Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Gweld faint o iawndal allech chi ei gael am wahaniaethu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

I weld faint gallwch chi ofyn amdano, mae angen i chi ystyried beth all tribiwnlys orchymyn eich cyflogwr i’w dalu os byddwch yn ennill hawliad gwahaniaethu. Gall y tribiwnlys ei orchymyn i dalu iawndal am:

  • unrhyw arian rydych chi wedi’i golli oherwydd y gwahaniaethu – yr enw ar hyn yw colled ariannol ac mae’n cynnwys colledion hyd at yr adeg rydych chi’n debygol o gael swydd newydd os ydych chi wedi colli’ch swydd
  • loes neu drallod rydych chi wedi’i ddioddef oherwydd y gwahaniaethu – ‘brifo teimladau’ yw hyn
  • anaf personol, fel iselder ysbryd neu anaf corfforol, a achosir gan y gwahaniaethu
  • ymddygiad arbennig o wael gan eich cyflogwr – ‘iawndal gwaethygedig’ yw’r enw ar hwn

Mae’n bosib y bydd gennych hawliadau eraill yn ogystal â gwahaniaethu. Mae gan yr hawliadau hynny reolau gwahanol am iawndal. Yr hawliadau mwyaf cyffredin sy’n mynd law yn llaw â hawliadau gwahaniaethu yw:

Os ydych chi wedi colli’ch swydd, efallai fod y canlynol yn daladwy i chi hefyd:

Ychwanegwch y symiau hyn at eich hawliad neu gofalwch eu bod wedi’u cynnwys mewn cytundeb setlo. Dylech lunio rhestr o’r symiau rydych chi’n eu hawlio. Enw’r rhestr hon yw ‘rhestr golledion’.

Bydd cyfrifo faint o iawndal allech chi ei gael yn eich helpu i benderfynu beth i’w wneud os yw’ch cyflogwr yn cynnig arian i chi i atal yr achos rhag mynd i dribiwnlys.

Gweld pa arian rydych chi wedi’i golli

Efallai eich bod chi wedi colli arian am nifer o resymau – fel oherwydd i chi golli’ch swydd neu os yw’r gwahaniaethu wedi achosi i chi fod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl.

Gallai’r arian rydych chi wedi’i golli gynnwys:

  • eich cyflog net
  • cyfraniadau pensiwn
  • buddion cysylltiedig â gwaith – fel y defnydd o gar neu ffôn symudol y cwmni, colli llety am ddim, disgowntiau staff, yswiriant iechyd preifat neu yswiriant bywyd

Os cawsoch ddatganiad treth blynyddol, bydd yn dangos gwerth y budd. Os na, bydd rhaid i chi geisio ei gyfrifo, er enghraifft, os i chi golli llety am ddim, cyfrifwch faint fyddai’n costio i rentu rhywle tebyg. Gall sefydliadau moduro fel yr AA neu’r RAC roi syniad i chi o faint mae’n costio i redeg car.

Efallai eich bod wedi wynebu costau ychwanegol hefyd – fel cost mynd i’r Ganolfan Waith i hawlio budd-daliadau.

Efallai fod cost cael cymorth meddygol gyda salwch a achoswyd gan y gwahaniaethu – fel costau presgripsiwn tabledi gwrth-iselder neu gwnsela nad oedd ar gael ar y GIG.

Cadwch dderbynebau neu anfonebau ar gyfer unrhyw gostau ychwanegol gan y byddwch angen y rhain fel tystiolaeth.

Os ydych chi’n dal i fod yn gweithio i’ch cyflogwr

Gallwch gael iawndal am unrhyw arian rydych chi wedi’i golli oherwydd y gwahaniaethu. Gallai hwn fod y gwahaniaeth rhwng cyflogau os na chawsoch chi ddyrchafiad.

Fel man cychwyn, cyfrifwch beth fyddai’ch colledion os yw’n cymryd blwyddyn i chi ddod o hyd i swydd sy’n talu’r un faint â’r dyrchafiad.

Byddai tribiwnlys yn ystyried pa mor hir mae’n debygol o gymryd i chi ddod o hyd i rywbeth tebyg i’r dyrchafiad – gyda’ch cyflogwr cyfredol neu un arall. Bydd angen i chi ddangos eich bod chi’n gwneud cais am ddyrchafiadau mewn cwmnïau eraill.

