Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Deddf Cydraddoldeb 2010 - gwahaniaethu a'ch hawliau

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban

Pwy sydd wedi eu hamddiffyn

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cryfhau eich hawliau i beidio dioddef gwahaniaethu. Mae gwahaniaethu yn golygu trin rhywun yn waeth na phobl eraill oherwydd pwy ydyn nhw.

Ehangwyd y grwpiau o bobl sydd â’r hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu hefyd. Cyfeirir at y bobl sy’n perthyn i’r grwpiau hyn fel nodweddion sydd wedi eu hamddiffyn.

Nid oes gwahaniaeth p’un ai fod unrhyw rai o’r nodweddion hyn yn berthnasol i chi, neu’r bobl yn eich bywyd. Os cewch eich trin yn waeth am fod rhywun yn credu eich bod yn perthyn i grwp o bobl â nodweddion wedi eu hamddiffyn, mae hyn yn wahaniaethu.

Mae’r Ddeddf nawr hefyd yn eich amddiffyn os oes gan bobl yn eich bywyd, fel aelodau’r teulu, ffrindiau neu gydweithwyr nodweddion wedi eu hamddiffyn ac rydych yn cael eich trin yn llai ffafriol oherwydd hynny. Er enghraifft, rydych chi’n dioddef gwahaniaethu am fod eich mab yn hoyw.

Dyma’r nodweddion sydd wedi eu hamddiffyn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010:

  • oed
  • anabledd
  • hunaniaeth o ran rhywedd ac ailbennu rhywedd
  • priodas neu bartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth yn unig)
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • tuedd rhywiol.

Os oes gennych un neu fwy o’r nodweddion wedi eu hamddiffyn hyn, mae nawr yn erbyn y gyfraith hefyd i’ch trin chi yn yr un ffordd â phob un arall os yw’r driniaeth hon yn golygu eich bod dan anfantais.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn darparu ar eich cyfer tra’ch bod yn y gwaith a phan fyddwch chi’n defnyddio gwasanaethau, fel siopau, gwestai neu gampfa, ysbyty neu wasanaethau rhad ac am ddim eraill.

Pa hawliau eraill sydd wedi eu cynnwys

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn egluro nad ydych yn gallu trin menyw yn waeth na phobl eraill am fwydo o’r fron mewn llefydd cyhoeddus fel caffis, siopau a bysiau. Er enghraifft, ni fyddai gyrrwr bws yn medru gofyn i fenyw adael y bws am ei bod yn bwydo ei baban o’r fron.

Mae hefyd yn anghyfreithlon trin cynhalwyr yn llai ffafriol, neu aflonyddu arnynt, am fod gan y person y maen nhw’n gofalu amdano/amdani nodwedd wedi ei hamddiffyn.

Er enghraifft,os yw cyflogwr fel arfer yn agored i weithio hyblyg gan rieni, ond mae’n gwrthod cytuno i gais gan rieni plant anabl, mae hyn yn wahaniaethu.

Help a gwybodaeth bellach

Fe allwch ddarganfod mwy am eich hawliau i beidio â chael eich trin yn waeth nag eraill ar ein tudalennau gwahaniaethu.

Mae Cyngor ar Bopeth a Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth wedi cynhyrchu dau ganllaw newydd i rai o’r hawliau newydd fydd gennych o dan y Ddeddf Cydraddoldeb.

I lawrlwytho copi ar-lein o Ddeddf Cydraddoldeb 2010: Beth sydd angen i mi ei wybod? Canllaw cryno i’ch hawliau, rhowch glic ar Deddf Cydraddoldeb 2010: Beth sydd angen i mi ei wybod.

I lawrlwytho copi ar-lein o Deddf Cydraddoldeb 2010: Beth sydd angen i mi ei wybod fel cynhaliwr? cliciwch ar Deddf Cydraddoldeb 2010: Beth sydd angen i mi ei wybod fel cynhaliwr [ 260 kb].

Fideo ar wahaniaethu

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.