Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Newid gwlad

Dadleuon rhwng cymdogion

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Beth sydd yn yr eitem hon

Nid yw'n bosib darparu canllawiau safonol ar gyfer delio â phob problem rhwng cymdogion. Mae hyn oherwydd natur amrywiol y problemau ac am y bydd unrhyw ateb i ddadl yn dibynnu ar amgylchiadau unigol pob achos.

Rhennir y wybodaeth yma yn ddwy ran:-

  • Dadleuon cyffredin rhwng cymdogion (gweler y pennawd Dadleuon cyffredin rhwng cymdogion). Mae hyn yn disgrifio dadleuon cyffredin ac yn nodi pa un o'r camau posib fyddai'n fwyaf addas ymhob achos
  • Sut i ddelio â dadl rhwng cymdogion (gweler y pennawd Sut i ddelio â dadl rhwng cymdogion). Mae hyn yn amlinellu'r amrywiaeth o gamau y gallai fod angen eu cymryd er mwyn datrys dadl rhwng cymdogion.

Dadleuon cyffredin rhwng cymdogion

Mynediad i dir cymdogion ar gyfer atgyweiriadau

Os ydych am wneud atgyweiriadau i eiddo neu dir efallai y bydd angen i chi gael mynediad i eiddo neu dir eich cymdogio er mwyn gwneud yr atgyweiriadau yma.

Efallai y bydd yna hawl mynediad yn arbennig at ddibenion archwilio neu atgyweirio yn nogfennau cyfreithiol yr eiddo. Os nad oes y fath hawl yn bodoli, neu os na gellir dod i gytundeb, mae'r gyfraith yn eich galluogi chi fel y person sydd am wneud yr atgyweiriadau i wneud cais i'r llys sirol am orchymyn mynediad yn eich caniatau i gael mynediad i dir cymydog i wneud yr atgyweiriadau. Mae yna ffi am y cais.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am orchymyn mynediad dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, cyfreithiwr neu Ganolfan Cynghori. I chwilio am fanylion eich Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Amwynderau a rennir

Pwy sy'n gyfrifol

Efallai bod amwynderau yn cael eu rhannu rhwng dau eiddo neu fwy, er enghraifft, dreiniau a phibau, dreifiau wedi'u rhannu neu do bloc o fflatiau. Fel arfer, caiff cyfrifoldeb dros eu cynnal a'u cadw a hawliau i'w defnyddio, er enghraifft, gosod erial ar simnai sydd wedi'i rannu, eu hamlinellu yn nogfennau cyfreithiol yr eiddo.

Efallai y bydd y dogfennau cyfreithiol yn rhoi hawliau i chi fel perchennog eiddo dros eiddo eich cymydog. Weithiau, nid ydynt wedi eu cynnwys yn y dogfennau cyfreithiol ond maent wedi codi o ddefnydd hir, parhaus heb ei herio (fel arfer 20 mlynedd). Mae hawl i ddefnyddio, er enghraifft, piben drwy eiddo cymydog yn ymhlygu hawl i fynd ar eiddo'r cymydog yna er mwyn gwneud atgyweiriadau, er bod yn rhaid unioni unrhyw ddifrod a wneir i'r eiddo yna. Os caiff mynediad ei wrthod, gellir gwneud cais i lys sirol am orchymyn mynediad (gweler uchod).

Atgyweiriadau

Pan fydd yna amwynder wedi'i rannu sydd angen ei atgyweirio y cam cyntaf yw darganfod pwy sy'n gyfrifol am yr atgyweiriadau. Fodd bynnag, efallai na fydd y dogfennau cyfreithiol bob amser yn darparu tystiolaeth glir ac, yn yr achos yma, fwy na thebyg ei fod yn well setlo ymlaen llaw y bydd y costau yn cael eu rhannu rhwng perchnogion.

Fwy na thebyg mai'r cam nesaf fydd cael syrfëwr neu bensaer i archwilio ac adrodd ar y rhan o'r eiddo sydd angen atgyweiriadau. Bydd yn rhaid cael amcanbrisiau ac yna, gwneud cytundeb gydag adeiladwyr. Mae'n bwysig ar bob cam, pan fydd yna gost, bod y cartref sy'n gwneud yr atgyweiriadau yn cael caniatâd y pleidiau eraill sy'n gyfrifol.