Os i chi golli cyflog am eich bod chi i ffwrdd o’r gwaith yn sâl, cyfrifwch y gwahaniaeth rhwng beth wnaethoch ei ennill a beth fyddech wedi’i ennill pe baech chi heb fod i ffwrdd yn sâl oherwydd y gwahaniaethu.

Os ydych chi wedi colli’ch swydd

Cyfrifwch faint o arian rydych chi wedi’i golli rhwng y dyddiad i chi golli’ch swydd a dyddiad y gwrandawiad. Bydd angen i chi brofi hyn gan ddefnyddio slipiau cyflog, eich P60, neu unrhyw beth i ddangos faint roeddech chi’n ei ennill, yn enwedig os oedd eich cyflog yn amrywio o un wythnos i’r llall.

Iawndal am golli cyflog yn y dyfodol

Hefyd, gall y tribiwnlys ddyfarnu iawndal am golli enillion yn y dyfodol. Byddwch yn cael rhagor o iawndal os yw’r tribiwnlys o’r farn y bydd yn cymryd mwy o amser i chi gael swydd. Dylech:

  • egluro effaith y gwahaniaethu arnoch os yw’n golygu ei fod wedi cymryd mwy o amser i chi ddod o hyd i swydd
  • dod â thystiolaeth i ddangos pa mor anodd yw dod o hyd i swyddi ble rydych chi’n byw
  • cael tystiolaeth o’r hyn rydych chi wedi’i wneud i ddod o hyd i swydd arall

Lleihau’ch colledion

Bydd angen i chi ddangos eich bod wedi ceisio lleihau’ch colledion ariannol – ‘lliniaru’ch colled’ yw’r enw ar hyn. Gallech wneud hyn drwy gadw:

  • dyddiadur sy’n dangos beth rydych chi wedi’i wneud i chwilio am swydd arall
  • cofnod o unrhyw hyfforddiant rydych chi wedi’i wneud i’ch helpu i gael swydd
  • copïau o geisiadau am swyddi
  • cofnod o gyfweliadau i chi eu mynychu

Bydd disgwyl i chi hawlio unrhyw fudd-daliadau lles y mae gennych chi hawl iddynt. Byddant yn cael eu tynnu o unrhyw iawndal gewch chi.

Os nad ydych chi wedi gallu chwilio am waith am eich bod chi’n sâl, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o hynny hefyd – fel adroddiad meddygol.

Beth fydd tribiwnlys yn ei ystyried wrth amcangyfrif faint fydd hi’n cymryd i chi gael swydd

Dyma’r math o bethau ddylech chi eu dweud wrth y tribiwnlys:

  • cyfyngiadau ar ba swyddi allwch chi ymgeisio amdanynt – er enghraifft, os oes gennych chi anabledd neu gyfrifoldebau gofalu
  • os yw’ch gwaith yn fedrus neu’n arbenigol ac felly nad oes llawer o swyddi gwag
  • nid oes gennych eich trafnidiaeth eich hun ac nid oes llawer o gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus 

Os ydych chi wedi dod o hyd i swydd sy’n talu llai

Os na allwch chi ddod o hyd i swydd fel eich hen swydd, gallai tribiwnlys ddisgwyl i chi gymryd swydd sy’n talu llai wrth i chi chwilio am un sy’n talu’r un fath â’ch hen un.

Fel man cychwyn, cyfrifwch beth fyddai’ch colledion os yw’n cymryd blwyddyn i chi ddod o hyd i swydd sy’n talu’r un faint â’ch hen swydd. Bydd y tribiwnlys yn disgwyl i chi egluro os byddai’n debygol o gymryd llai o amser neu fwy o amser i chi. Bydd angen i chi egluro’ch sefyllfa a faint o swyddi tebyg sydd ar gael.

Os nad yw buddion eich swydd newydd cystal

Gallwch hawlio iawndal os nad yw buddion eich swydd newydd cystal â rhai’ch hen swydd hefyd – er enghraifft, os oedd gan eich hen swydd gynllun pensiwn cyflog terfynol ond nid felly eich swydd newydd.

