Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Newid gwlad

Anafiadau personol

Beth yw Anaf Personol

Mae anaf personol yn gallu bod yn:

  • anaf, clefyd neu afiechyd corfforol, neu
  • anaf neu afiechyd seicolegol.
  • Mae anaf personol yn gallu arwain at farwolaeth.

Dyma enghreifftiau o anaf personol:

  • anaf yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys salwch sy’n gysylltiedig â gwaith, fel clefyd o ganlyniad i weithio gydag asbestos.
  • salwch seicolegol oherwydd pwysau yn y gwaith
  • anaf o ganlyniad i ddamwain ffordd
  • anaf a dderbyniwyd o ganlyniad i nwyddau neu wasanaethau diffygiol
  • anaf a gafwyd trwy faglu dros gerrig palmant
  • salwch seicolegol am i chi gael eich cam-drin pan yn blentyn
  • anaf a achoswyd gan gamgymeriadau mewn triniaeth ysbyty neu gan frechiadau
  • anaf corfforol neu seicolegol y mae dioddefwr yn ei gael yn ystod trosedd.
  • salwch seicolegol o ganlyniad i wahaniaethu neu aflonyddu yn eich gweithle.

Os ydych wedi dioddef anaf personol, neu os ydych yn gweithredu ar ran rhywun sydd wedi marw oherwydd anaf personol, mae’n bosib y byddwch am ystyried y canlynol:-

  • ydych chi’n dymuno gwneud cwyn at y person neu’r gymdeithas y credwch sy’n gyfrifol am eich anafiadau (gweler y pennawd Gwneud cwyn)
  • ydych chi’n dymuno gwneud cais am iawndal i ddigolledu unrhyw golledion a ddioddefwyd o ganlyniad i’r anaf (gweler y pennawd Iawndal)
  • a oes unrhyw broblemau ariannol uniongyrchol yn codi oherwydd yr anaf, er enghraifft eich bod yn methu gweithio (gweler y pennawd Problemau Ariannol)
  • ydych chi’n dymuno cysylltu â chymdeithas a fyddai’n medru cynnig cefnogaeth neu gyngor (gweler y pennawd Cefnogaeth a chyngor).

Camau gweithredu

Beth bynnag yr ydych yn bwriadu gwneud ynglŷn â’ch anaf personol, gall y camau gweithredu gynnwys:-

  • Hysbysu’r heddlu os, er enghraifft, yw’r anaf yn ganlyniad i ddamwain ar y ffordd

Os cafodd y ddamwain ei hachosi gan yr heddlu, bydd angen i chi gysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

  • Os yw’r anaf yn ganlyniad i ddamwain ffordd, dywedwch wrth eich cwmni yswiriant am y ddamwain. Mae’n bosib na fydd y polisi yswiriant yn ddilys os na chaiff y ddamwain ei reportio
  • Dywedwch wrth eich meddyg am yr anaf oherwydd gall yr anaf fynd yn fwy difrifol. Dylech wneud hyn hyd yn oed os yw eich anaf yn ymddangos yn ddibwys. Os byddwch chi, o ganlyniad, yn mynd i’r llys i hawlio iawndal am yr anaf, bydd gofyn i’r meddyg ddarparu adroddiad meddygol
  • Casglwch dystiolaeth am y ddamwain a’r anafiadau. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd yn ddefnyddiol tynnu ffotograffau o leoliad y ddamwain ac o beth a achosodd yr anaf. Dylech hefyd, os yn bosib, ysgrifennu adroddiad am y ddamwain tra bo’r manylion yn fyw yn eich cof. Os oedd yna lygad dystion yn bresennol, dylech wneud nodyn o’u henwau a’u cyfeiriadau.

Damweiniau yn y gwaith

Os digwyddodd y ddamwain yn y gwaith, dylid ei chofnodi mewn llyfr damweiniau. Os nad oes llyfr damweiniau yn eich gweithle, dylech nodi manylion cryno’r ddamwain, ac unrhyw anafiadau, a’u hanfon at eich cyflogwr, a chadw copi eich hun. Efallai y bydd eich cytundeb yn dweud bod yn rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr am anaf yn y gwaith. Os ydych yn hunangyflogedig, mae’n ddyletswydd gyfreithiol arnoch i ddweud wrth Adran Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu adran iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol am rai damweiniau sy’n arwain at anaf. Yng Nghymru a Lloegr, mae mwy o wybodaeth ynglŷn â dweud wrth Adran Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ddamweiniau, ar ei gwefan yn www.hse.gov.uk.

