Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cymryd camau am wahaniaethu yn y gwaith

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gallwch gymryd camau drwy:

  • wneud cwyn anffurfiol – dylech geisio datrys y broblem drwy wneud hyn gyntaf
  • gwneud cwyn ffurfiol sy’n cael ei alw’n ‘gŵyn gyflogaeth’
  • mynd i dribiwnlys

Dylech benderfynu pa gam sydd orau i’ch sefyllfa cyn i chi ddechrau cymryd camau.

Bydd y dull gorau yn seiliedig ar bethau fel y math o broblem, faint o amser sydd ers i’r broblem godi a’r canlyniad rydych chi ei eisiau.

Cyn i chi gymryd camau

Os nad ydych chi wedi edrych yn barod, gwnewch yn siŵr bod y broblem yn dod o dan y Ddeddf Cydraddoldeb - gwiriwch fod eich problem yn achos o wahaniaethu.

Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, dechreuwch gasglu tystiolaeth i gefnogi’ch cwyn.

Meddyliwch am gael cymorth cyn i chi gwyno.

Cyfrifo iawndal

Mae’n syniad da cyfrifo faint o iawndal y gallai’ch achos fod werth.

Bydd hyn yn helpu mewn 2 sefyllfa:

  • os ydych chi eisiau gofyn am iawndal, er enghraifft, fel rhan o gymryd camau cyfreithiol
  • os yw’ch cyflogwr y cynnig arian i chi yn gyfnewid am gytuno i dynnu’ch cwyn yn ôl – setlo yw’r enw ar hyn

Gwneud cwyn anffurfiol

Cyn i chi wneud eich cwyn anffurfiol, gwiriwch eto mai dyma sydd orau i chi. Fel rheol, bydd hi’n werth i chi wneud hyn os:

  • ydych chi angen penderfyniad cyflym gan eich cyflogwr
  • nad yw’r gwahaniaethu’n cael effaith wael arnoch ar hyn o bryd
  • rydych chi’n poeni am sut gallai’ch cyflogwr ymateb i gŵyn mwy ffurfiol

I wneud cwyn anffurfiol, siaradwch â rhywun yn y gwaith rydych chi’n meddwl allai helpu. Hwyrach fod gan eich cyflogwr bolisi sy’n dweud wrthych wrth bwy i gwyno – eich rheolwr llinell fydd hwn gan amlaf, ond gallwch siarad â rhywun arall os yw’ch cwyn yn ymwneud â’r sawl rydych chi fod i siarad ag ef.

Gofalwch eich bod chi’n glir am yr hyn rydych chi eisiau ei ddweud – ysgrifennwch nodiadau os ydych chi’n poeni y byddwch chi’n anghofio rhywbeth.

Gallech drefnu cyfarfod fel na fydd rhywun yn torri ar eich traws.

Gallwch ofyn a all rhywun fynd i’r cyfarfod gyda chi i fod yn gefn i chi neu i gymryd nodiadau. Gallai hwn fod yn gydweithiwr neu’ch cynrychiolydd undeb. Nid oes rhaid i’ch cyflogwr gytuno i hyn.

Efallai y byddwch angen i rywun ddod i’r cyfarfod am reswm arbennig – er enghraifft, oherwydd anabledd neu am resymau iaith. Eglurwch pam wrth eich cyflogwr. Os bydd yn gwneud na, gallai hyn fod yn wahaniaethu.

Yn y cyfarfod, dywedwch wrth eich cyflogwr:

  • beth ddigwyddodd a pham eich bod chi’n credu ei fod yn wahaniaethu
  • unrhyw dystiolaeth sydd gennych, er enghraifft, e-bost bygythiol gan eich rheolwr
  • sut hoffech i’r broblem gael ei datrys

Cadwch gofnod o’r hyn sy’n digwydd yn y cyfarfod – yn enwedig os yw’ch cyflogwr yn cytuno i wneud rhywbeth. Gofalwch ei fod yn pennu dyddiad ar gyfer ei wneud fel y gallwch ei atgoffa os oes angen.