Iawndal os i chi golli’ch swydd pan oeddech yn feichiog

Mae’r hyn gallwch ei hawlio yn dibynnu ar ba gyfnod rydych chi’n hawlio ar ei gyfer. Bydd angen i chi feddwl am y 3 chyfnod gwahanol yn y tabl hwn:

Cyfnod  Beth ddylech chi ei hawlio
O ddyddiad eich diswyddo i ddechrau’ch cyfnod mamolaeth Yr incwm a’r budd-daliadau y byddech wedi’u cael yn ystod y cyfnod hwn.
Cyfnod mamolaeth

Unrhyw fudd-daliadau mamolaeth rydych chi wedi’u colli. Mae’n bosib y bydd rhaid i’ch cyflogwr dalu tâl mamolaeth statudol (SMP) i chi hyd yn oes os nad ydych chi’n gweithio iddo mwyach.

Os na fydd yn gwneud hynny, mae’n bosib y gallwch hawlio Lwfans Mamolaeth (MA). Mae cyfraddau’r SMP ac MA yr un fath heblaw am y 6 wythnos cyntaf pan mae SMP yn 90% o’ch cyflog arferol. Eich colled fydd y gwahaniaeth rhwng yr SMP fyddech wedi’i gael a’r MA gewch chi.

Os yw’ch cyflogwr yn talu tâl mamolaeth contract i chi, hawliwch y gwahaniaeth rhwng hwnnw ac unrhyw MA rydych yn ei gael.

O’r adeg y byddech wedi mynd yn ôl i’r gwaith i ddechrau swydd newydd 

Yr enillion rydych chi wedi’u colli o’r dyddiad y byddech wedi mynd nôl i’r gwaith ar ôl eich cyfnod mamolaeth i’r dyddiad rydych chi’n debygol o ddod o hyd i swydd newydd.

Os nad oeddech yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith ar ôl eich cyfnod mamolaeth, ni allwch hawlio unrhyw golled ar gyfer y cyfnod hwn.

Enghraifft

Caiff Sally ei diswyddo pan mae’n 4 mis yn feichiog. Byddai wedi gweithio hyd at wythnos neu ddwy cyn y dyddiad geni disgwyliedig ac yna cymryd ei blwyddyn lawn o gyfnod mamolaeth a dychwelyd i’r gwaith wedyn. Bydd yn cael Lwfans Mamolaeth ond ni fydd ganddi hawl i Dâl Mamolaeth Statudol (SMP).

Pe bai heb gael ei diswyddo, byddai ganddi hawl i SMP. Mae’n meddwl y bydd hi’n cymryd 6 mis iddi ddod o hyd i swydd newydd.

Gall hawlio:

  • beth fyddai wedi ei ennill rhwng cael ei diswyddo a dechrau ei chyfnod mamolaeth
  • y gwahaniaeth rhwng pa SMP fyddai wedi ei gael a pha MA fydd hi’n ei gael
  • 6 mis o gyflog oherwydd dyna pa mor hir mae’n meddwl y bydd yn cymryd iddi ddod o hyd i swydd newydd pan fydd hi’n barod i ddychwelyd i weithio

Os ydych chi’n rhy sâl i weithio

Mae’n bosib y gallech hawlio enillion a gollwyd a chostau eraill os, er enghraifft:

  • i’r gwahaniaethu achosi i chi ddioddef o iselder ac na allwch weithio o’i herwydd
  • na allwch weithio oherwydd nid yw’ch cyflogwr yn gwneud addasiadau ar gyfer eich anabledd
  • rydych chi wedi cael ei gorfodi i gymryd absenoldeb salwch oherwydd ni wnaiff eich cyflogwr gymryd camau i ddiogelu’ch iechyd a diogelwch tra’ch bod yn feichiog

Ni fyddwch yn gallu hawlio unrhyw enillion a gollwyd os na allwch weithio am resymau nad ydynt yn gysylltiedig â’r gwahaniaethu.

Enghraifft

Roedd diswyddo Tara yn achos o wahaniaethu ar sail hil ond fe dorrodd ei phigwrn 4 wythnos yn ddiweddarach. Ni fyddai wedi gallu gweithio am 8 wythnos hyd yn oed pe na bai wedi cael ei gwahaniaethu yn ei herbyn.