Os yw peth o'r eiddo dan sylw, neu’r cyfan ohono, wedi'i rhentu, efallai y bydd y landlord yn gyfrifol am atgyweiriadau.

Yng Nghymru a Lloegr, am wybodaeth ar rwymedigaethau’r landlord i wneud atgyweiriadau, gweler Problemau cyffredin wrth rentu.

Am wybodaeth ar sut i gael landlord i wneud atgyweiriadau, gweler Cael atgyweiriadau wedi eu gwneud tra’n rhentu.

Ffiniau, ffensys a waliau

Sefydlu'r ffiniau a pherchnogaeth

Os oes dadl yn codi rhwng cymdogion ynghylch y ffin rhwng eu heiddo, bydd angen sefydlu pwy sy'n berchen ar y tir sy'n cael ei ddadlau. Bydd y prif dystiolaeth yn y dogfennau cyfreithiol. Fel arfer, mae tystiolaeth glir o'r math yma yn derfynol.

Fodd bynnag, mae'r ffiniau rhwng eiddo yn medru bod yn wahanol i'r hyn a ddisgrifir yn y dogfennau teitl neu'r les mewn rhai amgylchiadau. Y mwyaf cyffredin yw lle maen nhw wedi cael eu newid trwy gytundeb neu trwy lechfeddiant (preswylio heb ganiatâd). Am fwy o wybodaeth ddefnyddiol am ddadleuon ynghylch ffiniau gweler www.rics.org.

Am fwy o wybodaeth ynghylch dadleuon am ffiniau gweler www.rics.org. Mae gan RICS linell gymorth ar gyfer dadleuon ynghylch ffiniau hefyd. Maen nhw’n medru eich rhoi chi mewn cysylltiad â syrfëwr siartredig syn medru rhoi 30 munud o gyngor rhad ac am ddim i chi. Rhif ffôn y llinell gymorth yw: 0870 333 1600.

Os ydych yn credu nad yw'r ffiniau wedi eu diffinio yn y ddogfen deitl neu'r lês, neu bod y ffiniau wedi eu newid trwy gytundeb neu lechfeddiant, fwy na thebyg y bydd angen i chi gael cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr.

Am fwy o wybodaeth ynghylch defnyddio cyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Cofiwch, efallai y byddwch am drio cyfryngdod yn gyntaf, fel ffordd o ddatrys eich dadl gyda’ch cymydog (gweler y pennawd Sut i ddelio â dadl rhwng cymdogion).

Dyletswydd i godi gwahanfur

Yn gyffredinol, fel perchennog eiddo, nid oes rhaid i chi godi a chynnal a chadw unrhyw fath o wahanfur, er enghraifft, ffens, wal, trelis neu rheiliau, o gwmpas eich eiddo. Mae rhai eithriadau yn cynnwys lle:-

  • mae yna gymal yn y dogfennau teitl neu'r les
  • mae'r eiddo wrth ymyl stryd a gallai fod yna berygl
  • defnyddir y tir at ddibenion peryglus, er enghraifft, storio cemegau
  • mae angen gwahanfur er mwyn atal anifeiliaid heblaw anifeiliaid anwes, rhag crwydro.

Pwy sy'n medru defnyddio neu atgyweirio gwahanfur

Er mwyn penderfynu pwy sy'n medru defnyddio neu atgyweirio gwahanfur, mae angen sefydlu pwy sy'n berchen arno. Mae'r rheolau ar gyfer canfod perchnogaeth yr un peth ag ar gyfer gwahanfuriau eraill. Mewn geiriau eraill, gallai'r dogfennau cyfreithiol nodi pwy sy'n berchen ar y ffens, neu efallai bod tystiolaeth gennych ei fod yn eiddo i chi.

Os yw'r gwahanfur yn eiddo i un person, gall ei ddefnyddio yn ôl ei ddymuniad, heb ganiatâd y cymydog, tra ei fod yn ddiogel. Nid oes gan y cymydog unrhyw hawliau dros y gwahanfur. Er enghraifft, ni fyddent yn medru ei ddefnyddio i gefnogi planhigion llusg heb ganiatâd y perchennog. Os yw'r ffens yn eiddo ar y cyd, gall pob cymydog ei ddefnyddio ar gyfer cefnogaeth, tra nad oes unrhyw un yn ei wneud yn anniogel. Dylid ariannu unrhyw atgyweiriadau ar y cyd.