Bydd eich cyflogwr yn siŵr o wneud nodiadau hefyd. Gofynnwch am gopi ohonynt i wirio beth i chi gytuno.

Bydd y nodiadau hyn yn helpu os oes rhaid i chi fynd â’r mater ymhellach. Er enghraifft, byddwch yn gallu eu defnyddio fel tystiolaeth os ydych chi’n cyflwyno cwyn gyflogaeth neu’n mynd i dribiwnlys.

Os na wnaeth gymryd nodiadau neu os yw’n gwrthod rhannu ei nodiadau gyda chi, dylech ysgrifennu ato yn dweud beth gytunwyd yn y cyfarfod. Dylech ofyn iddo gadarnhau yn ysgrifenedig ei fod yn cytuno gyda’ch nodiadau.

Os nad ydych chi wedi clywed gan eich cyflogwr ar ôl wythnos neu ddwy, anfonwch e-bost neu lythyr arall.

Hwyrach y dylech gyflwyno cwyn gyflogaeth os nad yw’ch cwyn anffurfiol yn cael unrhyw effaith. Os yw cwyno neu gyflwyno cwyn gyflogaeth yn cymryd amser hir, a’ch bod yn nesáu at y dyddiad cau, gallwch gysylltu ag Acas cyn i chi orffen siarad â’ch cyflogwr.

Cyflwyno cwyn gyflogaeth

Mae mwy o wybodaeth am gyflwyno cwyn gyflogaeth ac apelio yn erbyn canlyniad cwyn gyflogaeth yn ein deunyddiau manwl am wahaniaethu yn y gwaith.

Darllenwch fwy am beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn mynd i gyfarfod cwyn cyflogaeth.

Herio gwahaniaethu mewn tribiwnlys cyflogaeth

Os nad yw cwyno wrth eich cyflogwr yn datrys y broblem neu’ch bod yn agos at y terfyn amser ar gyfer cyflwyno hawliad, dylech ystyried dwyn achos cyfreithiol mewn tribiwnlys cyflogaeth.

Cysylltu ag ACAS am gymodi cynnar

Y cam cyntaf yw cysylltu ag Acas o fewn 3 mis llai un diwrnod i’r gwahaniaethu. Gallant eich helpu i geisio datrys y broblem gyda’ch cyflogwr – ‘cymodi cynnar’ yw hyn.

Os na all Acas eich helpu i gael cytundeb (neu os nad ydych chi eisiau iddynt roi cynnig arni) byddant yn rhoi tystysgrif i chi a fydd yn eich galluogi i gyflwyno hawliad i dribiwnlys cyflogaeth. Bydd gennych ddyddiad cau newydd ar gyfer mynd i’r tribiwnlys ar ôl i chi gael y dystysgrif hon – gofalwch weithio allan pryd fydd hyn.

Gweld sut mae cymodi cynnar yn gweithio.

Mwy o help gyda’ch hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth

Gallwch ddefnyddio’n deunyddiau manwl ar wahaniaethu yn y gwaith i’ch helpu gyda’ch hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth.

Trafod telerau a setlo’ch hawliad gwahaniaethu

Gwneud hawliad hwyr am wahaniaethu yn y tribiwnlys cyflogaeth

Adnodd cynghorwyr – casglu’r ffeithiau: camau cyntaf casglu a threfnu tystiolaeth

Asesu cryfderau hawliad gwahaniaethu a defnyddio cynllun achos

Adnodd cynghorwyr: Dadansoddi problem gwahaniaethu’ch cleient

Profi hawliad gwahaniaethu yn y tribiwnlys cyflogaeth 

Dechrau hawliad gwahaniaethu: cwblhau'r ET1

ET3, rheoli achosion a gwrandawiadau cychwynnol 

Cael tystiolaeth feddygol am wahaniaethu

Paratoi tystiolaeth ar gyfer tribiwnlys cyflogaeth

Tystiolaeth tystion yn y tribiwnlys cyflogaeth

Yng ngwrandawiad y tribiwnlys cyflogaeth a thu hwnt

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.