Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod yr achos fel tyst

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ar ddiwrnod yr achos bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys i roi eich tystiolaeth.

Pan fyddwch chi’n cyrraedd y llys gallwch gael cymorth gan wirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion. Gofynnwch i’r staff yn y dderbynfa i’ch helpu i ddod o hyd i rywun o’r Gwasanaeth Tystion.

Gallwch ofyn i wirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion am gael gweld ystafell y llys cyn i chi roi tystiolaeth os oes un yn rhydd. Os nad oes un yn rhydd, efallai y cewch weld llun o un.

Gallwch gael cymorth gan y Gwasanaeth Tystion cyn yr achos..

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch chi’n rhoi tystiolaeth

Pan fyddwch chi’n mynd i mewn i ystafell y llys byddwch yn “tyngu llw” - mae hyn yn golygu eich bod yn cytuno i ddweud y gwir. Mae’n drosedd peidio â gwneud hynny. Does dim rhaid i chi gofio beth i’w ddweud wrth dyngu llw - byddwch yn cael cerdyn gyda’r geiriau arno.

Bydd y cyfreithiwr sy’n cynrychioli’r ochr a ofynnodd i chi roi tystiolaeth yn dechrau gofyn cwestiynau i chi.

Pan fydd y cyfreithiwr yn gofyn cwestiynau i chi gallwch:

  • ofyn iddyn nhw ailadrodd y cwestiwn neu ei ofyn mewn ffordd wahanol

  • dweud os nad ydych chi’n gwybod yr ateb

  • gofyn iddyn nhw egluro unrhyw eiriau nad ydych chi’n eu deall

Os ydych chi’n cael anhawster sefyll yn y blwch tystion

Fel arfer bydd yn rhaid i chi sefyll pan fyddwch chi yn y blwch tystion. Os ydych chi’n cael trafferth sefyll, gallwch ofyn i’r ynad neu’r barnwr os cewch eistedd.

Pan fo’r ochr arall yn gofyn cwestiynau i chi

Ar ôl i chi roi tystiolaeth dros yr ochr a’ch galwodd fel tyst, byddwch yn cael eich holi gan gyfreithiwr yr ochr arall. Croesholi yw’r enw ar hyn.

Eu swydd nhw yw ceisio cyflwyno fersiwn wahanol o ddigwyddiadau. Gall fod yn straen, ond y cwbl y gallwch chi ei wneud yw dweud wrth y llys beth welsoch chi yn eich geiriau eich hun. Os nad ydych chi’n deall y cwestiwn, yn cael eich ypsetio gan eu cwestiynau neu os nad ydych chi’n teimlo’n dda, dylech ddweud hynny. Gall yr ynad neu’r barnwr roi hoe i chi cyn i chi ailafael ynddi. Gallwch ofyn am ddiod o ddŵr neu hances os ydych chi angen un.

Aros yn adeilad y llys

Os ydych chi am adael adeilad y llys, er enghraifft i gael awyr iach, dylech ofyn i wirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion a bydd yn pasio eich cais ymlaen.

Os ydych chi’n cael caniatâd i adael yr adeilad, dylech roi gwybod iddyn nhw ble rydych chi’n mynd a sut gellir cysylltu â chi.  Peidiwch â mynd yn rhy bell rhag ofn y bydd eich angen ar fyr-rybudd.

Ar ôl i chi roi tystiolaeth

Mae croeso i chi adael ar ôl i chi roi tystiolaeth. Gallwch aros i wylio gweddill yr achos os ydych chi’n 14 oed neu’n hŷn.

Peidiwch â thrafod unrhyw beth a ddywedoch chi neu a glywsoch chi yn y llys gyda thystion eraill nad ydyn nhw wedi rhoi eu tystiolaeth eto. Mae hyn yn cynnwys siarad am yr achos ar wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Twitter neu Facebook.

Cadw mewn cysylltiad â’ch cyflogwr

Dylech roi gwybod i’ch cyflogwr os oes rhaid i chi fynd yn ôl i’r llys ar ddiwrnod arall a sicrhau bod gennych chi drefniadau yn eu lle os oes angen, er enghraifft, gofal plant.

Mae’n bosibl na fydd yn rhaid i chi fynd i ystafell y llys y diwrnod hwnnw os oes achosion eraill yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl.

Os oes angen i chi hawlio treuliau

Gallwch hawlio treuliau am fynd i’r llys i roi tystiolaeth – byddwch yn cael ffurflen i’w llenwi. Gofalwch eich bod yn cadw derbynebau ar gyfer treuliau – byddwch angen cyflwyno’r rhain gyda’r ffurflen.

Gall gwirfoddolwr y Gwasanaeth Tystion eich helpu i lenwi’r ffurflen.

Gallwch weld faint y gallwch ei hawlio ar GOV.UK.

Fel arfer, fyddwch chi ddim yn gallu hawlio treuliau os ydych chi’n dyst cymeriad.

Fyddwch chi ddim yn gallu hawlio treuliau chwaith os ydych chi’n mynd i’r llys ond yn gwrthod rhoi tystiolaeth.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.