Gwneud cwyn

Os ydych wedi cael damwain neu wedi dioddef anaf mae’n bosib y byddwch yn medru cael eglurhad o beth aeth o’i le a derbyn ymddiheuriad o bosib. Mewn rhai achosion, mae’n bosib fod yna weithdrefn gwyno swyddogol y gallwch ei ddefnyddio.

Un anfantais o ddefnyddio gweithdrefnau cwyno yw eu bod yn cymryd llawer o amser ac ni fydd y canlyniad yn fwy nag ymddiheuriad. Os ydych wedi dioddef anaf personol a’ch bod yn dymuno gwneud cais am iawndal, dylech fod yn ymwybodol fod yna gyfyngiadau amser ar gyfer dwyn achos cyfreithiol (gweler y pennawd Dwyn achos cyfreithiol) a gall gweithredu drwy weithdrefn gwyno oedi’r mater.

Os penderfynwch y bydd gwneud cwyn yn rhoi canlyniad digonol, dyma enghreifftiau o’r mudiadau y byddwch yn medru cwyno iddynt:

  • adran o’r Llywodraeth
  • awdurdod lleol
  • eich cyflogwr
  • yr heddlu
  • eich ysgol neu sefydliad addysgol arall
  • eich ysbyty neu sefydliad arall y Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Yng Nghymru, efallai y bydd Trefniadau Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG newydd sy’n dechrau o 1 Ebrill 2011, yn eich caniatáu chi i gyfuno cwyno gyda hawlio iawndal.

Os ydych yn dymuno cael mwy o wybodaeth am sut mae gwneud cwyn at y math yma o sefydliad, dylech gael cyngor arbenigol gan gynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar Canolfan Cynghori lleol.

Iawndal

Mae yna sawl ffordd o gael iawndal am anaf personol:-

Cyfanswm yr Iawndal

Os ydych wedi dioddef anaf personol mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio dau fath o iawndal, Iawndal cyffredinol a iawndal arbennig.

Mae iawndal cyffredinol yn cael ei dalu fel iawndal am anaf, er enghraifft, taliad am boen a dioddefaint neu golled enillion yn y dyfodol. Y llys fydd yn penderfynu ar y swm a delir.

Telir iawndal arbennig fel iawndal am golled ariannol gwirioneddol a achoswyd gan y ddamwain hyd at ddyddiad y gwrandawiad. Gallant gynnwys difrod i ddillad neu eiddo arall, costau gofal, costau teithio i’r ysbyty, treuliau meddygol (yn cynnwys cost triniaeth breifat) a chost llogi a/neu atgyweirio car a gafodd ei ddifrodi yn y ddamwain.

Os bydd y llys yn penderfynu eich bod yn rhannol gyfrifol am y ddamwain, mae’n bosib y bydd yn gostwng cyfanswm yr iawndal y byddwch yn ei dderbyn. Enghraifft o hyn fyddai pe na byddech yn gwisgo gwregus pan ddigwyddodd y ddamwain car.

Yng Nghymru a Lloegr, am fwy o wybodaeth ynghylch hawlio iawndal am anaf personol, gweler Hawlio iawndal am anaf personol – trefniadau dim buddugoliaeth, dim ffi yn y Taflenni ffeithiau cyfreithiol.

Tynnu budd-daliadau nawdd Cymdeithasol o’r iawndal

Os ydych wedi bod yn derbyn budd-daliadau nawdd cymdeithasol o ganlyniad i’r ddamwain lle cafwyd eich anaf personol, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu’r rhain yn ôl allan o unrhyw iawndal y byddwch yn ei dderbyn.