Fel perchennog eiddo, nid oes rhaid i chi atgyweirio eich gwahanfur onid yw'r dogfennau teitl neu'r les yn cynnwys y fath rwymedigaeth. Fodd bynnag, os yw'r gwahanfur yn achosi difrod neu anaf, gallai eich cymdogion fynd â chi i'r llys am iawndal.

Os, fel perchennog eiddo, mae gennych wahanfur wrth ymyl stryd, dylech sicrhau ei fod mewn cyflwr da er mwyn ei atal rhag bod yn niwsans neu'n beryglus i bobl sy'n defnyddio'r stryd. Os yw rhywun sy'n pasio heibio yn cael niwed oherwydd y gwahanfur, er enghraifft, os oes ganddo weiren bigog, neu os yw'n syrthio ar rywun yn y stryd, gall y person yna fynd â chi i'r llys am iawndal.

Waliau ar y cyd

Am fwy o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch waliau ar y cyd, gweler gwefan RICS yn: www.rics.org. Mae gan RICS linell gymorth ar gyfer materion sy’n ymwneud â waliau ar y cyd hefyd. Maen nhw’n medru eich rhoi chi mewn cysylltiad â syrfëwr siartredig sy’n medru rhoi 30 munud o gyngor rhad ac am ddim i chi. Rhif ffôn y llinell gymorth yw: 0870 333 1600.

Cyfyngiadau cynllunio ar wahanfuriau

Yn gyffredinol, nid oes angen caniatâd cynllunio cyn codi ffens neu wal, tra nad yw'n fwy nag un metr o uchder os ydyw ger prif-ffordd, neu ddau fedr mewn man arall. Os ydych am fynd dros y terfynau yma, bydd angen caniatâd cynllunio gan yr awdurdod lleol. Nid oes cyfyngiadau cynllunio ar uchder cloddiau.

Plant

Plant swnllyd

Nid y plant swnllyd yn eu hun yn ‘niwsans’. Os tarfir ar rywun gan blant cymdogion, er enghraifft, gweithiwr shifft sydd am gysgu yn ystod y dydd, yr unig wir ddatrysiad yw ceisio cymodi gyda'r cymydog.

Difrod gan blant

Os yw plentyn cymydog yn achosi difrod i eiddo, fwy na thebyg mai dynesiad cymodi i geisio datrys y broblem ywr ateb gorau. Yn gyfreithiol, gellir siwio'r plentyn am iawndal os ydyw'n ddigon hen i wybod beth oedd yn ei wneud. Yn ymarferol, mae hyn yn afrealistig gan mai ychydig iawn o lysoedd a fyddai'n edrych yn ffafriol ar y fath gamau, ac nid yw plentyn yn debygol o gael llawer o arian i dalu iawndal. Fodd bynnag, gallai rhieni'r plentyn fod yn atebol am esgeulustod a iawndal os ydynt wedi ymddiried rhywbeth peryglus i'r plentyn a oedd tu hwnt i'w cyfrifoldeb i'w ddefnyddio'n gyfrifol, er enghraifft, dryll aer. Gallai'r rhieni hefyd fod yn atebol os ydynt wedi methu â rheoli yn y fath fodd a fyddai'n ddisgwyliedig gan riant o ystyried oed y plentyn.

Peli a gêmau pêl

Os yw plentyn yn taflu pêl i eiddo cymydog, dylai'r cymydog naill ai ei roi yn ôl neu ei alluogi i gael ei gasglu. Fodd bynnag, gan ei fod yn dresbas os yw pêl yn croesu ffin cymydog, hyd yn oed os oedd yn anfwriadol, byddai gan y cymydog yr hawl i iawndal ariannol os gwnaethpwyd unrhyw ddifrod.

Sŵn

Delio gyda chymdogion swnllyd

Fel cam cyntaf, dylech siarad â'r cymydog swnllyd a gofyn iddo/i leihau'r swn. Os na chaiff y swn ei leihau ac mae'ch cymydog yn denant, efallai y byddai'n ddoeth cysylltu â landlord eich cymydog. Os yw'r broblem yn parhau mae'n ddefnyddiol cadw cofnod/dyddiadur o unrhyw beth i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw gamau yn y dyfodol.

