Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Rhentu gan landlord tai cymdeithasol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r wybodaeth yma'n berthnasol i Gymru a Lloegr

Pwy sy'n denant i landlord tai cymdeithasol

Rydych yn denant i landlord tai cymdeithasol os ydych yn denant i:

  • awdurdod lleol. Mae'r rhain yn gynghorau dosbarth a chynghorau bwrdeistref Llundain; neu
  • gymdeithas dai; neu
  • gwmni tai cydweithredol.

Tenantiaid i’r awdurdod lleol

Os ydych yn denant i awdurdod lleol, rydych yn debygol o fod yn denant sicr neu’n denant rhagarweiniol. Am wybodaeth bellach ar denantiaethau rhagarweiniol, gweler y pennawd Tenantiaid rhagarweiniol. Yn Lloegr, o 1 Ebrill 2012, mae awdurdodau lleol hefyd yn medru rhoi tenantiaethau hyblyg. Am wybodaeth bellach ar denantiaethau hyblyg, gweler y pennawd Tenantiaid hyblyg.

Cymdeithasau Tai a thenantiaid cwmnïau tai cydweithredol

Dechreuodd y denantiaeth cyn Ionawr 15 1989

Os ydych yn denant cymdeithas tai neu gwmni tai cydweithredol a dechreuodd eich tenantiaeth cyn Ionawr 15 1989, byddwch yn denant sicr. Am fanylion ynglyn a thenant sicr, gweler isod.

Dechreuodd y denantiaeth ar Ionawr 15 1989 neu ar ôl y dyddiad yma

Os ydych yn denant cymdeithas tai neu gorff tai cydweithredol a dechreuodd eich tenantiaeth ar Ionawr 15 1989, neu ar ôl y dyddiad yma, rydych yn debygol o fod yn denant aswiriedig. Am fanylion ynglŷn â hawliau tenant aswiriedig, gweler y pennawd Hawliau tenantiaid aswiriedig.

Efallai y bydd rhai tenantiaid cymdeithasau tai yn denantiaid cychwynnol am y 12 - 18 mis cyntaf. Mae tenantiaeth gychwynnol yn fath o denantiaeth byrddaliad aswiriedig. Am wybodaeth bellach ynglŷn â thenantiaethau cychwynnol, gweler y pennawd Tenantiaethau cychwynnol a thenantiaethau byrddaliad aswiriedig.

Yn Lloegr, o 1 Ebrill 2012, mae cymdeithasau tai yn medru defnyddio tenantiaethau byrddaliad aswiriedig ar gyfer tenantiaethau heblaw am denantiaethau cychwynnol.

Hawliau tenantiaid sicr

Fel tenant sicr, mae gennych yr hawl i aros yn yr eiddo os na all eich landlord berswadio'r llys fod yna resymau arbennig i'ch troi allan, er enghraifft mae gennych rent yn ddyledus, mae yna niwed i eiddo neu rydych wedi torri un o amodau'r cytundeb Am fwy o wybodaeth ar droi allan gweler y pennawd Yr hawl i aros yn y llety.

Fel tenant sicr, gallwch ddefnyddio eich hawliau, er enghraifft i sicrhau bod atgyweiriadau yn cael eu gwneud, heb boeni am gael eich troi allan. Yn ogystal â'r hawl i aros yn eich cartref cyhyd a'ch bod yn cadw at delerau'r denantiaeth, bydd gennych hawliau eraill o dan y gyfraith. Mae'r rhain yn cynnwys yr hawl:

  • i gael atgyweiriadau penodol wedi eu gwneud gan eich landlord
  • i wneud atgyweiriadau penodol eich hun a gwelliannau eich hun gweler y pennawd Atgyweiriadau a gwelliannau
  • i is-osod rhan o’ch eiddo gyda chaniatâd eich landlord
  • i gymryd lletywyr heb ganiatâd eich landlord
  • i gyfnewid eich cartref gyda rhai mathau eraill o denantiaid tai cymdeithasol
  • os ydych yn denant awdurdod lleol, yr hawl i bleidleisio tros drosglwyddo at landlord arall
  • i gael eich diweddaru ynghylch pethau sy’n ymwneud â’ch tenantiaeth
  • i brynu eich cartref.

Am fwy o wybodaeth ynglyn a'r hawl i brynu, gweler Yr hawl i brynu yn Prynu cartref.