Mae’r rheolau ynglŷn â didyniadau o fudd-daliadau yn gymhleth ac os credwch efallai y bydd hyn yn effeithio arnoch, dylech geisio cyngor gan gyghorydd profiadol, er enghriafft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Aseswyr Ceisiadau

Os ydych wedi dioddef anaf personol mae’n bosib eich bod yn ystyried defnyddio gwasanaeth aseswr ceisiadau(a elwir weithiau yn Reolwr Ceisiadau). Yn aml mae aseswyr ceisiadau yn ymgymryd ag achosion ar sail ‘dim ennill, dim tâl’ ond mae yna rai anfanteision, yn cynnwys:-

  • Fel arfer nid yw’r cwmni asesu ceisiadau yn gyfreithwyr ac mae’n bosib na fydd ganddynt gyfreithiwr i gymryd cyfreifoldeb dros yr achos. Os felly, ni fydd yr aseswr ceisiadau yn medru hawlio iawndal drwy’r llysoedd ac os ydych wedi dioddef anaf mae’n bosib y byddwch yn derbyn llai o iawndal
  • Mae’n bosib y bydd yr Aseswr ceisiadau yn gofyn i chi dalu cyfran o gyfanswm yr iawndal i’r Aseswr. Dylech fod yn ymwybodol, tra bod talu 50% o £1,000 o iawndal efallai yn dderbyniol i chi, o bosib ni fyddai talu 50% o £10,000 yn dderbyniol.

Rhaid i Aseswyr ceisiadau gael eu hawdurdodi gan y llywodraeth cyn eu bod yn gallu sefydlu busnes. Mae’n rhaid iddyn nhw lynu at reolau caeth sy’n gosod amodau hysbysebu, derbyn busnes a sut i ddelio â, ac i gynrychioli clientod.

Os nad ydych yn hapus gyda gwasanaeth Aseswr ceisiadau, gallwch wneud cwyn. Mae’n ofynnol bod ganddynt system fewnol i ddelio â chwynion, ac eu bod yn eich hysbysebu o hyn.

Cyn defnyddio gwasanaeth Aseswyr ceisiadau, dylech wneud yn siwr eu bod wedi’u hawdurdodi. Galwch riportio aseswr ceisiadau sydd heb ei awdurdodi i’r Uned Claims Management Regulation Monitoring and Compliance drwy ffonio 0845 450 6858 neu e-bostio info@claimsregulation.gov.uk.

Am ragor o wybodaeth am y reolau y mae’n rhaid i Aseswyr ceisiadau eu dilyn, ac i wirio os ydy Aseswr ceisiadau wedi’i awdurdodi, ewch i www.claimsregulation.gov.uk.

Os ydych yn ystyried defnyddio aseswr ceisiadau, dylech geisio cyngor cynghorydd profiadol yn gyntaf, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Dwyn achos cyfreithiol

Os ydych yn dymuno dwyn achos cyfreithiol er mwyn hawlio iawndal am anaf personol bydd angen i chi gael cyngor gan gyfreithiwr sy’n arbenigo yn y math yma o achosion. Rhaid gwneud hyn cyn gynted ag y bo modd gan fod yna derfynau amser llym ar ddwyn achosion cyfreithiol – gweler isod.

Terfynau amser

Mae yna derfynau amser gwahanol y mae’n rhaid i chi gadw o’u mewn wrth ddechrau camau cyfreithiol mewn achos o anaf personol. Felly, dylech gael cyngor cyfreithiol ar frys os ydych am hawlio iawndal.

Y cais mwyaf cyffredin mewn achos o anaf personol yw esgeulustod, a'r terfyn amser ar gyfer cais o’r fath yw tair blynedd. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cyhoeddi gweithrediadau llys o fewn tair blynedd i’r dyddiad y daethoch i wybod eich bod wedi dioddef anaf.

Mewn rhai achosion, efallai y bydd llys yn penderfynu ymestyn terfyn amser, gan ddibynnu ar amgylchiadau'r achos.

Os ydych yn ystyried dwyn achos cyfreithiol ac nad ydych wedi ymweld â chyfreithiwr eto, dylech geisio cyngor cynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Talu am achos cyfreithiol

Mae achosion cyfreithiol am iawndal ar gyfer anaf personol yn medru bod yn gostus. Mae’n bosib y byddwch yn medru derbyn cymorth gyda chostau cyfreithiol oddi wrth, er enghraifft:-

  • cyfreithiwr neu gymdeithas sy’n darparu cymorth cyfreithiol

Am fwy o wybodaeth ynghylch cymorth cyfreithiol, gweler Cymorth gyda chostau cyfreithiol.

