefydlu a yw'r ymddygiad yn fwriadol neu'n anfwriadol.

Bydd yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yn dibynnu ar y math o ymddygiad yr ydych yn cwyno yn ei gylch ac ar y canlyniad yr ydych am ei weld. Efallai, er enghraifft, y byddwch am sicrhau un o'r canlynol:-

  • atal yr ymddygiad gwrth-gymdeithasol
  • ennill iawndal am unrhyw niwed, golled neu anaf a ddioddefwyd
  • cael ymddiheuriad
  • cael eich hail-gartrefi yn rhywle arall
  • symud y person sy'n gyfrifol am yr ymddygiad neu ei d/throi allan.

Er mwyn delio gyda'r ymddygiad gwrth-gymdeithasol, gallwch wneud un neu fwy o'r canlynol:-

Os ydych wedi dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol, efallai bod hyn hefyd yn ddigwyddiad casineb neu’n drosedd casineb. Gallwch riportio digwyddiad neu drosedd casineb i’r heddlu. Am fwy o wybodaeth ar droseddau casineb, gweler Troseddau casineb.

Os ydych am gymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cymryd camau eich hun

Os ydych am gymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol gallwch:-

  • gysylltu â'r gymdeithas tai lle rydych yn byw (os oes yna un), yn enwedig dros ymddygiad a allai fod yn effeithio ar bobl eraill hefyd
  • ceisio cyfryngu - gweler isod
  • dechrau camau ar gyfer erlyniad cyfreithiol mewn llys, a fyddai'n arwain ar ddirwyo neu garcharu'r person sy'n gyfrifol
  • Cymryd camau sifil mewn llys i hawlio iawndal a/neu wneud cais am orchymyn i atal yr un sy'n gyfrifol rhag parhau gyda'r ymddygiad.

Os ydych yn ystyried cymryd camau yn y llys, bydd angen help cynghorydd profiadol arnoch, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Canolwr

Os ydych am i'r ymddygiad ddod i ben ac nid ydych yn dymuno cymryd camau cyfreithiol, gallech ystyried cynllun canolwr. Mae canolwr yn broses lle mae trydydd person niwtral yn helpu dau neu fwy o bobl mewn dadl i geisio ateb sy'n dderbyniol i bawb, mewn modd anffurfiol. Mae gwasanaethau canolwr cymunedol yn delio gyda dadleuon rhwng cymdogion ac yn y gymuned, gan gynnwys swn, plant, anifeiliaid anwes, parcio a lladrata. Fel arfer, mae canolwr yn rhad ac am ddim.

Mae canolwr yn addas os yw'r ddau berson yn barod i gymryd rhan. Gall canolwr fod ar ffurf trafodaeth uniongyrchol 'o gwmpas y bwrdd', lle mae pob person sy'n rhan o'r ddadl yn cyfarfod ar dir cyffredin. Os nad ydynt yn barod i gyfarfod, mae'r canolwr yn gweithredu fel cyfrwng sy'n mynd â negeseuon o'r naill i'r llall.

I chwilio am ganolwr yn eich ardal chi a allai helpu, rhowch glic ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn www.justice.gov.uk.

Mediator Network (Gogledd Iwerddon)

Mae Mediator Network yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol. Gall osod cymdogion mewn cysylltiad â chanolwr yn yr ardal sydd wedi'i hyfforddi. Rôl y canolwr yw annog pob person i siarad yn rhydd ac esbonio ei safbwynt, darganfod man canol a chytuno ar ffordd ymlaen.

Cyfeiriad Mediaton Network yw:-

83 University Street
Belfast
BT7 1HP
Ffôn: 028 9043 8614
Ffacs: 028 9031 4430
Ebost: info@mediationnorthernireland.org.uk
Gwefan: www.mediationnorthernireland.org.uk

Beth mae'r landlord yn medru gwneud

Gallwch ofyn i'ch landlord gymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.  Dylech holi a oes gan eich landlord bolisi a threfniadau ar gyfer delio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhaid bod gan landlordiaid sy'n awdurdodau lleol bolisïau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn lle.  Yng Nghymru a Lloegr, mae hyn hefyd yn berthnasol i landlordiaid sy'n gymdeithasau tai

Gall unrhyw landlord gymryd camau yn erbyn ymddygiad gwrth-gymdeithasol, er, mae'n fwy tebygol y bydd awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn fodlon gwneud hyn. Cofiwch, fe all landlordiaid ddewis a ydynt am gymryd camau ai peidio, nid yw'n ddyletswydd arnynt.