  • os ydych yn denant cymdeithas dai a dechreuodd y denantiaeth cyn Ionawr 15 1989, yr hawl i 'rhent teg’ gweler y pennawd Gosod a chodi'r rhent
  • i'ch cymar, partner sifil, partner arall neu, mewn rhai achosion, aelod preswyl o'ch teulu, gymryd y denantiaeth ar eich marwolaeth ('yr hawl i olynu’)
  • i roi (trosglwyddo'r ) denantiaeth i berson sydd a'r hawl i 'olynu'r' denantiaeth. Mae hyn yn anodd ei roi mewn grym weithiau
  • os ydych yn denant awdurdod lleol, cymryd rheolaeth yr ystâd gyda thenantiaid eraill trwy sefydlu Cymdeithas Reoli i Denantiaid
  • i beidio â dioddef gwahaniaethu oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol.

Fel arfer, bydd gennych gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig a allai roi mwy o hawliau i chi na'r rheiny a amlinellir uchod.

Cwynion ynglyn â thenantiaeth sicr

Rhaid bod gan bob landlord tai cymdeithasol bolisi a gweithdrefn sy’n glir ynghylch delio gyda chwynion. Dylech gael cyfle i gwyno trwy amrywiaeth o ddulliau.

Os nad ydych yn hapus o hyd, ar ôl defnyddio gweithdrefn gwynion eich landlord, fe fyddwch yn medru cwyno i Ombwdsmon ynghylch rhai problemau.  Yn Lloegr, os ydych yn denant i awdurdod lleol, Ombwdsmon Llywodraeth Leol fydd hwn, ac os ydych chi’n denant i gymdeithas tai, yr Ombwdsmon Tai fydd hwn. Os ydych wedi dioddef gwahaniaethu, fe fyddwch yn medru cwyno i’r Ombwdsmon ynglyn â hyn.

Yng Nghymru, fe fyddwch yn medru cwyno i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru.

Am fwy o wybodaeth yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn Lloegr neu yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Nghymru.

Hawliau tenantiaid aswiriedig

Fel tenant aswiriedig, mae gennych yr hawl i aros yn eich llety tan i'ch landlord allu perswadio'r llys fod yna resymau dros eich troi allan, er enghraifft bod rhent yn ddyledus, niwed i'r eiddo neu bod un arall o delerau'r cytundeb yn cael ei dorri. Am fwy o fanylion ar denantiaeth sicr gweler y pennawd Yr hawl i aros yn eich llety.

Fel tenant aswiriedig gallwch ddefnyddio eich hawl, er enghraifft, i wneud atgyweiriadau, heb boeni ynglyn â chael eich troi allan. Yn ogystal â'r hawl i aros yn eich cartref, cyhyd â'ch bod yn cadw at delerau'r denantiaeth bydd gennych hawliau eraill yn ôl y gyfraith, gan gynnwys :-

  • yr hawl i gael y llety wedi'i gadw mewn cyflwr rhesymol
  • yr hawl i wneud atgyweiriadau llai eich hun aci dderbyn tâl am y rhain gan landlord (gweler y pennawd Atgyweiriadau a gwelliannau
  • yr hawl i'ch cymar, partner sifil neu bartner arall gymryd y denantiaeth ar eich marwolaeth (yr hawl i ‘olynu’)
  • yr hawl i beidio â chael eich trin yn annheg gan eich landlord oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu rywioldeb.

Fel arfer, fe fydd gennych gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig a allai roi mwy o hawliau i chi na'r rheiny a amlinellwyd uchod.

Cwynion ynglyn â thenantiaeth aswiriedig

Rhaid bod gan bob cymdeithas tai bolisi a gweithdrefn sy’n glir ynghylch delio gyda chwynion. Dylech gael cyfle i gwyno trwy amrywiaeth o ddulliau.

Os nad ydych yn hapus o hyd, ar ôl defnyddio gweithdrefn gwynion eich landlord, fe fyddwch yn medru cwyno i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru yng Nghymru neu’r Ombwdsmon Tai yn Lloegr.

Am fwy o wybodaeth yn Lloegr, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yn Lloegr neu yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsman yng Nghymru.