  • cytundeb ffi amodol – gweler isod
  • Undeb llafur neu gymdeithas aelodaeth arall megis yr AA neu’r RAC
  • Polisi yswiriant. Mae llawer o bolisïau cynnwys tŷ, yswiriant car neu bolisïau yswiriant teithio yn cynnwys yswiriant ar gyfer costau cyfreithiol.

Cytundeb ffi amodol

Mae cytundeb ffi amodol yn golygu na fydd eich cyfreithiwr yn cael unrhyw ffioedd os ydych yn colli eich achos. Ond, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd cyfreithiol a chostau'r ochr arall. Fel arfer, fe fydd eich cyfreithiwr yn gofyn i chi gymryd yswiriant i dalu am hyn. Os ydych yn ennill eich achos, yna fel arfer yr ochr arall sy'n talu ffioedd a chostau eich cyfreithiwr.

Am fwy o wybodaeth ynglyn â chytundebau ffioedd amodol, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Os ydych yn ystyried dwyn achos cyfreithiol ac nad ydych wedi bod yn ymweld â chyfreithiwr eto mae’n bosib y byddwch yn dymuno ceisio cyngor am ffynonellau cymorth gyda chostau cyfreithiol posib gan gynghorydd profiadol, er enghaifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Dewis cyfreithiwr

Os ydych yn dymuno dwyn achos cyfreithiol am anaf personol dylech gysylltu â chyfreithiwr sy’n aelod o gynllun achrediad anafiadau personol neu gynllun achrediad esgeulustod clinigol Cymdeithas y Gyfraith, gan ddibynnu ar natur eich anaf. Mae Cymdeithas y Gyfraith yn medru cynnig manylion am gyfreithwyr ar y cynlluniau achrediad hyn, a gellir cysylltu â’r gymdeithas yn:

113-114 Chancery Lane
London
WC2A 1PL
Rhif ffôn: 020 7242 1222
Ffacs: 020 7831 0344
Ebost: info.services@lawsociety.org.uk
Gwefan: www.lawsociety.org.uk

Mae gan ‘The Law Society of Northern Ireland’ restr o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn meysydd penodol. Gellir cael y rhestr yma oddi wrth:

The Law Society of Northern Ireland
Law Society House
98 Victoria Street
Belfast BT1 3JZ
Rhif ffôn: 028 9023 1614
Ffacs: 028 9023 2606
Ebost: info@lawsoc-ni.org
Gwefan: www.lawsoc-ni.org

The Association of Personal Injury Lawyers (APIL)

Mae APIL (The Association of Personal Injury Lawyers) yn Gymdeithas nid-am-elw o gyfreithwyr, bargyfreithwyr ac academyddion sy’n arbenigo mewn gwaith yn ymwneud ag anafiadau personol. Mae llawer o’r cyfreithwyr sy’n perthyn i APIL yn rhan o gynllun achrediad. Mae’r cynllun achrediad yn gwarantu bod aelodau yn gymwys mewn maes penodol o fewn maes anafiadau personol. Mae gan gyfreithwyr achrededig o’r lefel Ymgyfreithiwr Uwch i fyny, o leiaf bum mlynedd o brofiad o ddelio gyda hawliadau anafiadau personol. Mae pob un o aelodau APIL yn addo dilyn cod ymddygiad a siarter defnyddwyr. Efallai y byddant yn ddefnyddiol i’ch helpu i ddod o hyd i gyfreithiwr sy’n medru delio gyda’ch achos. Gellir cael mwy o wybodaeth am APIL yn:

3 Alder Court
Rennie Hogg Road
Nottingham
NG2 1RX

Llinell gymorth i ddod o hyd i gyfreithiwr: 0115 958 0585
Ffôn: 0115 958 0585
Ffacs: 0115 958 0885
E-bost: mail@apil.org.uk
Gwefan: www.apil.org.uk

Motor Accident Solicitors Society (MASS)

Cymdeithas o gyfreithwyr yw The Motor Accident Solicitors Society (MASS) sy’n brofiadol mewn anafiadau personol o ganlyniad i ddamweiniau modur. Mae cyfreithwyr cyfrannog yn darparu ymgynghoriad cychwynnol am ddim. Gellir cysylltu â MASS yn:-

St Bartholowmews Court
18 Christmas Street
Bristol BS1 5BT
Ffôn: 0117 925 9604
E-bost: office@mass.org.uk
Gwefan: www.mass.org.uk

Aelodau Cymdeithasau Moduro

Os ydych wedi dioddef anaf o ganlyniad i ddamwain ffordd a’ch bod yn aelod o gymdeithas foduro, er enghraifft, yr AA neu’r RAC, mae’n bosib y byddwch yn medru derbyn cyngor cyfreithiol arbenigol drwy’r gymdeithas.

