Holi’r Heddlu
Mae’r wybodaeth yma’n berthnasol i Gymru a Lloegr
Mae Ask the Police yn wefan sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar amrywiaeth o destunau cyfreithiol. Mae’n cynnwys atebion i nifer fawr o gwestiynau cyffredin ar destunau fel:
- goryrru
- hysbysiad cosb benodedig
- ymddygiad gwrthgymdeithasol
- pobl sydd ar goll.
Os nad ydych yn medru dod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn, rydych yn medru e-bostio cwestiwn i’r heddlu. Rydych hefyd yn medru dod o hyd i’r manylion cyswllt ar gyfer eich heddlu lleol.
I ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn, rhowch glic ar www.askthepolice.uk.