Tenantiaethau cychwynnol a thenantiaethau byrddaliad aswiriedig

Tenantiaeth gychwynnol yw’r enw a ddefnyddir yn aml gan gymdeithasau tai i ddisgrifio tenantiaeth byrddaliad aswiriedig. Mae tenantiaethau cychwynnol yn denantiaethau prawf sy’n rhoi cyfle i landlord eich troi chi allan o’ch cartref yn haws os digwydd i chi dorri telerau eich cytundeb tenantiaeth.

Mae tenantiaeth gychwynnol yn para am 12 mis, er, mae modd ei hymestyn i 18 mis. Tra na chymerwyd unrhyw gamau gan y landlord i ddiweddu’r denantiaeth o fewn y cyfnod cychwynnol, mae’r tenant cychwynnol yn medru dod yn denant byrddaliad aswireidig neu aswiriedig tymor hirach yn Lloegr, neu’n denant aswiriedig yng Nghymru.

Yn Lloegr, mae cymdeithasau tai yn medru defnyddio tenantiaethau byrddaliad aswiriedig ar gyfer tenantiaethau heblaw am denantiaethau cychwynnol. Maen nhw’n debygol o bara am gyfnod sefydlog o bum mlynedd neu fwy, ond mewn rhai achosion byddant yn para am ddwy flynedd. Efallai y bydd y tenantiaethau hyn hefyd ar delerau ‘rent fforddiadwy'. Am fwy o wybodaeth ar rent fforddiadwy, gweler y pennawd Rhent fforddiadwy.

Yn Lloegr, os oes tenantiaeth byrddaliad aswiriedig o gyfnod sefydlog o ddwy flynedd neu fwy gennych, gyda landlord sy’n gymdeithas tai, yn gyffredinol fe fydd gennych hawliau tebyg i denant aswiriedig. Ond, os oes tenantiaeth cyfnod sefydlog gennych, mae gennych yr hawl i aros yn eich cartref am y cyfnod sefydlog hwnnw yn unig.

Cwynion am denantiaethau cychwynnol a thenantiaethau byrddaliad aswiriedig

Rhaid bod gan bob landlord tai cymdeithasol bolisi a gweithdrefn sy’n glir ynghylch delio gyda chwynion. Dylech gael cyfle i gwyno trwy amrywiaeth o ddulliau.

Os nad ydych yn hapus o hyd, ar ôl defnyddio gweithdrefn gwynion eich landlord, fe fyddwch yn medru cwyno i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i Gymru yng Nghymru neu’r Ombwdsmon Tai yn Lloegr.

Am fwy o wybodaeth yng Nghymru, gweler Sut i ddefnyddio Ombwdsmon yng Nghymru ac yn Lloegr gweler Sut i ddefnyddio Ombwsmon yn Lloegr.

Gosod a chodi rhent

Tenantiaid sicr

Tenantiaeth awdurdod lleol

Mae'r rhent ar gyfer tenantiaid awdurdod lleol yn cael ei osod yn ôl polisi tai'r awdurdod lleol a faint o arian maen nhw'n ei gael gan y llywodraeth yn ganolog. Ni allwch reoli faint o rhent sy'n daladwy, ond mae'n bosib y byddwch yn gallu hawlio budd-dal tai i'ch helpu i'w dalu.

Am wybodaeth ar fudd-dal tai, gweler Help gyda'ch rhent - Budd-dal Tai.

Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent, yng Nghymru a Lloegr, gweler Dyledion rhent yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a dyled.

Tenantiaeth cymdeithasau tai a chwmnïau tai cydweithredol a ddechreuodd cyn Ionawr 15 1989

Os ydych yn denant cymdeithas dai neu gwmni tai cydweithredol a dechreuodd eich tenantiaeth cyn 15 Ionawr 1989 rydych yn denant sicr, ond mae'ch rhent yn 'rent teg' a gofrestrwyd gan y Swyddog Rhent. Fel arfer, bydd cymdeithasau tai neu gwmnïau cydweithredol wedi cael y rhent wedi'i gofrestru.

Unwaith mae rhent wedi'i gofrestru, fel arfer ni ellir ystyried rhent newydd ar gyfer y llety am ddwy flynedd. Gellir ond cynyddu'r rhent os:-

  • ydych yn gofyn am asesiad rhent teg newydd wedi dwy flynedd
  • mae'ch landlord yn gofyn am asesiad rhent teg newydd wedi blwyddyn a naw mis, er na fyddai unrhyw rhent newydd yn effeithiol tan diwedd y ddwy flynedd.