Ni all hawlio unrhyw golledion am yr wythnosau hynny oni bai fod y tâl salwch y byddai wedi’i gael gan ei chyflogwr yn fwy na’r hyn mae’n ei gael mewn budd-daliadau lles ar gyfer yr wythnosau hynny.

Gweld faint gallwch chi ei hawlio am loes neu drallod – dyfarniadau brifo teimladau

Gallwch hawlio am y trallod emosiynol y mae’r gwahaniaethu wedi’i achosi i chi – ‘brifo teimladau’ yw hyn. Bydd angen i chi ddweud sut i’r gwahaniaethu wneud i chi deimlo. Gofynnwch i'ch teulu, ffrindiau, gweithwyr meddygol proffesiynol neu weithwyr cymorth fod yn dystion i sut wnaeth y gwahaniaethu effeithio arnoch chi.

Os aethoch i weld eich meddyg teulu am effaith y gwahaniaethu arnoch, gallech ofyn i’ch meddyg teulu am adroddiad – holwch os bydd yn codi ffi arnoch am hyn.

Gallwch hawlio iawndal am frifo teimladau am bron i unrhyw hawliad gwahaniaethu. Os ydych chi’n dal i fod yn gweithio i’ch cyflogwr, mae’n bosibl mai dyma’r unig hawliad ariannol allwch chi ei wneud.

Dylai isafswm y dyfarniad am frifo teimladau fod oddeutu £1,000.

Mae iawndal am frifo teimladau yn cael ei rannu’n dri band o’r enw ‘bandiau Vento’, yn seiliedig ar achos Vento v Chief Constable of West Yorkshire Police (2002).

Gallwch ofyn am swm uwch am frifo teimladau os yw'ch sefyllfa'n golygu bod yr achos wedi cael effaith wael arnoch - er enghraifft, os oeddech yn dioddef o salwch cysylltiedig â straen eisoes pan ddigwyddodd y gwahaniaethu. Dyma'r bandiau gyda dyfarniadau enghreifftiol:

Band  Swm Disgrifiad Dyfarniad enghreifftiol
Isaf  £900-£8,600 Achosion llai difrifol fel gweithred untro

£2,500 am wrthod caniatáu amser i ffwrdd am apwyntiadau cyn geni

(Stranska v One Life Management Solutions Ltd (2016))

£6,000 am wrthod, heb gyfiawnhad, caniatâd i staff weithio’n rhan-amser ar ôl dychwelyd o gyfnod mamolaeth

(Griffin v Early Days UK Ltd (2016))  

Canol  £8,600-£25,700 Achosion sy’n ddifrifol ond sydd ddim yn perthyn i’r band uchaf. Er enghraifft, achos untro difrifol o aflonyddu neu achos lle colloch chi’ch swydd oherwydd y gwahaniaethu

£16,000 am wahaniaethu yn erbyn gweithiwr cyflogedig â chanser pan ddywedodd meddygon y byddai’n effeithio ar ei gwellhad

(Colgan v Hideaways Club UK (2015)) 

Uchel  £25,700-£42,900 Yr achosion mwyaf difrifol o wahaniaethu. Er enghraifft, lle bu ymgyrch hir o aflonyddu sy’n gwahaniaethu

£35,000 am wahaniaethu ar sail hil dros nifer o flynyddoedd

(Chandok v Tirkey (2015)) 

Beth fydd tribiwnlys yn ei ystyried wrth benderfynu ar ddyfarniadau brifo teimladau

Bydd tribiwnlys yn ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth benderfynu faint i’w ddyfarnu am frifo teimladau. Maent yn cynnwys:

  • os oedd y gwahaniaethu yn fwriadol – byddwch chi fel arfer yn cael mwy am aflonyddu nag am wahaniaethu anfwriadol, yn enwedig gwahaniaethu anuniongyrchol (fel gwrthod caniatâd i weithio’n rhan-amser)
  • pa mor ddifrifol oedd y gwahaniaethu a pha mor hir barodd e
  • sut gwnaeth eich cyflogwr ymddwyn ar ôl y gwahaniaethu – os iddo ymddiheuro a mynd i’r afael â’r achos yn brydlon, byddwch yn cael llai yn ôl pob tebyg; os iddo ei anwybyddu neu eich cyhuddo o ddweud celwydd, rydych chi’n debygol o gael mwy
  • yr effaith arnoch chi - po fwyaf difrifol yr effeithiau a pho hiraf maent yn para, mwya'n byd gewch chi
  • os oeddech chi angen gweld eich meddyg teulu – mae hyn yn awgrymu achos mwy difrifol o frifo teimladau ac felly dyfarniad uwch o bosib

Gweld faint allwch chi ei hawlio os i chi ddioddef anaf – dyfarniadau anaf personol

Efallai eich bod chi wedi dioddef anaf corfforol neu broblem iechyd meddwl oherwydd y gwahaniaethu. Os felly, gallwch hawlio am hynny hefyd. Anaf personol yw enw hyn.

Yn y rhan fwyaf o achosion gwahaniaethu, mae’r iawndal brifo teimladau yn cynnwys effaith ar eich iechyd. Mewn rhai achosion prin, efallai eich bod chi wedi cael anaf corfforol neu broblem iechyd meddwl fwy difrifol. Os felly, gallwch wneud hawliad ychwanegol am anaf personol.

Byddwch angen adroddiad meddygol neu dystiolaeth arall i brofi mai’r gwahaniaethu oedd gwraidd y broblem iechyd.

Mae faint gewch chi yn dibynnu ar yr anaf. Dylech gael cyngor arbenigol.

Gwiriwch a allwch hawlio iawndal gwaethygedig

Gall tribiwnlys ddyfarnu iawndal gwaethygedig i chi os yw’ch cyflogwr:

  • wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn fwriadol pan oeddent yn gwybod bod yr hyn yr oeddent yn eu gwneud yn erbyn y gyfraith, neu
  • ymddwyn mewn modd arbennig o annymunol pan fyddant yn amddiffyn eich cais

Mae’n anarferol cael gwobr am iawndal gwaethygedig. Efallai y cewch un os oedd eich cyflogwr yn bwriadu eich brifo neu os oeddent yn anghwrtais neu’n ddiystyriol yn y gwrandawiad. Mewn un achos, dyfarnodd tribiwnlys £2,000 pan geisiodd y cyflogwr brofi bod y gweithiwr yn dweud celwydd ac na fyddai’n derbyn ei fod yn anabl er gwaethaf tystiolaeth feddygol ysgubol.

Faint yw’r llog ar eich dyfarniad

Dylech ofyn bod llog yn cael ei ychwanegu at eich hawliad.

Llog cyn penderfyniad

Gall tribiwnlys ddyfarnu llog i chi ar elfennau brifo teimladau a cholled ariannol eich iawndal. Y gyfradd llog ar hyn o bryd yw 8% y flwyddyn. I gael y gyfradd ddyddiol, rhannwch swm eich dyfarniad gyda 365 ac yna’i luosi gydag 8%. Trowch at y rhestr golledion enghreifftiol i weld sut mae cyfrifo llog.

Yn achos brifo teimladau, byddwch yn cael llog o’r dyddiad ddigwyddodd y gwahaniaethu hyd at ddyddiad y gwrandawiad.

Yn achos colled ariannol, byddwch yn cael llog o ddyddiad hanner ffordd rhwng y dyddiad ddigwyddodd y gwahaniaethu a’r dyddiad mae tribiwnlys yn cyfrifo’ch iawndal.

Mae’r rheolau ar log yn adran 139 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Llog ar ôl penderfyniad

Os nad yw’ch cyflogwr yn talu iawndal i chi o fewn 14 diwrnod i benderfyniad y tribiwnlys, gallwch gael llog ar gyfradd o 8% o’r dyddiad y cyfrifwyd yr iawndal hefyd.

Pryd gall eich iawndal gael ei leihau

Gall eich hawliad am golled ariannol gael ei leihau os i chi gael arian o swydd newydd, gwaith dros dro neu fudd-daliadau.

Gall gael ei leihau hefyd os oes siawns y byddech wedi cael eich diswyddo hyd yn oed pe bai'ch cyflogwr heb wahaniaethu yn eich erbyn.