Mae gan awdurdodau lleol (cynghorau lleol yng Ngogledd Iwerddon) bwerau helaeth i ddelio â niwsans swn.  Gallwch ofyn i Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (SIA) i ymchwilio i'r swn.  Maen nhw'n medru mesur y lefel o swn a rhoi barn arbenigol ar y graddfa o niwsans swn.  Mae gan awdurdodau lleol bwerau i feddiannu offer sy'n creu swn.

Os yw AIC yn ystyried bod yna niwsans swn ac nid oedd yn medru datrys y mater trwy drafodaeth, yna gall yr awdurdod roi rhybudd i'r person sy'n creu'r swn, neu'r perchennog neu breswylydd yr eiddo.  Os nad yw'r person sy'n creu'r swn yn cydymffurfio â'r rhybudd, gall yr awdurdod lleol ei erlyn.  Gall yr awdurdod lleol hefyd wneud cais am orfodeb.

Os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth a gawsoch gan yr awdurdod lleol neu gan eich landlord, efallai yr hoffech chi gysylltu ag Ombwdsmon am help.

Am wybodaeth ynghylch Ombwdsmyn, yn Lloegr gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yn Lloegr, yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghymru neu yng Ngogledd Iwerddon, gweler Sut i ddefnyddio ombwdsman yng Nghogledd Iwerddon.

Swn yn y gymdogaeth

Ni ddylid defnyddio uchelseinyddion (ac eithrio'r heddlu, ambiwlans a'r frigâd dân) mewn strydoedd rhwng 9.00yh a 8.00yb. Mae'n anghyfreithlon defnyddio uchelseinyddion yn y stryd ar unrhyw adeg ar gyfer hysbysebu, adloniant, masnach neu fusnes. Mae yna eithriad i'r rheol yma ar gyfer cerbydau sy'n gwerthu bwyd (fel hufen ia), ond gellir ond defnyddio seinyddion neu alawon ar y cerbydau yma rhwng hanner dydd a 7.00yh yn y fath fodd a fydd ddim yn cythruddo pobl leol. Dylid gwneud unrhyw gwynion ynghylch seinyddion neu alawon at yr heddlu neu adran iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol.

Mae gan bob awdurdod lleol y pwer i ddelio gyda niwsans sain o larymau cerbyd a seiniau stryd eraill, er enghraifft, cerddoriaeth. Mae hyn yn cynnwys y pwer i dorri i mewn i'r cerbyd a distewi'r larwm os yw'n creu niwsans.

Mae gan yr awdurdod lleol yr hawl i ddelio ar unwaith â swn sy’n dod o adeiladau trwyddedig yn ystod y nos (rhwng 11 yh a 7 yb). Yn gyntaf, byddant yn rhoi rhybudd ffurfiol i’r person sy’n gyfrifol am wneud y swn, ac yn a os na fydd y swn yn stopio o fewn yr amser a rhoddwyd yn y rhybudd (deg munud fel arfer), gall yr awdurdod lleol rhoi dirwy cosb benodedig iddynt neu eu herlid. Yn ogystal, gall yr awdurdod lleol fynd â’r offer sy’n achosi’r swn.

Larymau byrgler

Mae gan yr awdurdod lleol y pwer i fynd i mewn i adeilad a distewi larwm, lle mae'r larwm wedi bod yn seinio yn ddi-stop ers 20 munud neu yn achlysurol ers awr am awr ac yn achosi niwsans swn. Mae swyddog awdurdod lleol ond yn medru cael mynediad i adeilad trwy rym gyda warant. Mae'r awdurdod yn medru ad-ennill cost distewi larwm gan breswylydd yr adeilad.

Mae awdurdod lleol hefyd yn medru dynodi ardal yn 'ardal hysbysu ynghylch larwm'. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i berchennog neu breswylydd pob adeilad yn yr ardal sydd â larwm roi allwedd i berson penodol a rhaid bod gan yr awdurdod lleol fanylion cyswllt y person yna. Fe all yr awdurdod lleol ofyn i'r person sydd â'r allwedd i ddiffodd y larwm. Os ydych yn byw mewn ardal hysbysu ynghylch larwm, mae'n drosedd i beidio â glynu at y rheolau hyn. Dylai eich awdurdod lleol osod rhybudd yn y papur a rhoi copi trwy eich drws os ydynt yn bwriadu cyflwyno’r rheolau hyn yn eich ardal chi.

