Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Llinell gymorth gwahaniaethu Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Os ydych yn credu bod gwahaniaethu wedi cael effaith arnoch, gallwch ffonio llinell gymorth o'r enw Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Pwy sy'n medru cysylltu â'r llinell gymorth?

Mae llinell gymorth EASS i bobl sy'n credu efallai eu bod wedi dioddef gwahaniaethu, ac ni fydd ar gael i gyflogwyr, darparwyr gwasanaethau nac addysgwyr. Nod y gwasanaeth yw eich cefnogi chi os cewch eich cyfeirio gan fudiadau lleol. Mae'r rhain yn cynnwys grwpiau cynghori, mudiadau â sylfaen ffydd a grwpiau cymunedol eraill sy'n cefnogi pobl sy'n dioddef gwahaniaethu. Gallwch ffonio'r llinell gymorth yn uniongyrchol, ond byddai'n well i chi fynd at fudiad cynghori yn gyntaf. Yna, maen nhw'n medru cysylltu â'r gwasanaeth ar eich rhan.

Sut maen nhw'n medru helpu?

Mae'r llinell gymorth yn medru darparu cyngor a gwybodaeth ar wahaniaethu mewn cyflogaeth, tai, addysg, trafnidiaeth ac achosion ble efallai y byddwch wedi dioddef gwahaniaethu, wrth ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau neu eu prynu. Mae hefyd yn medru darparu cyngor a gwybodaeth ar faterion hawliau dynol. Darperir cymorth trwy:

  • esbonio beth mae'r gyfraith yn ei ddweud a sut mae hyn yn berthnasol i chi
  • esbonio sut mae modd datrys sefyllfa
  • eich cefnogi chi i geisio datrys materion yn anffurfiol
  • os nad oes modd datrys y materion yn anffurfiol, eich cyfeirio chi at wasanaeth cymodi neu gyfryngu  
  • os ydych chi angen dod o hyd i ddatrysiad cyfreithiol, neu os ydych chi am wneud hynny, eich helpu i weld os ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol sifil
  • os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol sifil, eich helpu i ddod o hyd i wasanaeth cyfreithiol hygyrch, neu'ch helpu i'ch cynrychioli eich hun trwy roi gwybodaeth a chefnogaeth i chi ar baratoi hawliad a'i gyflwyno.

Nid yw'r llinell gymorth yn:

  • darparu cyngor cyfreithiol
  • eich cynrychioli chi wrth ddarparu cefnogaeth cyn cyflwyno hawliad
  • cynghori ar gryfder achos
  • cynghori ar y dystiolaeth sydd ei hangen ar gyfer achos
  • cynghori ar drefniadau llys neu dribiwnlys unwaith y cyhoeddir hawliad.

Manylion cyswllt

Equality Advisory Support Service (EASS)
FREEPOST
Equality Advisory Support Service
FPN4431

Rhif ffôn: 0808 800 0082
Ffôn testun: 0808 800 0084
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9yb tan 8yh
Dydd Sadwrn, 10yb tan 2yp

Website: www.equalityadvisoryservice.com

Mae'r gwasanaeth ar gael yn y Gymraeg (o ddydd Llun i ddydd Gwener) a gallwch ddefnyddio'r Llinell Iaith i gael cyngor mewn ieithoedd eraill ac yn y Gymraeg ar benwythnosau. Er mwyn defnyddio'r gwasanaeth yn y Gymraeg, ffoniwch rif y llinell gymorth a dewiswch yr opsiwn ar gyfer cynghorydd sy'n siarad Cymraeg.

Mae defnyddwyr testun yn medru ffonio 0800 444 206 ac mae galwadau fideo Skype Iaith Arwyddion Prydain yn medru defnyddio'r llinell gymorth trwy Gymdeithas Frenhinol y Byddar. Mae manylion ar y wefan yn www.radlegalservices.org.uk.

Mewn rhai amgylchiadau, mae EASS yn medru trefnu eiriolydd lleyg i helpu pobl ag anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl i ddefnyddio'r llinell gymorth neu ddeall y cyngor a roddwyd. Dylech drafod hyn gyda chynghorydd EASS a fydd yn asesu a fydd yn medru darparu cymorth.

Mae llinell gymorth EASS yn argymell, os yw'r achos yn ymwneud â gwahaniaethu posib mewn cyflogaeth, y dylech gysylltu ag ACAS yn gyntaf cyn cysylltu â llinell gymorth EASS. Mae manylion llinell gymorth ACAS ar y wefan yn www.acas.org.uk.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.