Aelodau Undebau Llafur

Os yw eich anaf yn ganlyniad i ddamwain, arferion gweithio anniogel neu wahaniaethu yn y gwaith, dylech, os ydych yn aelod, gysylltu â’ch undeb llafur. Mae’n bosib i’r undeb gyfarwyddo cyfreithwyr i ddwyn achos cyfreithiol ar eich rhan ac ni fydd yn rhaid i chi dalu am hyn.

Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol

Os ydych wedi cael eich anafu o ganlyniad i weithred droseddol mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio iawndal drwy’r Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol (Criminal Injuries Compensation Agency yng Ngogledd Iwerddon). Mae’n bosib eich bod yn ddioddefwr uniongyrchol, er enghraifft, mewn ymosodiad neu mae’n bosib i chi ddioddef eich anaf pan yn ceisio cynorthwyo’r heddlu wedi i drosedd gael ei chyflawni. Gall perthynas agos i rywun a fu farw oherwydd ei hanafiadau wneud cais hefyd.

Rhaid i chi reportio’r digwyddiad i’r heddlu ar y cyfle cyntaf a fel arfer rhaid gwneud cais o fewn dwy flynedd i’r digwyddiad. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, mae’n bosib y bydd yr Awdurdod yn fodlon ymestyn y dyddiad yma. Enghraifft o hyn fyddai petai chi’n gwneud cais am gamdriniaeth y gwnaethoch ei ddioddef pan yn blentyn.

Fe allwch gael ffurflen gais a help gyda’ch cais gan:

Criminal Injuries Compensation Authority
Tay House
300 Bath Street
Glasgow G2 4LN
Llinell Gymorth: 0300 003 3601 (Dydd Llun - Dydd Gwener 8.30yb tan 5.00yp, ac eithrio ar Ddydd Mercher, sy’n 10.00yb tan 5.00yp)

The Criminal Injuries Compensation Agency yng Ngogledd Iwerddon
Royston House
34 Upper Queen Street
Belfast BT1 6FD
Rhif ffôn: 028 9024 9944
Ffacs: 028 9024 6956

Mae gwybodaeth bellach ynghylch ceisio am iawndal am anafiadau troseddol gan yr Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol yn www.justice.gov.uk.

Mae’r manylion am y drosedd a’r anafiadau a nodwyd ar y ffurflen gais yn bwysig ac os ydych yn cwblhau’r ffurflen mae’n bosib y byddwch yn dymuno cysylltu â chynghorydd profiadol, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Gorchmynion Iawndal Troseddol

Mae’n bosib y gorchmynir i berson a ddyfarnwyd yn euog o drosedd gan y llys i dalu iawndal am anaf, colled neu ddifrod a achoswyd ganddynt i rywun arall drwy gyflawni trosedd. Os mai chi yw’r person sydd wedi dioddef anafiadau neu golled ni fedrwch wneud cais ar eich cyfer eich hun, felly mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybodaeth lawn a chywir i’r Erlyniaeth am yr anafiadau a’r colledion i’w rhoi o flaen y llys.

Bydd cyfanswm yr iawndal yn dibynnu ar faint mae’r troseddwr yn medru fforddio talu, ond yr uchafswm yw £5,000.

Os ceir Gorchymyn Iawndal Troseddol, bydd y llys yn gyfrifol am sichrau bod y troseddwr yn talu.

Cynlluniau iawndal arbennig

Mae yna nifer o gynlluniau iawndal arbennig ar gyfer rhai anafiadau a cholledion.

Er enghraifft, mae pobl sydd wedi cael HIV wrth gael triniaeth ar gyfer hemoffilia yn medru hawlio taliadau gan Ymddiriedolaeth MacFarlane a iawndal gan y Llywodraeth.