Mae Environmental Protection UK yn medru rhoi cyngor cyffredinol ar sŵn. Mae hefyd yn cynhyrchu cyfres wych o daflenni ar lygredd sain. Dyma'r cyfeiriad:

44 Grand Parade
Brighton
BN2 9QA
Ffôn: 01273 878770
Ffacs: 01273 606626
E-bost: admin@environmental-protection.org.uk
Gwefan: www.environmental-protection.org.uk

Gofod parcio

Onid oes cyfyngiadau parcio lleol yn rhoi hawl i ofod penodol, nid oes gan breswylwyr hawliau awtomatig i ofod parcio ar ffordd gyhoeddus. Fodd bynnag, mae ganddynt hawl mynediad i'w dreif. Os yw'r dreif wedi'i rannu yna mae gan bob person hawl mynediad ac ni ddylai'r naill na'r llall flocio'r dreif. Mae gan yr awdurdod lleol a'r heddlu bwerau eang i symud cerbydau sydd wedi eu parcio'n anghyfreithlon, gan achosi rhwystr ar y brif-ffordd neu sydd wedi eu gollwng.

Coed

Canghennau sy'n trosgrogi

Os yw coeden yn trosgrogi dros eiddo cyfagos, dylid gofyn i berchennog y goeden dorri'r goeden yn ôl. Os na wneir hyn, mae gan yr un sy'n cwyno yr hawl i dorri'r goeden yn ôl i'r llinell ffiniol (ond gweler gorchmynin gwarchodaeth ar goed isod) er bod unrhyw ganghennau a/neu ffrwythau a symudir yn eiddo i berchennog y goeden a dylid eu cynnig yn ôl i’r perchennog neu eu gwaredu gyda chaniatâd y perchennog.

Mae coeden sy'n trosgrogi hefyd yn medru bod yn beryglus. Er enghraifft, mae rhan fwyaf o rannau ywen yn wenwynig. Os ceir unrhyw ddifrod neu anaf, bydd perchennog y goeden yn gyfrifol am dalu iawndal os yw person sydd wedi ei effeithio yn hawlio iawndal.

Coed peryglus

Yng Nghymru a Lloegr, mae gan awdurdodau lleol bwerau i ddelio â choed ar eiddo preifat sydd ar fin creu difrod. Mae awdurdod lleol yn medru:-

  • gwneud y goeden yn ddiogel, os ydyw ar fin creu difrod ac mae perchennog y tir lle saif y goeden yn gofyn iddo wneud hynny. Bydd yr awdurdod lleol yn ad-ennill y gost o wneud hyn gan y perchennog
  • gwneud y goeden yn ddiogel ar dir rhywun arall, os yw cymydog y mae ei eiddo mewn perygl uniongyrchol oherwydd y goeden yn gofyn am hynny ac nad yw pechennog y tir lle saif yn goeden yn hysbys
  • roi rhybudd i rywun sydd â choeden sydd ar fin creu difrod i eiddo cymydog ac mae'r cymydog yn gofyn i'r awdurdod lleol weithredu. Mae'n rhaid i berchennog y goeden gydymffurfio â'r rhybudd. Os nad ydyw'n cydymffurfio, bydd yr awdurdod lleol yn gwneud y gwaith angenrheidiol ac yn ad-ennill y gost gan y perchennog. Mae'r perchennog yn medru apelio i'r llys sirol yn erbyn y rhybudd.

Os ydych am i'r awdurdod lleol gymryd camau, dylech holi pa adran sy'n delio gyda choed peryglus, oherwydd mae'n amrywio o un awdurdod lleol i'r nesaf. Yna, fe fyddwch yn medru gofyn i'r adran yma wirio cyflwr y goeden.

Mae i fyny i'r awdurdod lleol benderfynu a yw'r goeden ar fin creu difrod. Os yw'n teimlo nad ydyw ar fin creu difrod, nid oes rhaid iddo gymryd unrhyw gamau.