Gellir gwneud cais am gynnydd mewn rhent ynghynt, ond dim ond os nad ydyw'r denantiaeth wedi newid yn sylweddol neu os ydych chi a'ch landlord yn gwneud cais gyda'ch gilydd.

Os oes angen help arnoch gyda thalu'r rhent mae'n bosib y byddwch yn gallu hawlio budd-dal tai.

Am wybodaeth ar fudd-dal tai, gweler Help gyda'ch rhent - Budd-dal Tai.

Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent, yng Nghymru a Lloegr, gweler Dyledion rhent yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a dyled.

Tenantiaid aswiriedig

Tenantiaeth cymdeithasau tai neu gwmnïau tai cydweithredol a ddechreuodd ar 15 Ionawr 1989 neu ar ôl y dyddiad yma

Mae nifer o denantiaid cymdeithasau tai y dechreuodd eu tenantiaeth ar 15 Ionawr 1989, neu ar ôl y dyddiad yma, yn denantiaid aswiriedig.  Os ydych yn denant aswiriedig, eich rhent yw'r rhent y cytunoch ei dalu i’ch landlord ar ddechrau'r denantiaeth a dylai hyn fod yn eich cytundeb tenantiaeth.  Dylai'r cytundeb tenantiaeth nodi hefyd pryd a sut y gellir cynyddu'r rhent.

Yn Lloegr, mae mwyafrif y cymdeithasau tai a chwmnïau tai cydweithredol wedi cofrestru gyda'r Asiantaeth Cartrefi a Chymunedau ac mae'n rhaid iddynt ddilyn safonau a gweithdrefnau a osodir gan y corff rheoleiddio hwn.  Weithiau, cyfeirir atynt fel landlordiaid cymdeithasol. Maen nhw’n gosod rhent yn unol â chanllawiau’r llywodraeth a rhaid rhoi gwybodaeth glir i denantiaid ynghylch y ffordd y caiff eu rhent a’u taliadau am wasanaethau eu gosod, a sut mae modd eu newid.

Efallai y bydd hawl gennych i gyflwyno cais i Bwyllgor Asesu Rhent os nad ydych yn cytuno â chynnydd yn eich rhent.

Yng Nghymru, rhaid i gymdeithasau tai reoli eu tai i safonau a osodir gan Lywodraeth Cymru. Rhaid i chi gael gwybod yn ysgrifenedig, ac ymlaen llaw, ynghylch unrhyw newidiadau i’ch rhent. Dylech gael o leiaf 28 diwrnod o rybudd ynghylch unrhyw gynnydd.

Efallai y bydd hawl gennych i gyflwyno cais i Bwyllgor Asesu Rhent os nad ydych yn cytuno â’r cynnydd yn eich rhent.

Os ydych yn denant i gymdeithas tai yng Nghymru, mae yna daflen sy’n esbonio’ch hawliau, o’r enw Guarantee for Housing Association Residents. Mae ar wefan Llywodraeth Cymru yn: www.new.wales.gov.uk.

Os ydych am wneud cais i Bwyllgor Asesu Rhent, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn a'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os oes angen help arnoch i dalu'r rhent, mae'n bosib y byddwch yn gallu hawlio budd-dal tai. Mae'n bosib y byddwch hefyd yn gymwys i fudd-daliadau eraill os ydych ar incwm isel neu'n ddi-waith.

Am wybodaeth ar fudd-dal tai, gweler Help gyda'ch rhent - Budd-dal Tai.

Os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent, yng Nghymru a Lloegr, gweler Dyledion rhent yn y Taflenni ffeithiau ar gredyd a dyled.

I ddarganfod pa fudd-daliadau eraill y gallech fod yn gymwys iddynt, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn a'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Rhent Fforddiadwy

Mae rhent fforddiadwy yn fath o dai cymdeithasol a ddarperir yn Lloegr gan landlordiaid tai cymdeithasol.

Gelwir y rhent yn ‘fforddiadwy’ ond mae’n rhent uwch na fyddai’n cael ei godi fel arfer am dai cymdeithasol. Mae’r landlord yn medru codi hyd at 80% o’r hyn y byddai’n ei gostio petaech yn rhentu’r eiddo’n breifat. Mae’r arian ychwanegol o gartrefi rhent fforddiadwy’n mynd tuag at adeiladu mwy o dai cymdeithasol newydd.  