Mae pobl sydd wedi dioddef niwed o ganlyniad i frechlynnau hefyd yn medru cyflwyno cais i Uned o'r enw Vaccine Damage Payment Unit. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar: www.gov.uk.

Mae yna gynlluniau arbennig i bobl sy'n dioddef o afiechydon sy'n gysylltiedig ag asbestos. Er enghraifft, os cawsoch eich anafu wrth weithio gydag asbestos, efallai y byddwch yn medru hawlio Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol ac yn medru cyflwyno cais sifil yn erbyn eich cyflogwyr. Efallai eich bod wedi dal afiechyd sy'n gysylltiedig ag asbestos mewn ffordd arall - er enghraifft, trwy olchi dillad aelod o'r teulu. Yn yr achos hwn, rydych yn medru cyflwyno cais am daliad unwaith-yn-unig gan y Llywodraeth. Mae yna gyfyngiadau amser ar gyfer hawlio yn y ffyrdd hyn. Am fwy o wybodaeth, rhowch glic ar: www.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth ynghylch Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, gweler Budd-daliadau i bobl sy'n sâl neu'n anabl.

Fe fydd cyfreithiwr arbenigol [link to heading Choosing a solicitor Dewis cyfreithiwr] yn medru dweud wrthych os oes cynllun iawndal ar gael ar gyfer eich anaf chi ac fe fydd yn medru eich cynghori p'un ai y byddai'n well ceisio am iawndal o dan y cynllun neu wneud hawliad sifil.

Trefniadau Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG yng Nghymru

Yng Nghymru, fe fydd Trefniadau Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG yng Nghymru o 1 Ebrill 2011 yn golygu efallai y byddwch yn medru cyfuno cwyno gyda hawlio iawndal.

Fe fydd y trefniadau hyn yn berthnasol os yw’ch cwyn ynglyn â gwasanaethau a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, neu ar eu rhan.

Am wybodaeth bellach ynghylch y trefniadau hyn, cysylltwch â’ch Cyngor Iechyd Cymuned (CIC). I ddarganfod eich CIC agosaf, rhowch glic ar: www.wales.nhs.uk.

Problemau Ariannol

Os oes gennych broblemau ariannol o ganlyniad i anaf personol a ddioddefwyd, er enghraifft, mewn damwain neu drosedd dreisgar, mae’n bosib y bydd angen i chi gysylltu â chynghorydd ariannol arbenigol am gymorth gyda dyledion a budd-daliadau.

Mae’n bosib fod arnoch angen cyngor ariannol oherwydd bod aelod o’ch teulu wedi cael ei anafu neu ladd mewn damwain neu o ganlyniad i drosedd. Mae’n bosib y byddwch yn medru hawlio iawndal am golli cefnogaeth ariannol. Efallai y bydd hawl gennych i gael help o fath arall, er enghraifft, help ariannol i dalu am yr angladd.

Os ydych yn dioddef o broblemau ariannol oherwydd anaf personol yr ydych chi neu aelod o’ch teulu yn ei ddioddef dylech gysylltu â chynghorydd, er enghraifft, Canolfan Cynghori. I chwilio am fanylion ynglyn â'ch Canolfan Cynghori lleol, gan gynnwys y rhai sy’n medru rhoi cyngor drwy'r e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Cefnogaeth a Chyngor

Mae yna nifer o gymdeithasau gwirfoddol a chynlluniau a fydd o bosib yn medru cynnig cefnogaeth i chi os ydych wedi cael eich anafu, neu fod eich partner, cyfaill neu berthynas wedi cael ei anafu neu ei (l)ladd.

Action against Medical Accidents (AvMA)

Mae’r AvMA yn medru darparu gwybodaeth a chefnogaeth a’ch cyfeirio at gyfreithwyr os ydych wedi dioddef damwain feddygol. Mae gan yr AvMA banel o arbenigwyr meddygol sy’n barod i roi barn annibynnol.

44 High Street
Croydon
CRO 1YB
Llinell gymorth: 08451 23 23 52
Ffacs: 020 8667 9065
Ebost: admin@avma.org.uk
Gwefan: www.avma.org.uk

Dyma wasanaeth cyngor annibynnol, rhad ac am ddim, ar gyfer teuluoedd a ffrindiau sydd wedi colli rhywun o ganlyniad i farwolaeth sy'n gysylltiedig â gwaith. Fe fyddan nhw'n eich helpu i sicrhau bod yna ymchwiliad iawn i'r farwolaeth a bod y cyrff sy'n erlyn yn archwilio'r mater yn iawn. Maen nhw'n rhoi cyngor mewn perthynas â marwolaethau sy'n ganlyniad i weithgarwch cwmnïau preifat a chyrff cyhoeddus fel awdurdodau lleol ac ysbytai.