Yng Ngogledd Iwerddon, mae gan gynghorau lleol bwerau i wneud coeden beryglus ar eiddo preifat yn ddiogel os yw'n crogi dros heol neu lwybr cyhoeddus yn unig. Os yw coeden beryglys yn crogi dros eiddo cymydog, fe fydd yn rhaid i chi geisio dod i gytundeb gyda pherchennog y goeden. Efallai hefyd y medrwch ystyried cael cyfryngdod neu, fel yr opsiwn olaf, cymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich cymydog.

Gwreiddiau

Os yw gwreiddiau coeden cymydog yn lledu i eiddo, gellir cael eu gwared trwy ddefnyddio'r dull lleiaf niweidol sydd ar gael, onid oes gorchymyn gwarchodaeth arno - gweler isod. Os oes rhaid i gymydog fynd i mewn i eiddo perchennog y goeden, mae'n rhaid rhoi rhybudd rhesymol.

Efallai bydd y cymydog hefyd am ddweud wrth ei gwmni yswiriant, os oes posibilrwydd y bydd yr eiddo'n cael ei niweidio gan y gwreiddiau. Os yw'r gwreiddiau eisoes wedi gwneud difrod, mae perchennog y goeden yn atebol am dalu iawndal ond mae'n rhaid dangos bod perchennog y goeden yn gwybod, neu y dylai fod wedi sylweddoli, y perygl.

Gorchmynion gwarchodaeth ar goed

Os ydych yn dymuno atal coeden rhag cael ei thocio gan eich cymydog, gallwch gysylltu â'r awdurdod lleol (swyddfa cynllunio adrannol yng Ngogledd Iwerddon) i weld os byddant yn medru gosod gorchymyn gwarchodaeth coeden arno. Mae pob coeden mewn ardal sydd wedi ei dynodi fel Ardal o Gadwraeth wedi'u hamddiffyn yn awtomatig.

Cloddiau

Os yw clawdd cymydog yn dal ac yn blocio'r golau, gall y person sy'n dioddef y niwsans docio'r gwreiddiau neu'r canghennau. Fodd bynnag, ni ddylai unrhyw un geisio lleihau uchder clawdd heb gael caniatâd gan gyfreithiwr. Yn ychwanegol, mae rhai cloddiau wedi eu gwarchod o dan y gyfraith.

Yng Nghymru a Lloegr, mae gennych yr hawl i gwyno at yr awdurdod lleol os yw'ch cartref yn cael ei effeithio gan glawdd bytholwyrdd neu led-bytholwyrdd cymydog sy'n fwy na dau fedr o uchder. Fe allai hyn olygu bod yn rhaid i'ch cymydog ostwng uchder y clawdd. Rhaid i chi geisio datrys y gwyn gyda'ch cymydog cyn mynd at yr awdurdod lleol, ac efallai y codir tâl sylweddol arnoch cyn y bydd yr awdurdod lleol yn ystyried y gwyn. Fe allwch chi neu eich cymydog apelio yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol.

Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â chloddiau ar wefan GOV.UK ar www.gov.uk.

Cymru

Yng Nghymru, mae gennych yr hawl i gwyno i'r awdurdod lleol os ydyw clawdd bytholrwydd neu lled-fytholwyrdd eich cymydog yn effeithio ar eich llety preswyl ac os ydyw'n fwy na dau fetr o uchder. Fe allai hyn olygu bod eich cymydog yn gorfod gostwng uchder y clawdd. Rhaid i chi geisio datrys y gwyn gyda'ch cymydog cyn mynd at yr awdurdod lleol, ac fe allech orfod talu hyd at £320 cyn y bydd yr awdurdod lleol yn ystyried y gwyn. Fe allwch chi neu eich cymydog apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod lleol.

Sut i ddelio â dadl rhwng cymdogion

Ewch at y cymydog

Yn gyntaf, dylid gwneud cwyn i'r cymydog. Os yw'n ymddangos bod un ochr, neu'r ddau, ddim yn mynd i fedru cadw'n bwyllog yn y fath gyfarfod, byddai'n ddoeth ysgrifennu.

Weithiau, gall cymdogion sylweddoli bod yr ymddygiad yn anghymdeithasol os daw cynrychiolaethau gan grwp o gymdogion.