Gallai landlord:-

  • ofyn i'r heddlu neu'r awdurdod lleol i gymryd camau - gweler y pennawd Beth mae'r heddlu yn medru gwneud neu gweler y pennawd Beth mae'r awdurdod lleol yn medru gwneud
  • mynd i'r llys i gael y person sy'n ymddwyn mewn ffordd gwrthgymdeithasol wedi'i d/throi allan, os ydyw'n denant neu'n dal les
  • gwneud cais i’r llys am orchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol, os yw’r landlord yn landlord awdurdod lleol neu'n gymdeithas dai
  • gwneud cais i’r llys am orchymyn i atal trais gangiau neu i amddiffyn rhywun yn erbyn trais gangiau, os yw’r landlord yn awdurdod lleol
  • ailgartrefu'r dioddefwr, neu'r person sy'n ymddwyn mewn ffordd wrthgymdeithasol. Mae hyn yn annhebygol iawn os nad yw'r landlord yn awdurdod lleol neu'n landlord cymdeithasol arall.

Mae gan landlord sy'n awdurdod lleol rai opsiynau ychwanegol. Mae’n medru:

  • ymestyn cyfnod tenantiaeth ragarweiniol
  • ceisio am orchymyn llys i atal hawl tenant i brynu
  • gwrthod caniatáu i'r tenant gyfnewid gyda thenant arall.

Mae landlord sy'n awdurdod lleol, a landlordiaid cymdeithasol eraill fel cymdeithasau tai, hefyd yn medru:

  • ceisio am orchymyn llys i 'ostwng' tenantiaeth rhywun. Mi fydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i'r landlord droi'r tenant allan os nad yw'r ymddygiad yn gwella.
  • yn Lloegr, newid tenantiaeth rhywun i ‘denantiaeth ymyriad teuluol'. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r tenant a’i d/theulu gytuno i gael help a chymorth proffesiynol er mwyn newid eu hymddygiad. Os nad yw eu hymddygiad yn gwella neu os nad ydyn nhw’n defnyddio’r gwasanaethau a gynigir, maen nhw’n medru cael eu troi allan.

Efallai y bydd gan y person yr ydych yn cwyno amdano/i gytundeb tenantiaeth sy'n atal rhai mathau o ymddygiad, er enghraifft, aflonyddu, delio mewn cyffuriau neu swn.  Os yw'n torri un o'r amodau hyn, yna mae'n bosib y gallai gael ei droi allan.

Os ydych am gwyno ynghylch tenant awdurdod lleol neu denant gymdeithas dai, fel arfer mi fyddwch yn medru gwneud hyn trwy swyddog tai. Os nad yw'n denant awdurdod lleol neu gymdeithas dai, efallai y bydd yn rhaid i chi gysylltu â'u landlord neu asiant y landlord.

Beth mae'r awdurdod lleol yn medru gwneud

Fel person sy'n dioddef ymddygiad gwrth-gymdeithasol gallwch ofyn i'r awdurdod lleol ddelio gydag ef, p'un ai eich bod yn denant awdurdod lleol ai peidio. Gall yr awdurdod lleol:-

  • wneud cais i'r llys am orchymyn i atal ymddygiad gwrth-gymdeithasol treisgar rhywun yn ei ardal
  • wneud cais i’r llys am orchymyn i atal trais gangiau neu i amddiffyn rhywun yn erbyn trais gangiau
  • wneud cais i'r llys am orchymyn i atal rhywun rhag achosi niwsans cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys delio mewn cyffuriau
  • wneud cais i'r llys am orchymyn i gau safleoedd ble mae anrhefn neu niwsans parhaus
  • cymryd camau i atal swn, niwsans a bygythiadau i iechyd
  • cymryd camau i droi person sy'n gyfrifol am yr ymddygiad allan, os ydynt yn denant awdurdod lleol
  • cynnig llety arall i'r dioddefwr
  • erlyn lle mae'r ymddygiad yn drosedd
  • yng Nghymru a Lloegr, cymryd rheolaeth eiddo ble mae yna broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol arbennig o ddifrifol.