Fourth Floor
197/199 City Road
London
EC1V 1JN
Rhif ffôn: 020 7490 4494
Ffacs: 020 7490 7191
Ebost: advice@corporateaccountability.org
Gwefan: www.corporateaccountability.org

Disabled Living Foundation

Mae’r Disabled Living Foundation yn rhoi cyngor a gwybodaeth am gyfarpar sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n dioddef o anableddau.

380-384 Harrow Road
London
W9 2HU
Rhif ffôn: 020 7289 6111
Llinell gymorth: 0845 603 9177 (Llun-Gwe 10y.b.-4y.h. cyfradd lleol)
Ffacs: 020 7266 2922
Ebost: info@dlf.org.uk
Gwefan: www.dlf.org.uk

Yng Ngogledd Iwerddon

Musgrave Park Hospital
Green Park Hospital Trust
Stockman's Lane
Belfast BT9 7JB
Rhif ffôn: 028 9066 9501
Ffacs: 028 9038 2008

Disaster Action

Sefydlwyd Disaster Action gan grwp o bobl sydd wedi goroesi trychinebau difrifol neu wedi colli rhywun mewn trychineb difrïol, yn y Deyrnas Unedig a thramor. Eu nod yw

  • cynnig cefnogaeth i bobl y mae trawma mawr wedi effeithio arnynt
  • codi ymwybyddiaeth o anghenion goroeswyr a phobl sydd wedi cael profedigaeth
  • helpu creu hinsawdd o ddiogelwch y mae trychinebau'n llai tebygol o ddigwydd ynddi.

Maen nhw'n cyhoeddi cyfres o daflenni o'r enw 'When disaster strikes', sydd ar gael oddi ar eu gwefan, Dyma'u manylion cyswllt nhw:

No 4
71 Upper Berkeley Street
London
W1H 7DB
Ffôn: 01483 799066
E-bost: pameladix@disasteraction.org.uk
Gwefan: www.disasteraction.org.uk

Grwpiau Hunangymorth

Sefydlwyd nifer o grwpiau hunangymorth ar gyfer pobl sydd wedi cael eu hanafu gan, er enghraifft, meddyginiaeth beryglus.

Mae manylion cyswllt nifer o grwpiau hunangymorth ar www.gov.uk.

Headway – cymdeithas anaf i'r ymennydd

Mae Headway yn cefnogi pobl sydd ag anafiadau i’r ymennydd a’u cynhalwyr. Mae nhw hefyd yn ymgyrchu am welliannau i’r gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Maent yn rhedeg llinell gymorth, a gallant ddarparu rhestr o gyfreithwyr sy’n arbenigo mewn achosion o anafiadau i’r ymennydd.

Bradbury House
190 Bagnall Road
Old Basford
Nottingham
NG6 8SF
Llinell Gymorth: 0808 800 2244
Ffôn: 0115 924 0800
Ffacs: 0115 958 4446
E-bost: helpline@headway.org.uk
Gwefan: www.headway.org.uk

MIND (National Association for Mental Health)

Mae MIND yn hyrwyddo diddordebau pobl sy’n dioddef o salwch meddwl neu drallod ac maent yn darparu gwasanaethau cynghori ac eiriolaeth. Yn Lloegr, cysylltwch â:

Granta House
15-19 Broadway
London
E15 EBQ
Rhif ffôn: 020 8519 2122
Llinell gymorth: 0845 766 0163 (Llun-Gwe. 9.00yb-6.00yp)
E-bost: contact@mind.org.uk
Gwefan: www.mind.org.uk

Yng Nghymu, cysylltwch â:

Mind Cymru
3ydd Llawr, Tŷ Quebec
Castlebridge
5-19 Cowbridge Road East
Caerdydd
CF11 9AB
Ffôn: 029 2039 5123
Ffacs: 029 2034 6585
Llinell gymorth: 0845 766 0163 (Llun-Gwe. 9.15yb-5.15yp)
E-bost: contact@mind.org.uk
Gwefan: www.mind.org.uk

NIAMH (Northern Ireland Association for Mental Health)

Mae NIAMH yn hrwyddo diddordebau pobl sy’n dioddef o salwch meddwl neu drallod ac maent yn darparu gwasanaethau cyghori ac eiriolaeth.