Yn y rhan fwyaf o achosion, rhoddir tenantiaethau ar delerau rhent fforddiadwy gan gymdeithasau tai. Ble mae’r landlord yn gymdeithas tai, mae’r math o denantiaeth a roddir naill ai’n aswiriedig neu’n denantiaeth byrddaliad aswiriedig. Mewn rhai achosion, gall awdurdod lleol roi tenantiaeth ar delerau rhent fforddiadwy. Ble mae’n gwneud hyn, mae’r fath o denantiaeth yn denantiaeth sicr neu’n denantiaeth hyblyg.

Gellir cynyddu rhent fforddiadwy unwaith y flwyddyn. Uchafswm y cynnydd a ganiateir mewn rhent fforddiadwy yw’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) + 0.5 %.

Os ydych chi ar fudd-daliadau neu ag incwm isel efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-dal tai i helpu talu rhywfaint o’r rhent fforddiadwy neu’r cyfan ohono.

Am fwy o wybodaeth ar fudd-dal tai, gweler Help gyda’ch rhent – Budd-dal tai.

Os digwydd i chi fynd i ddyled gyda’ch rhent, gweler Ôl-ddyledion rhent.

Atgyweiriadau a gwelliannau

Fel tenant, mae gennych yr hawl i gael eich llety wedi'i gadw mewn cyflwr rhesymol. Mae gennych ddyletswydd i ofalu am y llety. Efallai bod y cytundeb tenantiaeth yn rhoi mwy o fanylion ynglyn â'ch cyfrifoldebau chi a chyfrifoldebau eich landlord wrth wneud atgyweiriadau, a dylech gyfeirio at hyn.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â chytundebau tenantiaeth gweler Cynlluniau llety.

Mae yna rai atgyweiriadau a fydd yn gyfrifoldeb i'r landlord bron bob tro, p'un ai eu bod wedi'u nodi'n benodol yn y cytundeb tenantiaeth ai peidio, sef:-

  • strwythur a thu allan yr eiddo (fel muriau, lloriau a fframiau ffenestri), a'r dreiniau, gwteri a phibau tu allan. Os yw'r eiddo yn dy, mae'r ffyrdd hanfodol o gael mynediad iddo, fel grisiau o'r stryd, hefyd wedi eu cynnwys yn 'strwythur a thu allan'. Mae hefyd yn cynnwys llwybrau a stepiau
  • y pibau nwy a dwr a weirio trydanol (er enghraifft, tapiau a socedi)
  • y basnau, sinciau, bathiau a thoiledau
  • gwresogyddion sefydlog (er enghraifft, tanau nwy) a gwresogyddion dwr ond nid cwceri nwy na thrydanol

Am fwy o wyodaeth ynglyn ag atgyweiriadau, gweler Cael atgyweiriadau wedi eu gwneud tra’n rhentu.

Yr hawl i atgyweirio

Gall tenantiaid awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol eraill (gan gynnwys cymdeithasau tai) ddefnyddio cynlluniau 'hawl i atgyweirio’ i hawlio iawndal ar gyfer atgyweiriadau nad yw'r landlord yn eu gwneud o fewn terfyn amser penodol.

Mae gan denantiaid awdurdod lleol gynllun hawl i atgyweiriadau y mae’n rhaid iddynt ei ddilyn. O dan y cynllun, os na wneir atgyweiriadau o fewn terfyn amser penodol, gallwch hysbysu'r landlord eich bod yn dymuno cael contractwr gwahanol i wneud y gwaith. Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol benodi contractwr newydd a gosod terfyn amser arall. Gallwch hawlio iawndal os na chaiff yr atgyweiriad ei wneud o fewn y terfyn amser newydd.

Fel tenant awdurdod lleol, gallwch ddefnyddio'r cynllun 'hawl i atgyweiriadau' ar hyn o bryd ar gyfer atgyweiriadau y mae eich landlord yn amcangyfrif y byddent yn costio hyd at £250. Gallwch hefyd hawlio hyd at £50 o iawndal. Mae ugain math o atgyweiriad yn gymwys ar gyfer y cynllun, gan gynnwys drysau anniogel, systemau ffôn mynediad wedi torri, sinciau wedi'u blocio a thoi sy'n gollwng.

Ni fydd atgyweiriad yn gymwys ar gyfer y cynllun os oes gan yr awdurdod lleol lai na 100 o adeiladau, os nad ydyw'n gyfrifol am yr atgyweiriad neu os yw'r awdurdod yn penderfynu y byddai'n costio mwy na £250.