Os ydych am ofyn i'r awdurdod lleol gymryd camau ynglyn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Beth mae'r heddlu yn medru gwneud

Gall yr heddlu gymryd camau ynglyn ag unrhyw ymddygiad gwrth-gymdeithasol sy'n drosedd a gall erlyn rhywun sydd wedi:-

  • ymosod ar berson arall, gan achosi niwed corfforol a/neu seicolegol
  • niweidio eiddo rhywun arall yn fwriadol
  • ymddwyn mewn ffordd fygythiol neu dreisgar er mwyn dychryn neu greu poen, aflonyddu neu ofidio'n fwriadol, er enghraifft, trwy eich dilyn chi neu ysgrifennu sloganau yn erbyn pobl hoyw ar y wal tu allan i'ch cartref
  • ennyn casineb hiliol neu drais hiliol, er enghraifft, trwy ddosbarthu taflenni hiliol.

Yng Nghymru a Lloegr, fe all yr heddlu gael gorchymyn llys, hefyd, i gau

  • eiddo sydd wedi ei feddiannu gan bobl sy'n delio mewn cyffuriau, neu
  • safleoedd sy’n achosi aflonyddwch i drigolion oherwydd rhyw broblem niwsans neu anrhefn difrifol arall

Yna, fe fydd mynd i mewn i'r eiddo yn drosedd ac fe fydd yr eiddo'n cael ei selio.

Dylech gofio bod dewis gan yr heddlu a ydynt am erlyn rhywun ai peidio.

Fe all yr heddlu gyhoeddi dirwyon (nodyn cosb) yn y fan a'r lle ar gyfer rhai mathau o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae nhw hefyd yn medru gwneud cais i'r llys am orchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maen nhw hefyd yn medru gwneud cais i’r llys am orchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol neu orchymyn i atal trais gangiau neu i amddiffyn rhywun yn erbyn trais gangiau.

Mae'n rhaid i'r heddlu roi ystyriaeth ddifrifol iawn i ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gwahaniaethu yn eich erbyn. Os ydych yn credu nad ydynt wedi rhoi ystyriaeth ddigon difrifol i'ch cwyn, neu os ydych yn credu bod yr heddlu'n gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y byddwch am gwyno am yr heddlu.

Am fwy o wybodaeth ynghylch sut i gwyno am yr heddlu, gweler Cwynion yn Pwerau'r Heddlu.

Beth mae swyddogion cynnal y gymuned yn medru gwneud (Cymru a Lloegr yn unig)

Yng Nghymru a Lloegr, mae swyddogion cymorth cymunedol yn medru cymryd camau ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn amgylchiadau penodol. Er enghraifft,

  • maen nhw'n medru gorchymyn i bobl beidio â mynd ar gefn beic ar y palmant
  • gwasgaru grwpiau o bobl ifanc sy'n dod at ei gilydd mewn man cyhoeddus
  • mynd adref â phlant ifanc ar ôl 9 yr hwyr
  • delio gyda phobl ifanc sy’n absennol o’r ysgol, gan gynnwys mynd â nhw yn ôl i’r ysgol
  • rhoi dirwyon yn y fan a’r lle.

Help pellach

Yn Lloegr, mae gwybodaeth bellach ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tai mewn taflen gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol o’r enw Tackling antisocial behaviour. Mae’r daflenn ar gael ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk.

Yng Nghymru, mae mwy o wybodaeth ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tai ar gael trwy gysylltu ag Is-adran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cymru ar: 0845 010 3300.

Did this advice help?
Why wasn't this advice helpful?
Did this advice help?

Thank you, your feedback has been submitted.