Beacon House
80 University Street
Belfast BT7 1HE
Rhif ffôn : 028 9032 8474
Ffacs: 028 9023 4940

Cymdeithasau i bobl sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol

Mae yna nifer o gymdeithasau sy’n cynnig cymorth a chyngor i bobl sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol, er enghraifft mae Rape Crisis yn cydlynu gwaith cenedlaethol rhwydwaith o Ganolfannau Rape Crisis ar draws Cymru a Lloegr. Mae Canolfannau Rape Crisis yn darparu amrywiaeth o wasanaethau arbenigol i fenywod a merched sydd wedi cael eu treisio neu wedi dioddef math arall o drais rhywiol, naill ai fel oedolyn neu fel plentyn. Dyma’u gwefan: www.rapecrisis.org.uk.

Mae Survivors UK yn fudiad sy’n rhoi gwybodaeth, cefnogaeth a chwnsela i ddynion sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol. Dyma’u gwefan: www.survivorsuk.org.

Cymorth i Fenywod

Mae Cymoth i Fenywod yn darparu cyngor, gwybodaeth a lloches dros dro weithiau ar gyfer menywod a’u plant sy’n cael eu bygwth gan drais meddwl, emosiynol neu gorfforol, aflonyddu neu gam-drin rhywiol.

Yn Lloegr, cysylltwch â:

PO Box 391
Bristol
BS99 7WS
Llinell gymorth: 0808 200 0247 (24 awr)
Gwefan: www.womensaid.org.uk

Yng Nghymru, cysylltwch â:

Llinell Gymorth: 0808 80 10 800 (8.00yb-2.00yp, 8.00yh-2.00yb)
Gwefan: www.welshwomensaid.org

Gogledd Iwerddon

129 University Street
Belfast
BT7 1HP
Llinell Gymorth: 0800 917 1414 (24 awr)
Gwefan: www.womensaidni.org

Mudiadau i bobl sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol

Mae yna nifer o fudiadau sy’n cynnig help a chyngor i bobl sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol.

Darllenwch fwy am fudiadau sy’n medru helpu

Roadpeace

Mae Roadpeace yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael anaf, neu wedi colli rhywun, oherwydd damwain ar y ffordd. Mae hefyd yn hyrwyddo ymwybyddiaeth y cyhoedd o beryglon ar y ffordd, ac yn ymgyrchu tros gyfiawnder i ddioddefwyr.

G4b Shakespeare Business Centre
245a Cold Harbour Lane
Brixton
London
SW9 8RR
Llinell gymorth: 0845 450 0355
E-bost cymorth: Helpline@roadpeace.org
Gwefan: www.roadpeace.org

Cymorth i ddioddefwyr

Mae Cefnogaeth i Ddioddefwyr yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ar gyfer holl ddioddefwyr troseddau, ac eithrio dwyn, neu ddwyn o geir a cham-drin plant yn y teulu. Mae yna gynlluniau lleol.

Cymorth i Ddioddefwyr (Cymru a Lloegr)

Cyfeiriad y Llinell Gymorth ar gyfer llythyron yn unig:
Hannibal House
Elephant and Castle Shopping Centre
London
SE1 6TB

Ffôn: 020 7268 0200
Llinell Gymorth i Ddioddefwyr: 0845 303 0900 (Llun-Gwe 9yb-9yh; Sad-Sul 9yb-7yh; gwyl y banc 9yb-5yp)
Ffacs: 020 7268 0210
E-bost: supportline@victimsupport.org.uk
Gwefan: www.victimsupport.org.uk

Cymorth i Ddioddefwyr (Gogledd Iwerddon)

3rd Floor,
Annsgate House
70-74 Ann Street
Belfast
BT1 4EH
Ffôn: 028 9024 4039
Llinell Gymorth: 02890 243133
E-bost: info@victimsupportni.org.uk
Gwefan: www.victimsupportni.co.uk

Did this advice help?