Er enghraifft, gall eich diswyddo cyn ceisio gwneud addasiadau rhesymol. Mae hyn yn golygu y bydd wedi gwahaniaethu yn eich erbyn. Gallai ddadlau na fyddai’r addasiadau wedi gweithio ac y byddech wedi cael eich diswyddo ta beth.

Os yw tribiwnlys yn derbyn dadl eich cyflogwr, gallai leihau eich iawndal. Os yw o’r farn y byddech wedi cael ei diswyddo 6 mis yn ddiweddarach, dim ond 6 mis o iawndal fydd yn ei ddyfarnu i chi. Os yw’n meddwl bod tebygolrwydd o 50% y byddech wedi cael eich diswyddo ta beth, bydd yn lleihau’ch colledion 50%.

Gall iawndal gael ei leihau neu ei gynyddu hyd at 25% hefyd os na wnaethoch chi neu’ch cyflogwr ddilyn gweithdrefn gwyno neu ddisgyblu. Darllenwch fwy am gwynion cyflogaeth neu gamau disgyblu.

Paratoi rhestr golledion

Ar ôl i chi gyfrifo beth allwch chi ei hawlio, mae’n ddefnyddiol nodi popeth mewn ‘rhestr golledion’ neu ‘ddatganiad unioni’. Nid oes fformat penodol ar gyfer y ddogfen - y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw nodi’n glir beth yw gwerth eich achos yn eich barn chi a pham.

Rhowch eich enw a ‘Rhestr golledion’ ar frig y dudalen. Ychwanegwch y dyddiad rydych chi’n cyfrifo’ch colledion. Os ydych chi eisoes wedi cychwyn achos tribiwnlys a bod gennych rif achos, ychwanegwch y rhif hwnnw ac enw’r achos.

Mae’n fuddiol dechrau’ch rhestr golledion gyda gwybodaeth gefndir yn nodi dyddiadau pwysig a symiau.

Yna rhowch benawdau ac adrannau wedi’u rhifo ar gyfer pob un o’r mathau o iawndal rydych chi’n ei hawlio – fel colli enillion a brifo teimladau. ‘Penawdau’r hawliad’ yw enw’r rhain.

Gorffennwch eich rhestr gyda phennawd ar gyfer llog – byddwch chi’n cael hwn ta beth gan amlaf ond mae’n syniad da ei gynnwys fel nad ydych yn ei anghofio.

Colli enillion

Nodwch pa arian rydych chi wedi’i golli o dan y pennawd hwn – fel eich cyflog, os i chi gael eich diswyddo neu’r gwahaniaeth mewn cyflog os i chi gael swydd newydd sy’n talu llai.

Os cawsoch chi unrhyw fudd-daliadau lles – fel Lwfans Ceisio Gwaith – dylech ddweud hynny a chynnwys y swm gawsoch chi. Bydd rhaid i chi dynnu hwn o’ch hawliad am golli enillion.

Os yw’ch colledion ariannol yn parhau – er enghraifft, os nad ydych chi wedi cael swydd newydd – dywedwch pa mor hir rydych chi’n credu fydd hi cyn i chi gael swydd newydd, neu un sy’n talu cyflog tebyg i’ch hen un. Mae pobl yn rhoi amcangyfrif mewn blociau o 3 mis gan amlaf – fel 3, 6, 9 neu 12 mis.

Gall fod yn anodd rhoi amcan o hyd a bydd rhaid i chi wneud yn siŵr bod gennych dystiolaeth i gefnogi’r hyn rydych chi’n ei ddweud – fel hysbysebion swydd yn dangos bod eich swydd yn talu’n well na swyddi eraill tebyg yn yr ardal.

Colled ariannol arall

Dylech gynnwys penawdau ar gyfer unrhyw golledion neu gostau eraill, fel colli pensiwn neu gostau teithio, a dangos sut rydych chi wedi cyfrifo’r rhain.

Brifo teimladau

Crynhowch yr effaith mae’r gwahaniaethu wedi’i chael arnoch. Nid oes rhaid i chi roi manylion llawn yma gan y byddant yn y dystiolaeth rydych chi’n ei rhoi i’r tribiwnlys.