Rhowch dro ar gyfryngu

A fwy o wybodaeth ar ystyr cyfryngu, ac i ddod o hyd i gyfryngwr yn eich ardal chi a allai helpu, rhowch glic ar wefan Advice Services Alliance ar www.asauk.org.uk.

Mediation Northern Ireland

Mediation Northern Ireland is free and confidential.  It can put neighbours in touch with a trained mediator in their area. The mediator's role is to encourage each party to talk freely, explain their point of view, find common ground and come up with an agreed way forward.

The contact details of Mediation Northern Ireland are:

83 University Street
Belfast
BT7 1HP

Tel: 028 90 438614
Fax: 028 90 314430
E-mail: info@mediationnorthernireland.org
Website: www.mediationnorthernireland.org

Cysylltwch â'r landlord

Os yw'r cymydog sy'n camymddwyn yn denant ac yn gwrthod cydweithredu wedi ceisio mynd ato'n uniongyrchol, efallai byddai'n briodol cysylltu â'r landlord.

Pwy yw'r landlord

Os mai'r awdurdod lleol sy'n berchen ar yr eiddo (Cyfarwyddiaeth Dai Gogledd Iwerddon yng Ngogledd Iwerddon), dylech fynd at adran dai'r awdurdod (yng Ngogledd Iwerddon, y cynorthwy-ydd tai yn y Swyddfa Ranbarthol berthnasol). Efallai y bydd yn barod i gysylltu â'r cymydog i geisio datrys y broblem.

Os yw'r eiddo yn eiddo i gymdeithas dai neu'n cael ei redeg ganddo, efallai bydd yna swyddog tai sy'n delio ag anghydfod rhwng tenantiaid.

Os ydych chi'n credu bod yna wahaniaethu mewn dadl gyda chymydog, gwnewch yn siŵr bod eich landlord yn gwybod hyn – gweler y pennawd Dadlau sarhaus rhwng cymdogion a gwahaniaethu.

Mae landlord preifat yn medru gwneud cais am feddiant ar y sail bod tenant wedi bod yn niwsans i gymdogion neu wedi cyflawni trosedd fel ymosodiadau â chymhelliant hiliol. Os yw'n bosib darganfod pwy yw'r landlord, efallai y bydd yn fodlon siarad â'r tenant ynghylch y broblem. Os ydych yn credu bod gwahaniaethu'n gysylltiedig, gwnewch yn siŵr fod eich landlord yn gwybod hyn.

Galwch yr heddlu

Gellir galw'r heddlu os yw'n bosib bod trosedd yn cael ei chyflawni. Troseddau cyffredin mewn achos o ddadlau rhwng cymdogion yw torri'r heddwch, ymosodiad neu aflonyddu oherwydd eich hil neu ryw. Os ydych yn credu bod aflonyddu ar sail hil neu ryw yn gysylltiedig â'ch dadl gyda chymydog, gwnewch yn siŵr fod yr heddlu'n gwybod hyn – gweler y pennawd Dadlau sarhaus rhwng cymdogion a gwahaniaethu.

Cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd

Mewn achosion lle gall cymdogion fod yn torri deddfau iechyd y cyhoedd neu lygredd, gellir mynd at adran iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol.

Fel arfer, bydd swyddog iechyd yr amgylchedd yn cysylltu â'r cymydog ac yn ceisio datrys y mater yn anffurfiol. Os bydd hyn yn methu, gellir rhoi rhybudd i gymydog, yn gofyn am leihau'r niwsans. Mae hyn yn golygu bod gofyn iddynt stopio'r niwsans neu ddelio ag ef.

Cysylltwch â'r adran cynllunio

Mae gan yr adran cynllunio lleol y pwer i ymchwilio os oes rheolaeth cynllunio wedi'i dorri. Mae'r awdurdod yn medru rhyddhau rhybudd gorfodaeth i'r cymydog sydd wedi gwneud gwaith adeiladu heb ganiatâd neu sy'n defnyddio tir at ddiben sydd heb ei awdurdodi.

Cysylltwch â chyfreithiwr / cymryd camau yn y llys

Llythyr cyfreithiwr

Efallai y bydd llythyr gan gyfreithiwr yn ddefnyddiol o ran gwneud i gymydog sylweddoli eich bod o ddifrif ynghylch eich cwyn. Efallai y bydd yn arbennig o effeithiol o ran gwneud i denantiaid sylweddoli y gallai'r cam nesaf olygu eu troi allan. Efallai y bydd hefyd angen hyn, er enghraifft, pan fydd gwir anghytundeb ynghylch pwy sydd ar fai.