Os ydych yn denant i landlord cymdeithasol arall, fel cymdeithas tai, mae gennych yr hawl i iawndal os ydych yn adrodd ynglŷn â phroblem yn ymwneud ag atgyweiriad neu waith cynnal a chadw sy'n effeithio ar eich iechyd neu’ch diogelwch, ac mae’ch landlord yn methu ddwywaith â gwneud yr atgyweiriad o fewn y terfyn amser a osodwyd. Mae yna gyfradd sefydlog sy'n £10, a £2 y dydd hyd at gyfanswm o £50 ar hyn o bryd, ar gyfer pob diwrnod mae'r atgyweiriad heb ei wneud. Gall y landlord unigol osod uchafswm ar gyfer atgyweiriad cymwys. Dylech gysylltu â'ch landlord am fwy o fanylion am y cynllun.

Gwelliannau

Fel tenant awdurdod lleol, os ydych yn gwneud gwelliannau penodol i'r cartref, er enghraifft, inswleiddio'r llofft, baddon, basnau neu doiledau newydd a mesurau diogelwch, gallwch wneud cais am iawndal am wneud hynny pan fyddwch chi'n symud allan. Ni fyddwch yn gymwys am yr iawndal yma os ydych yn prynu eich cartref.

Tenantiaid anabl

Os ydych yn anabl, efallai y byddech yn medru cael addasiadau wedi eu gwneud i'ch cartref. Yn gyntaf, efallai y bydd angen i chi gael unrhyw addasiadau wedi eu hasesu gan adran gwasanaethau cymdeithasol. Gallai addasiadau gynnwys gosod lifft grisiau neu addasu ystafell ymolchi neu doiled.

Os ydych am gael addasiad, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. Efallai y bydd tenant anabl hefyd yn gallu cael grant cyfleusterau anabl i wneud y cartref yn fwy addas.

Am wybodaeth ynglyn â grantiau cyfleusterau anabl, gweler Help gydag atgyweiriadau i'r cartref.

Cyfarpar nwy

Mae'n rhaid i'ch landlord sicrhau bod unrhyw gyfarpar nwy mewn adeiladau preswyl yn ddiogel. Mae'n rhaid iddo/i drefnu gwiriadau diogelwch ar gyfarpar a ffitiadau o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae'n rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru gyda’r Gofrestr Diogelwch Nwy wneud y gwiriadau yma. Dyma gyfeiriad eu gwefan: www.gassaferegister.co.uk. Mae'n rhaid i'r landlord hefyd gadw cofnod o ddyddiad y gwiriad, unrhyw broblemau a nodwyd ac unrhyw gamau a gymerwyd. Fel y tenant, mae gennych yr hawl i weld y cofnod yma tra eich bod chi'n rhoi rhybudd rhesymol.

Os nad yw eich landlor yn trefnu gwiriadau neu os ydyw'n gwrthod caniatau i chi weld cofnod y gwiriad, gallech gysylltu â swyddfa'r Gyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch lleol.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â chael atgyweiriadau wedi eu gwneud, gweler Cael atgyweiriadau wedi eu gwneud tra’n rhentu.

Yr hawl i aros yn y llety

Dyma amlinelliad o'r hawliau sydd gennych fel tenant awdurdod lleol, cymdeithas dai neu gwmni tai cydweithredol i aros yn eich llety a sut fedrwch chi gael eich troi allan.

Am wybodaeth mwy manwl ar gael eich troi allan, gweler Problemau cyffredin wrth rentu.

Tenantiaid sicr

Fel tenant sicr mae gennych yr hawl i aros yn y llety tra'ch bod yn cadw at delerau y cytundeb tenantiaeth gyda'ch landlord. Fodd bynnag, os caiff y cytundeb tenantiaeth ei dorri, er enghraifft, am fod rhent yn ddyledus neu oherwydd niwsans i gymdogion, gall eich landlord roi notis i chi a gwneud cais i lys y sir i'ch cael wedi'ch troi allan.

Gall landlord tai cymdeithasol eich troi allan dim ond os yw'n rhoi'r rhybudd priodol i chi ac os yw un o'r 'amodau perchnogaeth' yn berthnasol.