Peidiwch â gofyn am yr uchafswm os na allwch chi ei gyfiawnhau. Os byddwch yn gofyn am swm afrealistig, ni fydd y tribiwnlys yn talu llawer o sylw i’ch rhestr colledion. Bydd yn ei gwneud hi’n anoddach i chi drafod telerau setliad gyda’ch cyflogwr hefyd.

Enghraifft o restr golledion

Mae’r enghraifft hon ar gyfer hawliad gan Helen Jones a gafodd ei diswyddo ar ôl 6 mis pan ddaeth ei chyflogwr i wybod bod ganddi salwch meddwl. Ysgrifennodd ei rhestr ar 10 Awst 2018.

Peidiwch â chopïo’r enghraifft hon yn unig. Bydd ffeithiau’ch achos yn wahanol a byddwch yn gofyn am symiau gwahanol. Os byddwch yn copïo’r enghraifft hon, mae’n bosib y byddwch yn gofyn am lai nag y gallech ei gael.

Os ydych chi’n hawlio diswyddo annheg, bydd angen i chi gynnwys eich dyfarniad sylfaenol hefyd. Darllenwch ein cyngor ar gyfrifo beth allwch chi ei hawlio am ddiswyddo annheg.

HELEN JONES: RHESTR GOLLEDION 17 Mehefin 2018

Cefndir
Dyddiad y dechreuais yn y swydd: 8 Mehefin 2017
Dyddiad y cefais fy niswyddo: 17 Rhagfyr 2017
Fy nghyflog crynswth: £1,900 y mis
Fy nghyflog net: £1,400 y mis

1 COLLI ENILLION
Ar ôl i mi gael fy niswyddo, hawliais Lwfans Ceisio Gwaith.

Colli enillion yn y gorffennol rhwng 18 Rhagfyr 2017 a 16 Mehefin 2018
6 mis o golledion, £1,400 y mis = £8,400
DIDYNNU’R Lwfans Ceisio Gwaith gefais - £1,900
Cyfanswm yr enillion a gollwyd: £8,400 - £1,900 = £6,500

Colli enillion yn y dyfodol o 17 Mehefin 2018
Rwy’n meddwl y gallai gymryd 6 mis arall o 17 Mehefin 2018 (dyddiad y cyfrifiad hwn) i ddod o hyd i swydd sy’n talu’r un cyflog â’m swydd flaenorol.
6 mis o golledion i ddod, £1,400 y mis = £8,400

2 BRIFO TEIMLADAU
Torrais fy nghalon dros golli swydd roeddwn i’n ei mwynhau. Cafodd effaith ar fy hyder hyd yn oed ar ôl i mi ddechrau fy swydd newydd. Bues yn cymryd tabledi cysgu ar bresgripsiwn am 2 fis wedyn, oherwydd roeddwn i’n cael cymaint o drafferth cysgu.

Credaf y byddai dyfarniad brifo teimladau priodol ym mand canol y canllawiau ‘Vento’, sydd rhwng £8,600 a £25,700 ar hyn o bryd. Felly rwy’n hawlio £9,000.

3 LLOG
Colled ariannol flaenorol (£6,500)
Llog ar gyfradd o 8% y flwyddyn, ar £6,500 = £520 y flwyddyn
Hanner ffordd rhwng 17 Rhagfyr 2017 ac 17 Mehefin 2018 = 18 Mawrth 2018
O 18 Mawrth 2018 i 17 Mehefin 2018 = 92 diwrnod
92 diwrnod ÷ 365 diwrnod x £520 = £131.07

Brifo teimladau (£9,000)

Dyddiad y gwahaniaethu: 17 Rhagfyr 2017
Dyddiad cyfrifo: 17 Mehefin 2018
Llog ar gyfradd o 8% y flwyddyn ar £9,000 = £720 y flwyddyn
O 17 December 2017 i 17 Mehefin 2018 = 183 diwrnod
183 diwrnod ÷ 365 diwrnod x £720 = £360.99

Camau nesaf

Gallwch wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth neu drafod telerau cytundeb setliad gyda’ch cyflogwr. Dylech bob amser fod yn barod i ystyried unrhyw gynigion rhesymol i setlo’ch hawliad.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.