Cymryd camau yn y llys

Er y gellid datrys dadl penodol yn llwyddiannus trwy'r llysoedd, gellir niweidio'r berthynsa rhwng cymdogion. Mae hefyd yn drywydd arbennig o ddrud i'w ddilyn onid yw'r gwyn yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol.

Os ydych yn ystyried cymryd camau yn y llys, dylech holi cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Symud tŷ

Os nad ydych yn medru cytuno o gwbl â’ch cymydog, efallai mai’r unig beth fedrwch chi ei wneud yn eich barn chi yw symud tŷ. Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun ac yn symud oherwydd trafferthion gyda chymdogion, ni ddylech gamarwain darpar-brynwyr ynghylch y problemau yr ydych wedi eu cael. Rhaid i werthwyr lenwi ffurflen sydd â chwestiynau safonol wrth werthu eu cartref. Mae’r cwestiynau hyn yn cynnwys un ynghylch anghydfod. Mae prynwr yn medru erlyn gwerthwr os nad yw’n datgelu anghydfod, er enghraifft anghydfod rhwng cymdogion.

Dadlau sarhaus rhwng cymdogion a gwahaniaethu

Mae rhai mathau o ymddygiad gan gymdogion yn medru bod yn wahaniaethu ac yn medru bod yn erbyn y gyfraith.

Er enghraifft, efallai eich bod yn cael trafferth gyda'ch cymdogion am eu bod yn ymddwyn mewn ffordd hiliol. Os ydych wedi dioddef ymosodiad oherwydd eich hil, gelwir hyn yn 'ymosodiad â chymhelliant hiliol'. Efallai bod y person sydd wedi ymosod arnoch wedi troseddu. Mae hefyd yn drosedd ymosod ar rywun oherwydd eu crefydd. Gelwir hyn yn 'ymosodiad â chymhelliant crefyddol.'

Mae ymosodiadau â chymhelliant hiliol neu grefyddol yn medru cynnwys sarhad geiriol neu fygythiadau a pheintio sloganau sarhaus ar wal neu adeilad.

Am fwy o wybodaeth ynghylch ymosodiadau â chymhelliant hiliol a chrefyddol, gweler Ymosodiadau â chymhelliant hiliol a chrefyddol.

Os yw'ch cymdogion yn gwahaniaethu yn eich erbyn, efallai y byddwch yn medru:

  • cymryd camau yn eu herbyn am ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • os ydynt yn aflonyddu arnoch neu'n eich erlid, dweud wrth yr heddlu
  • os ydych yn dioddef aflonyddu neu erlid, mynd â nhw i'r llys
  • dweud wrth eich awdurdod lleol. Efallai y bydd yr awdurdod lleol yn medru helpu hyd yn oed os nad yw’ch cymdogion yn denantiaid i'r awdurdod lleol.

Am fwy o wybodaeth ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol, gweler Ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tai.

Os yw'ch cymdogion yn gwahaniaethu yn eich erbyn mewn unrhyw ffordd, dylech gael help cynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. Byddant yn medru eich cynghori ar y camau gorau i'w cymryd yn eich amgylchiadau chi. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Mae fy ngwraig yn dod o India'r Gorllewin a'n plant ni yw'r unig blant hil cymysg ar ein stryd ni. Mae plant y cymdogion yn galw enwau arnynt yn aml, ac rwy'n credu efallai eu bod yn cael eu bwlio'n gorfforol hefyd. Rydw i wedi ceisio siarad â'u rhieni ond nid oes unrhyw beth yn newid. Beth fedrai wneud?

Mae yna nifer o bethau fedrwch chi eu gwneud. Un opsiwn yw defnyddio cyfryngwr lleol i helpu gyda'r broblem, ond os nad ydych yn credu bod hyn yn addas, mae'n bosib i chi ddweud wrth eich awdurdod lleol neu'r heddlu am eich cymdogion. Bydd cynghorydd profiadol yn medru eich helpu i benderfynu ar y camau gorau i'w cymryd yn eich amgylchiadau chi.

Was this page helpful?
  •  
  •  
  •  
  •  
  •