Mae'r hyn sy'n cael ei ddiffinio o dan ‘amodau perchnogaeth' yn gymhleth ac os ydyw'ch landlord yn ceisio eich troi allan, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn a'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf. Mae'n rhaid i'ch landlord wneud cais i lys y sir i geisio perchnogaeth yr eiddo a gellir ond troi tenant sicr allan os yw'r llys yn rhoi gorchymyn perchnogaeth i'r landlord.

Tenantiaid aswiriedig

Fel tenant aswiriedig, mae gennych yr hawl i aros yn y llety cyhyd â’ch bod yn cadw at delerau’r cytundeb tenantiaeth gyda’ch landlord, Ond, os caiff y cytundeb tenantiaeth ei dorri, er enghraifft, oherwydd ôl-ddyledion rhent neu niwsans i gymdogion, mae’ch landlord yn medru cyflwyno rhybudd i chi.

Yna, bydd yn rhaid i'r gymdeithas dai gael gorchymyn perchnogaeth o'r llys sirol trwy ddweud bod un o'r 'amodau perchnogaeth' yn berthnasol.

Mae'r hyn sy'n cael ei ddiffinio gan ‘amodau perchnogaeth' yn gymhleth ac os ydyw'ch landlord yn ceisio eich troi allan, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Tenantiaethau tai cymdeithasol a gwahaniaethu

Pan fyddwch chi’n rhentu llety gan awdurdod lleol, cymdeithas tai neu landlord cymdeithasol arall, ni ddylai wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae hyn yn golygu nad ydynt yn cael:

  • rhentu eiddo i chi ar delerau gwaeth na thenantiaid eraill
  • eich trin yn wahanol i denantiaid eraill yn y ffordd yr ydych yn cael defnyddio cyfleusterau fel golchdy neu ardd
  • eich troi chi allan neu aflonyddu arnoch oherwydd gwahaniaethu
  • codi rhent yn uwch arnoch nag ar denantiaid eraill
  • gwrthod eich ailgartrefu oherwydd gwahaniaethu
  • gwrthod gwneud atgyweiriadau i'ch cartref, oherwydd gwahaniaethu
  • gwrthod gwneud newidiadau rhesymol i eiddo neu amod yn y cytundeb tenantiaeth, a fyddai’n galluogi person anabl i fyw yno.

Yn y bloc o fflatiau ble rydw i'n byw, mae mwyafrif y tenantiaid yn bobl o Fangladesh. Mae'n teimlo nad ydyn ni’n medru cael atgyweiriadau wedi eu gwneud er bod angen llawer o waith ar ein hadeilad. Rydyn ni'n gwybod bod bloc arall yn yr ardal ble mae pobl wyn, gan fwyaf, yn byw, ac mae'n teimlo fel nad ydyn nhw'n gorfod aros am atgyweiriadau o gwbl. Mae’r ddau floc yn eiddo i’r cyngor. A yw hyn yn wahaniaethu? A oes unrhyw beth fedrwn ni ei wneud am y sefyllfa hon?

Efallai bod yna resymau da i esbonio pam mae'n ymddangos bod y bloc arall yn cael pethau wedi'u gwneud yn gyflymach. Er enghraifft, efallai bod y bobl yn y bloc arall angen atgyweiriadau bach yn unig, a bod eich adeilad chi angen atgyweiriadau mawr. Ond, efallai hefyd y gallai eich awdurdod lleol fod yn gwahaniaethu yn eich erbyn, nid oes gwahaniaeth os yw hyn yn fwriadol neu’n ddamweiniol. Mae angen i chi gael cyngor gan gynghorydd profiadol a fydd yn medru eich helpu i benderfynu pa gamau i'w cymryd.

Os ydych yn credu bod eich landlord yn gwahaniaethu yn eich erbyn, dylech gael cyngor gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, mewn canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Tenantiaid rhagarweiniol

Pwy sy'n denant rhagarweiniol

Mae rhai awdurdodau lleol yn gwneud pob tenant newydd yn denant rhagarweiniol am 12 mis cyntaf y denantiaeth.

Hawliau tenantiaid rhagarweiniol

Mae gan denantiaid rhagarweiniol rai o hawliau tenantiaid sicr ond nid y cyfan ohonynt. Mae'r tabl canlynol yn dangos eich hawliau fel tenant rhagarweiniol mewn cymhariaeth â thenantiaid sicr.

Hawl statudolTenant sicrTenant rhagarweiniol
Yr hawl i olynu gan bartneriaid neu, mewn rhai achosion, aelodau o'r teuluoesoes
Yr hawl i atgyweiriadauoesoes
Yr hawl i aseiniooesnac oes
Yr hawl i brynuoesnac oes, ond mae'r cyfnod sy'n cael ei dreulio fel tenant rhagarweiniol yn cyfrif tuag at y gostyngiad
Yr hawl i gymryd lletywyroesnac oes
Yr hawl i is-osod rhan o’ch cartrefoesnac oes
Yr hawl i wneud gwelliannauoesnac oes
Yr hawl i gyfnewid eich cartref gyda rhai mathau o denantiaid erailloesnac oes
Yr hawl i bleidleisio cyn trosglwyddo at landlord newyddoesnac oes
Yr hawl i ymgynghori ar faterion yn ymwneud â rheolaeth taioesoes
Yr hawl i ymgynghori ar benderfyniad i ddirprwyo rheolaeth taioesoes
Yr hawl i fod yn rhan o fonitro cytundeb rheolaeth taioesoes

Dod â thenantiaeth rhagarweiniol i ben

Ar ddiwedd y deuddeg mis, os nad oedd unrhyw drefniadau perchnogaeth yn eich herbyn, fel arfer, bydd y denantiaeth rhagarweiniol yn cael ei throsglwyddo gan eich landlord i denantiaeth sicr. Ond, efallai y bydd eich landlord yn penderfynu ymestyn y denantiaeth rhagarweiniol am chwe mis arall. Os yw hyn yn digwydd, byddwch yn cael gwybod pam ac yn cael y cyfle i ofyn am i’r penderfyniad gael ei adolygu.

Trefniadau meddiannaeth

Mae'n hawdd iawn i landlord droi tenant rhagarweiniol allan.

Os ydych wedi derbyn notis gan landlord sy'n nodi ei f/bod yn bwriadu eich troi allan a chymryd perchnogaeth yr eiddo, dylech ofyn am farn cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori agosaf, gan gynnwys y rhai sy'n gallu rhou cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Tenantiaid hyblyg

Mae tenantiaethau hyblyg yn fath o denantiaeth y gall landlordiaid sy’n awdurdodau lleol ei rhoi yn Lloegr, o 1 Ebrill 2012. Nid yw pob awdurdod lleol yn eu cynnig.

Mae tenantiaeth hyblyg yn debyg i denantiaeth sicr yr awdurdod lleol. Ond, mae tenantiaeth sicr yn gyfnodol, sy’n golygu ei bod yn para am gyfnod amhenodol o amser. Yn aml, enw arall ar denantiaeth gyfnodol yw ‘tenantiaeth oes’. I’r gwrthwyneb, mae tenantiaeth hyblyg yn para am gyfnod penodol o amser yn unig. Yn y rhan fwyaf o achosion, fe fydd tenantiaeth hyblyg yn para pum mlynedd, o leiaf.

Rhaid i awdurdod lleol gyflwyno rhybudd ysgrifenedig i chi cyn bod tenantiaeth hyblyg yn medru dechrau. Rhaid i’r rhybudd ddweud wrthych fod y denantiaeth yr ydych yn cael ei chynnig yn un hyblyg, a rhaid i’r rhybudd nodi telerau’r denantiaeth.

Mae gan denantiaid hyblyg nifer o hawliau cyfreithiol, nifer ohonynt yn debyg i hawliau tenantiaid sicr. Er enghraifft, yr hawl i drosglwyddo’ch tenantiaeth pan fyddwch chi’n fyw neu wedi i chi farw, yr hawl i gyfnewid eich cartref gyda rhai mathau eraill o denantiaid eraill a’r hawl i brynu’ch cartref.

Nid oes rhaid i awdurdod lleol roi tenantiaeth arall i chi pan ddaw cyfnod sefydlog y denantiaeth hyblyg i ben. Fe fyddwch yn medru gofyn i’r awdurdod lleol adolygu ei benderfyniad i beisio â rhoi tenantiaeth arall i chi. Fe fydd yr adolygiad yn ystyried a yw’ch landlord wedi dilyn ei bolisïau a’i weithdrefnau wrth benderfynu.

Os na chewch denantiaeth arall pan ddaw eich tenantiaeth hyblyg i ben, fe fydd yr awdurdod lleol yn cymryd camau i’ch troi chi allan.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.